xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3GOFYNION YCHWANEGOL AR GYFER LLADD ANIFEILIAID YN UNOL Â DEFODAU CREFYDDOL

RHAN 2Defaid, geifr ac anifeiliaid buchol

Ffrwyno anifeiliaid buchol llawn-dwf

3.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff neb ladd anifail buchol llawn-dwf yn unol â defodau crefyddol mewn lladd-dy heb stynio’r anifail ymlaen llaw, oni chaiff yr anifail ei ffrwyno ar ei ben ei hunan ac ar ei sefyll mewn lloc ffrwyno a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod cymwys ac y bodlonwyd yr awdurdod cymwys ei fod wedi ei osod mewn modd sy’n sicrhau y bydd yn gweithredu’n effeithlon.

(2Ni chaiff yr awdurdod cymwys roi cymeradwyaeth o dan is-baragraff (1) oni fodlonir yr awdurdod cymwys y gall maint a dyluniad y lloc a’r modd y gellir ei weithredu ddiogelu anifail buchol llawn-dwf rhag dioddef poen, dioddefaint, aflonyddwch, anafiadau neu gleisiau diangen pan gaethiwir yr anifail ynddo neu wrth fynd i mewn iddo, ac yn benodol, oni fodlonir yr awdurdod cymwys fod y lloc—

(a)yn cynnwys modd effeithiol i ffrwyno anifail buchol a gaethiwir ynddo (ynghyd ag atalydd addas ar gyfer y pen, at y diben hwnnw);

(b)yn cynnwys modd i gynnal pwysau’r anifail buchol yn ystod ei ladd ac yn dilyn hynny;

(c)yn caniatáu caethiwo un anifail buchol ar y tro ynddo, heb achosi anghysur i’r anifail; a

(d)yn rhwystro anifail buchol rhag symud unrhyw bellter sylweddol ymlaen, yn ôl nac i’r ochr, unwaith y’i gosodir yn ei le ar gyfer ei ladd.

(3Bydd lloc ffrwyno a gymeradwywyd o dan baragraff 3 o Atodlen 12 i Reoliadau 1995, pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, yn dod yn lloc ffrwyno a gymeradwyir at ddibenion is-baragraffau (1) a (2).

Defnyddio a chynnal llociau ffrwyno

4.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—

(a)bod y moddion ar gyfer ffrwyno a chynnal pwysau anifail buchol llawn-dwf, a gaethiwir mewn lloc ffrwyno ac a ddisgrifir ym mharagraff 3(2)(a) a (b), yn cael eu defnyddio mewn perthynas ag unrhyw anifail buchol a gaethiwir yn y lloc;

(b)y cedwir y lloc ffrwyno mewn cyflwr gweithredol da; ac

(c)os yw’r lloc wedi ei addasu ar ôl ei gymeradwyo gan yr awdurdod cymwys, na ddefnyddir y lloc drachefn hyd nes cymeradwyir y lloc o’r newydd gan yr awdurdod cymwys.

Y dull o ladd

5.  Rhaid i unrhyw berson sy’n lladd dafad, gafr neu anifail buchol yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r anifail ymlaen llaw—

(a)sicrhau y lleddir yr anifail drwy dorri ei ddwy rydweli garotid yn ogystal â gwythiennau’r gwddf, gan symudiadau cyflym a diysbaid â chyllell a ddelir yn y llaw; a

(b)yn union cyn lladd, arolygu’r gyllell sydd i’w defnyddio, er mwyn sicrhau—

(i)nad yw wedi ei difrodi; a

(ii)ei bod yn ddigon mawr a llym i ladd y ddafad, gafr neu anifail buchol yn y modd a ddisgrifir yn is-baragraff (a).

Trin defaid, geifr ac anifeiliaid buchol yn ystod y lladd

6.—(1Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â lladd dafad, gafr neu anifail buchol yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r anifail ymlaen llaw sicrhau—

(a)na roddir yr anifail yn y cyfarpar ffrwyno onid yw’r person a fydd yn lladd yr anifail yn barod i wneud y toriad yn union ar ôl rhoi’r anifail yn y cyfarpar; a

(b)bod cyfarpar stynio addas wrth gefn ar gael a gedwir gerllaw’r cyfarpar ffrwyno, i’w ddefnyddio mewn argyfwng ac i’w ddefnyddio ar unwaith os achosir unrhyw boen, dioddefaint neu aflonyddwch diangen i’r anifail neu os oes ganddo unrhyw anafiadau neu gleisiau.

(2Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â lladd dafad, gafr neu anifail buchol yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r anifail ymlaen llaw sicrhau, pan nad yw’r anifail wedi ei stynio cyn ei waedu, na osodir yr anifail mewn gefynnau, ei godi na’i symud mewn unrhyw fodd hyd nes bo’n anymwybodol, a beth bynnag nid cyn diwedd cyfnodau fel a ganlyn—

(a)yn achos dafad neu afr, cyfnod o ddim llai nag 20 eiliad, a

(b)yn achos anifeiliaid buchol, cyfnod o ddim llai na 30 eiliad,

ar ôl ei waedu yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff 5.