2015 Rhif 1227 (Cy. 81)
Gorchymyn Ysgol Uwchradd y Dwyrain (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Yn unol ag adran 4(2) o Ddeddf Addysg 20021 (“y Ddeddf”), mae corff llywodraethu Ysgol Uwchradd y Dwyrain (“y corff llywodraethu”) wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol a’r personau hynny y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol, gan gynnwys rhieni disgyblion sydd wedi eu cofrestru yn yr ysgol a’r staff sy’n gweithio yn yr ysgol;
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl rhoi sylw i’r materion a nodir yn adran 1(2) o’r Ddeddf, y gall gweithredu gan y corff llywodraethu ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn gyfrannu at godi’r safonau addysgol a gyrhaeddir gan blant yng Nghymru;
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 2(1) o’r Ddeddf2, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, ar gais y corff llywodraethu, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: