xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2GOFYNION YCHWANEGOL AR GYFER LLADD ANIFEILIAID AC EITHRIO MEWN LLADD-DAI

RHAN 3Gweithrediadau trin

Gofynion cyffredinol

11.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau—

(a)y dadlwythir pob anifail cyn gynted ag y bo modd wedi iddo gyrraedd;

(b)y diogelir pob anifail rhag effeithiau amodau tywydd garw ac y darperir awyru digonol ar ei gyfer;

(c)os yw anifail wedi dioddef tymheredd uchel mewn tywydd llaith, y defnyddir dull priodol i’w oeri;

(d)tra’n aros i ladd anifail sy’n sâl neu’n anabl, y cedwir yr anifail hwnnw ar wahân i unrhyw anifail nad yw’n sâl neu’n anabl; ac

(e)nad oes neb yn llusgo anifail sydd wedi ei stynio neu’i ladd dros unrhyw anifail arall nad yw wedi ei stynio neu’i ladd.

Arolygu anifeiliaid

12.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau yr arolygir cyflwr pob anifail a stad ei iechyd, o leiaf bob bore a min nos, gan weithredwr y busnes neu gan berson cymwys sy’n gweithredu ar ran gweithredwr y busnes.

Anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint ac anifeiliaid nas diddyfnwyd

13.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau bod anifeiliaid fel a ganlyn yn cael eu lladd ar unwaith—

(a)anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint wrth eu cludo neu ar ôl cyrraedd; a

(b)anifeiliaid sy’n rhy ifanc i gymryd bwyd anifeiliaid solet.

Lladd mewn argyfwng

14.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu ddarparu gwalfeydd i anifeiliaid sicrhau na chaiff anifail sy’n analluog i gerdded ei lusgo i’r man lle y’i lleddir, ond yn hytrach—

(a)y’i lleddir yn y man lle mae’n gorwedd; neu

(b)os yw’n bosibl ac os na fyddai gwneud hynny yn achosi unrhyw boen neu ddioddefaint diangen i’r anifail, ei gludo ar droli neu lwyfan symudol i fan ar gyfer lladd mewn argyfwng, a’i ladd ar unwaith yno.

Anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynwysyddion

15.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu ddarparu gwalfeydd i anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynhwysydd sicrhau—

(a)y cymerir gofal i beidio â dychryn, cynhyrfu na cham-drin anifail;

(b)na chaiff unrhyw anifail ei droi ben i waered;

(c)os na leddir anifail ar unwaith wedi iddo gyrraedd, y darperir gwalfa iddo; ac

(d)nad eir ag unrhyw anifail i’r man lladd oni ellir ei ladd heb oedi.

Codi neu lusgo anifeiliaid

16.  Ni chaiff neb godi na llusgo anifail gerfydd ei ben, ei gyrn, ei glustiau, ei draed, ei gynffon, ei gnu neu unrhyw ran arall o’i gorff mewn ffordd a fydd yn achosi poen neu ddioddefaint diangen i’r anifail.

Gyrru anifeiliaid

17.  Ni chaiff neb arwain na gyrru anifail dros dir neu lawr y mae ei natur neu’i gyflwr yn debygol o beri i’r anifail lithro neu syrthio.

Symud anifeiliaid â gofal

18.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod pob anifail yn cael ei symud â gofal, a phan fo angen, bod anifeiliaid yn cael eu harwain fesul un.

Offerynnau ar gyfer arwain anifeiliaid

19.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod unrhyw offeryn a fwriedir ar gyfer arwain anifail yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw’n unig, a hynny am gyfnodau byr yn unig, ac ar anifeiliaid unigol.

