2015 Rhif 1357 (Cy. 131)
Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 134(1) a (3), 136(3) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac ar ôl ymgynghori â’r partneriaid Bwrdd Diogelu ar gyfer ardal yn unol ag adran 134(3) o’r Ddeddf honno1, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adroddiad blynyddol” (“annual report”) yw’r adroddiad a gyhoeddir gan Fwrdd Diogelu o dan adran 136(2) o’r Ddeddf;
ystyr “Bwrdd Cenedlaethol” (“National Board”) yw’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a sefydlir gan adran 132(1) o’r Ddeddf;
ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw Bwrdd Diogelu Plant2 neu Fwrdd Diogelu Oedolion3;
ystyr “cynllun blynyddol” (“annualplan”) yw’r cynllun a gyhoeddir gan Fwrdd Diogelu o dan adran 136(1) o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
mae “partner Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board partner”) i’w ddehongli yn unol ag adran 134(2) ac adran 134(6)(b);
ystyr “prif ardal llywodraeth leol” (“principal local government area”) yw prif ardal llywodraeth leol fel y’i nodir yn Rhannau I a II o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ardaloedd Byrddau Diogelu3
Yr ardaloedd yng Nghymru y bydd Byrddau Diogelu ar eu cyfer yw’r prif ardaloedd llywodraeth leol a nodir yng ngholofn 2 o’r tabl a nodir yn Atodlen 1, a ddynodir â’r enw sydd gyferbyn yng ngholofn 1.
Partneriaid Arweiniol4
1
Mae Gweinidogion Cymru yn pennu’r partner Bwrdd Diogelu a ddangosir yng ngholofn 2 o’r tabl a nodir yn Atodlen 2 fel y partner arweiniol mewn perthynas â phlant ar gyfer yr ardal a ddangosir gyferbyn yng ngholofn 1.
2
Mae Gweinidogion Cymru yn pennu’r partner Bwrdd Diogelu a ddangosir yng ngholofn 3 o’r tabl a nodir yn Atodlen 2 fel y partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion ar gyfer yr ardal a ddangosir gyferbyn yng ngholofn 1.
Cynlluniau blynyddol5
Rhaid i gynllun blynyddol Bwrdd Diogelu gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
a
rhestr o aelodau’r Bwrdd Diogelu;
b
unrhyw ganlyniadau penodol y mae’r Bwrdd Diogelu yn bwriadu eu sicrhau;
c
crynodeb o unrhyw welliant y mae’r Bwrdd Diogelu yn bwriadu ei wneud i’w alluogi i gyflawni ei amcanion yn well;
d
swm y gwariant y mae partneriaid y Bwrdd Diogelu yn cytuno bod y Bwrdd Diogelu yn debyg o fynd iddo er mwyn sicrhau ei amcanion;
e
disgrifiad o sut y mae’r Bwrdd Diogelu yn bwriadu cydweithredu â phersonau neu gyrff eraill sy’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n ymwneud â’i amcanion;
f
pryd a sut y bydd y Bwrdd Diogelu yn rhoi i blant ac oedolion y mae arfer ei swyddogaethau yn effeithio arnynt, neu y gall effeithio arnynt, gyfle i gymryd rhan yn ei waith.
Adroddiadau blynyddol6
1
Rhaid i adroddiad blynyddol Bwrdd Diogelu gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 3.
2
Cyn belled ag y bo’n ymarferol mae’r adroddiad i ddilyn ffurf cynllun blynyddol diweddaraf y Bwrdd Diogelu.
Cyhoeddi cynlluniau blynyddol ac adroddiadau blynyddol7
Rhaid i Fwrdd Diogelu—
a
trefnu bod ei gynllun blynyddol cyfredol a’i adroddiad blynyddol cyfredol ar gael i’r cyhoedd;
b
trefnu bod copi o unrhyw un neu rai o’i gynlluniau blynyddol a’i adroddiadau blynyddol yn y gorffennol ar gael ar gais;
c
anfon ei gynllun blynyddol cyfredol a’i adroddiad blynyddol cyfredol at y Bwrdd Cenedlaethol.
ATODLEN 1Ardaloedd Byrddau Diogelu
Enw’r ardal Bwrdd Diogelu | Rhychwant yr ardal Bwrdd Diogelu |
---|---|
Caerdydd a’r Fro |
|
| |
| |
| |
| |
|
ATODLEN 2Partneriaid Arweiniol
Ardal Bwrdd Diogelu | Y partner arweiniol mewn perthynas â phlant ar gyfer yr ardal | Y partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion ar gyfer yr ardal |
---|---|---|
Cyngor Bro Morgannwg | Cyngor Dinas a Sir Caerdydd | |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf | |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili | Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili | |
Cyngor Sir Penfro | Cyngor Sir Caerfyrddin | |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot | Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot |
ATODLEN 3Cynnwys Adroddiad Blynyddol
Rhaid i adroddiad blynyddol Bwrdd Diogelu gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
a
rhestr o aelodau’r Bwrdd Diogelu;
b
y camau y mae’r Bwrdd Diogelu wedi eu cymryd i sicrhau canlyniadau penodol;
c
i ba raddau y mae’r Bwrdd Diogelu wedi rhoi ar waith ei gynllun blynyddol diweddaraf, ynghyd â manylion ynglŷn â pha mor bell y cafodd unrhyw welliannau arfaethedig penodol eu rhoi ar waith;
d
sut y mae’r Bwrdd Diogelu wedi cydweithredu â phersonau neu gyrff eraill sy’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n ymwneud ag amcanion y Bwrdd;
e
unrhyw geisiadau y mae’r Bwrdd Diogelu wedi eu gwneud i bersonau cymhwysol o dan adran 137(1) am wybodaeth benodedig, ac a gydymffurfiwyd â’r ceisiadau;
f
cyflawniadau’r Bwrdd Diogelu yn ystod y flwyddyn;
g
i ba raddau y cyfrannodd pob aelod o’r Bwrdd Diogelu at effeithiolrwydd y Bwrdd;
h
asesiad o sut y mae’r Bwrdd Diogelu wedi defnyddio ei adnoddau wrth arfer ei swyddogaethau neu sicrhau ei ganlyniadau;
i
unrhyw themâu gwaelodol o ran y ffordd y mae’r Bwrdd Diogelu wedi arfer ei swyddogaethau, fel y’u dangosir drwy ddadansoddiad o achosion y mae wedi ymdrin â hwy, ac unrhyw newidiadau y mae wedi eu rhoi ar arfer o ganlyniad;
j
pryd a sut y defnyddiodd plant neu oedolion gyfle i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd Diogelu a sut y cyfrannodd hynny at y modd y sicrhaodd y Bwrdd ei ganlyniadau;
k
nifer y gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion y gwnaed cais amdanynt yn yr ardal Bwrdd Diogelu, faint ohonynt a wnaed, a pha mor effeithiol yr oeddynt;
l
unrhyw wybodaeth neu ddysg y mae’r Bwrdd Diogelu wedi ei lledaenu, neu hyfforddiant y mae wedi ei gymeradwyo neu wedi ei ddarparu;
m
sut y mae’r Bwrdd Diogelu wedi rhoi ar waith unrhyw ganllawiau neu gyngor a roddwyd gan Weinidogion Cymru neu gan y Bwrdd Cenedlaethol;
n
materion eraill sy’n berthnasol i waith y Bwrdd Diogelu.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)