RHAN 5Swyddogaethau disgyblu
Sefydlu Pwyllgorau Ymchwilio20
Rhaid i’r Cyngor sefydlu un neu fwy o bwyllgorau i gael eu hadnabod fel Pwyllgorau Ymchwilio at ddibenion cyflawni’r swyddogaethau yn adran 26(1) a (2) o Ddeddf 2014.
Dirprwyo swyddogaethau Pwyllgorau Ymchwilio21
1
Caiff Pwyllgor Ymchwilio ddirprwyo’r swyddogaethau a ganlyn i un o gyflogeion y Cyngor—
a
penderfynu pa un ai i ymchwilio, ac ymchwilio, i honiadau o nodwedd neu ddisgrifiad penodol, neu honiadau penodol—
i
yn erbyn person cofrestredig; neu
ii
bod person cofrestredig wedi ei gollfarnu am drosedd berthnasol;
b
penderfynu a oes gan berson cofrestredig achos i’w ateb mewn perthynas â mater yr ymchwiliwyd iddo o dan is-baragraff (a); ac
c
terfynu achos yn erbyn person cofrestredig pan fo’r cyflogai wedi penderfynu o dan is-baragraff (b) nad oes achos i’w ateb.
2
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i arfer swyddogaeth gan un o gyflogeion y Cyngor yn yr un modd ag y byddent yn gymwys i arfer y swyddogaeth honno gan Bwyllgor Ymchwilio.
Sefydlu Addasrwydd i Ymarfer22
1
Rhaid i’r Cyngor sefydlu un neu fwy o bwyllgorau i gael eu hadnabod fel Pwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer at ddibenion cyflawni’r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).
2
Mae swyddogaethau Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer fel a ganlyn—
a
penderfynu ar achosion a gyfeirir ato gan Bwyllgor Ymchwilio pan ymddengys i’r Pwyllgor Ymchwilio fod gan y person cofrestredig achos i’w ateb ynglŷn ag—
i
ymddygiad proffesiynol annerbyniol;
ii
anghymhwysedd proffesiynol difrifol; neu
iii
collfarn am drosedd berthnasol;
b
ystyried pa un ai i wneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â’r person cofrestredig hwnnw ac os bydd yn ystyried y dylid gwneud gorchymyn o’r fath, gwneud gorchymyn o’r fath pan fo Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn canfod bod person cofrestredig—
i
yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol;
ii
yn euog o anghymhwysedd proffesiynol difrifol; neu
iii
wedi ei gael yn euog o drosedd berthnasol; ac
c
penderfynu ar geisiadau o dan reoliadau 37, 39 neu 40, neu faterion yn codi mewn perthynas â gorchmynion disgyblu o dan reoliadau 38 neu 41.
Ffurf a chynnwys y cod ymddygiad ac ymarfer23
Rhaid i’r cod ymddygiad ac ymarfer gynnwys y materion a ganlyn fel darpariaeth sylfaenol—
a
seilio’r berthynas rhwng dysgwyr a phersonau cofrestredig ar ymddiriedaeth a pharch o’r ddwy ochr;
b
bod yn ystyriol o ddiogelwch a lles dysgwyr;
c
gweithio mewn modd cydweithredol gyda chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill;
d
datblygu a chynnal perthynas dda â rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr;
e
gweithredu â gonestrwydd ac unplygrwydd;
f
bod yn sensitif i’r angen am gyfrinachedd, pan fo’n briodol;
g
cymryd cyfrifoldeb dros gynnal ansawdd ymarfer proffesiynol; ac
h
cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.
Defnyddio’r cod ymddygiad ac ymarfer mewn materion disgyblu24
Rhaid i Bwyllgor Ymchwilio neu Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer roi ystyriaeth i unrhyw fethiant gan berson cofrestredig i gydymffurfio â’r cod ymddygiad ac ymarfer mewn unrhyw achos disgyblu yn erbyn y person hwnnw.
Darparu copïau o’r cod ymddygiad ac ymarfer25
1
Rhaid i’r Cyngor sicrhau bod copïau o’r cod ymddygiad ac ymarfer ar gael am ddim i bob person cofrestredig—
a
pan fo’r cod ymddygiad ac ymarfer yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf neu pan fydd person yn cofrestru am y tro cyntaf (os nad oedd y person yn berson cofrestredig pan gyhoeddwyd y cod ymddygiad ac ymarfer am y tro cyntaf); a
b
pan fo’r cod ymddygiad ac ymarfer yn cael ei adolygu.
2
Rhaid i’r Cyngor sicrhau bod copi o’r cod ymddygiad ac ymarfer ar gael ar unrhyw wefan y mae’n ei chynnal ar y rhyngrwyd.
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (1) rhaid i’r Cyngor, pan fo’n derbyn cais, ddarparu copïau o’r cod ymddygiad ac ymarfer ar ôl talu pa bynnag ffi resymol y caiff benderfynu arni.
Aelodaeth a gweithdrefn Pwyllgorau26
1
Ar Bwyllgor Ymchwilio neu Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer (“Pwyllgor”) rhaid i’r Cyngor gynnwys—
a
un neu fwy aelod lleyg; a
b
un neu fwy aelod sy’n berson cofrestredig.
2
Y cworwm ar gyfer cyfarfod Pwyllgor yw tri aelod, gan gynnwys un aelod lleyg ac un aelod sy’n berson cofrestredig.
3
Ni chaniateir i berson sy’n aelod o’r Cyngor gael ei benodi’n aelod o Bwyllgor.
4
Ni chaniateir i berson sy’n aelod o’r Pwyllgor Ymchwilio sy’n ymchwilio i achos gael ei benodi’n aelod o’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer sy’n penderfynu ar yr achos hwnnw.
5
Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) i (4) a rheoliadau 37, 39 a 40, caiff y Cyngor wneud darpariaeth fel y gwêl yn addas ar gyfer—
a
aelodaeth Pwyllgor;
b
ar ba delerau y mae aelodau Pwyllgor i ddal a gadael swydd; ac
c
gweithdrefn Pwyllgor.
6
Yn y rheoliad hwn—
a
ystyr “aelod lleyg” (“lay member”) yw aelod o’r Pwyllgor nad ydyw—
i
yn berson cofrestredig;
ii
yn gyflogedig, nac wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol o fewn y cyfnod o 5 mlynedd a fydd yn dod i ben ar ddyddiad penodi’r person hwnnw ar y Pwyllgor;
iii
wedi ei wahardd rhag cyflawni gweithgaredd a reoleiddir yn ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200622);
iv
yn destun gorchymyn disgyblu a wnaed o dan Ddeddf 2014 ac yn rhinwedd y gorchymyn hwnnw bod y person yn anghymwys i gofrestru; neu
v
wedi ei anghymhwyso rhag gweithio mewn swydd sy’n gyfystyr â chategori cofrestru;
b
ystyr “aelod sy’n berson cofrestredig” (“registered person member”) yw person—
i
sy’n berson cofrestredig o’r un categori cofrestru â’r person cofrestredig sy’n destun yr achos disgyblu; a
ii
sy’n gyflogedig, neu sydd wedi ei gymryd ymlaen ac eithrio o dan gontract cyflogaeth, yn un o’r swyddi a ddisgrifir yn y categorïau cofrestru ar y dyddiad y penodir yr aelod hwnnw sy’n berson cofrestredig i’r Pwyllgor.
7
Rhaid i aelod sy’n berson cofrestredig ac sy’n peidio â bod yn berson cofrestredig neu sy’n peidio â bod yn gyflogedig neu wedi ei gymryd ymlaen yn un o’r swyddi a ddisgrifir yn y categorïau cofrestru beidio â bod yn aelod sy’n berson cofrestredig.
8
Mae aelod lleyg sy’n dod yn berson cofrestredig yn peidio â chael ei ystyried yn aelod lleyg.
Hepgor neu gyfyngu ar bwerau Pwyllgorau27
1
Hepgorir swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio o dan Ran 5 o’r Rheoliadau hyn mewn achos—
a
pan honnir bod person cofrestredig yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu wedi ei gollfarnu (ar unrhyw adeg) am drosedd berthnasol, neu pan ymddengys iddo y gallai person cofrestredig fod yn euog o hynny neu wedi ei gollfarnu am hynny; a
b
pan fo’r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried bod yr achos yn ymwneud â diogelwch a lles personau nad ydynt eto’n 18 oed a’i fod yn dymuno ystyried yr achos gyda’r bwriad o arfer ei bwerau o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002—
i
ar y sail bod person yn anaddas i weithio gyda phlant, neu
ii
ar sail sy’n ymwneud â chamymddygiad neu iechyd person; neu
c
pan fo’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a sefydlwyd gan adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012(1), wedi cynnwys, neu yn ystyried pa un ai i gynnwys, person cofrestredig yn y naill neu’r llall o’r rhestrau gwahardd a gynhelir o dan adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200623.
2
Hepgorir swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio o dan Ran 5 o’r Rheoliadau hyn mewn achos—
a
pan honnir bod person cofrestredig yn euog o anghymhwysedd proffesiynol difrifol neu pan ymddengys iddo y gallai person cofrestredig fod yn euog o hynny; a
b
pan na ddarparwyd i’r Cyngor yn unol â Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn wybodaeth y mae’r Pwyllgor Ymchwilio yn ei hystyried yn angenrheidiol er mwyn ei alluogi i gyflawni ei swyddogaethau o dan Ran 5 o’r Rheoliadau hyn.
Achosion Pwyllgorau Ymchwilio28
1
Pan fydd Pwyllgor Ymchwilio yn penderfynu cynnal ymchwiliad mewn perthynas â pherson cofrestredig, ar adeg yn ystod yr ymchwiliad y mae’n ei ystyried yn briodol, mae’n rhaid iddo—
a
hysbysu’r person cofrestredig o natur yr honiad neu’r achos yn ei erbyn, a’i hawliau o dan reoliad 30;
b
rhoi’r cyfle i’r person cofrestredig gyflwyno tystiolaeth a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig; ac
c
ystyried tystiolaeth a sylwadau o’r fath ac unrhyw dystiolaeth a deunydd arall sydd ar gael iddo.
2
Caiff Pwyllgor Ymchwilio benderfynu peidio â pharhau ag ymchwiliad ar unrhyw adeg cyn i’r achos gael ei atgyfeirio i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer benderfynu arno.
3
Ar ôl cwblhau ei ymchwiliad rhaid i’r Pwyllgor Ymchwilio gymryd un o’r camau a ganlyn—
a
atgyfeirio’r achos i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer benderfynu arno; neu
b
peidio â pharhau â’r achos.
4
Pan fo Pwyllgor Ymchwilio yn penderfynu peidio â pharhau ag ymchwiliad neu achos mae’n rhaid iddo hysbysu’r person cofrestredig dan sylw a’i gyflogwr—
a
ei fod yn peidio â pharhau â’r achos; a
b
nad oes gan y person cofrestredig dan sylw achos i’w ateb.
5
Pan fo Pwyllgor Ymchwilio yn penderfynu nad oes gan berson cofrestredig achos i’w ateb, rhaid iddo gyhoeddi datganiad i’r perwyl hwnnw ar gais y person dan sylw.
6
Caiff y Cyngor wneud darpariaethau eraill ynghylch y weithdrefn i’w dilyn gan Bwyllgor Ymchwilio mewn cysylltiad ag ymchwiliadau’r Pwyllgor Ymchwilio ac achosion eraill fel y gwêl yn addas, a chaiff adolygu unrhyw reolau gweithredu a wneir o dan y paragraff hwn o bryd i’w gilydd.
Achosion Pwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer29
1
Rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer benderfynu ar achosion yn erbyn personau cofrestredig a atgyfeirir ato gan Bwyllgor Ymchwilio yn unol â’r Rheoliadau hyn a rheolau a wneir gan y Cyngor o dan reoliad 34.
2
Pan fo Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn penderfynu peidio â pharhau ag achos ar unrhyw adeg ar ôl i’r achos hwnnw gael ei atgyfeirio ato gan Bwyllgor Ymchwilio, rhaid iddo hysbysu’r person cofrestredig dan sylw a’i gyflogwr—
a
ei fod yn peidio â pharhau â’r ymchwiliad; a
b
nad oes gan y person cofrestredig dan sylw achos i’w ateb.
3
Pan fo Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn penderfynu nad oes gan berson cofrestredig achos i’w ateb, rhaid iddo gyhoeddi datganiad i’r perwyl hwnnw ar gais y person dan sylw.
4
Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer atgyfeirio achos at Bwyllgor Ymchwilio.
Hawl i ymddangos a chael cynrychiolaeth mewn gwrandawiadau30
1
Mae gan berson cofrestredig hawl i ymddangos a chyflwyno sylwadau ar lafar a chael ei gynrychioli, gan ba bynnag berson neu bersonau a ddymuna, mewn unrhyw wrandawiad Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer lle y caiff ei achos ei ystyried.
2
Pan nad yw person cofrestredig yn ymddangos mewn gwrandawiad Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer lle y caiff ei achos ei ystyried, mae gan y person cofrestredig yr hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig.
Presenoldeb tystion31
Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson fynychu a rhoi tystiolaeth neu gyflwyno dogfennau neu dystiolaeth berthnasol arall mewn unrhyw wrandawiad.
Gofyniad i wrandawiadau gael eu cynnal yn gyhoeddus32
1
Rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gyhoeddi ei benderfyniad ynglŷn â chanlyniad pob gwrandawiad yn gyhoeddus ac yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) rhaid i holl wrandawiadau Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gael eu cynnal yn gyhoeddus.
2
Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer drafod yn breifat ar unrhyw adeg ac at unrhyw ddiben yn ystod neu ar ôl gwrandawiad.
3
Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer wahardd y cyhoedd o wrandawiad neu unrhyw ran o wrandawiad—
a
pan ymddengys i’r pwyllgor ei bod yn angenrheidiol gwahardd y cyhoedd er lles cyfiawnder;
b
pan fo’r person cofrestredig y mae’r achos disgyblu yn cael ei weithredu yn ei erbyn yn gwneud cais ysgrifenedig y dylid cynnal y gwrandawiad yn breifat, ac nad yw’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn ystyried ei bod yn groes i les y cyhoedd i gynnal y gwrandawiad yn breifat; neu
c
pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn amddiffyn lles plant.
Gweinyddu llwon a chadarnhadau33
Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dyst mewn gwrandawiad roi tystiolaeth ar lw neu gadarnhad ac i’r diben hwnnw gellid gweinyddu llw neu gadarnhad yn y man.
Darpariaethau eraill ynglŷn â Phwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer34
Caiff y Cyngor wneud darpariaethau eraill ynghylch y weithdrefn i’w dilyn gan Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer mewn cysylltiad â phenderfyniadau’r pwyllgor a gweithdrefnau eraill fel y gwêl yn addas, ac o bryd i’w gilydd caiff adolygu unrhyw reolau gweithredu a wneir o dan y paragraff hwn.
Gorchmynion disgyblu35
1
Rhaid i orchymyn disgyblu gofnodi penderfyniad y Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer, y dyddiad y gwneir y gorchymyn, a’r dyddiad y mae’r gorchymyn yn cael effaith.
2
Daw gorchymyn disgyblu i rym ar y dyddiad y caiff hysbysiad ohono ei gyflwyno i’r person y caiff y gorchymyn disgyblu ei wneud mewn perthynas ag ef ac eithrio pan fo Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn penderfynu fel arall.
3
Rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gyflwyno i’r person y gwneir y gorchymyn disgyblu mewn perthynas ag ef hysbysiad o’r gorchymyn disgyblu sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
a
testun y gorchymyn;
b
disgrifiad o effaith y gorchymyn;
c
rhesymau’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer dros wneud y gorchymyn;
d
hysbysiad o hawl y person cofrestredig i apelio i’r Uchel Lys yn erbyn y gorchymyn a’r cyfnod amser ar gyfer gwneud apêl o’r fath;
e
pan fo’r gorchymyn yn orchymyn cofrestru amodol, eglurhad—
i
o’r camau y mae gan Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yr awdurdod i’w cymryd pe byddai’r person cofrestredig yn methu â chydymffurfio ag amod a nodir ynddo, a
ii
o hawl y person i wneud cais i amrywio neu ddirymu amod a bennir yn y gorchymyn a’r dull o wneud cais o’r fath;
f
pan fo’r gorchymyn yn orchymyn atal dros dro sy’n pennu amodau, eglurhad o hawl y person cofrestredig i wneud cais i amrywio neu ddirymu amod a bennir yn y gorchymyn hwnnw a’r dull o wneud cais o’r fath; ac
g
pan fo’r gorchymyn yn orchymyn gwahardd, eglurhad o hawl y person cofrestredig i wneud cais am benderfyniad ei fod yn gymwys i gael ei gofrestru a’r dull o wneud cais o’r fath.
4
Rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gyflwyno hysbysiad o’r gorchymyn i’r personau cofrestredig sy’n bresennol neu i’r cyflogwr diwethaf a, phan fo’n berthnasol, i’r asiant.
5
Pan fydd Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer, ar ôl penderfynu ar achos, yn penderfynu peidio â gwneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â pherson cofrestredig, rhaid i’r pwyllgor hysbysu’r person cofrestredig dan sylw a’i gyflogwr—
a
am ei benderfyniad a’r rhesymau drosto; a
b
a benderfynodd nad oedd yr achos yn ei erbyn wedi ei brofi.
6
Pan nad yw’n canfod bod yr achos yn erbyn person cofrestredig wedi ei brofi, rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gyhoeddi datganiad i’r perwyl hwnnw ar gais y person cofrestredig.
Cyhoeddi gorchmynion disgyblu36
1
Yn unol â pharagraff (2) rhaid i’r Cyngor gyhoeddi’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (3) mewn cysylltiad â gorchymyn disgyblu—
a
ar wefan y mae’n ei chynnal ar y rhyngrwyd am y cyfnod y bydd y gorchymyn mewn grym neu am gyfnod o chwe mis yn cychwyn ar y dyddiad y mae’r gorchymyn i gael effaith (pa un bynnag yw’r diweddaraf); neu
b
mewn modd arall fel y gwêl yn addas.
2
Nid yw’r ddyletswydd i gyhoeddi’r wybodaeth ym mharagraff (3) yn gymwys pan ymddengys ym marn y Cyngor ei bod yn angenrheidiol peidio â chyhoeddi—
a
er lles cyfiawnder; neu
b
er mwyn amddiffyn lles plant.
3
Yr wybodaeth i gael ei chyhoeddi yw—
a
enw’r person y gwneir y gorchymyn mewn perthynas ag ef ac enw—
i
yr ysgol yr oedd y person yn gyflogedig ynddi yn fwyaf diweddar;
ii
y sefydliad addysg bellach neu’r sefydliad addysg uwch yr oedd y person yn gyflogedig ynddi yn fwyaf diweddar, neu
iii
yr awdurdod lleol pan oedd y person wedi ei gyflogi yn fwyaf diweddar gan awdurdod lleol heblaw mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach neu addysg uwch;
b
y math o orchymyn disgyblu;
c
y dyddiad y gwnaed y gorchymyn a’r dyddiad y mae’n cael effaith;
d
y cyfnod y mae’r gorchymyn disgyblu yn cael effaith ar ei gyfer (pan bennir hynny);
e
pa un ai cafwyd y person yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol neu ei gollfarnu am drosedd berthnasol;
f
pan ganfyddir bod y person wedi ei gollfarnu am drosedd berthnasol, natur a dyddiad y gollfarn dan sylw; ac
g
pan ganfyddir bod y person yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, mynegiant o natur yr ymddygiad a arweiniodd at wneud y gorchymyn.
Cais i amrywio amod mewn gorchymyn cofrestru amodol neu i’w roi o’r naill du37
1
Rhaid i gais gan berson cofrestredig sydd wedi derbyn gorchymyn cofrestru amodol i amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn—
a
cael ei wneud yn ysgrifenedig;
b
pennu ar ba sail y mae’r person cofrestredig yn ceisio cael amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn; ac
c
cael ei gyflwyno gyda phob dogfen y dibynnir arni er mwyn cefnogi’r cais.
2
Pan fo cais yn cael ei wneud o dan baragraff (1) rhaid i’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer sy’n ystyried y cais hwnnw beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a oedd yn aelod o’r pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
Canlyniadau methiant i gydymffurfio â gorchymyn cofrestru amodol38
Pan fo Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn fodlon bod person cofrestredig y gwnaed gorchymyn cofrestru amodol yn ei erbyn wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw amod ynddo, caiff weithredu gorchymyn atal dros dro neu wahardd mewn perthynas â’r person cofrestredig.
Cais i amrywio amod mewn gorchymyn atal dros dro neu i’w roi o’r naill du39
1
Rhaid i gais gan berson cofrestredig sydd wedi derbyn gorchymyn atal dros dro i amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn—
a
cael ei wneud yn ysgrifenedig;
b
pennu ar ba sail y mae’r person cofrestredig yn ceisio cael amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn; ac
c
cael ei gyflwyno gyda phob dogfen y dibynnir arni er mwyn cefnogi’r cais.
2
Pan fo cais yn cael ei wneud o dan baragraff (1) rhaid i’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer sy’n ystyried y cais hwnnw beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a oedd yn aelod o’r pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
Cais i adolygu gorchymyn gwahardd40
1
Rhaid i gais gan berson sydd wedi derbyn gorchymyn gwahardd gan y Cyngor i benderfynu a yw’n gymwys i gofrestru—
a
cael ei wneud yn ysgrifenedig;
b
pennu ar ba sail y mae’r person cofrestredig yn ceisio cael amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn; ac
c
cael ei gyflwyno gyda phob dogfen y dibynnir arni er mwyn cefnogi’r cais.
2
Pan fo cais yn cael ei wneud o dan baragraff (1) rhaid i’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer sy’n ystyried y cais hwnnw beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a oedd yn aelod o’r pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
Adolygu gorchmynion disgyblu41
Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer ddirymu gorchymyn disgyblu a wnaed ganddo ar unrhyw adeg—
a
pan mai’r unig neu’r prif reswm dros wneud y gorchymyn oedd bod y person y gwnaed y gorchymyn mewn perthynas ag ef wedi ei gollfarnu am drosedd berthnasol, a bod y gollfarn gan sylw wedi ei diddymu ar ôl y dyddiad y gwnaed y gorchymyn; neu
b
pan fo’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer, ar ôl i’r gorchymyn gael ei wneud, yn cael tystiolaeth na chafodd ei hystyried ganddo cyn iddo wneud y gorchymyn, a’i fod yn fodlon na fyddai wedi gwneud y gorchymyn pe byddai’n ymwybodol o’r dystiolaeth honno cyn iddo ei wneud.
Cyflwyno hysbysiadau a gorchmynion42
Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion achos disgyblu gael ei gyflwyno yn unol â rheoliad 54.
Cyhoeddi a darparu copïau o ddogfennau43
1
Rhaid i’r Cyngor gyhoeddi unrhyw reolau gweithredu a wneir o dan reoliad 28(6) neu 34—
a
ar wefan y mae’n ei chynnal ar y rhyngrwyd; a
b
mewn unrhyw ddull arall y gwêl yn addas.
2
Rhaid i’r Cyngor, ar gais unrhyw berson cofrestredig, ddarparu copi o reolau gweithredu a wnaed o dan reoliad 28(6) neu 34 i’r person hwnnw.
3
Caiff y Cyngor godi ffi resymol am ddarparu rheolau gweithredu yn unol â pharagraff (2) ond ni chaiff ffi o’r fath fod yn uwch na chost eu cyflenwi.
4
Rhaid i’r Cyngor gyhoeddi unrhyw ddatganiad y mae’n ofynnol iddo ei gyhoeddi o dan reoliad 28(5), 29(3) neu 35(6) ar wefan y mae’n ei chynnal ar y rhyngrwyd, a chaiff gyhoeddi’r datganiad mewn unrhyw ddull arall y gwêl yn addas os yw’n dymuno gwneud hynny.