ATODLEN 4LLADD ANIFEILIAID AC EITHRIO’R RHAI Y MAE’R RHEOLIAD UE YN GYMWYS IDDYNT
Dehongli1
Yn yr Atodlen hon—
a
ystyr “anifail” (“animal”) yw—
i
ymlusgiaid ac amffibiaid;
ii
infertebratau; neu
iii
dofednod, cwningod neu ysgyfarnogod a leddir yn rhywle heblaw mewn lladd-dy, gan eu perchennog ar gyfer eu bwyta gartref yn breifat gan y perchennog; a
b
mae i’r termau “lladd”, dofednod”, “ffrwyno” a “stynio”, yn eu trefn, yr un ystyron a roddir i’r termau “killing”, “poultry”, “restraint” a “stunning” yn y Rheoliad UE.