Search Legislation

Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015, a deuant i rym ar 1 Hydref 2015.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cae chwarae” (“playing field”) yw’r cyfan o fan agored sy’n cwmpasu o leiaf un llain chwarae;

ystyr “y cyfnod ymgynghori” (“the consultation period”) yw’r cyfnod a bennir gan awdurdod lleol yn unol â rheoliad 5(2)(c) a (5);

ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(1);

ystyr “gwaredu” (“dispose”) yw rhoi unrhyw ystâd neu fuddiant mewn tir, ac mae “gwarediad” (“disposal”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “llain chwarae” (“playing pitch”) yw man wedi ei amlinellu y mae ei arwynebedd, ynghyd ag unrhyw redegfa iddo—

(a)

yn 0.2 hectar neu fwy ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon gan gynnwys pêl-droed, pêl-droed Americanaidd, rygbi, criced, hoci, lacrós, rownderi, pêl fas, pêl feddal, pêl-droed Awstralaidd, pêl-droed Wyddelig, bando, hyrli, polo, polo beiciau, athletau neu golff, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;

(b)

yn 0.1 hectar neu fwy ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwarae bowls; neu

(c)

yn 0.04 hectar neu fwy ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwarae pêl fasged, pêl rwyd neu dennis;

ystyr “penderfyniad arfaethedig i waredu” (“proposed decision to dispose”) yw pan fo awdurdod lleol yn ystyried gwneud penderfyniad i ymrwymo i gytundeb i waredu, neu yn absenoldeb cytundeb o’r fath, yn ystyried gwneud penderfyniad i waredu; ac

ystyr “penderfyniad i waredu” (“decision to dispose”) yw pan fo awdurdod lleol(2) yn penderfynu ymrwymo i gytundeb i waredu, neu yn absenoldeb cytundeb o’r fath, yn penderfynu gwaredu.

Cymhwyso

3.  Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â’r gofynion sydd yn rheoliadau 5 i 10—

(a)mewn perthynas â phenderfyniad arfaethedig i waredu cae chwarae neu unrhyw ran o gae chwarae;

(b)pan fo’r cae chwarae wedi ei ddefnyddio gan y cyhoedd fel cyfleuster chwaraeon neu hamdden ar unrhyw adeg yn ystod y 5 mlynedd blaenorol; ac

(c)pan na fo unrhyw un o’r eithriadau yn rheoliad 4(1) yn gymwys.

Eithriadau

4.—(1Nid yw’r gofynion sydd yn rheoliadau 5 i 10 yn gymwys—

(a)pan fo’r penderfyniad arfaethedig i waredu yn ymwneud â rhoi buddiant yn y cae chwarae, neu unrhyw ran o’r cae chwarae, nad yw’n cael effaith andwyol ar ddefnydd y cyhoedd o’r cae chwarae fel cyfleuster chwaraeon neu hamdden;

(b)pan fo’r cae chwarae i’w gadw fel cyfleuster chwaraeon neu hamdden at ddefnydd y cyhoedd, pa un a godir tâl am y defnydd hwnnw ai peidio, ac mae’r gwarediad arfaethedig i’w wneud i—

(i)awdurdod lleol; neu

(ii)corff y mae ei nodau neu ei amcanion yn cynnwys hyrwyddo gweithgareddau chwaraeon neu hamdden;

(c)pan fo cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol wedi ymgynghori ynglŷn â’r penderfyniad arfaethedig i waredu’r cae chwarae o dan adran 48(2) o Ddeddf 2013;

(d)pan fo Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ynghylch y penderfyniad arfaethedig i waredu’r cae chwarae o dan adran 72(1) o Ddeddf 2013; neu

(e)pan fo’r penderfyniad arfaethedig i waredu cae chwarae neu unrhyw ran o gae chwarae yn yr arfaeth.

(2At ddibenion paragraff (1)(e), mae penderfyniad arfaethedig i waredu yn yr arfaeth—

(a)pan fo’r awdurdod lleol wedi cyhoeddi hysbysiad am warediad yn unol ag adran 123(2A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3) cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym; a

(b)pan fo’r awdurdod lleol yn ymrwymo i gytundeb i waredu, neu’n cwblhau’r gwarediad, o’r cae chwarae y cyfeirir ato yn yr hysbysiad hwnnw o fewn 12 mis ar ôl i’r hysbysiad hwnnw gael ei gyhoeddi gyntaf.

Trefniadau hysbysu ac ymgynghori

5.—(1Rhaid i awdurdod lleol, cyn gwneud penderfyniad i waredu cae chwarae, neu unrhyw ran o gae chwarae, gyhoeddi hysbysiad (“yr hysbysiad”) am ddwy wythnos yn olynol mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal yr awdurdod lleol.

(2Rhaid i’r hysbysiad y mae paragraff (1) yn cyfeirio ato—

(a)datgan bod yr awdurdod lleol yn bwriadu gwaredu cae chwarae;

(b)hysbysu’r cyhoedd ym mha le neu leoedd ac ar ba adegau y caniateir edrych ar fanylion y gwarediad arfaethedig, ac am ba gyfnod y bydd manylion y gwarediad arfaethedig ar gael i edrych arnynt; ac

(c)hysbysu’r cyhoedd o’i hawl i gyflwyno sylwadau i’r awdurdod lleol mewn perthynas â’r gwarediad arfaethedig, drwy ba fodd y mae’n rhaid iddo wneud hynny ac erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gael unrhyw sylwadau.

(3Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod manylion y gwarediad arfaethedig ar gael i edrych arnynt yn ystod oriau swyddfa arferol ym mhrif swyddfa’r awdurdod lleol, os oes un ganddo, ac os yw’n rhesymol ymarferol, mewn un neu ragor o leoedd yn ardal yr awdurdod lleol.

(4Rhaid i’r awdurdod lleol bennu cyfnod o 6 wythnos o leiaf, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad gyntaf, pan fo’n rhaid i fanylion y gwarediad arfaethedig fod ar gael i edrych arnynt yn unol â pharagraff (2)(b).

(5Rhaid i’r dyddiad a bennir gan yr awdurdod lleol fel y dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid iddo gael sylwadau ar y gwarediad arfaethedig yn unol â pharagraff (2)(c), fod o leiaf 6 wythnos ar ôl y dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad gyntaf.

(6Heb fod yn hwyrach na’r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad gyntaf, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)arddangos copi o’r hysbysiad mewn o leiaf un lle ar y cae chwarae neu gerllaw’r cae chwarae y mae’r gwarediad arfaethedig yn ymwneud ag ef, a pha un bynnag wrth bob mynedfa swyddogol i’r cae chwarae, am o leiaf 6 wythnos;

(b)pan fo gan yr awdurdod lleol wefan, rhoi copi o’r hysbysiad hwnnw ar y wefan honno am o leiaf 6 wythnos;

(c)anfon copi o’r hysbysiad at unrhyw berchennog neu feddiannydd tir sy’n ffinio â’r cae chwarae;

(d)anfon copi o’r hysbysiad a manylion y gwarediad arfaethedig at—

(i)unrhyw awdurdod lleol y mae ei ardal yn cynnwys unrhyw ran o’r cae chwarae y mae’r gwarediad arfaethedig yn ymwneud ag ef neu sy’n rhannu ffin ag unrhyw ran o gae o’r fath;

(ii)Cyngor Chwaraeon Cymru(4);

(iii)y National Playing Fields Association(5);

(iv)y personau hynny y mae’n ymddangos i’r awdurdod lleol eu bod yn cynrychioli buddiannau personau yn ardal yr awdurdod lleol, neu yn ardal awdurdod lleol sy’n rhannu ffin ag unrhyw ran o’r cae chwarae, sy’n gwneud defnydd o’r cae chwarae;

(v)unrhyw gorff y mae ei brif amcanion yn cynnwys gwarchod—

(aa)mannau agored ledled Cymru; neu

(bb)cyfleoedd i chwarae ar gyfer plant ledled Cymru;

(vi)unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod.

(7Rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu copi o’r manylion am y gwarediad arfaethedig i unrhyw berson (ar ôl talu ffi resymol, os yw hynny’n ofynnol gan yr awdurdod lleol) y mae’r awdurdod lleol yn cael cais ganddo yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Asesu’r effaith

6.—(1Rhaid i fanylion y gwarediad arfaethedig, a gaiff eu paratoi gan awdurdod lleol at ddibenion rheoliad 5(2)(b), (3), (4), (6)(d) a (7), gynnwys gwybodaeth am yr effaith y byddai’r gwarediad arfaethedig o gae chwarae, neu unrhyw ran o gae chwarae, yn ei chael ar unrhyw strategaethau, cynlluniau neu asesiadau perthnasol, ym marn yr awdurdod lleol.

(2Y strategaethau, cynlluniau neu asesiadau perthnasol at ddibenion paragraff (1) yw—

(a)y cynllun a luniwyd ar gyfer yr ardal o dan adran 62 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004(6);

(b)yr asesiad a luniwyd ar gyfer yr ardal o dan adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(7);

(c)y strategaeth a luniwyd ar gyfer yr ardal o dan adran 39 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(8);

(d)y strategaeth a luniwyd ar gyfer yr ardal o dan adran 40 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(9); ac

(e)unrhyw strategaethau, cynlluniau neu asesiadau eraill ag sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol.

Ystyried sylwadau

7.—(1Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried yr holl sylwadau a ddaw i law yn ystod y cyfnod ymgynghori mewn perthynas â’r penderfyniad arfaethedig i waredu.

(2Caiff yr awdurdod lleol ystyried unrhyw sylwadau a ddaw i law ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori mewn perthynas â’r penderfyniad arfaethedig i waredu.

Penderfynu

8.—(1Os bydd yr awdurdod lleol, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau y mae’n ofynnol iddo eu hystyried neu y mae ganddo bŵer i’w hystyried o dan reoliad 7, yn penderfynu bwrw ymlaen â’r penderfyniad i waredu, rhaid i’r awdurdod lleol lunio adroddiad ar y penderfyniad hwnnw (“yr adroddiad ar benderfyniad”).

(2Rhaid i’r adroddiad ar benderfyniad gynnwys—

(a)crynodeb o’r sylwadau a ddaeth i law ac a ystyriwyd gan yr awdurdod lleol; a

(b)y rhesymau dros benderfyniad yr awdurdod lleol.

(3Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r awdurdod lleol benderfynu gwaredu cae chwarae neu unrhyw ran o gae chwarae, rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod lleol (“yr hysbysiad o benderfyniad”) am ddwy wythnos yn olynol mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal yr awdurdod lleol—

(a)yn hysbysu’r cyhoedd o benderfyniad yr awdurdod lleol i waredu’r cae chwarae neu ran o gae chwarae; a

(b)yn hysbysu’r cyhoedd ym mha le neu leoedd ac ar ba adegau y caniateir edrych ar yr adroddiad ar benderfyniad, ac am ba gyfnod y bydd yr adroddiad ar benderfyniad ar gael i edrych arno.

(4Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod yr adroddiad ar benderfyniad ar gael i edrych arno yn ystod oriau swyddfa arferol ym mhrif swyddfa’r awdurdod lleol, os oes un ganddo, ac os yw hynny’n rhesymol ymarferol, mewn un neu ragor o leoedd yn ardal yr awdurdod lleol.

(5Rhaid i’r awdurdod lleol bennu cyfnod o 6 wythnos o leiaf, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad o benderfyniad gyntaf, pan fo rhaid i’r adroddiad ar benderfyniad fod ar gael i edrych arno yn unol â pharagraff (3)(b).

(6Rhaid i’r awdurdod lleol, heb fod yn hwyrach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad o benderfyniad gyntaf—

(a)arddangos copi o’r hysbysiad o benderfyniad mewn o leiaf un lle ar y cae chwarae neu gerllaw’r cae chwarae y mae’r gwarediad arfaethedig yn ymwneud ag ef, a pha un bynnag wrth bob mynedfa swyddogol i’r cae chwarae, am o leiaf 6 wythnos;

(b)pan fo gan awdurdod lleol wefan, rhoi copi o’r hysbysiad o benderfyniad a’r adroddiad ar benderfyniad ar y wefan honno am o leiaf 6 wythnos;

(c)anfon copi o’r hysbysiad o benderfyniad a’r adroddiad ar benderfyniad at unrhyw berson y cafodd yr awdurdod lleol sylw sylweddol ganddo a ystyriwyd gan yr awdurdod lleol yn unol â rheoliad 7.

(7Rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu copi o’r adroddiad ar benderfyniad i unrhyw berson (ar ôl talu ffi resymol, os yw hynny’n ofynnol gan yr awdurdod lleol) sy’n gofyn am gopi ohono.

(8Ni chaiff yr awdurdod lleol fwrw ymlaen â’r gwarediad arfaethedig, na chytundeb i waredu, hyd nes bod cyfnod o 12 wythnos wedi mynd heibio o’r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad o benderfyniad gyntaf.

(9Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r penderfyniad i waredu, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)llunio adroddiad ar y penderfyniad hwnnw sy’n cydymffurfio â’r gofynion ym mharagraff (2);

(b)anfon copi o’r adroddiad at unrhyw berson y cafodd yr awdurdod lleol sylw sylweddol ganddo a ystyriwyd gan yr awdurdod lleol yn unol â rheoliad 7 cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r awdurdod lleol wneud y penderfyniad.

Cyfathrebu electronig

9.—(1Pan fo, yn unol â’r Rheoliadau hyn—

(a)yn ofynnol i awdurdod lleol—

(i)anfon dogfen, copi o ddogfen neu unrhyw hysbysiad at awdurdod lleol neu berson arall; neu

(ii)hysbysu awdurdod lleol neu berson arall o unrhyw fater; a

(b)gan yr awdurdod lleol neu’r person arall hwnnw gyfeiriad at ddibenion cyfathrebiadau electronig,

caniateir anfon neu wneud y ddogfen, y copi, yr hysbysiad neu’r hysbysu ar ffurf cyfathrebiad electronig.

(2Yn y Rheoliadau hyn, pan ganiateir i awdurdod lleol neu berson arall gyflwyno sylwadau i’r awdurdod lleol ar unrhyw fater neu unrhyw ddogfennau, caniateir i’r sylwadau hynny gael eu cyflwyno ar ffurf cyfathrebiadau electronig i’r cyfeiriad a ddarperir gan yr awdurdod lleol at y diben hwnnw.

(3Ystyrir bod unrhyw gyfathrebiad electronig y bydd y derbynnydd yn ei gael yn unol â’r Rheoliadau hyn y tu allan i’w oriau swyddfa arferol wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf.

(4Yn y rheoliad hwn—

mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(10); ac

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, noswyl y Nadolig, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith, gŵyl y banc neu ddiwrnod a bennwyd ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus (ac ystyr “gŵyl y banc” (“bank holiday”) yw diwrnod sydd i’w drin felly o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(11)).

Canllawiau

10.  Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

22 Mehefin 2015

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources