xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 No. 1025 (Cy. 74) (C. 70)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2015

Gwnaed

25 Mawrth 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 22(2) a (3) o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2015.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

(a)ystyr “Deddf 2012” (“the 2012 Act”) yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012; a

(b)ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(2).

Y diwrnod penodedig

2.  31 Mawrth 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2012—

(a)adran 1 (trosolwg);

(b)adran 2 (is-ddeddfau ar gyfer rheolaeth dda a llywodraeth ac atal niwsansau);

(c)adran 3 (ystyr “awdurdod deddfu”);

(d)adran 4 (dirymu gan awdurdod deddfu);

(e)adran 5 (dirymu gan Weinidogion Cymru);

(f)adran 6 (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) a Rhan 1 o Atodlen 1;

(g)adran 7 (is-ddeddfau pan fo cadarnhad yn ofynnol);

(h)adran 8 (materion ffurfiol, cychwyn a chyhoeddi is-ddeddfau);

(i)adran 10 (tramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau);

(j)adran 11 (is-ddeddfau adran 2; pwerau ymafael etc);

(k)adran 12 (y pŵer i gynnig cosbau penodedig am dramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau penodol) i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn a Rhan 2 o Atodlen 1;

(l)adran 13 (swm cosb benodedig) i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn;

(m)adran 14 (y pŵer i ofyn am enw a chyfeiriad mewn cysylltiad â chosb benodedig);

(n)adran 15 (y defnydd o dderbyniadau am gosbau penodedig);

(o)adran 17 (Swyddogion Cymorth Cymunedol etc);

(p)adran 18 (canllawiau) i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn;

(q)adran 19 (tystiolaeth o is-ddeddfau); ac

(r)adran 20 (diwygiadau canlyniadol) a pharagraffau 1 i 8, 9(1) i (3), (5) a 10 i 18 o Atodlen 2.

Darpariaethau trosiannol ac arbedion

3.—(1Er i adrannau 2, 4, 6, 7, 8 ac 20 o Ddeddf 2012, ac Atodlenni 1 a 2 iddi, ddod i rym—

(a)nid yw adrannau 2, 4, 6 a 7(3) i (9) ac 8(3) o’r Ddeddf honno, ac Atodlen 2 iddi, yn gymwys i is-ddeddfau a ddisgrifir ym mharagraff (2); a

(b)mae adran 236(3), (4) i (7) ac (11)(3) o Ddeddf 1972 yn gymwys i is-ddeddfau a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i is-ddeddfau y mae adrannau 235, 236 a 236B o Ddeddf 1972 yn gymwys iddynt, os cyn y diwrnod penodedig—

(a)bod un neu ragor o’r camau a ganlyn wedi eu cymryd mewn perthynas â hwy—

(i)bod yr awdurdod deddfu sy’n gwneud yr is-ddeddfau wedi rhoi hysbysiad, yn unol ag adran 236(4) o Ddeddf 1972, o’i fwriad i wneud cais am gadarnhad o’r is-ddeddfau yn un neu ragor o’r papurau newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r is-ddeddfau i fod yn gymwys iddi; neu

(ii)bod copi o’r is-ddeddfau wedi ei adneuo, yn unol ag adran 236(5) o Ddeddf 1972, yn swyddfa’r awdurdod deddfu sy’n gwneud yr is-ddeddfau; a

(b)bod yr awdurdod cadarnhau(4) heb gadarnhau’r is-ddeddf; neu

(c)bod yr awdurdod cadarnhau wedi cadarnhau’r is-ddeddf ond nad yw’r is-ddeddf eto wedi dod yn weithredol.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

25 Mawrth 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 22(2) a (3) o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (“Deddf 2012”). Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn i’w wneud o dan Ddeddf 2012.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn darparu mai 31 Mawrth 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau yn Neddf 2012 a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod:

Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaethau trosiannol ac arbedion mewn cysylltiad ag is-ddeddfau y mae un neu ragor o’r camau a ddisgrifir yn erthygl 3(2)(a) wedi eu cymryd mewn perthynas â hwy cyn y diwrnod penodedig.

Daeth adrannau 18(1) (canllawiau), 21 (gorchmynion a rheoliadau), 22 (cychwyn), a 23 (enw byr) o Ddeddf 2012 i rym ar 30 Tachwedd 2012.

Mae’r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2012 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
adran 9 (y pŵer i ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 2012)15 Awst 2014O.S. 2014/2121 (Cy. 207)
adran 12(13) (y pŵer i wneud rheoliadau i ragnodi amodau i’w bodloni gan berson cyn y caiff cyngor cymuned awdurdodi’r person i roi hysbysiadau cosb benodedig o dan Ddeddf 2012)15 Awst 2014O.S. 2014/2121 (Cy. 207)
adran 13(3) (y pŵer i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â swm cosbau penodedig)15 Awst 2014O.S. 2014/2121 (Cy. 207)
adran 13(4) (y pŵer i’w gwneud yn ofynnol bod swm cosb benodedig yn dod o fewn ystod a ragnodir ac i gyfyngu ar y rhychwant y caiff awdurdod wneud darpariaeth o dan adran 13(1)(b) o Ddeddf 2012 a chyfyngu ar yr amgylchiadau pan all wneud hynny)15 Awst 2014O.S. 2014/2121 (Cy. 207)
adran 16 (y pŵer i ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 2012)15 Awst 2014O.S. 2014/2121 (Cy. 207)
(3)

Diwygiwyd is-adran (1) o adran 236 o Ddeddf 1972 gan adran 84 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), a pharagraff 31(1) o Atodlen 14 iddi.Diwygiwyd is-adran (3) o adran 236 o Ddeddf 1972 gan O.S. 2001/3719. Diwygiwyd is-adran (9) o’r adran honno, a mewnosodwyd is-adran (10A) o’r adran honno, gan baragraff 50 o Atodlen 15 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19). Ceir diwygiadau eraill i adran 236 o Ddeddf 1972 nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(4)

Gweler adran 236(11) o Ddeddf 1972 ar gyfer ystyr “confirming authority”. Mae swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr adran hon yn cael ei harfer yn gydredol â Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cendlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddi. Trosglwyddwyd y swyddogaeth hon bellach i Weinidogion Cymru yn rhinwedd gweithrediad adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.