- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
28.—(1) Pan fydd Pwyllgor Ymchwilio yn penderfynu cynnal ymchwiliad mewn perthynas â pherson cofrestredig, ar adeg yn ystod yr ymchwiliad y mae’n ei ystyried yn briodol, mae’n rhaid iddo—
(a)hysbysu’r person cofrestredig o natur yr honiad neu’r achos yn ei erbyn, a’i hawliau o dan reoliad 30;
(b)rhoi’r cyfle i’r person cofrestredig gyflwyno tystiolaeth a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig; ac
(c)ystyried tystiolaeth a sylwadau o’r fath ac unrhyw dystiolaeth a deunydd arall sydd ar gael iddo.
(2) Caiff Pwyllgor Ymchwilio benderfynu peidio â pharhau ag ymchwiliad ar unrhyw adeg cyn i’r achos gael ei atgyfeirio i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer benderfynu arno.
(3) Ar ôl cwblhau ei ymchwiliad rhaid i’r Pwyllgor Ymchwilio gymryd un o’r camau a ganlyn—
(a)atgyfeirio’r achos i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer benderfynu arno; neu
(b)peidio â pharhau â’r achos.
(4) Pan fo Pwyllgor Ymchwilio yn penderfynu peidio â pharhau ag ymchwiliad neu achos mae’n rhaid iddo hysbysu’r person cofrestredig dan sylw a’i gyflogwr—
(a)ei fod yn peidio â pharhau â’r achos; a
(b)nad oes gan y person cofrestredig dan sylw achos i’w ateb.
(5) Pan fo Pwyllgor Ymchwilio yn penderfynu nad oes gan berson cofrestredig achos i’w ateb, rhaid iddo gyhoeddi datganiad i’r perwyl hwnnw ar gais y person dan sylw.
(6) Caiff y Cyngor wneud darpariaethau eraill ynghylch y weithdrefn i’w dilyn gan Bwyllgor Ymchwilio mewn cysylltiad ag ymchwiliadau’r Pwyllgor Ymchwilio ac achosion eraill fel y gwêl yn addas, a chaiff adolygu unrhyw reolau gweithredu a wneir o dan y paragraff hwn o bryd i’w gilydd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: