2015 Rhif 1330 (Cy. 123)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55, 65, 69, 71, 78, 78A a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901 (“Deddf 1990”) sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 54 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 20043 (“Deddf 2004”), sydd bellach hefyd yn arferadwy ganddynt hwy4, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: