xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 26
1. Yn yr Atodlen hon, ystyr “anifail” (“animal”) yw anifeiliaid carngaled, cilgnowyr, moch, cwningod, dofednod neu ratidau.
2.—(1) Mae’r Atodlen hon yn gymwys i’r canlynol—
(a)lladd anifeiliaid mewn iard gelanedd;
(b)lladd dofednod neu gwningod ar y fferm at y diben o gyflenwi meintiau bach o gig gan y cynhyrchwr yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi cig o’r fath yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol fel cig ffres yn unol ag Erthygl 11; ac
(c)lladd anifeiliaid ac eithrio mewn lladd-dy neu yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).
(2) Ond yn achos anifeiliaid a leddir yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-baragraff (1)(c)—
(a)nid yw Rhannau 2 a 3 yn gymwys; a
(b)nid yw Rhan 4 yn gymwys oni leddir yr anifail drwy waedu.
3.—(1) Nid oes dim yn yr Atodlen hon sy’n gymwys i’r canlynol—
(a)lladd anifail mewn lladd-dy;
(b)lladd anifail at y diben o reoli clefyd, oni chaiff ei stynio gan follt gaeth dreiddiol neu drydanu, ac mewn achos o’r fath, rhaid stynio’r anifail yn unol â pharagraffau 34, 37 neu 38 o Ran 5 (yn ôl fel y digwydd);
(c)lladd mochyn, dafad neu afr gan berchennog yr anifail ar gyfer ei fwyta gartref yn breifat gan y perchennog, oni chaiff yr anifail ei ladd drwy waedu, ac mewn achos o’r fath, rhaid stynio’r anifail a’i waedu yn unol â Rhan 5; neu
(d)lladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed neu embryonau mewn gwastraff deorfa, ar yr amod y cydymffurfir â pharagraff 44.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “rheoli clefyd” (“disease control”) yw rheoli, gan yr awdurdod cymwys, unrhyw glefyd sy’n hysbysadwy gan neu o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) neu’n unol ag unrhyw rwymedigaeth UE.
4. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod gan y busnes gyfarpar a chyfleusterau addas ar gael at y diben o ddadlwytho anifeiliaid o foddion cludo;
(b)nad oes unrhyw ymylon neu allwthiadau miniog y gallai anifail ddod i gyffyrddiad â hwy;
(c)bod y man lladd wedi’i leoli mewn ffordd sy’n lleihau i’r eithaf yr angen i drin yr anifail ar unrhyw adeg cyn ei ladd;
(d)bod unrhyw offeryn, cyfarpar ffrwyno, cyfarpar arall neu osodiad a ddefnyddir ar gyfer stynio neu ladd, wedi eu dylunio, adeiladu a’u cynnal fel eu bod yn hwyluso stynio neu ladd yn gyflym ac effeithiol; ac
(e)bod unrhyw ddiffyg a ganfyddir mewn cyfarpar wrth gefn ar gyfer stynio neu ladd yn cael ei unioni ar unwaith.
5. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod uchder a dyluniad y cyfarpar ar gyfer dadlwytho anifeiliaid, a ddanfonir rywfodd heblaw mewn cynwysyddion, yn addas at y diben hwnnw, gyda llawr gwrthlithro ac, os oes angen, ochrau diogelwch o boptu;
(b)y gosodir ochrau, rheiliau neu fath arall o foddion diogelu ar unrhyw bontydd, rampiau a phomprennau, i atal anifeiliaid rhag syrthio oddi arnynt;
(c)bod y rampiau ymadael a mynediad yn goleddfu cyn lleied ag y bo modd; a
(d)bod pob tramwyfa wedi ei hadeiladu mewn ffordd sy’n lleihau i’r eithaf y risg o niwed i anifail, ac wedi ei threfnu gan roi sylw i dueddiadau heidiol yr anifeiliaid sy’n defnyddio’r tramwyfeydd.
6. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod nifer digonol o lociau yn y fangre i ddarparu gwalfeydd addas i’r anifeiliaid a’u diogelu rhag effeithiau amodau tywydd garw; a
(b)bod gan y gwalfeydd—
(i)llawr sy’n lleihau i’r eithaf y risg o lithro, ac nad yw’n achosi anaf i unrhyw anifail a ddaw i gyffyrddiad ag ef;
(ii)dull awyru digonol, sy’n sicrhau bod y tymheredd, lleithder cymharol yr aer a’r lefelau amonia yn cael eu cadw o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i anifail, o ystyried yr eithafion tymheredd a lleithder y gellir eu disgwyl;
(iii)os nad awyru naturiol yw’r dull awyru a ddarperir, dull wrth gefn ar gael i gynnal awyru digonol, i’w defnyddio pe bai’r ffynhonnell awyru wreiddiol yn diffygio;
(iv)goleuadau digonol (boed sefydlog neu gludadwy) fel y gellir arolygu anifeiliaid yn drwyadl ar unrhyw adeg;
(v)pan fo angen, cyfarpar addas ar gyfer rhwymo anifeiliaid; a
(vi)cyfleusterau yfed a rheseli, mansieri neu gyfarpar arall, digonol o ran nifer a maint i ddyfrhau a bwydo’r holl anifeiliaid a gaethiwir yn y gwalfeydd, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r holl anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.
7. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod gwalfa mewn cae—
(a)os nad oes ynddi fannau cysgodi neu gysgod naturiol, ac os defnyddir hi yn ystod amodau tywydd garw, yn cynnwys amddiffynfa briodol i unrhyw anifail sy’n ei defnyddio rhag amodau o’r fath;
(b)wedi ei chynnal mewn cyflwr a fydd yn sicrhau na roddir unrhyw anifail mewn perygl o niwed corfforol neu gemegol, neu niwed arall i’w iechyd;
(c)pan fo angen, yn cynnwys cyfarpar addas ar gyfer rhwymo anifeiliaid;
(d)yn cynnwys goleuadau digonol (boed sefydlog neu gludadwy) sydd ar gael fel y gellir arolygu anifeiliaid yn drwyadl ar unrhyw adeg; ac
(e)yn cynnwys cyfleusterau yfed, a phan fo angen, rheseli, mansieri neu gyfarpar arall, digonol o ran nifer a maint i ddyfrhau a bwydo’r holl anifeiliaid a gaethiwir ynddi, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r holl anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.
8. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod unrhyw linell gefynnu wedi’i dylunio a’i lleoli mewn ffordd sy’n cadw’r dofednod sy’n hongian ohoni yn glir o unrhyw rwystrau, ac yr ymyrrir cyn lleied ag y bo modd â’r adar;
(b)bod hyd cyfan y llinell gefynnu, hyd at y pwynt mynediad i’r tanc sgaldio, o fewn cyrraedd i unrhyw berson yn ddi-oed, fel y gellir rhoi sylw i unrhyw ddofednod ar unwaith pe bai angen; a
(c)bod modd cael mynediad yn hwylus at unrhyw linell gefynnu neu gyfarpar prosesu a ddefnyddir ar gyfer dofednod byw, ac at unrhyw reolyddion cyfarpar o’r fath.
9. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod lloc stynio a ddefnyddir i ffrwyno anifeiliaid buchol llawn-dwf at y diben o’u stynio wedi ei adeiladu fel ei fod——
(a)yn caniatáu caethiwo un anifail ar y tro ynddo heb beri anghysur iddo;
(b)yn rhwystro anifail a gaethiwir ynddo rhag symud unrhyw bellter sylweddol ymlaen, yn ôl nac i’r ochr;
(c)yn cyfyngu ar symudiad pen anifail a gaethiwir ynddo, i ganiatáu stynio manwl gywir, a chaniatáu rhyddhau pen yr anifail ar unwaith ar ôl stynio’r anifail; a
(d)yn caniatáu mynediad dirwystr at dalcen anifail a gaethiwir ynddo.
10. Os yw iard gelanedd yn un y lleddir ceffylau ynddi, rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)y darperir ystafell neu gilfach ar wahân ar gyfer lladd ceffylau;
(b)bod rhaid i walfa y caethiwir ceffyl ynddi gynnwys o leiaf un stâl rydd, a adeiladwyd mewn modd sy’n lleihau i’r eithaf y perygl y gall unrhyw geffyl anafu ei hunan neu unrhyw anifail arall a gaethiwir yn y walfa honno.
11. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau—
(a)y dadlwythir pob anifail cyn gynted ag y bo modd wedi iddo gyrraedd;
(b)y diogelir pob anifail rhag effeithiau amodau tywydd garw ac y darperir awyru digonol ar ei gyfer;
(c)os yw anifail wedi dioddef tymheredd uchel mewn tywydd llaith, y defnyddir dull priodol i’w oeri;
(d)tra’n aros i ladd anifail sy’n sâl neu’n anabl, y cedwir yr anifail hwnnw ar wahân i unrhyw anifail nad yw’n sâl neu’n anabl; ac
(e)nad oes neb yn llusgo anifail sydd wedi ei stynio neu’i ladd dros unrhyw anifail arall nad yw wedi ei stynio neu’i ladd.
12. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau yr arolygir cyflwr pob anifail a stad ei iechyd, o leiaf bob bore a min nos, gan weithredwr y busnes neu gan berson cymwys sy’n gweithredu ar ran gweithredwr y busnes.
13. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau bod anifeiliaid fel a ganlyn yn cael eu lladd ar unwaith—
(a)anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint wrth eu cludo neu ar ôl cyrraedd; a
(b)anifeiliaid sy’n rhy ifanc i gymryd bwyd anifeiliaid solet.
14. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu ddarparu gwalfeydd i anifeiliaid sicrhau na chaiff anifail sy’n analluog i gerdded ei lusgo i’r man lle y’i lleddir, ond yn hytrach—
(a)y’i lleddir yn y man lle mae’n gorwedd; neu
(b)os yw’n bosibl ac os na fyddai gwneud hynny yn achosi unrhyw boen neu ddioddefaint diangen i’r anifail, ei gludo ar droli neu lwyfan symudol i fan ar gyfer lladd mewn argyfwng, a’i ladd ar unwaith yno.
15. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu ddarparu gwalfeydd i anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynhwysydd sicrhau—
(a)y cymerir gofal i beidio â dychryn, cynhyrfu na cham-drin anifail;
(b)na chaiff unrhyw anifail ei droi ben i waered;
(c)os na leddir anifail ar unwaith wedi iddo gyrraedd, y darperir gwalfa iddo; ac
(d)nad eir ag unrhyw anifail i’r man lladd oni ellir ei ladd heb oedi.
16. Ni chaiff neb godi na llusgo anifail gerfydd ei ben, ei gyrn, ei glustiau, ei draed, ei gynffon, ei gnu neu unrhyw ran arall o’i gorff mewn ffordd a fydd yn achosi poen neu ddioddefaint diangen i’r anifail.
17. Ni chaiff neb arwain na gyrru anifail dros dir neu lawr y mae ei natur neu’i gyflwr yn debygol o beri i’r anifail lithro neu syrthio.
18. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod pob anifail yn cael ei symud â gofal, a phan fo angen, bod anifeiliaid yn cael eu harwain fesul un.
19. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod unrhyw offeryn a fwriedir ar gyfer arwain anifail yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw’n unig, a hynny am gyfnodau byr yn unig, ac ar anifeiliaid unigol.
20. Ni chaiff neb ddefnyddio offeryn sy’n rhoi sioc drydanol er mwyn gwneud i anifail symud, ac eithrio y caniateir defnyddio offeryn o’r fath, a ddyluniwyd at y diben o wneud i anifail symud, ar anifeiliaid buchol llawn-dwf a moch llawn-dwf sy’n gwrthod symud, ar yr amod—
(a)yr osgoir defnyddio offeryn o’r fath i’r graddau mwyaf posibl;
(b)na fydd y siociau’n parhau am fwy nag un eiliad ar y tro, y bydd bylchau digonol rhyngddynt ac na chânt eu defnyddio droeon yn olynol os nad yw’r anifail yn ymateb;
(c)bod digon o le o flaen yr anifail, i’r anifail symud iddo; a
(d)mai ar gyhyrau’r bedrain yn unig y rhoddir siociau o’r fath.
21. Ni chaiff neb—
(a)taro, na rhoi pwysau ar, unrhyw ran o gorff anifail sy’n arbennig o sensitif;
(b)gwasgu, troi neu dorri cynffon anifail, neu gydio yn llygad anifail; neu
(c)taro neu gicio anifail.
22. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â darparu gwalfeydd i anifeiliaid sicrhau—
(a)y darperir cyflenwad digonol o ddeunydd gorwedd addas ar gyfer pob anifail a gedwir mewn gwalfa dros nos, oni bai bod gan y walfa lawr slatiog neu rwyllog;
(b)bod dŵr yfed ar gael o gyfleusterau priodol drwy gydol yr amser i anifail a gedwir mewn gwalfa;
(c)y darperir swmp digonol o fwyd iachus i anifail wrth iddo gyrraedd y walfa a dwywaith y dydd wedi hynny, ac eithrio na fydd angen bwydo unrhyw anifail o fewn 12 awr i’r adeg pan leddir yr anifail;
(d)y darperir y bwyd mewn ffordd a fydd yn caniatáu i’r anifeiliaid fwydo heb darfu arnynt yn ddiangen;
(e)y gall anifail a gedwir mewn gwalfa heb ei rwymo orwedd, sefyll a throi rownd yn ddidrafferth; ac
(f)y gall anifail a gedwir wedi ei rwymo mewn gwalfa orwedd a sefyll yn ddidrafferth.
23. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddion sicrhau—
(a)bod unrhyw gynhwysydd y cludir anifail ynddo yn cael ei drin â gofal ac na chaiff ei daflu, ei ollwng na’i daro drosodd;
(b)pan fo modd, y llwythir ac y dadlwythir y cynhwysydd yn llorweddol ac yn fecanyddol;
(c)bod unrhyw anifail a ddanfonir mewn cynhwysydd sydd â gwaelod trydyllog neu hyblyg iddo yn cael ei ddadlwytho â gofal arbennig er mwyn osgoi unrhyw anaf; a
(d)pan fo’n briodol, y dadlwythir anifeiliaid o gynwysyddion fesul un.
24. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu drin anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddion sicrhau—
(a)bod anifeiliaid a gludwyd mewn cynwysyddion yn cael eu lladd cyn gynted ag y bo modd; ac
(b)os digwydd unrhyw oedi cyn eu lladd ac os bydd angen—
(i)bod dŵr yfed ar gael i’r anifeiliaid o gyfleusterau addas drwy gydol yr amser; a
(ii)y darperir swmp digonol o fwyd iachus i anifail wrth iddo gyrraedd y walfa a dwywaith y dydd wedi hynny, ac eithrio na fydd angen bwydo unrhyw anifail o fewn 12 awr i’r adeg pan leddir yr anifail.
25. Rhaid i weithredwr y busnes, neu berson sydd â gofal o unrhyw fangre lle y cynigir dofednod ar werth, neu y dangosir dofednod ar gyfer eu gwerthu cyn eu lladd yn y fangre honno, sicrhau bod y dofednod, yn ddi-oed pan gyrhaeddant y fangre—
(a)yn cael eu rhoi mewn llety lle y gallant sefyll, troi rownd ac estyn eu hadenydd yn ddidrafferth; a
(b)y darperir cyflenwad digonol o fwyd iachus a dŵr yfed glân iddynt.
26. Ni chaiff neb stynio na lladd anifail heb ffrwyno’r anifail mewn modd priodol.
27. Heb leihau cyffredinolrwydd paragraff 26, ni chaiff neb stynio anifail buchol llawn-dwf mewn iard gelanedd oni fydd yr anifail, ar yr adeg y caiff ei stynio—
(a)wedi ei gaethiwo mewn lloc stynio sydd mewn cyflwr gweithredol da; neu
(b)gyda’i ben ynghlwm yn ddiogel, mewn safle sy’n galluogi stynio’r anifail heb achosi poen, trallod na dioddefaint diangen iddo.
28. Ni chaiff neb ddefnyddio cyfarpar stynio neu gyfarpar lladd trydanol nac unrhyw offeryn arall sy’n defnyddio cerrynt trydanol ar anifail—
(a)fel modd i ffrwyno’r anifail;
(b)fel modd i lonyddu’r anifail; neu
(c)ac eithrio’n unol â pharagraff 20 o’r Atodlen hon, fel modd i wneud i’r anifail symud.
29. Ni chaiff neb glymu coesau anifail.
30.—(1) Ni chaiff neb hongian anifail cyn ei stynio neu’i ladd.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys yn achos dofednod, y caniateir eu hongian ar gyfer eu stynio neu’u lladd, ar yr amod—
(a)y cymerir camau priodol i sicrhau bod y dofednod, ar yr adeg y cânt eu stynio neu’u lladd wedi ymlacio’n ddigonol i’w stynio neu’u lladd yn effeithiol a heb oedi’n ormodol; a
(b)na chaiff dofednod eu hongian am gyfnod hwy na 3 munud yn achos tyrcwn, neu 2 funud mewn achosion eraill, cyn eu stynio neu’u lladd.
31.—(1) Ni chaiff neb weithredu llinell gefynnu—
(a)oni chedwir y dofednod sy’n hongian ohoni yn glir o unrhyw wrthrych a allai achosi poen, trallod neu ddioddefaint diangen iddynt, gan gynnwys pan fo’u hadenydd ar led, hyd nes cânt eu stynio;
(b)onid oes modd lleddfu unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint diangen y mae’n ymddangos y dioddefir gan ddofednod sy’n hongian o’r gefynnau, neu dynnu dofednod o’r gefynnau; ac
(c)onid yw cyflymder gweithredu’r llinell gefynnu yn galluogi cyflawni unrhyw weithred neu weithrediad arfaethedig, ar neu mewn perthynas â’r dofednod sy’n hongian o’r llinell gefynnu, heb frysio’n ormodol a chan roi sylw priodol i les y dofednod.
(2) Ni chaiff neb, mewn cysylltiad â stynio neu ladd dofednod, ddefnyddio llinell gefynnu, peiriant neu gyfarpar arall, oni ddefnyddir y cyfryw mewn cysylltiad â stynio neu ladd dofednod o’r math, y maint a’r pwysau y dyluniwyd y llinell gefynnu, y peiriant neu’r cyfarpar arall ar eu cyfer, ac eithrio mewn argyfwng pan ddefnyddir y cyfryw i leddfu dioddefaint.
32. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio neu ladd anifail sicrhau bod anifail, y bwriedir ei stynio neu ei ladd drwy weithredu dull mecanyddol neu drydanol ar y pen, yn cael ei gyflwyno mewn safle sy’n galluogi lleoli a gweithredu’r cyfarpar yn hawdd, yn fanwl gywir ac am yr amser priodol.
33.—(1) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio neu ladd anifail sicrhau bod unrhyw offeryn, cyfarpar ffrwyno, gosodiad neu gyfarpar arall a ddefnyddir ar gyfer stynio neu ladd yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n hwyluso stynio neu ladd yn gyflym ac effeithiol.
(2) Yn achos stynio syml, ni chaiff neb stynio anifail onid yw’n bosibl lladd yr anifail heb oedi.
34.—(1) Ni chaiff neb ddefnyddio dyfais bollt gaeth dreiddiol i stynio anifail oni bai—
(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), y lleolir ac y defnyddir y ddyfais er mwyn sicrhau bod y bollt yn treiddio i mewn i gortecs yr ymennydd; a
(b)y defnyddir cetrisen neu bropelydd arall o’r cryfder priodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, er mwyn cynhyrchu styniad effeithiol.
(2) Ni chaiff neb saethu anifail buchol y tu ôl i’r pen.
(3) Ni chaiff neb saethu dafad neu afr y tu ôl i’r pen, oni fydd presenoldeb cyrn yn rhwystro defnyddio’r rhan uchaf neu ran flaen y pen, ac os felly caniateir ei saethu y tu ôl i’r pen, ar yr amod—
(a)y lleolir yr ergyd yn union y tu ôl i waelod y cyrn, gan anelu tuag at y geg; a
(b)y cychwynnir gwaedu o fewn 15 eiliad ar ôl saethu, neu y lleddir y ddafad neu’r afr drwy weithdrefn arall o fewn 15 eiliad ar ôl saethu.
(4) Rhaid i berson sy’n defnyddio dyfais bollt gaeth wirio bod y follt wedi dychwelyd i’w lle yr holl ffordd ar ôl pob ergyd ac os nad yw’r follt wedi dychwelyd felly, rhaid iddo sicrhau na ddefnyddir y ddyfais honno drachefn hyd nes bo’r ddyfais wedi ei hatgyweirio.
35. Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio bollt gaeth anhreiddiol ac eithrio gydag offeryn a leolir yn y man priodol ac a ddefnyddir gyda chetrisen neu bropelydd arall o’r cryfder priodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, er mwyn cynhyrchu styniad effeithiol.
36.—(1) Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio ergyd tarawol anfecanyddol i’r pen.
(2) Ond nid yw’r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i gwningod, ar yr amod y cyflawnir y gweithrediad mewn ffordd sy’n peri bod y gwningen yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.
37.—(1) Ni chaiff neb ddefnyddio electrodau i stynio anifail oni bai—
(a)y cymerir camau priodol i sicrhau cyswllt trydanol da; a
(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod yr anifail yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.
(2) Ni chaiff neb ddefnyddio electrodau i stynio anifail unigol oni fydd y cyfarpar—
(a)yn cynnwys dyfais glywadwy neu weladwy sy’n dangos am faint o amser y defnyddir y cyfarpar ar yr anifail; a
(b)wedi ei gysylltu â dyfais sy’n dangos y foltedd a’r cerrynt o dan lwyth ac wedi ei gosod lle y gall y gweithredwr ei gweld yn eglur.
38. Ni chaiff neb ddefnyddio styniwr bath dŵr i stynio dofednod oni bai—
(a)bod lefel y dŵr yn y bath dŵr wedi ei addasu i sicrhau cyswllt da â phen pob un o’r adar;
(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod y dofednod yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes byddant farw;
(c)os stynir grwpiau o ddofednod mewn bath dŵr, y cynhelir foltedd sy’n ddigonol i gynhyrchu cerrynt digon cryf i sicrhau y stynir pob un o’r adar;
(d)y cymerir camau priodol i sicrhau bod y cerrynt yn llifo’n effeithlon, sef yn benodol, bod cysylltiadau trydanol da;
(e)bod y styniwr bath dŵr yn ddigonol, o ran ei faint a’i ddyfnder, ar gyfer y math o ddofednod a stynir;
(f)nad yw’r styniwr bath dŵr yn gorlifo yn y fynedfa, neu, os na ellir osgoi gorlifiad, y cymerir camau i sicrhau nad oes unrhyw ddofednod yn cael sioc drydanol cyn eu stynio;
(g)bod yr electrod sydd o dan wyneb y dŵr yn ymestyn am hyd cyfan y bath dŵr; ac
(h)bod person ar gael a fydd yn canfod a yw’r styniwr bath dŵr wedi stynio’r dofednod yn effeithiol ai peidio, ac os na fu’n effeithiol, a fydd naill ai’n stynio neu’n lladd y dofednod yn ddi-oed.
39.—(1) Ni chaiff neb stynio anifail y tu allan i ladd-dy drwy ddod â’r anifail i gysylltiad â nwy.
(2) Ond nid yw’r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys o ran stynio—
(a)moch mewn iard gelanedd, neu
(b)dofednod,
ar yr amod bod y moch neu’r dofednod yn cael eu stynio yn unol â pharagraffau 40 neu 41, fel y bo’n briodol.
40.—(1) Ni chaiff neb stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â nwy oni roddir pob mochyn mewn cysylltiad â’r nwy am gyfnod digon hir i sicrhau y lleddir y mochyn.
(2) Ni chaiff neb stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â chymysgedd nwyon 5 (“carbon monocsid ffynhonnell bur”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I.
(3) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â nwy sicrhau—
(a)bod y styniwr nwy, gan gynnwys unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i gludo mochyn drwy’r cymysgedd nwyon, wedi ei ddylunio, ei adeiladau a’i gynnal er mwyn—
(i)osgoi anaf i unrhyw fochyn;
(ii)osgoi cywasgu brest unrhyw fochyn;
(iii)galluogi mochyn i barhau i sefyll hyd nes â’n anymwybodol; a
(iv)galluogi mochyn i weld moch eraill wrth iddo gael ei gludo yn y styniwr nwy;
(b)bod y styniwr nwy a’r mecanwaith cludo wedi eu goleuo’n ddigonol, er mwyn caniatáu i foch weld moch eraill neu eu hamgylchoedd;
(c)bod y styniwr nwy yn cynnwys cyfarpar i gynnal y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I);
(d)bod modd monitro’r moch sydd yn y styniwr nwy yn weledol;
(e)bod modd fflysio’r styniwr nwy gydag aer atmosfferig, gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(f)bod modd cyrraedd at unrhyw fochyn gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(g)bod y styniwr nwy yn cynnwys dyfeisiau ar gyfer—
(i)mesur ac arddangos yn ddi-dor y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I); a
(ii)rhoi signalau rhybuddio eglur, gweledol a chlywedol, os yw’r crynodiad nwyon yn gostwng islaw’r lefel sy’n ofynnol (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I); ac
(h)na chaniateir i unrhyw fochyn fynd drwy’r styniwr nwy nac aros i mewn ynddo, ar unrhyw adeg pan fo’r signalau rhybuddio gweledol a chlywedol wedi’u hysgogi, neu pan fo unrhyw ddiffyg yng ngweithrediad y styniwr nwy.
