xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 15
1.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mae darpariaethau’r Atodlen hon yn gymwys i unrhyw ddogfen a gyhoeddir o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Nid yw darpariaethau’r Atodlen hon yn gymwys i—
(a)hysbysiad terfyn allyriadau;
(b)hysbysiad dal a storio carbon; ac
(c)hysbysiad allyriadau blynyddol y Safon Perfformiad Allyriadau.
2. Rhaid i ddogfen fod yn ysgrifenedig a bod wedi ei dyddio.
3. Mae dogfen a roddir i berson ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod gwaith i gael ei thrin fel pe byddai wedi ei rhoi ar y diwrnod gwaith nesaf.
4. Caniateir rhoi dogfen i berson drwy—
(a)ei danfon i’r person hwnnw yn bersonol;
(b)ei gadael yng nghyfeiriad cywir y person hwnnw;
(c)ei hanfon drwy’r post neu ffacs i gyfeiriad cywir y person hwnnw;
(d)ei hanfon drwy e-bost i’r person hwnnw; neu
(e)ei chyflwyno drwy borth penodedig ar wefan y person hwnnw.
5. At ddibenion paragraff 4(a), rhoddir dogfen i—
(a)corff corfforaethol, pan y’i rhoddir i berson sydd â rheolaeth o’r corff hwnnw neu sy’n ei reoli;
(b)partneriaeth, pan y’i rhoddir i bartner neu berson sydd â rheolaeth o’r busnes partneriaeth neu sy’n ei reoli;
(c)cymdeithas anghorfforedig, pan y’i rhoddir i berson sydd â chyfrifoldebau rheoli mewn cysylltiad â’r gymdeithas.
6. At ddibenion paragraff 4(d), rhoddir dogfen i—
(a)corff corfforaethol, pan y’i hanfonir i gyfeiriad e-bost—
(i)y corff corfforaethol, neu
(ii)person sydd â rheolaeth dros y corff hwnnw neu sy’n ei reoli,
pan fo’r cyfeiriad hwnnw wedi ei ddarparu gan y corff hwnnw ar gyfer cynnal materion y corff hwnnw;
(b)partneriaeth, pan y’i hanfonir i gyfeiriad e-bost—
(i)y bartneriaeth, neu
(ii)partner neu berson sydd â rheolaeth dros y busnes partneriaeth neu sy’n ei reoli,
pan fo’r cyfeiriad hwnnw wedi ei ddarparu gan y bartneriaeth honno ar gyfer cynnal materion y bartneriaeth honno;
(c)cymdeithas anghorfforedig, pan y’i hanfonir i gyfeiriad e-bost person sydd â chyfrifoldeb rheoli mewn cysylltiad â’r gymdeithas, pan fo’r cyfeiriad hwnnw wedi ei ddarparu gan y gymdeithas honno ar gyfer cynnal materion y gymdeithas honno.
7. Caiff person, yn lle cyfeiriad cywir a fyddai’n gymwys fel arall, nodi cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig lle y caniateir rhoi dogfennau i’r person hwnnw neu rywun ar ran y person hwnnw, a rhaid trin y cyfeiriad hwnnw yn lle hynny fel cyfeiriad cywir y person hwnnw.
8. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “cyfeiriad cywir” (“proper address”) yw yn achos—
corff corfforaethol, y swyddfa gofrestredig (os yw yn y Deyrnas Unedig) neu brif swyddfa’r corff hwnnw yn y Deyrnas Unedig;
partneriaeth, prif swyddfa’r bartneriaeth yn y Deyrnas Unedig;
unrhyw berson arall, cyfeiriad hysbys diweddaraf y person hwnnw, sy’n cynnwys cyfeiriad e-bost;
unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig;
ystyr “diwrnod nad yw’n ddiwrnod gwaith” (“non-working day”) yw—
dydd Sadwrn neu ddydd Sul;
Noswyl Nadolig, Diwrnod Nadolig neu Ddydd Gwener y Groglith; neu
diwrnod sy’n ŵyl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1) yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig,
a rhaid darllen “diwrnod gwaith” (“working day”) yn unol â hynny; ac
ystyr “porth penodedig” (“dedicated portal”) yw cyfleuster ar wefan person sydd wedi ei sefydlu er mwyn gallu cyfathrebu â’r person hwnnw’n electronig.