ATODLEN 2GOFYNION YCHWANEGOL AR GYFER LLADD ANIFEILIAID AC EITHRIO MEWN LLADD-DAI
RHAN 5Gweithrediadau stynio a lladd
Dod i gysylltiad â nwy – gwaharddiad39
1
Ni chaiff neb stynio anifail y tu allan i ladd-dy drwy ddod â’r anifail i gysylltiad â nwy.
2
Ond nid yw’r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys o ran stynio—
a
moch mewn iard gelanedd, neu
b
dofednod,
ar yr amod bod y moch neu’r dofednod yn cael eu stynio yn unol â pharagraffau 40 neu 41, fel y bo’n briodol.