xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
4.—(1) Nid yw’r gofynion sydd yn rheoliadau 5 i 10 yn gymwys—
(a)pan fo’r penderfyniad arfaethedig i waredu yn ymwneud â rhoi buddiant yn y cae chwarae, neu unrhyw ran o’r cae chwarae, nad yw’n cael effaith andwyol ar ddefnydd y cyhoedd o’r cae chwarae fel cyfleuster chwaraeon neu hamdden;
(b)pan fo’r cae chwarae i’w gadw fel cyfleuster chwaraeon neu hamdden at ddefnydd y cyhoedd, pa un a godir tâl am y defnydd hwnnw ai peidio, ac mae’r gwarediad arfaethedig i’w wneud i—
(i)awdurdod lleol; neu
(ii)corff y mae ei nodau neu ei amcanion yn cynnwys hyrwyddo gweithgareddau chwaraeon neu hamdden;
(c)pan fo cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol wedi ymgynghori ynglŷn â’r penderfyniad arfaethedig i waredu’r cae chwarae o dan adran 48(2) o Ddeddf 2013;
(d)pan fo Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ynghylch y penderfyniad arfaethedig i waredu’r cae chwarae o dan adran 72(1) o Ddeddf 2013; neu
(e)pan fo’r penderfyniad arfaethedig i waredu cae chwarae neu unrhyw ran o gae chwarae yn yr arfaeth.
(2) At ddibenion paragraff (1)(e), mae penderfyniad arfaethedig i waredu yn yr arfaeth—
(a)pan fo’r awdurdod lleol wedi cyhoeddi hysbysiad am warediad yn unol ag adran 123(2A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym; a
(b)pan fo’r awdurdod lleol yn ymrwymo i gytundeb i waredu, neu’n cwblhau’r gwarediad, o’r cae chwarae y cyfeirir ato yn yr hysbysiad hwnnw o fewn 12 mis ar ôl i’r hysbysiad hwnnw gael ei gyhoeddi gyntaf.