xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 140 (Cy. 8)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015

Gwnaed

3 Chwefror 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Chwefror 2015

Yn dod i rym

1 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 10(2)(b), 13, 14, 15, 25, 26(6), 28, 33, 35(4), 36(2), 37(2) a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(1), a pharagraff 12 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Nid yw Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo’n ofynnol i gyflogwr perthnasol neu asiant ddarparu gwybodaeth i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o dan adrannau 35, 36 neu 39 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2) mewn perthynas ag achos person cofrestredig, y byddai’n ofynnol iddynt fel arall hysbysu ynglŷn â’i ffeithiau o dan reoliad 45(1) neu 46(1) yn Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn.

Dirymiadau, arbedion a darpariaethau trosiannol

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Rheoliadau yn Rhan 1 o Atodlen 1 wedi eu dirymu.

(2Mae’r arbedion a’r darpariaethau trosiannol a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 yn cael effaith.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “achos disgyblu” (“disciplinary proceedings”) mewn perthynas â pherson cofrestredig yng Nghymru yw achos disgyblu o dan adrannau 26 i 32 o Ddeddf 2014;

ystyr “anghymhwysedd proffesiynol difrifol” (“serious professional incompetence”) yw ymddygiad sy’n dangos anghymhwysedd ar lefel sy’n ddifrifol is na’r ymddygiad a ddisgwylir gan berson cofrestredig o ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol;

ystyr “An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu” (“An Chomhairle Mhúinteoireachta or the Teaching Council”) yw’r Cyngor Addysgu a sefydlwyd o dan adran 5 o Ddeddf y Cyngor Addysgu 2001(3) (corff y mae ei swyddogaethau’n cyfateb i rai’r Cyngor yng Ngweriniaeth Iwerddon);

mae i “asiant” (“agent”) yr ystyr a roddir gan adran 37 o Ddeddf 2014;

ystyr “athro neu athrawes addysg bellach” (“further education teacher”) yw person sydd wedi cofrestru yn y categori cofrestru athro neu athrawes addysg bellach;

ystyr “athro neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw person sydd wedi cofrestru yn y categori cofrestru athro neu athrawes ysgol;

mae i “athro neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yr un ystyr a roddir yn adran 132(1) o Ddeddf 2002;

ystyr “athro neu athrawes ôl-drothwy” (“post-threshold teacher”) yw athro neu athrawes sy’n bodloni’r meini prawf a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer y swydd honno ac a nodir mewn dogfen y rhoddir iddi effaith gyfreithiol gan orchymyn o dan adran 122 o Ddeddf 2002(4);

ystyr “athro neu athrawes uwch-sgiliau” (“advanced skills teacher”) yw athro neu athrawes yr ardystiwyd gan aseswr a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ei fod neu ei bod yn gymwys i gael ei benodi neu ei phenodi i swydd athro neu athrawes uwch-sgiliau;

ystyr “Cod Ymarfer” (“Code of Practice”) yw’r cod ymarfer a baratowyd ac a gyhoeddwyd o dan adran 24 o Ddeddf 2014;

mae i “corff priodol” (“appropriate body”) yr un ystyr a roddir yn Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005(5);

ystyr “cyflogwr” (“employer”) yw person sy’n cyflogi person cofrestredig neu’n cymryd person cofrestredig ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol;

ystyr “cyfnod sefydlu” (“induction period“) yw cyfnod sefydlu sy’n cael ei gwblhau yn unol â rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Chymru neu Loegr o dan—

(a)

adran 19 o Ddeddf 1998;

(b)

adran 135A o Ddeddf 2002; neu

(c)

adran 17 o Ddeddf 2014;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996(6);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(7);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(8);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;

ystyr “gwasanaethau” (“services”) yw gwasanaethau a ddarperir i gyflogwr perthnasol yng Nghymru ac mae’n cynnwys gwasanaethau proffesiynol a gwirfoddol;

ystyr “y Gofrestr” (“the Register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 9 o Ddeddf 2014, ac ystyr “cofrestru” (“registration”) yw cofrestru ar y Gofrestr;

ystyr “pennaeth cynorthwyol” (“assistant head teacher”) yw athro neu athrawes gymwysedig (o fewn ystyr adran 132 o Ddeddf 2002) â chyfrifoldebau arweinyddiaeth ar draws yr ysgol gyfan sydd wedi ei benodi neu ei phenodi i swydd pennaeth cynorthwyol;

mae i “person cofrestredig” (“registered person”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 41(1) o Ddeddf 2014;

ystyr “prif ystod cyflog” (“main pay range”) yw’r brif ystod cyflog a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac a nodir mewn dogfen y rhoddir iddi effaith gyfreithiol o dan adran 122 o Ddeddf 2002(9);

ystyr “Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer” (“Fitness to Practice Committee”) yw pwyllgor a sefydlwyd o dan reoliad 22;

ystyr “Pwyllgor Ymchwilio” (“Investigating Committee”) yw pwyllgor a sefydlwyd o dan reoliad 20;

ystyr “Rheoliadau 1959” (“the 1959 Regulations”) yw Rheoliadau Ysgolion 1959(10);

ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1982(11);

ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1989(12);

ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002(13);

ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) 2004(14);

ystyr “Rheoliadau Sefydlu” (“Induction Regulations”) yw’r rheoliadau a wnaed o dan y pwerau a nodir yn y diffiniad o “cyfnod sefydlu”;

mae i “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) o ran Cymru yr un ystyr a roddir iddo yn adran 27(1) o Ddeddf 2014 ac o ran Lloegr, yr un ystyr a roddir iddo yn adran 141B(4) o Ddeddf Addysg 2002;

ystyr “trefniadau” (“arrangements”) yw’r math o drefniadau y cyfeirir atynt yn adran 37(1) o Ddeddf 2014 ar gyfer person sy’n berson cofrestredig i ddarparu gwasanaethau perthnasol yng Nghymru;

ystyr “ymarferydd arweiniol” (“leading practitioner”) yw athro neu athrawes sy’n cael ei dalu o fewn ystod cyflog ymarferydd arweiniol fel y’i pennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac a nodir mewn dogfen y rhoddir iddi effaith gyfreithiol gan orchymyn o dan adran 122 o Ddeddf 2002(15);

ystyr “ymddygiad proffesiynol annerbyniol” (“unacceptable professional conduct”) yw ymddygiad nad yw’n cyrraedd y safon a ddisgwylir gan berson cofrestredig;

mae i “ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol” yr un ystyr a roddir i “school maintained by a local authority” yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

mae i “ysgol annibynnol” yr un ystyr a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf Addysg 1996(16);

mae i “ysgol arbennig” yr un ystyr a roddir i “special school” yn adran 337 o Ddeddf Addysg 1996; ac

ystyr “ystod cyflog uwch” (“upper pay range”) yw’r ystod cyflog uwch a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac a nodir mewn dogfen y rhoddir iddi effaith gyfreithiol o dan adran 122 o Ddeddf 2002(17).

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at bennaeth yn cynnwys cyfeiriad at berson a benodir i gyflawni swyddogaethau pennaeth yr ysgol—

(a)hyd nes y penodir pennaeth, neu

(b)yn absenoldeb y pennaeth.

(3Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ddirprwy bennaeth yn cynnwys cyfeiriad at berson a benodir i gyflawni swyddogaethau dirprwy bennaeth yr ysgol—

(a)hyd nes y penodir dirprwy bennaeth, neu

(b)yn absenoldeb y dirprwy bennaeth.

RHAN 2Cofrestru

Cymhwystra ar gyfer cofrestru: cyfnod sefydlu

4.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson sydd, ar ôl gweithio cyfnod sefydlu, wedi methu â’i gwblhau’n foddhaol at ddibenion y Rheoliadau Sefydlu.

(2Mae person o’r fath yn gymwys i gofrestru—

(a)yn ystod y cyfnod ar gyfer gwneud apêl o dan y Rheoliadau Sefydlu yn erbyn y penderfyniad ei fod wedi methu â chwblhau cyfnod sefydlu’n foddhaol; a

(b)pan fo apêl o’r fath yn cael ei gwneud, wrth ddisgwyl canlyniad yr apêl.

Ceisiadau cofrestru

5.  Caiff y Cyngor wneud darpariaeth o ran—

(a)y ffurf a’r dull y mae ceisiadau cofrestru i gael eu gwneud; a

(b)y dystiolaeth ddogfennol a thystiolaeth arall sydd i gyd-fynd â’r ceisiadau cofrestru.

Hysbysiad o benderfyniad

6.—(1Rhaid i’r Cyngor gyflwyno hysbysiad o’i benderfyniad i ganiatáu neu i wrthod y cais i’r—

(a)sawl sy’n ymgeisio i gael ei gofrestru; a’r

(b)cyflogwr (pan fo’n gymwys).

(2Mewn achos o wrthod cofrestru, rhaid i’r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) nodi—

(a)ar ba sail y gwnaed y penderfyniad; a

(b)pan wrthodwyd cofrestru ar y sail nad oedd y Cyngor yn fodlon ynglŷn ag addasrwydd yr ymgeisydd i gofrestru, rhaid iddo hysbysu’r ymgeisydd am—

(i)ei hawl i apelio i’r Uchel Lys yn erbyn y penderfyniad a wnaed, a

(ii)y cyfnod o amser a nodir yn adran 11(2) o Ddeddf 2014 ar gyfer gwneud apêl o’r fath.

(3Caniateir cyflwyno hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 54.

Cofrestru dros dro

7.—(1Mae person yn gymwys i gofrestru dros dro os yw’r person hwnnw yn bodloni un neu fwy o’r amodau yn y rheoliad hwn am y tro.

(2Yr amod cyntaf yw bod y person—

(a)yn athro neu’n athrawes gymwysedig; a

(b)eto heb gwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus.

(3Yr ail amod yw bod y person yn gofrestredig gan y Cyngor yn y categori cofrestru athro neu athrawes ysgol yn unol â Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol (Cofrestru Athrawon Dros Dro o Wladwriaethau Ewropeaidd Perthnasol) (Cymru a Lloegr) 2009(18).

Cofrestru ar ôl sefydlu’r Gofrestr

8.—(1Caiff y Cyngor gofrestru personau nad ydynt wedi gwneud ceisiadau i gael eu cofrestru ond sy’n gymwys i gofrestru am y tro cyntaf.

(2Rhaid i’r Cyngor anfon hysbysiad ysgrifenedig o’u cofrestriad at yr holl bersonau sydd wedi eu cofrestru o dan baragraff (1).

(3Rhaid i’r Cyngor ddarparu copi am ddim o’r wybodaeth a gofnodwyd ar y Gofrestr yn erbyn enw person sydd wedi ei gofrestru o dan baragraff (1) os bydd y person hwnnw’n gwneud cais.

(4Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson o dan y rheoliad hwn gael ei gyflwyno yn unol â rheoliad 54.

Cynnwys y Gofrestr

9.—(1Rhaid i’r Cyngor gofnodi yn y Gofrestr yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 yn erbyn enwau’r holl bersonau cofrestredig.

(2Rhaid i’r Cyngor gofnodi yn y Gofrestr yr wybodaeth a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 2 yn erbyn enwau’r personau hynny a gofrestrwyd yn y categori athro neu athrawes ysgol.

(3Caiff y Cyngor gofnodi yn y Gofrestr yr wybodaeth a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 2 yn erbyn enwau’r personau hynny a gofrestrwyd mewn categori cofrestru ar wahân i gategori athro neu athrawes ysgol.

(4Caiff y Cyngor wneud darpariaeth ynglŷn â materion ychwanegol i’w cofnodi yn y Gofrestr.

Rhannu’r Gofrestr yn rhannau ar wahân

10.  Caiff y Cyngor wneud darpariaethau ynglŷn â rhannu’r Gofrestr yn rhannau ar wahân.

Diwygio cofnodion ar y Gofrestr

11.  Caiff y Cyngor wneud darpariaeth ynglŷn ag adfer ac addasu cofnodion ar y Gofrestr, a throsglwyddo cofnodion rhwng gwahanol rannau o’r Gofrestr.

Tynnu cofnodion oddi ar y Gofrestr

12.  Caiff y Cyngor wneud darpariaeth—

(a)ar gyfer gwrthod cais i gofrestru hyd oni fydd y ffi gofrestru briodol wedi ei thalu; a

(b)ynglŷn â thynnu cofnodion oddi ar y Gofrestr pan fo’r personau dan sylw wedi peidio â bod yn gymwys i’w cofrestru, wedi methu â thalu ffi gofrestru, neu fel arall.

Cyhoeddi tystysgrifau cofrestru, a’u ffurf

13.  Caiff y Cyngor wneud darpariaeth ynglŷn â chyhoeddi tystysgrifau cofrestru i bersonau cofrestredig, ac ynglŷn â ffurf y tystysgrifau hynny.

Mynediad cyhoeddus at y Gofrestr

14.—(1Rhaid i’r cyngor, ar ôl derbyn cais gan aelod o’r cyhoedd, roi gwybod i’r aelod hwnnw o’r cyhoedd a yw person yn berson cofrestredig ai peidio.

(2Rhaid i ymateb gan y Cyngor i gais o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw’r person cofrestredig;

(b)y categori cofrestru y mae’r person hwnnw wedi ei gofrestru ynddo;

(c)yr ysgol neu’r sefydliad lle y mae’r person yn cael ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall (os yn gymwys); a

(d)manylion eraill y mae’r Cyngor yn penderfynu arnynt.

(3Caiff y Cyngor drefnu bod enwau’r personau ar y Gofrestr ar gael yn y fath fodd ag y mae’r Cyngor yn penderfynu arno.

RHAN 3Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon ysgol

Y gofyniad i fod yn gymwysedig

15.  Ni chaniateir i neb gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol oni bai ei fod—

(a)yn athro neu’n athrawes gymwysedig; neu

(b)yn bodloni’r gofynion a bennir mewn o leiaf un o’r paragraffau yn Atodlen 3.

Estyn y cyfnod penodedig

16.  Pan ganiateir i unrhyw berson gyflawni’r gwaith a bennir yn rheoliad 17 am gyfnod penodedig yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau Atodlen 3, bydd y cyfnod hwnnw yn cael ei estyn drwy ychwanegu ato gyfnod sy’n hafal i agregiad o unrhyw gyfnod neu gyfnodau pan fydd y person dan sylw’n absennol o’r gwaith—

(a)wrth i’r person hwnnw arfer—

(i)ei hawl i absenoldeb mamolaeth a roddir gan adran 71 neu 73 o Ddeddf 1996(19) neu gontract cyflogaeth a phan fydd gan y person hwnnw yr hawl i ddychwelyd i’r gwaith yn rhinwedd y naill neu’r llall o’r adrannau hyn neu gontract cyflogaeth;

(ii)ei hawl i absenoldeb rhiant a roddir gan adran 76 o Ddeddf 1996;

(iii)ei hawl i absenoldeb tadolaeth a roddir gan adran 80A neu 80B o Ddeddf 1996(20); neu

(iv)ei hawl i absenoldeb mabwysiadu a roddir gan adran 75A neu 75B o Ddeddf 1996(21); neu

(b)oherwydd beichiogrwydd.

Gwaith penodedig

17.—(1Mae pob un o’r gweithgareddau a ganlyn yn waith penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau ar gyfer disgyblion;

(b)cyflwyno gwersi i ddisgyblion;

(c)asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion; a

(d)adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.

(2Ym mharagraff (1)(b) mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddulliau dysgu o bell neu ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.

Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon ysgol

18.  Dim ond os ydynt wedi eu cofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) y caiff athrawon cymwysedig gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 17 mewn ysgol.

RHAN 4Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon addysg bellach

Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon addysg bellach

19.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ni chaiff person ddarparu addysg mewn nac ar gyfer sefydliad addysg bellach oni bai ei fod wedi ei gofrestru yn y categori athro neu athrawes addysg bellach gyda’r Cyngor.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson pan nad yw’r person hwnnw ond—

(a)yn addysgu addysg uwch mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach;

(b)yn darparu diweddariadau hyfforddi dros dro neu yn achlysurol ar gyfer—

(i)diwydiant,

(ii)masnach, neu

(iii)ymarfer proffesiynol;

(c)yn llogi safle gan sefydliad addysg bellach neu fel arall yn defnyddio safle sefydliad addysg bellach gyda chaniatâd y sefydliad; neu

(d)yn darparu hyfforddiant ar gais corff neu sefydliad allanol ac er mwyn diwallu ei anghenion penodol.

RHAN 5Swyddogaethau disgyblu

Sefydlu Pwyllgorau Ymchwilio

20.  Rhaid i’r Cyngor sefydlu un neu fwy o bwyllgorau i gael eu hadnabod fel Pwyllgorau Ymchwilio at ddibenion cyflawni’r swyddogaethau yn adran 26(1) a (2) o Ddeddf 2014.

Dirprwyo swyddogaethau Pwyllgorau Ymchwilio

21.—(1Caiff Pwyllgor Ymchwilio ddirprwyo’r swyddogaethau a ganlyn i un o gyflogeion y Cyngor—

(a)penderfynu pa un ai i ymchwilio, ac ymchwilio, i honiadau o nodwedd neu ddisgrifiad penodol, neu honiadau penodol—

(i)yn erbyn person cofrestredig; neu

(ii)bod person cofrestredig wedi ei gollfarnu am drosedd berthnasol;

(b)penderfynu a oes gan berson cofrestredig achos i’w ateb mewn perthynas â mater yr ymchwiliwyd iddo o dan is-baragraff (a); ac

(c)terfynu achos yn erbyn person cofrestredig pan fo’r cyflogai wedi penderfynu o dan is-baragraff (b) nad oes achos i’w ateb.

(2Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i arfer swyddogaeth gan un o gyflogeion y Cyngor yn yr un modd ag y byddent yn gymwys i arfer y swyddogaeth honno gan Bwyllgor Ymchwilio.

Sefydlu Addasrwydd i Ymarfer

22.—(1Rhaid i’r Cyngor sefydlu un neu fwy o bwyllgorau i gael eu hadnabod fel Pwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer at ddibenion cyflawni’r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).

(2Mae swyddogaethau Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer fel a ganlyn—

(a)penderfynu ar achosion a gyfeirir ato gan Bwyllgor Ymchwilio pan ymddengys i’r Pwyllgor Ymchwilio fod gan y person cofrestredig achos i’w ateb ynglŷn ag—

(i)ymddygiad proffesiynol annerbyniol;

(ii)anghymhwysedd proffesiynol difrifol; neu

(iii)collfarn am drosedd berthnasol;

(b)ystyried pa un ai i wneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â’r person cofrestredig hwnnw ac os bydd yn ystyried y dylid gwneud gorchymyn o’r fath, gwneud gorchymyn o’r fath pan fo Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn canfod bod person cofrestredig—

(i)yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol;

(ii)yn euog o anghymhwysedd proffesiynol difrifol; neu

(iii)wedi ei gael yn euog o drosedd berthnasol; ac

(c)penderfynu ar geisiadau o dan reoliadau 37, 39 neu 40, neu faterion yn codi mewn perthynas â gorchmynion disgyblu o dan reoliadau 38 neu 41.

Ffurf a chynnwys y cod ymddygiad ac ymarfer

23.  Rhaid i’r cod ymddygiad ac ymarfer gynnwys y materion a ganlyn fel darpariaeth sylfaenol—

(a)seilio’r berthynas rhwng dysgwyr a phersonau cofrestredig ar ymddiriedaeth a pharch o’r ddwy ochr;

(b)bod yn ystyriol o ddiogelwch a lles dysgwyr;

(c)gweithio mewn modd cydweithredol gyda chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill;

(d)datblygu a chynnal perthynas dda â rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr;

(e)gweithredu â gonestrwydd ac unplygrwydd;

(f)bod yn sensitif i’r angen am gyfrinachedd, pan fo’n briodol;

(g)cymryd cyfrifoldeb dros gynnal ansawdd ymarfer proffesiynol; ac

(h)cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.

Defnyddio’r cod ymddygiad ac ymarfer mewn materion disgyblu

24.  Rhaid i Bwyllgor Ymchwilio neu Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer roi ystyriaeth i unrhyw fethiant gan berson cofrestredig i gydymffurfio â’r cod ymddygiad ac ymarfer mewn unrhyw achos disgyblu yn erbyn y person hwnnw.

Darparu copïau o’r cod ymddygiad ac ymarfer

25.—(1Rhaid i’r Cyngor sicrhau bod copïau o’r cod ymddygiad ac ymarfer ar gael am ddim i bob person cofrestredig—

(a)pan fo’r cod ymddygiad ac ymarfer yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf neu pan fydd person yn cofrestru am y tro cyntaf (os nad oedd y person yn berson cofrestredig pan gyhoeddwyd y cod ymddygiad ac ymarfer am y tro cyntaf); a

(b)pan fo’r cod ymddygiad ac ymarfer yn cael ei adolygu.

(2Rhaid i’r Cyngor sicrhau bod copi o’r cod ymddygiad ac ymarfer ar gael ar unrhyw wefan y mae’n ei chynnal ar y rhyngrwyd.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (1) rhaid i’r Cyngor, pan fo’n derbyn cais, ddarparu copïau o’r cod ymddygiad ac ymarfer ar ôl talu pa bynnag ffi resymol y caiff benderfynu arni.

Aelodaeth a gweithdrefn Pwyllgorau

26.—(1Ar Bwyllgor Ymchwilio neu Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer (“Pwyllgor”) rhaid i’r Cyngor gynnwys—

(a)un neu fwy aelod lleyg; a

(b)un neu fwy aelod sy’n berson cofrestredig.

(2Y cworwm ar gyfer cyfarfod Pwyllgor yw tri aelod, gan gynnwys un aelod lleyg ac un aelod sy’n berson cofrestredig.

(3Ni chaniateir i berson sy’n aelod o’r Cyngor gael ei benodi’n aelod o Bwyllgor.

(4Ni chaniateir i berson sy’n aelod o’r Pwyllgor Ymchwilio sy’n ymchwilio i achos gael ei benodi’n aelod o’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer sy’n penderfynu ar yr achos hwnnw.

(5Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) i (4) a rheoliadau 37, 39 a 40, caiff y Cyngor wneud darpariaeth fel y gwêl yn addas ar gyfer—

(a)aelodaeth Pwyllgor;

(b)ar ba delerau y mae aelodau Pwyllgor i ddal a gadael swydd; ac

(c)gweithdrefn Pwyllgor.

(6Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “aelod lleyg” (“lay member”) yw aelod o’r Pwyllgor nad ydyw—

(i)yn berson cofrestredig;

(ii)yn gyflogedig, nac wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol o fewn y cyfnod o 5 mlynedd a fydd yn dod i ben ar ddyddiad penodi’r person hwnnw ar y Pwyllgor;

(iii)wedi ei wahardd rhag cyflawni gweithgaredd a reoleiddir yn ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(22));

(iv)yn destun gorchymyn disgyblu a wnaed o dan Ddeddf 2014 ac yn rhinwedd y gorchymyn hwnnw bod y person yn anghymwys i gofrestru; neu

(v)wedi ei anghymhwyso rhag gweithio mewn swydd sy’n gyfystyr â chategori cofrestru;

(b)ystyr “aelod sy’n berson cofrestredig” (“registered person member”) yw person—

(i)sy’n berson cofrestredig o’r un categori cofrestru â’r person cofrestredig sy’n destun yr achos disgyblu; a

(ii)sy’n gyflogedig, neu sydd wedi ei gymryd ymlaen ac eithrio o dan gontract cyflogaeth, yn un o’r swyddi a ddisgrifir yn y categorïau cofrestru ar y dyddiad y penodir yr aelod hwnnw sy’n berson cofrestredig i’r Pwyllgor.

(7Rhaid i aelod sy’n berson cofrestredig ac sy’n peidio â bod yn berson cofrestredig neu sy’n peidio â bod yn gyflogedig neu wedi ei gymryd ymlaen yn un o’r swyddi a ddisgrifir yn y categorïau cofrestru beidio â bod yn aelod sy’n berson cofrestredig.

(8Mae aelod lleyg sy’n dod yn berson cofrestredig yn peidio â chael ei ystyried yn aelod lleyg.

Hepgor neu gyfyngu ar bwerau Pwyllgorau

27.—(1Hepgorir swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio o dan Ran 5 o’r Rheoliadau hyn mewn achos—

(a)pan honnir bod person cofrestredig yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu wedi ei gollfarnu (ar unrhyw adeg) am drosedd berthnasol, neu pan ymddengys iddo y gallai person cofrestredig fod yn euog o hynny neu wedi ei gollfarnu am hynny; a

(b)pan fo’r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried bod yr achos yn ymwneud â diogelwch a lles personau nad ydynt eto’n 18 oed a’i fod yn dymuno ystyried yr achos gyda’r bwriad o arfer ei bwerau o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002—

(i)ar y sail bod person yn anaddas i weithio gyda phlant, neu

(ii)ar sail sy’n ymwneud â chamymddygiad neu iechyd person; neu

(c)pan fo’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a sefydlwyd gan adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012(1), wedi cynnwys, neu yn ystyried pa un ai i gynnwys, person cofrestredig yn y naill neu’r llall o’r rhestrau gwahardd a gynhelir o dan adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(23).

(2Hepgorir swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio o dan Ran 5 o’r Rheoliadau hyn mewn achos—

(a)pan honnir bod person cofrestredig yn euog o anghymhwysedd proffesiynol difrifol neu pan ymddengys iddo y gallai person cofrestredig fod yn euog o hynny; a

(b)pan na ddarparwyd i’r Cyngor yn unol â Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn wybodaeth y mae’r Pwyllgor Ymchwilio yn ei hystyried yn angenrheidiol er mwyn ei alluogi i gyflawni ei swyddogaethau o dan Ran 5 o’r Rheoliadau hyn.

Achosion Pwyllgorau Ymchwilio

28.—(1Pan fydd Pwyllgor Ymchwilio yn penderfynu cynnal ymchwiliad mewn perthynas â pherson cofrestredig, ar adeg yn ystod yr ymchwiliad y mae’n ei ystyried yn briodol, mae’n rhaid iddo—

(a)hysbysu’r person cofrestredig o natur yr honiad neu’r achos yn ei erbyn, a’i hawliau o dan reoliad 30;

(b)rhoi’r cyfle i’r person cofrestredig gyflwyno tystiolaeth a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig; ac

(c)ystyried tystiolaeth a sylwadau o’r fath ac unrhyw dystiolaeth a deunydd arall sydd ar gael iddo.

(2Caiff Pwyllgor Ymchwilio benderfynu peidio â pharhau ag ymchwiliad ar unrhyw adeg cyn i’r achos gael ei atgyfeirio i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer benderfynu arno.

(3Ar ôl cwblhau ei ymchwiliad rhaid i’r Pwyllgor Ymchwilio gymryd un o’r camau a ganlyn—

(a)atgyfeirio’r achos i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer benderfynu arno; neu

(b)peidio â pharhau â’r achos.

(4Pan fo Pwyllgor Ymchwilio yn penderfynu peidio â pharhau ag ymchwiliad neu achos mae’n rhaid iddo hysbysu’r person cofrestredig dan sylw a’i gyflogwr—

(a)ei fod yn peidio â pharhau â’r achos; a

(b)nad oes gan y person cofrestredig dan sylw achos i’w ateb.

(5Pan fo Pwyllgor Ymchwilio yn penderfynu nad oes gan berson cofrestredig achos i’w ateb, rhaid iddo gyhoeddi datganiad i’r perwyl hwnnw ar gais y person dan sylw.

(6Caiff y Cyngor wneud darpariaethau eraill ynghylch y weithdrefn i’w dilyn gan Bwyllgor Ymchwilio mewn cysylltiad ag ymchwiliadau’r Pwyllgor Ymchwilio ac achosion eraill fel y gwêl yn addas, a chaiff adolygu unrhyw reolau gweithredu a wneir o dan y paragraff hwn o bryd i’w gilydd.

Achosion Pwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer

29.—(1Rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer benderfynu ar achosion yn erbyn personau cofrestredig a atgyfeirir ato gan Bwyllgor Ymchwilio yn unol â’r Rheoliadau hyn a rheolau a wneir gan y Cyngor o dan reoliad 34.

(2Pan fo Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn penderfynu peidio â pharhau ag achos ar unrhyw adeg ar ôl i’r achos hwnnw gael ei atgyfeirio ato gan Bwyllgor Ymchwilio, rhaid iddo hysbysu’r person cofrestredig dan sylw a’i gyflogwr—

(a)ei fod yn peidio â pharhau â’r ymchwiliad; a

(b)nad oes gan y person cofrestredig dan sylw achos i’w ateb.

(3Pan fo Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn penderfynu nad oes gan berson cofrestredig achos i’w ateb, rhaid iddo gyhoeddi datganiad i’r perwyl hwnnw ar gais y person dan sylw.

(4Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer atgyfeirio achos at Bwyllgor Ymchwilio.

Hawl i ymddangos a chael cynrychiolaeth mewn gwrandawiadau

30.—(1Mae gan berson cofrestredig hawl i ymddangos a chyflwyno sylwadau ar lafar a chael ei gynrychioli, gan ba bynnag berson neu bersonau a ddymuna, mewn unrhyw wrandawiad Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer lle y caiff ei achos ei ystyried.

(2Pan nad yw person cofrestredig yn ymddangos mewn gwrandawiad Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer lle y caiff ei achos ei ystyried, mae gan y person cofrestredig yr hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

Presenoldeb tystion

31.  Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson fynychu a rhoi tystiolaeth neu gyflwyno dogfennau neu dystiolaeth berthnasol arall mewn unrhyw wrandawiad.

Gofyniad i wrandawiadau gael eu cynnal yn gyhoeddus

32.—(1Rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gyhoeddi ei benderfyniad ynglŷn â chanlyniad pob gwrandawiad yn gyhoeddus ac yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) rhaid i holl wrandawiadau Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gael eu cynnal yn gyhoeddus.

(2Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer drafod yn breifat ar unrhyw adeg ac at unrhyw ddiben yn ystod neu ar ôl gwrandawiad.

(3Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer wahardd y cyhoedd o wrandawiad neu unrhyw ran o wrandawiad—

(a)pan ymddengys i’r pwyllgor ei bod yn angenrheidiol gwahardd y cyhoedd er lles cyfiawnder;

(b)pan fo’r person cofrestredig y mae’r achos disgyblu yn cael ei weithredu yn ei erbyn yn gwneud cais ysgrifenedig y dylid cynnal y gwrandawiad yn breifat, ac nad yw’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn ystyried ei bod yn groes i les y cyhoedd i gynnal y gwrandawiad yn breifat; neu

(c)pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn amddiffyn lles plant.

Gweinyddu llwon a chadarnhadau

33.  Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dyst mewn gwrandawiad roi tystiolaeth ar lw neu gadarnhad ac i’r diben hwnnw gellid gweinyddu llw neu gadarnhad yn y man.

Darpariaethau eraill ynglŷn â Phwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer

34.  Caiff y Cyngor wneud darpariaethau eraill ynghylch y weithdrefn i’w dilyn gan Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer mewn cysylltiad â phenderfyniadau’r pwyllgor a gweithdrefnau eraill fel y gwêl yn addas, ac o bryd i’w gilydd caiff adolygu unrhyw reolau gweithredu a wneir o dan y paragraff hwn.

Gorchmynion disgyblu

35.—(1Rhaid i orchymyn disgyblu gofnodi penderfyniad y Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer, y dyddiad y gwneir y gorchymyn, a’r dyddiad y mae’r gorchymyn yn cael effaith.

(2Daw gorchymyn disgyblu i rym ar y dyddiad y caiff hysbysiad ohono ei gyflwyno i’r person y caiff y gorchymyn disgyblu ei wneud mewn perthynas ag ef ac eithrio pan fo Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn penderfynu fel arall.

(3Rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gyflwyno i’r person y gwneir y gorchymyn disgyblu mewn perthynas ag ef hysbysiad o’r gorchymyn disgyblu sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)testun y gorchymyn;

(b)disgrifiad o effaith y gorchymyn;

(c)rhesymau’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer dros wneud y gorchymyn;

(d)hysbysiad o hawl y person cofrestredig i apelio i’r Uchel Lys yn erbyn y gorchymyn a’r cyfnod amser ar gyfer gwneud apêl o’r fath;

(e)pan fo’r gorchymyn yn orchymyn cofrestru amodol, eglurhad—

(i)o’r camau y mae gan Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yr awdurdod i’w cymryd pe byddai’r person cofrestredig yn methu â chydymffurfio ag amod a nodir ynddo, a

(ii)o hawl y person i wneud cais i amrywio neu ddirymu amod a bennir yn y gorchymyn a’r dull o wneud cais o’r fath;

(f)pan fo’r gorchymyn yn orchymyn atal dros dro sy’n pennu amodau, eglurhad o hawl y person cofrestredig i wneud cais i amrywio neu ddirymu amod a bennir yn y gorchymyn hwnnw a’r dull o wneud cais o’r fath; ac

(g)pan fo’r gorchymyn yn orchymyn gwahardd, eglurhad o hawl y person cofrestredig i wneud cais am benderfyniad ei fod yn gymwys i gael ei gofrestru a’r dull o wneud cais o’r fath.

(4Rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gyflwyno hysbysiad o’r gorchymyn i’r personau cofrestredig sy’n bresennol neu i’r cyflogwr diwethaf a, phan fo’n berthnasol, i’r asiant.

(5Pan fydd Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer, ar ôl penderfynu ar achos, yn penderfynu peidio â gwneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â pherson cofrestredig, rhaid i’r pwyllgor hysbysu’r person cofrestredig dan sylw a’i gyflogwr—

(a)am ei benderfyniad a’r rhesymau drosto; a

(b)a benderfynodd nad oedd yr achos yn ei erbyn wedi ei brofi.

(6Pan nad yw’n canfod bod yr achos yn erbyn person cofrestredig wedi ei brofi, rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gyhoeddi datganiad i’r perwyl hwnnw ar gais y person cofrestredig.

Cyhoeddi gorchmynion disgyblu

36.—(1Yn unol â pharagraff (2) rhaid i’r Cyngor gyhoeddi’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (3) mewn cysylltiad â gorchymyn disgyblu—

(a)ar wefan y mae’n ei chynnal ar y rhyngrwyd am y cyfnod y bydd y gorchymyn mewn grym neu am gyfnod o chwe mis yn cychwyn ar y dyddiad y mae’r gorchymyn i gael effaith (pa un bynnag yw’r diweddaraf); neu

(b)mewn modd arall fel y gwêl yn addas.

(2Nid yw’r ddyletswydd i gyhoeddi’r wybodaeth ym mharagraff (3) yn gymwys pan ymddengys ym marn y Cyngor ei bod yn angenrheidiol peidio â chyhoeddi—

(a)er lles cyfiawnder; neu

(b)er mwyn amddiffyn lles plant.

(3Yr wybodaeth i gael ei chyhoeddi yw—

(a)enw’r person y gwneir y gorchymyn mewn perthynas ag ef ac enw—

(i)yr ysgol yr oedd y person yn gyflogedig ynddi yn fwyaf diweddar;

(ii)y sefydliad addysg bellach neu’r sefydliad addysg uwch yr oedd y person yn gyflogedig ynddi yn fwyaf diweddar, neu

(iii)yr awdurdod lleol pan oedd y person wedi ei gyflogi yn fwyaf diweddar gan awdurdod lleol heblaw mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach neu addysg uwch;

(b)y math o orchymyn disgyblu;

(c)y dyddiad y gwnaed y gorchymyn a’r dyddiad y mae’n cael effaith;

(d)y cyfnod y mae’r gorchymyn disgyblu yn cael effaith ar ei gyfer (pan bennir hynny);

(e)pa un ai cafwyd y person yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol neu ei gollfarnu am drosedd berthnasol;

(f)pan ganfyddir bod y person wedi ei gollfarnu am drosedd berthnasol, natur a dyddiad y gollfarn dan sylw; ac

(g)pan ganfyddir bod y person yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, mynegiant o natur yr ymddygiad a arweiniodd at wneud y gorchymyn.

Cais i amrywio amod mewn gorchymyn cofrestru amodol neu i’w roi o’r naill du

37.—(1Rhaid i gais gan berson cofrestredig sydd wedi derbyn gorchymyn cofrestru amodol i amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig;

(b)pennu ar ba sail y mae’r person cofrestredig yn ceisio cael amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn; ac

(c)cael ei gyflwyno gyda phob dogfen y dibynnir arni er mwyn cefnogi’r cais.

(2Pan fo cais yn cael ei wneud o dan baragraff (1) rhaid i’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer sy’n ystyried y cais hwnnw beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a oedd yn aelod o’r pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

Canlyniadau methiant i gydymffurfio â gorchymyn cofrestru amodol

38.  Pan fo Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn fodlon bod person cofrestredig y gwnaed gorchymyn cofrestru amodol yn ei erbyn wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw amod ynddo, caiff weithredu gorchymyn atal dros dro neu wahardd mewn perthynas â’r person cofrestredig.

Cais i amrywio amod mewn gorchymyn atal dros dro neu i’w roi o’r naill du

39.—(1Rhaid i gais gan berson cofrestredig sydd wedi derbyn gorchymyn atal dros dro i amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig;

(b)pennu ar ba sail y mae’r person cofrestredig yn ceisio cael amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn; ac

(c)cael ei gyflwyno gyda phob dogfen y dibynnir arni er mwyn cefnogi’r cais.

(2Pan fo cais yn cael ei wneud o dan baragraff (1) rhaid i’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer sy’n ystyried y cais hwnnw beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a oedd yn aelod o’r pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

Cais i adolygu gorchymyn gwahardd

40.—(1Rhaid i gais gan berson sydd wedi derbyn gorchymyn gwahardd gan y Cyngor i benderfynu a yw’n gymwys i gofrestru—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig;

(b)pennu ar ba sail y mae’r person cofrestredig yn ceisio cael amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn; ac

(c)cael ei gyflwyno gyda phob dogfen y dibynnir arni er mwyn cefnogi’r cais.

(2Pan fo cais yn cael ei wneud o dan baragraff (1) rhaid i’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer sy’n ystyried y cais hwnnw beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a oedd yn aelod o’r pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

Adolygu gorchmynion disgyblu

41.  Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer ddirymu gorchymyn disgyblu a wnaed ganddo ar unrhyw adeg—

(a)pan mai’r unig neu’r prif reswm dros wneud y gorchymyn oedd bod y person y gwnaed y gorchymyn mewn perthynas ag ef wedi ei gollfarnu am drosedd berthnasol, a bod y gollfarn gan sylw wedi ei diddymu ar ôl y dyddiad y gwnaed y gorchymyn; neu

(b)pan fo’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer, ar ôl i’r gorchymyn gael ei wneud, yn cael tystiolaeth na chafodd ei hystyried ganddo cyn iddo wneud y gorchymyn, a’i fod yn fodlon na fyddai wedi gwneud y gorchymyn pe byddai’n ymwybodol o’r dystiolaeth honno cyn iddo ei wneud.

Cyflwyno hysbysiadau a gorchmynion

42.  Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion achos disgyblu gael ei gyflwyno yn unol â rheoliad 54.

Cyhoeddi a darparu copïau o ddogfennau

43.—(1Rhaid i’r Cyngor gyhoeddi unrhyw reolau gweithredu a wneir o dan reoliad 28(6) neu 34—

(a)ar wefan y mae’n ei chynnal ar y rhyngrwyd; a

(b)mewn unrhyw ddull arall y gwêl yn addas.

(2Rhaid i’r Cyngor, ar gais unrhyw berson cofrestredig, ddarparu copi o reolau gweithredu a wnaed o dan reoliad 28(6) neu 34 i’r person hwnnw.

(3Caiff y Cyngor godi ffi resymol am ddarparu rheolau gweithredu yn unol â pharagraff (2) ond ni chaiff ffi o’r fath fod yn uwch na chost eu cyflenwi.

(4Rhaid i’r Cyngor gyhoeddi unrhyw ddatganiad y mae’n ofynnol iddo ei gyhoeddi o dan reoliad 28(5), 29(3) neu 35(6) ar wefan y mae’n ei chynnal ar y rhyngrwyd, a chaiff gyhoeddi’r datganiad mewn unrhyw ddull arall y gwêl yn addas os yw’n dymuno gwneud hynny.

RHAN 6Cynnal cofnodion

Cofnodion

44.—(1Mae Atodlen 4 (sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â chofnodion a gynhelir gan y Cyngor) yn cael effaith.

(2Rhaid i’r Cyngor gynnal cofnodion sy’n ymwneud â’r categorïau o bersonau a restrir yn Rhan 2 o Atodiad 4.

(3Rhaid i’r cofnodion a grybwyllir ym mharagraff (2) gynnwys yr wybodaeth a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 4 am gyfnod y mae’r Cyngor yn penderfynu arno neu fel a bennir yn y Rhan honno (os o gwbl) mewn perthynas â’r person dan sylw.

(4Rhaid i’r cofnodion a grybwyllir ym mharagraff (2) gael eu cadw ar ffurf ysgrifenedig neu ar ffurf electronig.

RHAN 7Rhoi gwybodaeth: cyflogwyr, asiantau a chontractwyr

Adroddiadau cyflogwyr

45.—(1Mae Atodlen 5 (sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â gwybodaeth a roddir i’r Cyngor) yn cael effaith.

(2Rhaid i gyflogwr perthnasol hysbysu’r Cyngor am ffeithiau achos a darparu’r holl wybodaeth a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 sydd ar gael i’r cyflogwr perthnasol mewn perthynas â pherson cofrestredig—

(a)pan fo’r cyflogwr hwnnw wedi peidio â defnyddio gwasanaeth person cofrestredig ar sail—

(i)camymddwyn;

(ii)anghymhwysedd proffesiynol; neu

(iii)collfarn am drosedd berthnasol o fewn ystyr adran 27 o Ddeddf 2014; neu

(b)pan allai’r cyflogwr hwnnw fod wedi peidio â defnyddio gwasanaeth person cofrestredig ar sail o’r fath, oni bai bod y person cofrestredig wedi peidio â darparu’r gwasanaethau hynny.

(3Rhaid i’r Cyngor sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarperir iddo o dan y rheoliad hwn ar gael i—

(a)Pwyllgor Ymchwilio; a

(b)Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer pan fo’n ystyried bod yr wybodaeth yn berthnasol i’r achos a atgyfeiriwyd ato gan y cyflogwr yn unol â pharagraff (1).

Adroddiadau asiant

46.—(1Rhaid i asiant hysbysu’r Cyngor am ffeithiau achos a darparu’r holl wybodaeth a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 5 sydd ar gael i’r asiant mewn perthynas â pherson cofrestredig—

(a)pan fo’r asiant hwnnw wedi terfynu’r trefniadau ar sail—

(i)camymddwyn;

(ii)anghymhwysedd proffesiynol; neu

(iii)collfarn am drosedd berthnasol o fewn ystyr adran 27 o Ddeddf 2014;

(b)pan allai’r asiant hwnnw fod wedi terfynu trefniadau ar sail o’r fath oni bai bod y person cofrestredig wedi eu terfynu; neu

(c)pan allai’r asiant fod wedi ymatal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer person cofrestredig ar sail o’r fath oni bai bod y person cofrestredig wedi peidio â bod ar gael i weithio.

(2Rhaid i’r Cyngor drefnu bod yr holl wybodaeth a ddarperir iddo o dan y rheoliad hwn ar gael i—

(a)Pwyllgor Ymchwilio; a

(b)Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer pan fo’n ystyried bod gwybodaeth yn berthnasol i’r achos a atgyfeiriwyd ato gan y cyflogwr yn unol â pharagraff (1).

RHAN 8Rhoi gwybodaeth: y Cyngor

Rhoi gwybodaeth i bersonau cofrestredig ac eraill

47.—(1Rhaid i’r Cyngor ddarparu i berson cofrestredig gopi o’r wybodaeth a gofnodwyd ar y Gofrestr yn erbyn enw’r person hwnnw, pan fo’n derbyn cais.

(2Rhaid i’r Cyngor ddarparu, i berson y mae’n cynnal cofnodion amdano yn unol â’r Rheoliadau hyn, gopi o’r cofnodion hyn pan fo’n derbyn cais.

(3At ddibenion y Rhan hon, mae cyfeiriad at berson cofrestredig yn Atodlen 2 i’w ystyried fel cyfeiriad at berson anghofrestredig y mae’r Cyngor yn cynnal cofnodion amdano yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Rhoi gwybodaeth i gyflogwyr

48.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gyflogwr sy’n—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol;

(c)corff llywodraethu ysgol arbennig nas cynhelir;

(d)perchennog ysgol arbennig;

(e)sefydliad o fewn y sector addysg uwch;

(f)sefydliad o fewn y sector addysg bellach;

(g)asiantaeth athrawon cyflenwi; neu

(h)Addysg Plant y Lluoedd Arfog.

(2Rhaid trin y canlynol fel cyflogwr neu ddarpar gyflogwr—

(a)awdurdod lleol pan mai’r cyflogwr neu’r darpar gyflogwr yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw (pa un ai yw’r corff llywodraethu wedi gwneud cais o dan baragraff (3) ai peidio);

(b)yr awdurdod esgobaethol priodol mewn perthynas ag ysgol yr Eglwys yng Nghymru neu ysgol yr Eglwys Gatholig (o fewn ystyr adran 142 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(24)) pan mai’r cyflogwr neu’r darpar gyflogwr yw corff llywodraethu’r ysgol neu’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol (pa un ai yw’r corff llywodraethu wedi gwneud cais o dan baragraff (3) ai peidio); ac

(c)y Weinyddiaeth Amddiffyn mewn perthynas â pherson a benodir, neu yr ystyrir ei benodi, yn athro neu’n athrawes mewn ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

(3Rhaid i’r Cyngor, pan fo cyflogwr neu ddarpar gyflogwr yn gwneud cais, ddarparu’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4) ynglŷn â’r person cofrestredig neu anghofrestredig dan sylw i gyflogwr neu ddarpar gyflogwr—

(a)person cofrestredig; neu

(b)person anghofrestredig y mae’n cynnal cofnodion amdano yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(4Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) yw—

(a)pan ganfyddir bod person yn anghymwys i gofrestru yn unol ag adran 10(3)(b) o Ddeddf 2014, y ffaith honno a phan fo’r wybodaeth honno yn cael ei darparu i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban, An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu, neu Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon (ond nid fel arall), manylion am sail y penderfyniad a wnaed i wrthod cais y person i gofrestru;

(b)paragraffau 1, 2, 15, 16 a 18 i 25 o Atodlen 2 ym mhob achos; ac

(c)paragraffau 26 i 36 o Atodlen 2 (pan fo’r person cofrestredig yn athro neu’n athrawes ysgol).

(5Ni chaniateir i berson y rhoddwyd gwybodaeth iddo yn unol â pharagraff (3) ddatgelu gwybodaeth a roddwyd o dan y rheoliad hwn i unrhyw berson ar wahân i un o’r personau a nodir ym mharagraff (3)(a) neu (b) y mae’r wybodaeth yn ymwneud â hwy.

(6Nid yw paragraff (5) yn atal awdurdod lleol rhag datgelu gwybodaeth a roddwyd iddo o dan y rheoliad hwn i gorff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad sy’n cyflogi neu’n bwriadu cyflogi’r person dan sylw.

(7Wrth roi gwybodaeth o dan baragraff (3) rhaid cadw at yr amod na chaniateir defnyddio’r wybodaeth ond at ddibenion canfod a yw’r person cofrestredig neu anghofrestredig yn addas i gael ei gyflogi neu i barhau i gael ei gyflogi (yn ôl y digwydd).

Rhoi gwybodaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol

49.—(1Rhaid i’r Cyngor, pan fo’n derbyn cais, roi i’r Ysgrifennydd Gwladol yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn perthynas ag—

(a)person cofrestredig; neu

(b)person anghofrestredig y cynhelir cofnodion ynglŷn ag ef yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(2Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—

(a)pan ganfyddir bod person yn anghymwys i gofrestru yn unol ag adran 10(3)(b) o Ddeddf 2014, y ffaith honno a phan fo’r wybodaeth honno yn cael ei darparu i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban, An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu, neu Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon (ond nid fel arall), manylion am sail y penderfyniad a wnaed i wrthod cais y person i gofrestru;

(b)paragraffau 1, 2, 15, 16 a 18 i 25 o Atodlen 2 ym mhob achos; ac

(c)paragraffau 26 i 36 o Atodlen 2 (pan fo’r person cofrestredig yn athro neu’n athrawes ysgol).

(3Pan fo gwybodaeth yn cael ei rhoi o dan baragraff (1), rhaid gosod amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol beidio â datgelu’r wybodaeth honno i unrhyw bersonau ar wahân i’r personau a nodir ym mharagraff (2)(a) neu (b) y mae’r wybodaeth yn ymwneud â hwy.

Rhoi gwybodaeth i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban

50.—(1Rhaid i’r cyngor, pan fo’n derbyn cais, roi i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn perthynas ag—

(a)person cofrestredig; neu

(b)person anghofrestredig y cynhelir cofnodion ynglŷn ag ef yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(2Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—

(a)pan ganfyddir bod person yn anghymwys i gofrestru yn unol ag adran 10(3)(b) o Ddeddf 2014, y ffaith honno a phan fo’r wybodaeth honno yn cael ei darparu i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban, An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu, neu Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon (ond nid fel arall), manylion am sail y penderfyniad a wnaed i wrthod cais y person i gofrestru;

(b)paragraffau 1, 2, 15, 16 a 18 i 25 o Atodlen 2 ym mhob achos; ac

(c)paragraffau 26 i 36 o Atodlen 2 (pan fo’r person cofrestredig yn athro neu’n athrawes ysgol).

(3Pan fo gwybodaeth yn cael ei rhoi o dan baragraff (1), rhaid gosod amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban beidio â datgelu’r wybodaeth honno i unrhyw berson ar wahân i’r personau a nodir ym mharagraff (1)(a) neu (b) y mae’r wybodaeth yn ymwneud â hwy.

Rhoi gwybodaeth i Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon

51.—(1Rhaid i’r cyngor, pan fo’n derbyn cais, roi i Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn perthynas ag—

(a)person cofrestredig; neu

(b)person anghofrestredig y cynhelir cofnodion ynglŷn ag ef yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(2Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—

(a)pan ganfyddir bod person yn anghymwys i gofrestru yn unol ag adran 10(3)(b) o Ddeddf 2014, y ffaith honno a phan fo’r wybodaeth honno yn cael ei darparu i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban, An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu, neu Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon (ond nid fel arall), manylion am sail y penderfyniad a wnaed i wrthod cais y person i gofrestru;

(b)paragraffau 1, 2, 15, 16 a 18 i 25 o Atodlen 2 ym mhob achos; a

(c)paragraffau 26 i 36 o Atodlen 2 (pan fo’r person cofrestredig yn athro neu’n athrawes ysgol).

(3Pan fo gwybodaeth yn cael ei rhoi o dan baragraff (1), rhaid gosod amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon beidio â datgelu’r wybodaeth honno i unrhyw berson ar wahân i’r personau a nodir ym mharagraff (1)(a) neu (b) y mae’r wybodaeth yn ymwneud â hwy.

Rhoi gwybodaeth i An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu

52.—(1Rhaid i’r cyngor, pan fo’n derbyn cais, roi i An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn perthynas ag—

(a)person cofrestredig; neu

(b)person anghofrestredig y cynhelir cofnodion ynglŷn ag ef yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(2Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—

(a)pan ganfyddir bod person yn anghymwys i gofrestru yn unol ag adran 10(3)(b) o Ddeddf 2014, y ffaith honno a phan fo’r wybodaeth honno yn cael ei darparu i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban, An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu, neu Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon (ond nid fel arall), manylion am sail y penderfyniad a wnaed i wrthod cais y person i gofrestru;

(b)paragraffau 1, 2, 15, 16 a 18 i 25 o Atodlen 2 ym mhob achos; ac

(c)paragraffau 26 i 36 o Atodlen 2 (pan fo’r person cofrestredig yn athro neu’n athrawes ysgol).

(3Pan fo gwybodaeth yn cael ei rhoi o dan baragraff (1), rhaid gosod amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu beidio â datgelu’r wybodaeth honno i unrhyw berson ar wahân i’r personau a nodir ym mharagraff (1)(a) neu (b) y mae’r wybodaeth yn ymwneud â hwy.

Rhoi gwybodaeth i gyrff priodol

53.—(1Rhaid i’r Cyngor, pan fo’n derbyn cais, roi i gorff priodol yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 34 o Ran 2 o Atodlen 2 mewn perthynas ag—

(a)person cofrestredig; neu

(b)person anghofrestredig y mae’n cynnal cofnodion ynglŷn ag ef yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(2Ni chaniateir rhoi gwybodaeth yn unol â pharagraff (1) ond ar yr amod nad yw’r corff priodol yn datgelu gwybodaeth a roddir o dan y rheoliad hwn i unrhyw berson ar wahân i un o’r personau a nodir ym mharagraff (1)(a) neu (b) y mae’r wybodaeth yn ymwneud â hwy.

RHAN 9Darpariaethau amrywiol

Cyflwyno hysbysiadau

54.—(1Caniateir cyflwyno hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson o dan y Rheoliadau hyn drwy—

(a)ei ddanfon i’r person hwnnw yn bersonol;

(b)y post i’r cyfeiriad a roddir i’r Cyngor gan y person; neu

(c)post electronig, pan fo’r person yn gwneud cais am hynny.

(2Ystyrir bod hysbysiad a gyflwynir yn unol â’r rheoliad hwn wedi ei gyflwyno—

(a)yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(a) ar y diwrnod y cafodd ei ddanfon;

(b)yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(b) ar y diwrnod gwaith nesaf; ac

(c)yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(c) ar y diwrnod y cafodd ei anfon.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

3 Chwefror 2015

Rheoliad 2

ATODLEN 1RHEOLIADAU A DDIRYMIR

RHAN 1Dirymiadau

Rheoliadau a ddirymirCyfeiriadauGraddau’r dirymu

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000

O.S. 2000/1979

(Cy. 140)

Yn llwyr
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001

O.S. 2001/1424

(Cy. 99)

Yn llwyr
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2001

O.S. 2001/2496

(Cy. 200)

Yn llwyr
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2003

O.S. 2003/503

(Cy. 71)

Yn llwyr
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2004

O.S. 2004/1741

(Cy. 180)

Yn llwyr
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2005

O.S. 2005/69

(Cy. 7)

Yn llwyr
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2006

O.S. 2006/1343

(Cy. 133)

Yn llwyr
Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2009

O.S. 2009/1350

(Cy. 126)

Yn llwyr
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2009

O.S. 2009/1353

(Cy. 129)

Yn llwyr
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2009

O.S. 2009/1354

(Cy. 130)

Yn llwyr
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio Rhif 2) 2009

O.S. 2009/2161

(Cy. 184)

Yn llwyr
Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2010O.S. 2010/2710 (Cy. 227)Yn llwyr
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2011

O.S. 2011/2908

(Cy. 312)

Yn llwyr
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2012

O.S. 2012/166

(Cy. 25)

Yn llwyr
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2012

O.S. 2012/170

(Cy. 29)

Yn llwyr

RHAN 2Arbedion a darpariaethau trosiannol cyffredinol

Penderfyniadau ynghylch cyfnod prawf

1.  Yn achos person a oedd, ar 1 Medi 1992, wedi cychwyn ond heb gwblhau cyfnod prawf o dan reoliad 14 o Reoliadau 1989 ac Atodlen 6 iddynt, mae rheoliad 14 o Reoliadau 1989 ac Atodlen 6 iddynt i barhau i gael effaith hyd oni chydymffurfiwyd â’r holl ddarpariaethau.

2.  O ran athrawon—

(a)y dyfarnwyd eu bod yn anaddas i gael eu cyflogi ymhellach fel athrawon cymwysedig yn unol â pharagraff 2(c) o Atodlen 2 i Reoliadau 1959; neu

(b)a gafodd hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff 5(2) o Atodlen 6 i Reoliadau 1982,

nid ydynt i gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 16 heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

Achos disgyblu

3.  Er gwaethaf dirymu Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001(25) (“Rheoliadau 2001”)—

(a)mae person sy’n destun achos disgyblu yn union cyn 1 Ebrill 2015 yn unol â Rheoliadau 2001 i gael ei drin fel pe bai yn destun achos disgyblu yn unol â Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn; a

(b)mae unrhyw orchymyn disgyblu a wnaed yn unol â Rheoliadau 2001 ac sydd mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2015 i barhau i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud yn unol â Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn.

Rheoliad 9

ATODLEN 2MATERION SYDD I’W COFNODI AR Y GOFRESTR

RHAN 1Pob person cofrestredig

1.  Pan fo’r person yn gofrestredig, dyddiad y cofrestriad cyntaf.

2.  Y categori neu’r categorïau cofrestru y mae’r person wedi cofrestru ynddo/ynddynt.

3.  Enw llawn y person cofrestredig.

4.  Y cyfeirnod swyddogol a neilltuwyd i’r person cofrestredig hwnnw, os o gwbl.

5.  Mynegiant a yw’r person cofrestredig wedi talu unrhyw ffi cofrestru.

6.  Pa un ai dyn ynteu fenyw yw’r person cofrestredig.

7.  Dyddiad geni’r person cofrestredig.

8.  Os yw’n hysbys, unrhyw enw yr arferai’r person cofrestredig gael ei alw.

9.  Os yw’n hysbys, y grŵp hiliol y mae’r person cofrestredig yn perthyn iddo.

10.  Os yw’n hysbys, pa un ai yw’r person cofrestredig yn anabl.

11.  Cyfeiriad cartref y person cofrestredig, neu gyfeiriad cyswllt arall ac, os yw’n hysbys, rhif ffôn a chyfeiriad post electronig y person cofrestredig.

12.  Rhif yswiriant gwladol y person cofrestredig.

13.—(1Os yw’n hysbys, mewn perthynas â phob un o’r ysgolion neu’r sefydliadau pan fo’r person cofrestredig yn gyflogedig neu wedi bod yn gyflogedig neu wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol—

(a)enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad post electronig yr ysgolion neu’r sefydliadau lle mae’r person cofrestredig yn gyflogedig neu wedi bod yn gyflogedig;

(b)manylion pob un o’r mathau o ysgolion neu sefydliadau lle mae’r person cofrestredig yn gyflogedig neu wedi bod yn gyflogedig neu wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol gan gynnwys a oedd yr ysgol yn un a gynhelir neu’n ysgol annibynnol;

(c)enwau’r awdurdodau lleol a oedd yn cynnal neu sy’n cynnal yr ysgol neu’r sefydliad os yn gymwys;

(d)a oedd neu a yw’r person cofrestredig yn gyflogedig neu wedi ei gymryd ymlaen yn amser llawn neu’n rhan-amser;

(e)y swyddi a ddaliwyd gan y person cofrestredig; ac

(f)y dyddiadau y cychwynnodd y person cofrestredig ar ei swydd bresennol.

(2Os yw’n hysbys, pan nad yw’r person cofrestredig yn gyflogedig ar hyn o bryd nac wedi ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau perthnasol, y dyddiad yr oedd wedi ei gymryd ymlaen ddiwethaf i wneud hynny, a’r manylion a nodir ym mharagraffau (a) i (f) o is-baragraff (1) mewn perthynas â’i swydd fwyaf diweddar.

14.  Os yw’n hysbys, pan fo person cofrestredig wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol drwy asiantaeth—

(a)enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad post electronig yr asiantaeth honno;

(b)y dyddiad y cofrestrodd y person cofrestredig gyntaf â’r asiantaeth neu’r sefydliad lle y mae neu yr oedd y person cofrestredig wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol; ac

(c)pan fo’r person cofrestredig yn darparu gwasanaethau perthnasol mewn ysgol neu sefydliad—

(i)enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad post electronig yr ysgol neu’r sefydliad lle y mae’r person yn darparu gwasanaethau perthnasol;

(ii)a oedd yn darparu gwasanaethau perthnasol mewn ysgol a gynhelir neu mewn ysgol annibynnol;

(iii)enwau’r awdurdodau lleol a oedd yn cynnal neu sy’n cynnal yr ysgol neu’r sefydliad os yn gymwys;

(iv)a oedd neu a yw’r person cofrestredig yn gyflogedig neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall yn amser llawn neu’n rhan-amser;

(v)y swyddi a ddaliwyd gan y person cofrestredig; a

(vi)y dyddiad y cychwynnodd y person cofrestredig ar ei swydd bresennol.

15.  Os yw’n hysbys, a yw’r person cofrestredig—

(a)wedi ymddeol;

(b)yn cael seibiant gyrfa;

(c)yn ddi-waith; neu

(d)wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau perthnasol.

16.  Os yw’n hysbys, pan fo gan y person cofrestredig radd neu gymhwyster cyfwerth—

(a)dyddiad ei ddyfarnu;

(b)ei deitl;

(c)y sefydliad a’i dyfarnodd;

(d)dosbarth y radd neu’r cymhwyster; ac

(e)y pwnc.

17.  Os yw’n hysbys, manylion am unrhyw gymhwyster academaidd neu broffesiynol arall sydd gan y person cofrestredig ac y mae’r Cyngor yn ei ystyried yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau perthnasol gan berson cofrestredig.

18.  Os yw’n hysbys, pa wybodaeth bynnag o blith y canlynol y mae’r Cyngor yn ei hystyried yn briodol mewn perthynas â’r person cofrestredig a pha un ai yw—

(a)wedi derbyn hyfforddiant i’w alluogi i ddarparu gwasanaethau perthnasol drwy gyfrwng y Gymraeg;

(b)yn gallu rhoi gwersi Cymraeg ail iaith;

(c)wedi ennill cymhwyster Cymraeg ac os felly, math a lefel y cymhwyster hwnnw;

(d)yn siaradwr Cymraeg;

(e)wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau mewn ysgol sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac os felly, y categori iaith a ddefnyddir gan gorff llywodraethu’r ysgol ym mhrosbectws yr ysgol i’w disgrifio; ac

(f)yn siaradwr rhugl neu iaith gyntaf mewn iaith ar wahân i Gymraeg neu Saesneg, ac os felly, yr iaith a siaredir.

19.  Telerau unrhyw orchymyn disgyblu a wnaed gan y Cyngor, ar wahân i gerydd, sydd mewn grym am y tro.

20.  Telerau unrhyw gerydd a gyflwynwyd gan y Cyngor am gyfnod o ddwy flynedd o’r dyddiad y cyflwynwyd y cerydd.

21.  Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â’r person cofrestredig o ganlyniad i gyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 142 o Ddeddf 2002.

22.  Telerau unrhyw orchymyn gwahardd sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â’r person cofrestredig a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf 2002(26).

23.  Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â’r person cofrestredig o ganlyniad i gamau disgyblu a gymerwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

24.  Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â’r person cofrestredig o ganlyniad i gamau disgyblu a gymerwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon.

25.  Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â’r person cofrestredig o ganlyniad i gamau disgyblu a gymerwyd gan Gyngor An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu.

RHAN 2Athrawon ysgol

26.  Y dyddiad y cymhwysodd y person yn athro neu’n athrawes ysgol.

27.  Os yw’n hysbys y dyddiad y cychwynnodd yr athro neu’r athrawes ysgol ei swydd gyntaf fel athro neu athrawes gymwysedig.

28.  Pan fo’r athro neu’r athrawes ysgol wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon yn llwyddiannus—

(a)enw’r sefydliad a oedd yn darparu’r cwrs;

(b)teitl y cwrs neu ddisgrifiad ohono;

(c)y pwnc neu’r pynciau a astudiwyd gan yr athro neu’r athrawes ysgol; a

(d)oedrannau’r disgyblion y cynlluniwyd y cwrs i baratoi’r athro neu’r athrawes ysgol ar gyfer eu haddysgu.

29.  Pan fo’r athro neu’r athrawes ysgol wedi cymhwyso fel athro neu athrawes ysgol mewn modd ar wahân i gwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon—

(a)y math o raglen hyfforddi a gwblhawyd;

(b)enw’r ysgol neu’r sefydliad lle y dilynwyd yr hyfforddiant athrawon ysgol; ac

(c)y dyddiad y cwblhawyd y rhaglen hyfforddi.

30.  Os yw’n hysbys—

(a)manylion unrhyw gymhwyster sydd gan yr athro neu’r athrawes ysgol i addysgu pobl â nam ar eu golwg neu ar eu clyw fel y cyfeirir ato yn rheoliad 11, 12 neu 13 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(27); a

(b)pan fo’r athro neu’r athrawes ysgol wedi ennill Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth, mynegiant o’r ffaith honno a dyddiad y dyfarniad.

31.  Os yw’n hysbys, pan fo’r athro neu’r athrawes ysgol—

(a)yn athro neu’n athrawes ôl-drothwy neu’n arfer bod yn athro neu’n athrawes ôl-drothwy, mynegiant o’r ffaith honno, y dyddiad y cychwynnodd yr athro neu’r athrawes ysgol yn y swydd honno ac enw’r ysgol yr oedd yr athro neu’r athrawes ysgol yn gyflogedig ynddi pan gafodd ei benodi gyntaf neu ei phenodi gyntaf i’r swydd honno;

(b)yn athro neu’n athrawes uwch-sgiliau, mynegiant o’r ffaith honno, y dyddiad y cafodd yr athro neu’r athrawes ysgol ei ardystio neu ei hardystio yn athro neu’n athrawes o’r fath, a’r ysgol yr oedd yr athro neu’r athrawes ysgol yn gyflogedig ynddi pan gafodd ei ardystio neu ei hardystio yn athro neu’n athrawes uwch-sgiliau; ac

(c)yn ymarferydd arweiniol, mynegiant o’r ffaith honno, y dyddiad y cychwynnodd yr athro neu’r athrawes ysgol ar y swydd honno, a’r ysgol yr oedd yr athro neu’r athrawes ysgol yn gyflogedig ynddi pan gafodd ei benodi gyntaf neu ei phenodi gyntaf i’r swydd honno.

32.  A yw’r athro neu’r athrawes ysgol neu a oedd yr athro neu’r athrawes ysgol yn ddirprwy bennaeth, yn bennaeth neu’n bennaeth cynorthwyol, ac os felly—

(a)y dyddiad y’i penodwyd gyntaf i’r swydd honno; a

(b)enw’r ysgol yr oedd yn gyflogedig ynddi pan gafodd ei benodi gyntaf neu ei phenodi gyntaf i’r swydd honno.

33.  Pan fo’r person yn gyflogedig fel athro neu athrawes ysgol mewn ysgol a gynhelir, mynegiant a yw’r person hwnnw—

(a)wedi ei gyflogi ar y brif ystod cyflog; neu

(b)wedi ei gyflogi ar yr ystod cyflog uwch.

34.—(1Pan fo’r athro neu’r athrawes ysgol wedi gweithio cyfnod sefydlu neu ran o gyfnod sefydlu, pa un ai yw hynny yng Nghymru neu Loegr—

(a)enw’r corff priodol;

(b)y dyddiad y cychwynnodd yr athro neu’r athrawes ysgol y cyfnod sefydlu;

(c)pan fo’n gymwys, mynegiant bod yr athro neu’r athrawes ysgol wedi cwblhau’r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus, a dyddiad ei gwblhau;

(d)pan fo’n gymwys, mynegiant bod yr athro neu’r athrawes ysgol wedi cael ymestyn y cyfnod sefydlu, a chyfnod yr estyniad;

(e)pan fo’n gymwys, mynegiant bod yr athro neu’r athrawes ysgol wedi cwblhau rhan o gyfnod sefydlu yn unig, a’r cyfnod a weithiwyd; ac

(f)pan fo’n gymwys, mynegiant bod y person wedi methu â chwblhau’r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus.

(2Pan fo’r person yn athro neu’n athrawes ysgol ac nad yw wedi gweithio cyfnod sefydlu—

(a)os yw’r athro neu’r athrawes ysgol wedi ei eithrio neu ei heithrio o’r gofyniad i weithio cyfnod sefydlu, y rheswm dros yr eithriad; neu

(b)os nad oedd yn ofynnol i’r athro neu’r athrawes ysgol weithio cyfnod sefydlu ar yr adeg berthnasol, datganiad o’r ffaith honno.

35.  Os yw’n gymwys, mynegiant bod yr athro neu’r athrawes ysgol wedi methu cyfnod prawf, ac a yw Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi cydsynio i’r athro hwnnw neu’r athrawes honno gyflawni gwaith penodedig o dan reoliadau a wnaed o dan—

(a)adran 133 o Ddeddf 2002; neu

(b)adran 14 o Ddeddf 2014.

36.  Os yw’n gymwys, mynegiant bod yr athro neu’r athrawes ysgol wedi ymddeol o dan achos C ym mharagraff 3 o Atodlen 7 i Reoliadau Pensiynau Athrawon 2010(28) (ymddeoliad ar sail afiechyd).

Rheoliad 15

ATODLEN 3GOFYNION SYDD I’W BODLONI GAN BERSONAU NAD YDYNT YN ATHRAWON CYMWYSEDIG ER MWYN CYFLAWNI GWAITH PENODEDIG

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw cynllun a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8 o Reoliadau 2004; ac

ystyr “sefydliad achrededig” (“accredited institution”) yw sefydliad sydd wedi ei achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau 2004 neu gan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion o dan reoliad 11 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Lloegr) 2003(29).

Athrawon sy’n dysgu dosbarthiadau meithrin ac mewn ysgolion meithrin ar hyn o bryd nad ydynt yn athrawon cymwysedig

2.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos—

(a)athrawon cynorthwyol mewn ysgolion meithrin; neu

(b)athrawon dosbarth meithrin,

y caniatawyd iddynt gael eu cyflogi fel athrawon gan baragraff 4 o Atodlen 4 i Reoliadau 1982 ac a gyflogwyd felly yn union cyn 1 Medi 1989.

(2Caiff personau o’r fath gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol yn yr un swydd ag y cyflogwyd hwy ynddi cyn 1 Medi 1989.

Personau â chymwysterau arbennig neu brofiad arbennig

3.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig a benodir, neu y bwriedir eu penodi, i gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn cysylltiad ag unrhyw gelfyddyd neu sgil neu mewn unrhyw bwnc neu grŵp o bynciau, pan fo angen cymwysterau arbennig neu brofiad arbennig neu’r ddau i wneud hynny.

(2Caiff personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol os, ar adeg eu penodi—

(a)yw’r awdurdod lleol (yn achos ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig neu yn achos uned cyfeirio disgyblion), y corff llywodraethu sy’n gweithredu â chydsyniad yr awdurdod lleol (yn achos ysgol sydd â chyllideb ddirprwyedig), neu’r corff llywodraethu (yn achos ysgol arbennig nad yw’n cael ei chynnal gan awdurdod lleol), yn ôl y digwydd, yn fodlon ynglŷn â’u cymwysterau neu brofiad neu’r ddau; a

(b)nad oes athro neu athrawes gymwysedig addas nac athro neu athrawes ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth ar gael i’w benodi neu i’w phenodi i’r swydd; neu

(c)mewn cysylltiad â gwaith a ddisgrifir ym mharagraff 6(2) o’r Atodlen hon, nad oes person addas â’r cymwysterau sy’n ofynnol o dan reoliad 3 o Reoliadau 2002 ar gael i’w benodi i swydd o’r fath.

(3Caiff personau a benodir â chymwysterau neu brofiad arbennig fel y’i disgrifir yn is-baragraff (1) ac sy’n cyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 fel y’i caniateir gan is-baragraff (2) wneud hynny, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)—

(a)dim ond am y cyfnod hwnnw o amser nad oes athro neu athrawes gymwysedig addas neu athro neu athrawes ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth ar gael i’w benodi neu i’w phenodi i’r swydd; neu

(b)mewn cysylltiad â gwaith a ddisgrifir ym mharagraff 6(2) o’r Atodlen hon, dim ond am y cyfnodau hynny o amser nad oes person addas sydd â’r cymwysterau sy’n ofynnol o dan reoliad 3 o Reoliadau 2002 ar gael i’w benodi i swydd o’r fath.

(4Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos personau o’r fath a benodwyd cyn 8 Ebrill 1982 pan oedd—

(a)y penodiad yn un am gyfnod penodedig, os a chyn belled nad yw’r cyfnod hwnnw wedi dod i ben; neu

(b)y penodiad yn un am gyfnod amhenodol, os na fynegwyd fel arall ei fod yn benodiad dros dro yn unig.

Athrawon a Hyfforddwyd Dramor

4.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sydd wedi cwblhau yn llwyddiannus raglen hyfforddiant proffesiynol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, y mae’r awdurdod cymwys yn y wlad honno yn cydnabod ei bod yn rhaglen o’r fath.

(2Caiff personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol (ar wahân i uned cyfeirio disgyblion) am gyfnod o hyd at ddwy flynedd yn cychwyn ar y dyddiad y maent yn cyflawni’r gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol gyntaf.

Hyfforddeion ar gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon

5.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sy’n dilyn cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad achrededig yng Nghymru neu Loegr.

(2Caiff personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol (ar wahân i uned cyfeirio disgyblion) o dan oruchwyliaeth athro neu athrawes gymwysedig yn ystod unrhyw gyfnod y maent yn cael profiad ymarferol o addysgu at ddibenion y cwrs hwnnw.

Athrawon addysg bellach cymwysedig sy’n dysgu cyrsiau galwedigaethol o fewn y cwricwlwm lleol

6.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sydd â chymwysterau sy’n ofynnol o dan reoliad 3 o Reoliadau 2002.

(2Caiff personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol i’r graddau y mae’r gwaith yn golygu cyflwyno cyrsiau astudiaeth galwedigaethol sy’n ffurfio cwricwlwm lleol cyfan neu ran o gwricwlwm o’r fath a ffurfiwyd gan awdurdod lleol yn unol ag adran 116A o Ddeddf 2002(30), neu gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 33A o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.

Cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth

7.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sy’n dilyn hyfforddiant at ddibenion cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

(2Caiff personau o’r fath gyflawni’r gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol hyd oni fyddant yn cwblhau’r hyfforddiant hwnnw yn llwyddiannus neu yn peidio â’i ddilyn.

Personau eraill y caniateir iddynt gyflawni gwaith penodedig

8.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig ac na chrybwyllir hwy ym mharagraffau 2 i 7 o’r Atodlen hon.

(2Caiff personau o’r fath gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol, dim ond os bodlonir yr amodau a ganlyn—

(a)maent yn cyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 er mwyn cynorthwyo neu gefnogi gwaith athrawon cymwysedig neu athrawon enwebedig yn yr ysgol;

(b)maent yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd a goruchwyliaeth athrawon cymwysedig neu athrawon enwebedig o’r fath yn unol â threfniadau a wneir gan bennaeth yr ysgol; ac

(c)mae’r pennaeth yn fodlon eu bod yn meddu ar y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad sy’n ofynnol er mwyn cyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17.

(3Caniateir i brifathrawon, os byddant yn ystyried yr enwebiad yn briodol o dan yr amgylchiadau, enwebu personau a grybwyllir ym mharagraffau 3, 4, 5, 6 neu 7 o’r Atodlen hon fel athrawon enwebedig at ddiben is-baragraff (2).

(4Wrth benderfynu a oes gan y personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad sy’n ofynnol i gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol, caiff penaethiaid roi ystyriaeth i—

(a)y safonau hynny ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel uwch, neu’r canllawiau hynny sy’n ymwneud â staff cymorth ysgolion, y gellir eu cyhoeddi o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru; a

(b)y canllawiau hynny ar faterion cytundebol sy’n ymwneud â staff cymorth ysgolion, y gellir eu cyhoeddi o bryd i’w gilydd gan unrhyw awdurdod lleol neu gyflogwr arall.

Rheoliad 44

ATODLEN 4COFNODION A GYNHELIR GAN Y CYNGOR

RHAN 1Dehongli

1.  At ddibenion yr Atodlen hon mae cyfeiriad at berson cofrestredig yn Atodlen 2 i’w gymryd fel cyfeiriad at un o’r personau hynny a nodir yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.

RHAN 2Personau y mae’n ofynnol i’r Cyngor gynnal cofnodion ar eu cyfer

2.  Personau y mae eu henwau wedi eu tynnu oddi ar y Gofrestr heblaw am y rhai hynny y tynnwyd eu henwau oddi arni ar eu cais hwy eu hunain neu a fu farw.

3.  Personau sy’n anghymwys i gofrestru yn rhinwedd adran 10(3) o Ddeddf 2014.

4.  Athrawon cymwysedig nad ydynt yn athrawon cofrestredig.

5.  Personau nad ydynt yn athrawon cofrestredig ac sydd wedi cychwyn cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon, pa un ai ydynt wedi cwblhau cwrs o’r fath ai peidio.

6.  Personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig sydd wedi eu cyflogi fel athrawon mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol.

7.  Personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig sy’n paratoi ar gyfer Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth neu sydd wedi ei ennill.

8.  Personau nad ydynt yn dod o fewn yr un o’r categorïau a grybwyllwyd uchod ac nad ydynt yn bersonau cofrestredig—

(a)y neilltuwyd rhif cyfeirnod swyddogol ar eu cyfer; a

(b)sy’n gyflogedig, neu sydd wedi bod yn gyflogedig ar un adeg, fel athro neu athrawes mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall.

(2Personau nad ydynt wedi eu cofrestru o dan unrhyw gategori cofrestru ond sy’n gymwys i gael eu cofrestru ac y mae’r Cyngor yn ei hystyried yn briodol cofnodi’r wybodaeth a nodir yn Rhan 2 amdanynt.

RHAN 3Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cofnodion

9.  Yr wybodaeth a nodir ym mharagraffau 3 i 25 o Ran 1 o Atodlen 2.

10.  Pan fo’r person wedi ei gofrestru’n flaenorol ond wedi ei dynnu oddi ar y Gofrestr ers hynny—

(a)y categori neu gategorïau cofrestru yr oeddent wedi eu cofrestru ynddo/ynddynt yn flaenorol;

(b)dyddiad eu cofrestriad cyntaf; ac

(c)y dyddiad diweddaraf y bu iddynt gael eu tynnu oddi ar y Gofrestr.

11.  Yr wybodaeth a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 2.

12.  Pan fo’r person yn anghymwys i gofrestru yn unol ag adran 10 a rheoliadau a wnaed o dan adrannau 12 neu 13 o Ddeddf 2014, manylion y cyfarwyddyd, y gorchymyn disgyblu neu’r gwaharddiad arall y mae’r person yn anghymwys i gofrestru o’i herwydd.

13.  Pan fo person yn anghymwys i gofrestru yn unol ag adran 10 o Ddeddf 2014 am nad yw’r Cyngor yn fodlon bod y person yn addas i gael ei gofrestru, manylion ynghylch y sail dros wneud y penderfyniad i wrthod y cais.

14.  Pan fo enw’r person wedi ei dynnu oddi ar y Gofrestr, manylion ynghylch y sail dros dynnu enw’r person oddi ar y Gofrestr.

15.  Os yw’r person wedi ei wahardd rhag cyflawni gweithgaredd a reoleiddir yn ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006), datganiad o’r ffaith honno.

16.  Os yw’r person wedi ei wahardd rhag cyflawni gweithgaredd a reoleiddir yn ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 3(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006), datganiad o’r ffaith honno.

Rheoliad 45

ATODLEN 5GWYBODAETH SYDD I’W RHOI I’R CYNGOR

RHAN 1Gwybodaeth sydd i’w rhoi gan gyflogwr perthnasol

1.  Datganiad o resymau am beidio â defnyddio gwasanaethau’r person.

2.  Cofnodion y cyflogwr sy’n ymwneud â pheidio â defnyddio gwasanaethau’r person neu unrhyw ystyriaeth a roddwyd i beidio â’u defnyddio, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweliadau, a thystiolaeth a roddwyd i’r cyflogwr neu a gafwyd ganddo.

3.  Cofnodion y cyflogwr ynglŷn â’r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at beidio â defnyddio gwasanaethau’r person neu a allai fod wedi peri i’r cyflogwr beidio â defnyddio’r gwasanaethau’r person pe na byddai’r person wedi peidio â darparu’r gwasanaethau hynny, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweliadau, a thystiolaeth a roddwyd i’r cyflogwr neu a gafwyd ganddo.

4.  Llythyrau, rhybuddion neu hysbysiadau a roddwyd gan y cyflogwr i berson mewn perthynas â pheidio â defnyddio gwasanaethau’r person hwnnw neu ystyriaeth a roddwyd i beidio â’i ddefnyddio, neu’r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at beidio â defnyddio gwasanaethau’r person neu a allai fod wedi peri i’r cyflogwr beidio â defnyddio gwasanaethau’r person pe na byddai’r person wedi peidio â darparu’r gwasanaethau hynny, ac atebion neu sylwadau’r person mewn ymateb.

5.  Unrhyw ddatganiadau, sylwadau a thystiolaeth arall a gyflwynwyd gan berson i’r cyflogwr mewn perthynas â pheidio â defnyddio gwasanaethau’r person hwnnw neu ystyriaeth a roddwyd i beidio â’i ddefnyddio, neu’r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at beidio â defnyddio gwasanaethau’r person neu a allai fod wedi peri i’r cyflogwr beidio â defnyddio gwasanaethau’r person hwnnw pe na byddai’r person wedi peidio â darparu’r gwasanaethau hynny.

6.  Llythyr yn rhoi gwybod ynglŷn â bwriad person i beidio â darparu gwasanaethau.

7.  Unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall y mae’r cyflogwr yn ei hystyried yn berthnasol i unrhyw ymchwiliad y caiff Pwyllgor Ymchwilio ei gynnal neu unrhyw achos y caiff Pwyllgor Ymchwilio neu Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer ei ddwyn yn erbyn person cofrestredig.

RHAN 2Gwybodaeth sydd i’w rhoi gan asiant

8.  Datganiad o’r rhesymau dros derfynu’r trefniadau.

9.  Unrhyw gofnodion sy’n ymwneud â therfynu’r trefniadau neu unrhyw ystyriaeth a roddwyd i’w terfynu, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweliadau, a thystiolaeth a roddwyd i’r asiant neu a gafwyd ganddo.

10.  Unrhyw gofnodion sy’n ymwneud â’r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at derfynu trefniadau neu a allai fod wedi peri i’r asiant eu terfynu, pe na bai’r person wedi terfynu’r trefniadau, neu a allai fod wedi peri i’r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd, pe na bai’r person wedi peidio â bod ar gael i weithio, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweliadau a thystiolaeth a roddwyd i’r asiant neu a gafwyd ganddo.

11.  Llythyrau, rhybuddion neu hysbysiadau a roddwyd gan yr asiant i berson mewn perthynas â therfynu trefniadau, neu’r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at derfynu trefniadau neu a allai fod wedi peri i’r asiant eu terfynu pe na bai’r person wedi terfynu’r trefniadau, neu a allai fod wedi peri i’r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd, pe na bai’r person wedi peidio â bod ar gael i weithio, ac atebion neu sylwadau’r person mewn ymateb.

12.  Unrhyw ddatganiadau, sylwadau a thystiolaeth arall a gyflwynwyd gan berson i’r asiant mewn perthynas â therfynu trefniadau, neu’r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at derfynu trefniadau neu a allai fod wedi peri i’r asiant eu terfynu, pe na bai’r person wedi terfynu’r trefniadau, neu a allai fod wedi peri i’r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd, pe na bai’r person wedi peidio â bod ar gael i weithio.

13.  Llythyr gan y person yn terfynu trefniadau neu’n hysbysu ei fod yn peidio â bod ar gael i weithio.

14.  Unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall y mae’r asiant yn ei hystyried yn berthnasol i ymchwiliad y caiff Pwyllgor Ymchwilio ei gynnal neu unrhyw achosion y caiff Pwyllgor Ymchwilio neu Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer eu dwyn yn erbyn person cofrestredig.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Cafodd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ei ail-enwi yn Gyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn nodi’r darpariaethau mewn perthynas â dehongli, dirymu Rheoliadau, arbedion a darpariaethau trosiannol.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys y darpariaethau mewn perthynas â chofrestru’r gweithlu addysg. Mae adran 9 o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor sefydlu a chynnal cofrestr o’r categorïau o berson a nodir yn y tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 2. Yn unol â hynny mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r ffurf a’r dull y mae’r gofrestr i gael ei chadw, a materion eraill sy’n ymwneud â chofrestru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”). Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn ail-wneud darpariaethau Rheoliadau 2010 gyda rhai mân newidiadau.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn pennu’r gwaith y caniateir ei wneud mewn ysgolion gan athrawon cymwysedig a phersonau sy’n bodloni gofynion penodedig. Nodir y gofynion sydd i’w bodloni yn Atodlen 3.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth er mwyn i athrawon cymwysedig sy’n gwneud gwaith penodedig mewn ysgolion gael eu cofrestru gyda’r Cyngor (rheoliad 18).

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn darparu na chaniateir i bersonau, oni bai eu bod yn bodloni unrhyw un o’r amodau a ragnodir yn y Rheoliadau hyn, ddarparu addysg bellach mewn nac ar gyfer sefydliad addysg bellach oni bai eu bod wedi cofrestru â’r Cyngor.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau disgyblu’r Cyngor. Mae adrannau 26 i 32 o Ddeddf 2014 yn rhoi swyddogaethau disgyblu i’r Cyngor mewn perthynas â phersonau a gofrestrwyd ar y gofrestr (“personau cofrestredig”).

Mae rheoliad 20 yn darparu ar gyfer sefydlu un neu fwy o Bwyllgorau Ymchwilio, a fydd yn ymchwilio i bersonau cofrestredig ac yn penderfynu pa un ai i ddwyn achos yn eu herbyn pan honnir bod yr athro neu’r athrawes yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu wedi ei gollfarnu neu ei chollfarnu (ar unrhyw adeg) am drosedd berthnasol; neu ei bod yn ymddangos iddynt y gallai person cofrestredig fod yn euog o hynny neu wedi ei gollfarnu am hynny. Mae rheoliad 21 yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â dirprwyo swyddogaethau’r pwyllgorau hynny i gyflogeion y Cyngor.

Mae rheoliad 22 yn darparu ar gyfer sefydlu Pwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer, a fydd yn clywed achosion disgyblu ynghylch ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throseddau perthnasol ac a fydd â’r pŵer i wneud gorchmynion disgyblu (gorchmynion gwahardd, gorchmynion atal dros dro, gorchmynion cofrestru amodol neu geryddon); a chlywed ceisiadau mewn perthynas â’r gorchmynion hynny ac eithrio ceryddon.

Mae adran 33 o Ddeddf 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn perthynas â chynnal cofnodion gan y Cyngor. Yn unol â hynny, mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynnal cofnodion ar gyfer y personau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 4 i’r Rheoliadau hyn. Nodir yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys yn y cofnodion hynny yn Rhan 3 o Atodlen 4 o’r Rheoliadau hyn ac mae’n debyg i’r wybodaeth a gofnodir yn y gofrestr a sefydlir ac a gynhelir gan y Cyngor o dan adran 9 o Ddeddf 2014.

Mae Rhan 7 yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr athrawon sydd wedi eu cofrestru â’r Cyngor ac asiantaethau cyflenwi hysbysu’r Cyngor am achosion o gamymddygiad ac anghymhwysedd. Mae’r wybodaeth y mae’n rhaid ei rhoi wedi ei nodi yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 8 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor, pan fo’n derbyn cais, ddarparu copïau o wybodaeth a gedwir amdanynt i bersonau cofrestredig a phersonau eraill y cynhelir gwybodaeth amdanynt. Mae Rhan 8 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor roi gwybodaeth i gyflogwyr a chyrff eraill pan fo’n derbyn cais.

Mae Rhan 9 yn cynnwys darpariaeth mewn perthynas â chyflwyno hysbysiadau yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(3)

Rhif 8 o 2001. Sefydlir An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu, o dan adran 5 o Ddeddf y Cyngor Addysgu 2001, ac mae ganddo swyddogaethau sy’n cyfateb i rai’r Cyngor yng Ngweriniaeth Iwerddon.

(4)

Y gorchymyn presennol yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2014 (O.S. 2014/2045) sy’n rhoi effaith gyfreithiol i ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2014 a Chanllawiau ar Gyflog ac Amodau Athrawon Ysgol” sydd wedi ei chyhoeddi ar wefan gov.uk.

(5)

O.S 2005/1818 (Cy. 146). Bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu dirymu a’u hail-wneud o ganlyniad i gychwyn diddymiad y pwerau galluogi gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ond ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau pery Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 mewn grym.

(9)

Y gorchymyn presennol yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2014 (O.S. 2014/2045) sy’n rhoi effaith gyfreithiol i ddogfen o’r enw “‘Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2014 a Chanllawiau ar Gyflog ac Amodau Athrawon Ysgol” sydd wedi ei chyhoeddi ar wefan gov.uk.

(10)

O.S. 1959/364 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1968/1281, O.S. 1969/1777, O.S. 1971/342, O.S. 1973/2021 ac O.S. 1978/1144. Bellach wedi ei ddirymu gan O.S. 1982/106.

(11)

O.S. 1982/106 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1988/542 ac O.S. 1989/329. Bellach wedi ei ddirymu gan O.S. 1989/1319.

(13)

O.S. 2002/1663 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2003/1717 ac O.S. 2004/1745.

(14)

O.S. 2004/1729 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2007/2811 ac O.S. 2008/215.

(15)

Y gorchymyn presennol yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2014 (O.S. 2014/2045) sy’n rhoi effaith gyfreithiol i ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2014 a Chanllawiau ar Gyflog ac Amodau Athrawon Ysgol” sydd wedi ei chyhoeddi ar wefan gov.uk.

(17)

Y gorchymyn presennol yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2014 (O.S. 2014/2045) sy’n rhoi grym cyfreithiol i’r ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon 2014 a Chanllawiau ar Gyflog ac Amodau Athrawon Ysgol” a gyhoeddwyd ar wefan gov.uk.

(18)

O.S. 2009/3200. Dirymwyd y Rheoliadau hyn o ran Lloegr gan O.S. 2012/1153.

(19)

Diwygiwyd adran 71 gan baragraff 31, ac adran 73 gan baragraff 32, o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18) a diwygiwyd y ddwy adran gan adran 17 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22). Diwygiwyd adran 71 ymhellach gan adran 118(1), (2)(a) a (b) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6). Diwygiwyd adran 73 ymhellach gan adran 118(1), (3)(a), (b) ac (c) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.

(20)

Mewnosodwyd adrannau 80A ac 80B gan adran 1 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22), ac adrannau 80AA ac 80BB gan adrannau 3 a 4 yn y drefn honno o Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18). Diwygiwyd adran 80A ymhellach gan adran 118(1) a (6) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, a pharagraffau 29 a 32 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 80B ymhellach gan adrannau 118(1) a (7), 121(2)(a) a (b), 122(4) a 128(2)(b) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 a pharagraffau 29 a 33 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.

(21)

Mewnosodwyd adrannau 75A a 75B gan adran 3 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22). Diwygiwyd adran 75A gan baragraff 33 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18) a gan adrannau 118(1), (4)(b) ac (c) a 122(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. Diwygiwyd adran 75B ymhellach gan adran 118(1), (5)(b) ac (c) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.

(22)

2012 p. 9.

(26)

Mewnosodwyd gan adran 8(1) o Ddeddf Addysg 2011 (p. 21).

(30)

Fel y’i mewnosodwyd gan adran 4 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (2009 mccc 1).