xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
10. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau—
(a)y diogelir pob anifail rhag effeithiau amodau tywydd garw ac y darperir awyru digonol ar ei gyfer;
(b)os yw anifail wedi dioddef tymheredd uchel mewn tywydd llaith, y defnyddir dull priodol i’w oeri;
(c)tra’n aros i ladd anifail sy’n sâl neu’n anabl, y cedwir yr anifail hwnnw ar wahân i unrhyw anifail nad yw’n sâl neu’n anabl; a
(d)nad oes neb yn llusgo anifail sydd wedi ei stynio neu’i ladd dros unrhyw anifail arall nad yw wedi ei stynio neu’i ladd.
11. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau yr arolygir cyflwr pob anifail a stad ei iechyd, o leiaf bob bore a min nos, gan weithredwr y busnes neu gan berson cymwys sy’n gweithredu ar ran gweithredwr y busnes.
12. Heb leihau effaith paragraff 1.5 ac 1.11 o Atodiad III, rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau bod anifeiliaid fel a ganlyn yn cael eu lladd ar unwaith—
(a)anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint wrth eu cludo neu ar ôl cyrraedd; a
(b)anifeiliaid sy’n rhy ifanc i gymryd bwyd anifeiliaid solet.
13. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu ddarparu gwalfeydd i anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynhwysydd sicrhau—
(a)y cymerir gofal i beidio â dychryn, cynhyrfu na cham-drin anifail;
(b)na chaiff unrhyw anifail ei droi ben i waered; ac
(c)nad eir ag unrhyw anifail i’r man lladd oni ellir ei ladd heb oedi.
14. Ni chaiff neb arwain na gyrru anifail dros dir neu lawr y mae ei natur neu’i gyflwr yn debygol o beri i’r anifail lithro neu syrthio.
15. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod pob anifail yn cael ei symud â gofal, a phan fo angen, bod anifeiliaid yn cael eu harwain fesul un.
16. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod unrhyw offeryn a fwriedir ar gyfer arwain anifail yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw’n unig, a hynny am gyfnodau byr yn unig, ac ar anifeiliaid unigol.
17. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â darparu gwalfeydd i anifeiliaid sicrhau y darperir bwyd iddynt mewn ffordd a fydd yn caniatáu i’r anifeiliaid fwydo heb darfu arnynt yn ddiangen.