(4) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad uniongyrchol â chymysgedd nwyon 1 (“carbon deuocsid mewn crynodiad uchel”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I sicrhau—
(a)nad oes yr un mochyn yn mynd i mewn i’r styniwr nwy os yw’r crynodiad a ddangosir o garbon deuocsid yn ôl cyfaint yn y cymysgedd nwyon yn gostwng islaw 80%; a
(b)unwaith yr â mochyn i mewn i’r styniwr nwy, y caiff ei gludo i’r pwynt yn y styniwr nwy sydd â’r crynodiad uchaf o’r cymysgedd nwyon o fewn 30 eiliad fan hwyaf.
41.—(1) Ni chaiff neb stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy—
(a)oni roddir pob aderyn mewn cysylltiad â’r nwy am gyfnod digon hir i sicrhau y’i lleddir; a
(b)mewn achos o stynio dofednod yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff 2(1)(c) o’r Atodlen hon, onid yw—
(i)y stynio yn digwydd yn y fangre lle cedwid y dofednod i gynhyrchu cig, wyau neu gynhyrchion eraill; a
(ii)perchennog y dofednod wedi hysbysu’r awdurdod cymwys mewn ysgrifen ymlaen llaw, o leiaf bum niwrnod gwaith cyn y dyddiad y mae’r stynio yn digwydd.
(2) Ni chaiff neb stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad ag—
(a)cymysgedd nwyon 3 (“carbon deuocsid ynghyd â nwyon anadweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I, oni fydd y crynodiad o garbon deuocsid yn 20% yn ôl cyfaint neu’n is a’r crynodiad o ocsigen yn 5% yn ôl cyfaint neu’n is;
(b)cymysgedd nwyon 4 (“nwyon anadweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I oni fydd y crynodiad o ocsigen yn 2% yn ôl cyfaint neu’n is; neu
(c)cymysgedd nwyon 5 (“carbon monocsid ffynhonnell bur”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I.
(3) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy sicrhau—
(a)bod y styniwr nwy, gan gynnwys unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i gludo dofednod drwy’r nwy, wedi ei ddylunio, ei adeiladau a’i gynnal i osgoi anaf i unrhyw aderyn;
(b)bod y styniwr nwy yn cynnwys cyfarpar i gynnal y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I);
(c)bod modd monitro’r dofednod sydd yn y styniwr nwy yn weledol;
(d)bod modd fflysio’r styniwr nwy gydag aer atmosfferig, gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(e)bod modd cyrraedd at unrhyw ddofednod gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(f)bod y styniwr nwy yn cynnwys dyfeisiau ar gyfer—
(i)mesur ac arddangos yn ddi-dor y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I); a
(ii)rhoi signalau rhybuddio eglur, gweledol a chlywedol, os yw’r crynodiad nwyon yn gostwng islaw’r lefel sy’n ofynnol (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I);
(g)na chaniateir i unrhyw ddofednod fynd drwy’r styniwr nwy nac aros i mewn ynddo, ar unrhyw adeg pan fo’r signalau rhybuddio gweledol a chlywedol wedi’u hysgogi, neu pan fo unrhyw ddiffyg yng ngweithrediad y styniwr nwy;
(h)bod dofednod sy’n cyrraedd y styniwr nwy mewn crât cludo ac a dynnir allan o’r crât cyn mynd i mewn i’r styniwr nwy yn cael eu trin yn ofalus mewn ffordd nad yw’n achosi unrhyw boen, trallod na dioddefaint diangen; ac
(i)na wneir dim pellach i aderyn ar ôl ei roi mewn cysylltiad â’r nwy cyn cadarnhau bod yr aderyn yn farw.
(4) Ni chaiff neb weithredu styniwr nwy a wnaed allan o sied dofednod neu adeilad arall a seliwyd ymlaen llaw ar gyfer stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy, ac eithrio o dan oruchwyliaeth uniongyrchol milfeddyg.
(5) Yn is-baragraff (4), ystyr “sied dofednod” (“poultry shed”) yw adeilad a ddyluniwyd ac a adeiladwyd i letya dofednod, ac a seliwyd ymlaen llaw fel bod modd iddo gynnwys y cymysgeddau nwyon yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad 1.
42.—(1) Rhaid i berson sy’n ymwneud â gwaedu neu bithio anifail a styniwyd yn syml sicrhau y caiff yr anifail ei waedu neu’i bithio yn ddi-oed ar ôl ei stynio yn syml.
(2) Rhaid i berson sy’n ymwneud â gwaedu anifail a styniwyd yn syml sicrhau bod y gwaedu—
(a)yn gyflym, yn helaeth ac yn gyflawn;
(b)wedi ei gwblhau cyn i’r anifail ddod yn ymwybodol drachefn; ac
(c)yn cael ei gyflawni drwy dorri’r ddwy rydweli garotid neu’r pibellau gwaed y maent yn tarddu ohonynt.
(3) Pan fo anifail yn cael ei waedu ar ôl ei stynio yn syml, ni chaiff neb beri na chaniatáu cyflawni unrhyw weithdrefn ddresio ychwanegol ar yr anifail na rhoi unrhyw ysgogiad trydanol iddo cyn bo’r gwaedu wedi dod i ben, a beth bynnag nid cyn diwedd cyfnodau fel a ganlyn—
(a)yn achos twrci neu ŵydd, cyfnod o ddim llai na 2 funud;
(b)yn achos unrhyw aderyn arall, cyfnod o ddim llai na 90 eiliad;
(c)yn achos anifeiliaid buchol, cyfnod o ddim llai na 30 eiliad; neu
(d)yn achos defaid, geifr, moch a cheirw, cyfnod o ddim llai nag 20 eiliad.
(4) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys i anifail sydd wedi ei bithio.
(5) Pan fo un person yn gyfrifol am stynio yn syml a phithio, neu am stynio yn syml, gefynnu, codi a gwaedu anifeiliaid ac eithrio adar neu gwningod, neu ar gyfer rhai o’r gweithrediadau hynny, rhaid i’r cyfryw weithrediadau gael eu cyflawni yn olynol gan y person hwnnw mewn perthynas ag un anifail, cyn bo’r person hwnnw’n eu cyflawni felly mewn perthynas ag anifail arall.
(6) Pan fo un person yn gyfrifol am stynio yn syml a gwaedu adar neu gwningod, rhaid i’r gweithrediadau hynny gael eu cyflawni yn olynol gan y person hwnnw mewn perthynas ag un aderyn neu gwningen, cyn bo’r person hwnnw’n eu cyflawni felly mewn perthynas ag aderyn neu gwningen arall.
43. Ni chaiff neb ladd ceffyl mewn iard gelanedd—
(a)ac eithrio mewn ystafell neu gilfach a ddarparwyd at y diben hwnnw yn unol â pharagraff 10(a);
(b)mewn ystafell neu gilfach sy’n cynnwys gweddillion ceffyl neu anifail arall; neu
(c)yng ngolwg unrhyw geffyl arall.
44.—(1) Ni chaiff neb ladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed mewn gwastraff deorfa, ac eithrio drwy ddefnyddio un o’r dulliau canlynol—
(a)malu yn unol â Thabl 1 o Bennod I a Phennod II o Atodiad I;
(b)drwy ddod â’r cywion i gysylltiad â chymysgedd nwyon yn unol â Thabl 3 o Bennod I a Phennod II o Atodiad I a’r paragraff hwn; neu
(c)pan nad oes dull arall ar gael i’w lladd, ysigo gyddfau yn unol â Thabl 1 o Bennod I a Phennod II o Atodiad I.
(2) Ni chaiff neb ladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed mewn gwastraff deorfa drwy ddod â’r cywion i gysylltiad â chymysgedd nwyon oni roddir y cywion yn y cymysgedd nwyon a’u bod yn aros yn y cymysgedd nwyon nes byddant farw.
(3) Rhaid lladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed mewn gwastraff deorfa mor gyflym ag y bo modd.