Offerynnau ar gyfer gwneud i anifeiliaid symud

20.  Ni chaiff neb ddefnyddio offeryn sy’n rhoi sioc drydanol er mwyn gwneud i anifail symud, ac eithrio y caniateir defnyddio offeryn o’r fath, a ddyluniwyd at y diben o wneud i anifail symud, ar anifeiliaid buchol llawn-dwf a moch llawn-dwf sy’n gwrthod symud, ar yr amod—

(a)yr osgoir defnyddio offeryn o’r fath i’r graddau mwyaf posibl;

(b)na fydd y siociau’n parhau am fwy nag un eiliad ar y tro, y bydd bylchau digonol rhyngddynt ac na chânt eu defnyddio droeon yn olynol os nad yw’r anifail yn ymateb;

(c)bod digon o le o flaen yr anifail, i’r anifail symud iddo; a

(d)mai ar gyhyrau’r bedrain yn unig y rhoddir siociau o’r fath.

Trin anifeiliaid

21.  Ni chaiff neb—

(a)taro, na rhoi pwysau ar, unrhyw ran o gorff anifail sy’n arbennig o sensitif;

(b)gwasgu, troi neu dorri cynffon anifail, neu gydio yn llygad anifail; neu

(c)taro neu gicio anifail.

Gwalfeydd ar gyfer anifeiliaid

22.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â darparu gwalfeydd i anifeiliaid sicrhau—

(a)y darperir cyflenwad digonol o ddeunydd gorwedd addas ar gyfer pob anifail a gedwir mewn gwalfa dros nos, oni bai bod gan y walfa lawr slatiog neu rwyllog;

(b)bod dŵr yfed ar gael o gyfleusterau priodol drwy gydol yr amser i anifail a gedwir mewn gwalfa;

(c)y darperir swmp digonol o fwyd iachus i anifail wrth iddo gyrraedd y walfa a dwywaith y dydd wedi hynny, ac eithrio na fydd angen bwydo unrhyw anifail o fewn 12 awr i’r adeg pan leddir yr anifail;

(d)y darperir y bwyd mewn ffordd a fydd yn caniatáu i’r anifeiliaid fwydo heb darfu arnynt yn ddiangen;

(e)y gall anifail a gedwir mewn gwalfa heb ei rwymo orwedd, sefyll a throi rownd yn ddidrafferth; ac

(f)y gall anifail a gedwir wedi ei rwymo mewn gwalfa orwedd a sefyll yn ddidrafferth.

Trin anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddion

23.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddion sicrhau—

(a)bod unrhyw gynhwysydd y cludir anifail ynddo yn cael ei drin â gofal ac na chaiff ei daflu, ei ollwng na’i daro drosodd;

(b)pan fo modd, y llwythir ac y dadlwythir y cynhwysydd yn llorweddol ac yn fecanyddol;

(c)bod unrhyw anifail a ddanfonir mewn cynhwysydd sydd â gwaelod trydyllog neu hyblyg iddo yn cael ei ddadlwytho â gofal arbennig er mwyn osgoi unrhyw anaf; a

(d)pan fo’n briodol, y dadlwythir anifeiliaid o gynwysyddion fesul un.

Lladd anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddion

24.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu drin anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddion sicrhau—

(a)bod anifeiliaid a gludwyd mewn cynwysyddion yn cael eu lladd cyn gynted ag y bo modd; ac

(b)os digwydd unrhyw oedi cyn eu lladd ac os bydd angen—

(i)bod dŵr yfed ar gael i’r anifeiliaid o gyfleusterau addas drwy gydol yr amser; a

(ii)y darperir swmp digonol o fwyd iachus i anifail wrth iddo gyrraedd y walfa a dwywaith y dydd wedi hynny, ac eithrio na fydd angen bwydo unrhyw anifail o fewn 12 awr i’r adeg pan leddir yr anifail.

Dofednod sy’n aros i’w lladd yn y man lle’u prynir

25.  Rhaid i weithredwr y busnes, neu berson sydd â gofal o unrhyw fangre lle y cynigir dofednod ar werth, neu y dangosir dofednod ar gyfer eu gwerthu cyn eu lladd yn y fangre honno, sicrhau bod y dofednod, yn ddi-oed pan gyrhaeddant y fangre—

(a)yn cael eu rhoi mewn llety lle y gallant sefyll, troi rownd ac estyn eu hadenydd yn ddidrafferth; a

(b)y darperir cyflenwad digonol o fwyd iachus a dŵr yfed glân iddynt.