Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2015

Y diwrnod penodedig

2.  Y diwrnod penodedig ar gyfer dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 i rym yw 1 Mai 2015—

(a)adran 55 (gwefannau cynghorau cymuned);

(b)adran 56 (gofyniad i roi hysbysiadau cyhoeddus yn electronig);

(c)adran 57 (cyfarfodydd a thrafodion cymunedau);

(d)adran 58 (cofrestrau buddiannau aelodau);

(e)adran 68 (cyd-bwyllgorau safonau); ac

(f)adran 69 (atgyfeirio achosion yn ymwneud ag ymddygiad).