xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1357 (Cy. 131)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015

Gwnaed

4 Mehefin 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Mehefin 2015

Yn dod i rym

6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 134(1) a (3), 136(3) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac ar ôl ymgynghori â’r partneriaid Bwrdd Diogelu ar gyfer ardal yn unol ag adran 134(3) o’r Ddeddf honno(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “adroddiad blynyddol” (“annual report”) yw’r adroddiad a gyhoeddir gan Fwrdd Diogelu o dan adran 136(2) o’r Ddeddf;

ystyr “Bwrdd Cenedlaethol” (“National Board”) yw’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a sefydlir gan adran 132(1) o’r Ddeddf;

ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw Bwrdd Diogelu Plant(2) neu Fwrdd Diogelu Oedolion(3);

ystyr “cynllun blynyddol” (“annualplan”) yw’r cynllun a gyhoeddir gan Fwrdd Diogelu o dan adran 136(1) o’r Ddeddf;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

mae “partner Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board partner”) i’w ddehongli yn unol ag adran 134(2) ac adran 134(6)(b);

ystyr “prif ardal llywodraeth leol” (“principal local government area”) yw prif ardal llywodraeth leol fel y’i nodir yn Rhannau I a II o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Ardaloedd Byrddau Diogelu

3.  Yr ardaloedd yng Nghymru y bydd Byrddau Diogelu ar eu cyfer yw’r prif ardaloedd llywodraeth leol a nodir yng ngholofn 2 o’r tabl a nodir yn Atodlen 1, a ddynodir â’r enw sydd gyferbyn yng ngholofn 1.

Partneriaid Arweiniol

4.—(1Mae Gweinidogion Cymru yn pennu’r partner Bwrdd Diogelu a ddangosir yng ngholofn 2 o’r tabl a nodir yn Atodlen 2 fel y partner arweiniol mewn perthynas â phlant ar gyfer yr ardal a ddangosir gyferbyn yng ngholofn 1.

(2Mae Gweinidogion Cymru yn pennu’r partner Bwrdd Diogelu a ddangosir yng ngholofn 3 o’r tabl a nodir yn Atodlen 2 fel y partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion ar gyfer yr ardal a ddangosir gyferbyn yng ngholofn 1.

Cynlluniau blynyddol

5.  Rhaid i gynllun blynyddol Bwrdd Diogelu gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)rhestr o aelodau’r Bwrdd Diogelu;

(b)unrhyw ganlyniadau penodol y mae’r Bwrdd Diogelu yn bwriadu eu sicrhau;

(c)crynodeb o unrhyw welliant y mae’r Bwrdd Diogelu yn bwriadu ei wneud i’w alluogi i gyflawni ei amcanion yn well;

(d)swm y gwariant y mae partneriaid y Bwrdd Diogelu yn cytuno bod y Bwrdd Diogelu yn debyg o fynd iddo er mwyn sicrhau ei amcanion;

(e)disgrifiad o sut y mae’r Bwrdd Diogelu yn bwriadu cydweithredu â phersonau neu gyrff eraill sy’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n ymwneud â’i amcanion;

(f)pryd a sut y bydd y Bwrdd Diogelu yn rhoi i blant ac oedolion y mae arfer ei swyddogaethau yn effeithio arnynt, neu y gall effeithio arnynt, gyfle i gymryd rhan yn ei waith.

Adroddiadau blynyddol

6.—(1Rhaid i adroddiad blynyddol Bwrdd Diogelu gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 3.

(2Cyn belled ag y bo’n ymarferol mae’r adroddiad i ddilyn ffurf cynllun blynyddol diweddaraf y Bwrdd Diogelu.

Cyhoeddi cynlluniau blynyddol ac adroddiadau blynyddol

7.  Rhaid i Fwrdd Diogelu—

(a)trefnu bod ei gynllun blynyddol cyfredol a’i adroddiad blynyddol cyfredol ar gael i’r cyhoedd;

(b)trefnu bod copi o unrhyw un neu rai o’i gynlluniau blynyddol a’i adroddiadau blynyddol yn y gorffennol ar gael ar gais;

(c)anfon ei gynllun blynyddol cyfredol a’i adroddiad blynyddol cyfredol at y Bwrdd Cenedlaethol.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 Mehefin 2015

Rheoliad 3

ATODLEN 1Ardaloedd Byrddau Diogelu

Enw’r ardal Bwrdd DiogeluRhychwant yr ardal Bwrdd Diogelu

Caerdydd a’r Fro

  • Cyngor Dinas a Sir Caerdydd a

  • Chyngor Bro Morgannwg;

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a

  • Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent,

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili,

  • Cyngor Sir Fynwy,

  • Cyngor Dinas Casnewydd, a

  • Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen;

  • Cyngor Sir Caerfyrddin,

  • Cyngor Sir Ceredigion,

  • Cyngor Sir Penfro a

  • Chyngor Sir Powys;

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,

  • Cyngor Sir Ddinbych,

  • Cyngor Sir y Fflint,

  • Cyngor Gwynedd,

  • Cyngor Sir Ynys Môn, a

  • Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam;

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,

  • Cyngor Dinas a Sir Abertawe a

  • Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Rheoliad 4

ATODLEN 2Partneriaid Arweiniol

Ardal Bwrdd DiogeluY partner arweiniol mewn perthynas â phlant ar gyfer yr ardalY partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion ar gyfer yr ardal
Cyngor Bro MorgannwgCyngor Dinas a Sir Caerdydd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon TafCyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyngor Bwrdeistref Sirol CaerffiliCyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyngor Sir PenfroCyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Bwrdeistref Sirol ConwyCyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port TalbotCyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Rheoliad 6(1)

ATODLEN 3Cynnwys Adroddiad Blynyddol

Rhaid i adroddiad blynyddol Bwrdd Diogelu gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)rhestr o aelodau’r Bwrdd Diogelu;

(b)y camau y mae’r Bwrdd Diogelu wedi eu cymryd i sicrhau canlyniadau penodol;

(c)i ba raddau y mae’r Bwrdd Diogelu wedi rhoi ar waith ei gynllun blynyddol diweddaraf, ynghyd â manylion ynglŷn â pha mor bell y cafodd unrhyw welliannau arfaethedig penodol eu rhoi ar waith;

(d)sut y mae’r Bwrdd Diogelu wedi cydweithredu â phersonau neu gyrff eraill sy’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n ymwneud ag amcanion y Bwrdd;

(e)unrhyw geisiadau y mae’r Bwrdd Diogelu wedi eu gwneud i bersonau cymhwysol o dan adran 137(1) am wybodaeth benodedig, ac a gydymffurfiwyd â’r ceisiadau;

(f)cyflawniadau’r Bwrdd Diogelu yn ystod y flwyddyn;

(g)i ba raddau y cyfrannodd pob aelod o’r Bwrdd Diogelu at effeithiolrwydd y Bwrdd;

(h)asesiad o sut y mae’r Bwrdd Diogelu wedi defnyddio ei adnoddau wrth arfer ei swyddogaethau neu sicrhau ei ganlyniadau;

(i)unrhyw themâu gwaelodol o ran y ffordd y mae’r Bwrdd Diogelu wedi arfer ei swyddogaethau, fel y’u dangosir drwy ddadansoddiad o achosion y mae wedi ymdrin â hwy, ac unrhyw newidiadau y mae wedi eu rhoi ar arfer o ganlyniad;

(j)pryd a sut y defnyddiodd plant neu oedolion gyfle i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd Diogelu a sut y cyfrannodd hynny at y modd y sicrhaodd y Bwrdd ei ganlyniadau;

(k)nifer y gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion y gwnaed cais amdanynt yn yr ardal Bwrdd Diogelu, faint ohonynt a wnaed, a pha mor effeithiol yr oeddynt;

(l)unrhyw wybodaeth neu ddysg y mae’r Bwrdd Diogelu wedi ei lledaenu, neu hyfforddiant y mae wedi ei gymeradwyo neu wedi ei ddarparu;

(m)sut y mae’r Bwrdd Diogelu wedi rhoi ar waith unrhyw ganllawiau neu gyngor a roddwyd gan Weinidogion Cymru neu gan y Bwrdd Cenedlaethol;

(n)materion eraill sy’n berthnasol i waith y Bwrdd Diogelu.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â Byrddau Diogelu Plant a sefydlir o dan adran 134(4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) a Byrddau Diogelu Oedolion a sefydlir o dan adran 134(5) o’r Ddeddf. Yn y Rheoliadau hyn cyfeirir ar y cyd at Fyrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion fel “Byrddau Diogelu”.

Mae rheoliad 3 ac Atodlen 1 yn nodi’r ardaloedd y bydd Byrddau Diogelu ar eu cyfer.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod y partneriaid arweiniol ar gyfer plant yn yr ardal wedi eu nodi yn Atodlen 2, colofn 2, a bod y partneriaid arweiniol ar gyfer oedolion yn yr ardal wedi eu nodi yn Atodlen 2, colofn 3. Mae adran 134(4) yn ei gwneud yn ofynnol i’r partner arweiniol mewn perthynas â phlant sefydlu Bwrdd Diogelu Plant ac mae adran 134(5) yn ei gwneud yn ofynnol i’r partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion sefydlu Byrddau Diogelu Oedolion ar gyfer eu priod ardal Bwrdd Diogelu.

Mae rheoliad 5 yn nodi’r wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynllun blynyddol a gyhoeddir gan Fyrddau Diogelu o dan adran 136(1) o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 6 ac Atodlen 3 yn nodi’r wybodaeth sydd i’w chynnwys yn yr adroddiad blynyddol a gyhoeddir gan Fyrddau Diogelu o dan adran 136(2) o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 7 yn darparu bod copïau o’r cynllun blynyddol a’r adroddiad blynyddol i’w rhoi ar gael i’r cyhoedd ac i’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Sefydlir Byrddau Diogelu Plant gan bartner arweiniol y Bwrdd Diogelu mewn perthynas â phlant ar gyfer yr ardal yn unol ag adran 134(4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).

(3)

Sefydlir Byrddau Diogelu Oedolion gan y partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion yn unol ag adran 134(5) o’r Ddeddf.