2015 Rhif 1265 (Cy. 85)
Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 78(1) a 142(2) o Ddeddf Tai (Cymru) 20141.
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 142(3)(b)(ii) o’r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Ebrill 2015.
3
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “rhestr o gategorïau penodedig o geiswyr” (“list of specified categories of applicants”) yw’r categori neu’r categorïau o geiswyr2 y mae awdurdod tai lleol wedi penderfynu rhoi sylw i ba un a yw ceiswyr wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio mewn cysylltiad â hwy3;
ystyr “rhoi sylw i fwriadoldeb” (“have regard to intentionality”) yw rhoi sylw i ba un a yw ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio at ddibenion adrannau 68 a 75.
4
Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
RHAN 1Categorïau Penodedig
Categorïau o geiswyr at ddiben adran 782
Mae’r canlynol yn gategorïau o geiswyr at ddiben adran 78 (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb)—
a
menyw feichiog neu berson y mae’n preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi breswylio gydag ef;
b
person y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
c
person—
i
sy’n hyglwyf o ganlyniad i reswm arbennig (er enghraifft: henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu
ii
y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
d
person—
i
sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd o ganlyniad i argyfwng megis llifogydd, tân neu drychineb arall, neu
ii
y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
e
person—
i
sy’n ddigartref o ganlyniad i wynebu camdriniaeth ddomestig, neu
ii
y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio’r sawl sy’n cam-drin) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
f
person—
i
sy’n 16 neu’n 17 oed pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, neu
ii
y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
g
person—
i
sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, sy’n wynebu perygl arbennig o gamfanteisio rhywiol neu ariannol, neu
ii
y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio camfanteisiwr neu gamfanteisiwr posibl) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
h
person—
i
sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, a oedd yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu ar unrhyw bryd pan oedd o dan 18 oed, neu
ii
y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
i
person—
i
sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny, neu
ii
y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
j
person sydd â chysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod tai lleol ac sy’n hyglwyf o ganlyniad i un o’r rhesymau canlynol—
i
bod wedi bwrw dedfryd o garchar o fewn ystyr adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 20004,
ii
bod wedi ei remandio mewn carchar neu ei draddodi i garchar gan orchymyn llys, neu
iii
bod wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan adran 91(4) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 20125,
neu berson y mae person o’r fath yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef.
RHAN 2Gweithdrefn ar gyfer rhoi sylw i fwriadoldeb
Hysbysiad o benderfyniad i roi sylw i fwriadoldeb i Weinidogion Cymru3
1
Rhaid i awdurdod tai lleol sy’n penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb ddarparu hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o’i benderfyniad.
2
Rhaid i’r hysbysiad ysgrifenedig bennu—
a
y rhestr o gategorïau penodedig o geiswyr, a
b
y rheswm neu’r rhesymau dros roi sylw i’r categori neu gategorïau sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr o gategorïau penodedig o geiswyr.
3
Rhaid darparu hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru dim llai na 14 o ddiwrnodau cyn gweithredu’r penderfyniad i roi sylw i fwriadoldeb.
Cyhoeddi hysbysiad o benderfyniad i roi sylw i fwriadoldeb
4
1
Rhaid i awdurdod tai lleol sy’n penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb gyhoeddi hysbysiad o’i benderfyniad—
a
ar wefan yr awdurdod (os oes ganddo un), a
b
drwy osod copi o’r hysbysiad yn y swyddfeydd lle y daw ceisiadau am gymorth ynghylch digartrefedd i law,
dim llai na 14 o ddiwrnodau cyn gweithredu’r penderfyniad i roi sylw i fwriadoldeb.
5
1
Rhaid i awdurdod tai lleol gymryd camau rhesymol i roi gwybod i’r canlynol am ei benderfyniad o dan reoliad 4(1)—
a
ceiswyr a’u cynghorwyr; a
b
y fath awdurdodau cyhoeddus neu awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol neu bersonau eraill y mae’n eu hystyried yn briodol.
2
Rhaid i awdurdod tai lleol sicrhau bod copi o’r hysbysiad o’i benderfyniad ar gael, yn ddi-dâl, i geiswyr y bydd y penderfyniad yn effeithio arnynt.
Terfynau ar ddiwygio rhestr o gategorïau penodedig o geiswyr6
Ni chaiff awdurdod tai lleol sydd wedi penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb ddiwygio’r rhestr o gategorïau penodedig o geiswyr fwy na dwywaith mewn cyfnod o 12 mis. Mae rheoliadau 3, 4 a 5 yn gymwys i benderfyniad i ddiwygio rhestr fel y maent yn gymwys i’r penderfyniad gwreiddiol.
RHAN 3Penderfyniadau ar fwriadoldeb mewn perthynas â cheiswyr presennol
Effaith penderfyniad i roi sylw i fwriadoldeb ar geisydd presennol7
1
Ni chaiff awdurdod tai lleol sy’n penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb yn unol ag adran 78 roi sylw i fwriadoldeb mewn perthynas â cheisydd presennol.
2
Yn y rheoliad hwn, ystyr “ceisydd presennol” (“existing applicant”) yw ceisydd y mae’r ddyletswydd yn adran 62(1) yn ddyledus iddo ar yr adeg pan fo penderfyniad i roi sylw i fwriadoldeb yn cael ei wneud.
Effaith newidiadau i restr o gategorïau penodedig o geiswyr ar geisydd presennol8
1
Ni chaiff awdurdod tai lleol sy’n rhoi sylw i fwriadoldeb roi sylw i fwriadoldeb mewn perthynas â cheisydd presennol—
a
os yw’r awdurdod wedi tynnu un neu ragor o gategorïau o’i restr o gategorïau penodedig o geiswyr ac oni bai am hynny y byddai’r ceisydd presennol wedi dod o fewn y rhestr o gategorïau penodedig o geiswyr, neu
b
os yw’r awdurdod wedi cynnwys un neu ragor o gategorïau yn ei restr o gategorïau penodedig o geiswyr ac o ganlyniad i hynny mae’r ceisydd hwnnw yn dod o fewn y rhestr o gategorïau penodedig o geiswyr.
2
Yn y rheoliad hwn, ystyr “ceisydd presennol” (“existing applicant”) yw ceisydd—
a
sydd wedi ei ddisgrifio ym mharagraff (1)(a) neu (b), a
b
y mae’r ddyletswydd yn adran 62(1) yn ddyledus iddo ar yr adeg pan fo newid yn cael ei wneud i’r rhestr o gategorïau penodedig o geiswyr.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)