ATODLEN 3GOFYNION YCHWANEGOL AR GYFER LLADD ANIFEILIAID YN UNOL Â DEFODAU CREFYDDOL

RHAN 2Defaid, geifr ac anifeiliaid buchol

Ffrwyno anifeiliaid buchol llawn-dwf3

1

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff neb ladd anifail buchol llawn-dwf yn unol â defodau crefyddol mewn lladd-dy heb stynio’r anifail ymlaen llaw, oni chaiff yr anifail ei ffrwyno ar ei ben ei hunan ac ar ei sefyll mewn lloc ffrwyno a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod cymwys ac y bodlonwyd yr awdurdod cymwys ei fod wedi ei osod mewn modd sy’n sicrhau y bydd yn gweithredu’n effeithlon.

2

Ni chaiff yr awdurdod cymwys roi cymeradwyaeth o dan is-baragraff (1) oni fodlonir yr awdurdod cymwys y gall maint a dyluniad y lloc a’r modd y gellir ei weithredu ddiogelu anifail buchol llawn-dwf rhag dioddef poen, dioddefaint, aflonyddwch, anafiadau neu gleisiau diangen pan gaethiwir yr anifail ynddo neu wrth fynd i mewn iddo, ac yn benodol, oni fodlonir yr awdurdod cymwys fod y lloc—

a

yn cynnwys modd effeithiol i ffrwyno anifail buchol a gaethiwir ynddo (ynghyd ag atalydd addas ar gyfer y pen, at y diben hwnnw);

b

yn cynnwys modd i gynnal pwysau’r anifail buchol yn ystod ei ladd ac yn dilyn hynny;

c

yn caniatáu caethiwo un anifail buchol ar y tro ynddo, heb achosi anghysur i’r anifail; a

d

yn rhwystro anifail buchol rhag symud unrhyw bellter sylweddol ymlaen, yn ôl nac i’r ochr, unwaith y’i gosodir yn ei le ar gyfer ei ladd.

3

Bydd lloc ffrwyno a gymeradwywyd o dan baragraff 3 o Atodlen 12 i Reoliadau 1995, pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, yn dod yn lloc ffrwyno a gymeradwyir at ddibenion is-baragraffau (1) a (2).