2015 Rhif 1327 (Cy. 122) (C. 74)
Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2015
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 59(2) a 59(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 20151, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2015.
2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Addysg Uwch 20042;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015;
ystyr “Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd” (“the Approved Plans Regulations”) yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 20113; ac
ystyr “y Rheoliadau Dynodi” (“the Designation Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Addysg Uwch 2004 (Awdurdod Perthnasol) (Dynodi) (Cymru) 20114.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn2
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn, at ddiben gwneud rheoliadau yn unig—
a
adran 2(4) (ceisiadau am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad);
b
adran 3(4) (dynodi darparwyr addysg uwch eraill);
c
adran 4(3) a 4(4) (cyfnod y mae cynllun ffioedd a mynediad i gael effaith mewn cysylltiad ag ef);
d
adran 5(2)(b), 5(3) a 5(5) i 5(9) (cyrsiau cymhwysol, yr uchafswm ffioedd, personau cymhwysol a’r ffioedd sy’n daladwy i berson sy’n darparu cwrs ar ran sefydliad);
e
adran 6(1) a 6(3) i 6(6) (cynlluniau ffioedd a mynediad a hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch);
f
adran 7(3) (penderfyniad ynghylch cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad);
g
adran 8 (cyhoeddi cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd);
h
adran 9 (amrywio cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd);
i
adran 11(5) (cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu);
j
adran 17(4)(a) (trin person fel person sy’n gyfrifol am ddarparu cwrs);
k
adran 37(7) (hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad newydd);
l
adran 38(2) (dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad yn ôl);
m
adran 39(4) (pŵer i dynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad yn ôl);
n
adran 40(2) (hysbysiadau a roddir o dan Ran 5 o’r Ddeddf);
o
adran 42(2)(d) (sylwadau mewn cysylltiad â hysbysiadau rhybuddio);
p
adran 43(c) (gwybodaeth sydd i’w rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol);
q
adran 44(3) a 44(4) (adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol);
r
adran 52(4) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd);
s
adran 58(2) (darpariaeth drosiannol) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 28(g) a 30 o’r Atodlen; a
t
yn yr Atodlen—
i
paragraff 28(g); a
ii
paragraff 30.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 25 Mai 20153
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 25 Mai 2015 i’r graddau a bennir—
a
adran 6(7) (gofynion cyffredinol) at bob diben;
b
adran 7(5) (cyfeiriadau at gynllun a gymeradwywyd ac at sefydliad rheoleiddiedig yn Neddf 2015);
c
adran 27(1) (cod rheolaeth ariannol) i’r graddau y mae’n ymwneud â llunio cod;
d
adran 27(2), 27(3), 27(7) a 27(8) at bob diben;
e
adrannau 47 a 48 (arfer swyddogaethau gan CCAUC) at bob diben;
f
adran 49 (dyletswydd i ystyried canllawiau Gweinidogion Cymru) at bob diben;
g
adran 52(1) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd) i’r graddau y mae’n ymwneud â llunio datganiad;
h
adran 52(5) at bob diben; ac
i
adran 54(3) a 54(4) (gwybodaeth a chyngor) at bob diben.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Awst 20154
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2015 i’r graddau a bennir—
a
adran 58(2) (darpariaethau trosiannol) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 27, 28(a) i 28(f) a pharagraff 29 o’r Atodlen; a
b
yn yr Atodlen (darpariaeth drosiannol)—
i
paragraff 27 at bob diben;
ii
paragraff 28(a) i 28(f) at bob diben; a
iii
paragraff 29 at bob diben.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 20155
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2015 i’r graddau a bennir—
a
adran 3 (dynodi darparwyr addysg uwch eraill) at bob diben sy’n weddill;
b
adran 10 (terfynau ar ffioedd myfyrwyr) at bob diben;
c
adran 11 (cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu) at bob diben sy’n weddill;
d
adran 12 (darpariaeth atodol ynghylch cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu) at bob diben;
e
adran 14 (dilysrwydd contractau) at bob diben;
f
adrannau 15(1)(a) (dyletswydd i fonitro cydymffurfedd) ac 16 (dyletswydd i gydweithredu) at bob diben;
g
adran 17 (asesu ansawdd yr addysg) at bob diben sy’n weddill;
h
adrannau 18 i 25 (ansawdd annigonol, cydweithredu o ran asesu ansawdd, pwerau atodol at y diben o asesu ansawdd a phwyllgor i gynghori CCAUC ynghylch arfer swyddogaethau asesu ansawdd) at bob diben;
i
adrannau 27(9), 28 a 29 (llunio a gweithdrefn ar gyfer cymeradwyo cod rheolaeth ariannol gan Weinidogion Cymru) at bob diben;
j
adran 41(1)(b), 41(1)(d) a 41(2) (y weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol) at bob diben;
k
adrannau 42 i 44 (y weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol) at bob diben sy’n weddill;
l
adrannau 45 a 46 (darpariaethau cyffredinol ynghylch cyfarwyddydau) at bob diben;
m
adran 51(1)(a), 51(1)(e) a 51(2) (adroddiadau arbennig) at bob diben;
n
adran 52(1) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd) i’r graddau y mae’n ymwneud â chyhoeddi datganiad mewn cysylltiad ag adran 52(5)(a), 52(5)(c) a 52(5)(d);
o
adran 52(2) a 52(3) at bob diben;
p
adran 53 (gwybodaeth a chyngor sydd i’w rhoi gan CCAUC i Weinidogion Cymru) at bob diben;
q
adran 54(1) (gwybodaeth a chyngor arall) at bob diben;
r
adran 58(1) (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau’r Atodlen y cyfeirir atynt ym mharagraff (s);
s
yn yr Atodlen (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
i
paragraff 1 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 2;
ii
paragraff 2 at bob diben;
iii
paragraffau 7 i 21 at bob diben;
iv
paragraff 22 at bob diben;
v
paragraff 23 at bob diben;
vi
paragraffau 24 i 26 at bob diben;
t
adran 58(2) (darpariaeth drosiannol) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 31 o’r Atodlen; ac
u
paragraff 31 o’r Atodlen at bob diben.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 20166
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ionawr 2016 i’r graddau a bennir—
a
adran 2 (cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad) at bob diben sy’n weddill;
b
adran 4 (y cyfnod y mae cynllun ffioedd a mynediad i gael effaith mewn cysylltiad ag ef) at bob diben sy’n weddill;
c
adran 5 (terfyn ffioedd) at bob diben sy’n weddill;
d
adran 6 (hybu cyfle cyfartal ac addysg uwch) at bob diben sy’n weddill;
e
adran 7 (cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad) at bob diben sy’n weddill; ac
f
adran 41(1)(a) (y weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol) at bob diben.
Darpariaeth arbed mewn perthynas â dwyn i rym baragraffau 11, 12, 14 i 16 a 19 o’r Atodlen i’r Ddeddf
7
Er gwaethaf dwyn i rym baragraffau 11, 12, 14, 16 a 19 o’r Atodlen i’r Ddeddf ar 1 Medi 2015—
a
mae rheoliad 9 o’r Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd yn dal yn gymwys i gynllun Deddf 2004 sy’n cael ei drin fel cynllun ffioedd a mynediad sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 o’r Ddeddf yn ystod y cyfnod trosiannol;
b
mae’r darpariaethau a ganlyn yn dal yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwnnw—
i
adran 32(4) o Ddeddf 2004; a
ii
rheoliad 5 i 7 ac 11 i 18 o’r Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd; ac
c
mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau Dynodi yn dal yn gymwys i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) a (b).
8
Er gwaethaf dwyn i rym baragraffau 11, 12, 14 a 15 o’r Atodlen i’r Ddeddf ar 1 Medi 2015—
a
mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd yn dal yn gymwys i gais am gymeradwyaeth i gynllun arfaethedig a gafodd CCAUC o dan adran 34 o Ddeddf 2004 cyn 1 Medi 2015;
b
mae’r darpariaethau a ganlyn yn dal yn gymwys mewn perthynas â’r rheoliad hwnnw at ddibenion cais o’r fath—
i
adran 32(4) o Ddeddf 2004;
ii
adran 35(1) a 35(2)(b) o Ddeddf 2004; a
iii
rheoliadau 6 i 8 ac 11 i 18 o’r Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd; ac
c
mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau Dynodi yn dal yn gymwys i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) a (b).
9
Mae erthyglau 7 ac 8 heb leihau effaith gweithrediad adrannau 16 ac 17 o Ddeddf Dehongli 19785 fel y’u darllenir gydag adran 23 o’r Ddeddf honno.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)