xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2GOFYNION YCHWANEGOL AR GYFER LLADD ANIFEILIAID AC EITHRIO MEWN LLADD-DAI

RHAN 5Gweithrediadau stynio a lladd

Gofynion cyffredinol

33.—(1Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio neu ladd anifail sicrhau bod unrhyw offeryn, cyfarpar ffrwyno, gosodiad neu gyfarpar arall a ddefnyddir ar gyfer stynio neu ladd yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n hwyluso stynio neu ladd yn gyflym ac effeithiol.

(2Yn achos stynio syml, ni chaiff neb stynio anifail onid yw’n bosibl lladd yr anifail heb oedi.

Bolltau caeth treiddiol

34.—(1Ni chaiff neb ddefnyddio dyfais bollt gaeth dreiddiol i stynio anifail oni bai—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), y lleolir ac y defnyddir y ddyfais er mwyn sicrhau bod y bollt yn treiddio i mewn i gortecs yr ymennydd; a

(b)y defnyddir cetrisen neu bropelydd arall o’r cryfder priodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, er mwyn cynhyrchu styniad effeithiol.

(2Ni chaiff neb saethu anifail buchol y tu ôl i’r pen.

(3Ni chaiff neb saethu dafad neu afr y tu ôl i’r pen, oni fydd presenoldeb cyrn yn rhwystro defnyddio’r rhan uchaf neu ran flaen y pen, ac os felly caniateir ei saethu y tu ôl i’r pen, ar yr amod—

(a)y lleolir yr ergyd yn union y tu ôl i waelod y cyrn, gan anelu tuag at y geg; a

(b)y cychwynnir gwaedu o fewn 15 eiliad ar ôl saethu, neu y lleddir y ddafad neu’r afr drwy weithdrefn arall o fewn 15 eiliad ar ôl saethu.

(4Rhaid i berson sy’n defnyddio dyfais bollt gaeth wirio bod y follt wedi dychwelyd i’w lle yr holl ffordd ar ôl pob ergyd ac os nad yw’r follt wedi dychwelyd felly, rhaid iddo sicrhau na ddefnyddir y ddyfais honno drachefn hyd nes bo’r ddyfais wedi ei hatgyweirio.

Bolltau caeth anhreiddiol

35.  Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio bollt gaeth anhreiddiol ac eithrio gydag offeryn a leolir yn y man priodol ac a ddefnyddir gyda chetrisen neu bropelydd arall o’r cryfder priodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, er mwyn cynhyrchu styniad effeithiol.

Ergyd tarawol i’r pen

36.—(1Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio ergyd tarawol anfecanyddol i’r pen.

(2Ond nid yw’r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i gwningod, ar yr amod y cyflawnir y gweithrediad mewn ffordd sy’n peri bod y gwningen yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.

Stynio trydanol ac eithrio gyda bath dŵr

37.—(1Ni chaiff neb ddefnyddio electrodau i stynio anifail oni bai—

(a)y cymerir camau priodol i sicrhau cyswllt trydanol da; a

(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod yr anifail yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.

(2Ni chaiff neb ddefnyddio electrodau i stynio anifail unigol oni fydd y cyfarpar—

(a)yn cynnwys dyfais glywadwy neu weladwy sy’n dangos am faint o amser y defnyddir y cyfarpar ar yr anifail; a

(b)wedi ei gysylltu â dyfais sy’n dangos y foltedd a’r cerrynt o dan lwyth ac wedi ei gosod lle y gall y gweithredwr ei gweld yn eglur.

Stynio trydanol gan ddefnyddio bath dŵr

38.  Ni chaiff neb ddefnyddio styniwr bath dŵr i stynio dofednod oni bai—

(a)bod lefel y dŵr yn y bath dŵr wedi ei addasu i sicrhau cyswllt da â phen pob un o’r adar;

(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod y dofednod yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes byddant farw;

(c)os stynir grwpiau o ddofednod mewn bath dŵr, y cynhelir foltedd sy’n ddigonol i gynhyrchu cerrynt digon cryf i sicrhau y stynir pob un o’r adar;

(d)y cymerir camau priodol i sicrhau bod y cerrynt yn llifo’n effeithlon, sef yn benodol, bod cysylltiadau trydanol da;

(e)bod y styniwr bath dŵr yn ddigonol, o ran ei faint a’i ddyfnder, ar gyfer y math o ddofednod a stynir;

(f)nad yw’r styniwr bath dŵr yn gorlifo yn y fynedfa, neu, os na ellir osgoi gorlifiad, y cymerir camau i sicrhau nad oes unrhyw ddofednod yn cael sioc drydanol cyn eu stynio;

(g)bod yr electrod sydd o dan wyneb y dŵr yn ymestyn am hyd cyfan y bath dŵr; ac

(h)bod person ar gael a fydd yn canfod a yw’r styniwr bath dŵr wedi stynio’r dofednod yn effeithiol ai peidio, ac os na fu’n effeithiol, a fydd naill ai’n stynio neu’n lladd y dofednod yn ddi-oed.

Dod i gysylltiad â nwy – gwaharddiad

39.—(1Ni chaiff neb stynio anifail y tu allan i ladd-dy drwy ddod â’r anifail i gysylltiad â nwy.

(2Ond nid yw’r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys o ran stynio—

(a)moch mewn iard gelanedd, neu

(b)dofednod,

ar yr amod bod y moch neu’r dofednod yn cael eu stynio yn unol â pharagraffau 40 neu 41, fel y bo’n briodol.

Dod i gysylltiad â nwy – moch

40.—(1Ni chaiff neb stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â nwy oni roddir pob mochyn mewn cysylltiad â’r nwy am gyfnod digon hir i sicrhau y lleddir y mochyn.

(2Ni chaiff neb stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â chymysgedd nwyon 5 (“carbon monocsid ffynhonnell bur”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I.

(3Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â nwy sicrhau—

(a)bod y styniwr nwy, gan gynnwys unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i gludo mochyn drwy’r cymysgedd nwyon, wedi ei ddylunio, ei adeiladau a’i gynnal er mwyn—

(i)osgoi anaf i unrhyw fochyn;

(ii)osgoi cywasgu brest unrhyw fochyn;

(iii)galluogi mochyn i barhau i sefyll hyd nes â’n anymwybodol; a

(iv)galluogi mochyn i weld moch eraill wrth iddo gael ei gludo yn y styniwr nwy;

(b)bod y styniwr nwy a’r mecanwaith cludo wedi eu goleuo’n ddigonol, er mwyn caniatáu i foch weld moch eraill neu eu hamgylchoedd;

(c)bod y styniwr nwy yn cynnwys cyfarpar i gynnal y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I);

(d)bod modd monitro’r moch sydd yn y styniwr nwy yn weledol;

(e)bod modd fflysio’r styniwr nwy gydag aer atmosfferig, gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;

(f)bod modd cyrraedd at unrhyw fochyn gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;

(g)bod y styniwr nwy yn cynnwys dyfeisiau ar gyfer—

(i)mesur ac arddangos yn ddi-dor y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I); a

(ii)rhoi signalau rhybuddio eglur, gweledol a chlywedol, os yw’r crynodiad nwyon yn gostwng islaw’r lefel sy’n ofynnol (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I); ac

(h)na chaniateir i unrhyw fochyn fynd drwy’r styniwr nwy nac aros i mewn ynddo, ar unrhyw adeg pan fo’r signalau rhybuddio gweledol a chlywedol wedi’u hysgogi, neu pan fo unrhyw ddiffyg yng ngweithrediad y styniwr nwy.

(4Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad uniongyrchol â chymysgedd nwyon 1 (“carbon deuocsid mewn crynodiad uchel”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I sicrhau—

(a)nad oes yr un mochyn yn mynd i mewn i’r styniwr nwy os yw’r crynodiad a ddangosir o garbon deuocsid yn ôl cyfaint yn y cymysgedd nwyon yn gostwng islaw 80%; a

(b)unwaith yr â mochyn i mewn i’r styniwr nwy, y caiff ei gludo i’r pwynt yn y styniwr nwy sydd â’r crynodiad uchaf o’r cymysgedd nwyon o fewn 30 eiliad fan hwyaf.

Dod i gysylltiad â nwy – dofednod

41.—(1Ni chaiff neb stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy—

(a)oni roddir pob aderyn mewn cysylltiad â’r nwy am gyfnod digon hir i sicrhau y’i lleddir; a

(b)mewn achos o stynio dofednod yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff 2(1)(c) o’r Atodlen hon, onid yw—

(i)y stynio yn digwydd yn y fangre lle cedwid y dofednod i gynhyrchu cig, wyau neu gynhyrchion eraill; a

(ii)perchennog y dofednod wedi hysbysu’r awdurdod cymwys mewn ysgrifen ymlaen llaw, o leiaf bum niwrnod gwaith cyn y dyddiad y mae’r stynio yn digwydd.

(2Ni chaiff neb stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad ag—

(a)cymysgedd nwyon 3 (“carbon deuocsid ynghyd â nwyon anadweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I, oni fydd y crynodiad o garbon deuocsid yn 20% yn ôl cyfaint neu’n is a’r crynodiad o ocsigen yn 5% yn ôl cyfaint neu’n is;

(b)cymysgedd nwyon 4 (“nwyon anadweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I oni fydd y crynodiad o ocsigen yn 2% yn ôl cyfaint neu’n is; neu

(c)cymysgedd nwyon 5 (“carbon monocsid ffynhonnell bur”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I.

(3Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy sicrhau—

(a)bod y styniwr nwy, gan gynnwys unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i gludo dofednod drwy’r nwy, wedi ei ddylunio, ei adeiladau a’i gynnal i osgoi anaf i unrhyw aderyn;

(b)bod y styniwr nwy yn cynnwys cyfarpar i gynnal y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I);

(c)bod modd monitro’r dofednod sydd yn y styniwr nwy yn weledol;

(d)bod modd fflysio’r styniwr nwy gydag aer atmosfferig, gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;

(e)bod modd cyrraedd at unrhyw ddofednod gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;

(f)bod y styniwr nwy yn cynnwys dyfeisiau ar gyfer—

(i)mesur ac arddangos yn ddi-dor y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I); a

(ii)rhoi signalau rhybuddio eglur, gweledol a chlywedol, os yw’r crynodiad nwyon yn gostwng islaw’r lefel sy’n ofynnol (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I);

(g)na chaniateir i unrhyw ddofednod fynd drwy’r styniwr nwy nac aros i mewn ynddo, ar unrhyw adeg pan fo’r signalau rhybuddio gweledol a chlywedol wedi’u hysgogi, neu pan fo unrhyw ddiffyg yng ngweithrediad y styniwr nwy;

(h)bod dofednod sy’n cyrraedd y styniwr nwy mewn crât cludo ac a dynnir allan o’r crât cyn mynd i mewn i’r styniwr nwy yn cael eu trin yn ofalus mewn ffordd nad yw’n achosi unrhyw boen, trallod na dioddefaint diangen; ac

(i)na wneir dim pellach i aderyn ar ôl ei roi mewn cysylltiad â’r nwy cyn cadarnhau bod yr aderyn yn farw.

(4Ni chaiff neb weithredu styniwr nwy a wnaed allan o sied dofednod neu adeilad arall a seliwyd ymlaen llaw ar gyfer stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy, ac eithrio o dan oruchwyliaeth uniongyrchol milfeddyg.

(5Yn is-baragraff (4), ystyr “sied dofednod” (“poultry shed”) yw adeilad a ddyluniwyd ac a adeiladwyd i letya dofednod, ac a seliwyd ymlaen llaw fel bod modd iddo gynnwys y cymysgeddau nwyon yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad 1.

Gwaedu neu bithio

42.—(1Rhaid i berson sy’n ymwneud â gwaedu neu bithio anifail a styniwyd yn syml sicrhau y caiff yr anifail ei waedu neu’i bithio yn ddi-oed ar ôl ei stynio yn syml.

(2Rhaid i berson sy’n ymwneud â gwaedu anifail a styniwyd yn syml sicrhau bod y gwaedu—

(a)yn gyflym, yn helaeth ac yn gyflawn;

(b)wedi ei gwblhau cyn i’r anifail ddod yn ymwybodol drachefn; ac

(c)yn cael ei gyflawni drwy dorri’r ddwy rydweli garotid neu’r pibellau gwaed y maent yn tarddu ohonynt.

(3Pan fo anifail yn cael ei waedu ar ôl ei stynio yn syml, ni chaiff neb beri na chaniatáu cyflawni unrhyw weithdrefn ddresio ychwanegol ar yr anifail na rhoi unrhyw ysgogiad trydanol iddo cyn bo’r gwaedu wedi dod i ben, a beth bynnag nid cyn diwedd cyfnodau fel a ganlyn—

(a)yn achos twrci neu ŵydd, cyfnod o ddim llai na 2 funud;

(b)yn achos unrhyw aderyn arall, cyfnod o ddim llai na 90 eiliad;

(c)yn achos anifeiliaid buchol, cyfnod o ddim llai na 30 eiliad; neu

(d)yn achos defaid, geifr, moch a cheirw, cyfnod o ddim llai nag 20 eiliad.

(4Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys i anifail sydd wedi ei bithio.

(5Pan fo un person yn gyfrifol am stynio yn syml a phithio, neu am stynio yn syml, gefynnu, codi a gwaedu anifeiliaid ac eithrio adar neu gwningod, neu ar gyfer rhai o’r gweithrediadau hynny, rhaid i’r cyfryw weithrediadau gael eu cyflawni yn olynol gan y person hwnnw mewn perthynas ag un anifail, cyn bo’r person hwnnw’n eu cyflawni felly mewn perthynas ag anifail arall.

(6Pan fo un person yn gyfrifol am stynio yn syml a gwaedu adar neu gwningod, rhaid i’r gweithrediadau hynny gael eu cyflawni yn olynol gan y person hwnnw mewn perthynas ag un aderyn neu gwningen, cyn bo’r person hwnnw’n eu cyflawni felly mewn perthynas ag aderyn neu gwningen arall.

Ceffylau

43.  Ni chaiff neb ladd ceffyl mewn iard gelanedd—

(a)ac eithrio mewn ystafell neu gilfach a ddarparwyd at y diben hwnnw yn unol â pharagraff 10(a);

(b)mewn ystafell neu gilfach sy’n cynnwys gweddillion ceffyl neu anifail arall; neu

(c)yng ngolwg unrhyw geffyl arall.

Cywion dros ben mewn gwastraff deorfa

44.—(1Ni chaiff neb ladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed mewn gwastraff deorfa, ac eithrio drwy ddefnyddio un o’r dulliau canlynol—

(a)malu yn unol â Thabl 1 o Bennod I a Phennod II o Atodiad I;

(b)drwy ddod â’r cywion i gysylltiad â chymysgedd nwyon yn unol â Thabl 3 o Bennod I a Phennod II o Atodiad I a’r paragraff hwn; neu

(c)pan nad oes dull arall ar gael i’w lladd, ysigo gyddfau yn unol â Thabl 1 o Bennod I a Phennod II o Atodiad I.

(2Ni chaiff neb ladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed mewn gwastraff deorfa drwy ddod â’r cywion i gysylltiad â chymysgedd nwyon oni roddir y cywion yn y cymysgedd nwyon a’u bod yn aros yn y cymysgedd nwyon nes byddant farw.

(3Rhaid lladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed mewn gwastraff deorfa mor gyflym ag y bo modd.