RHAN 6Gorfodi
Arolygwyr34
Caiff yr awdurdod cymwys neu awdurdod lleol benodi arolygwyr at y diben o orfodi’r Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn.
Pŵer i fynd i mewn i fangreoedd35
1
Caiff arolygydd, ar ôl rhoi cyfnod rhesymol o rybudd, fynd i mewn i unrhyw fangre ar adeg resymol o’r dydd at y diben o weithredu neu orfodi’r Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn; ac yn y Rhan hon, mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad, sied, lloc, daliedydd neu gerbyd o unrhyw ddisgrifiad.
2
Nid yw’r gofyniad i roi rhybudd yn gymwys—
a
pan fo’r gofyniad wedi ei hepgor gan y meddiannydd;
b
pan fo ymdrechion rhesymol i gytuno ar apwyntiad wedi methu;
c
pan fo arolygydd yn amau’n rhesymol y methir â chydymffurfio â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;
d
pan fo arolygydd yn credu’n rhesymol y byddai rhoi rhybudd yn tanseilio’r diben o fynd i mewn; neu
e
mewn argyfwng, pan yw’n ofynnol mynd i mewn ar frys.
3
Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat, oni roddir yr hawl i fynd i mewn gan warant a roddwyd o dan reoliad 36.
4
Rhaid i arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen awdurdodi sydd wedi ei dilysu’n briodol.
5
Rhaid i arolygydd sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag adael y fangre honno wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn mynd i mewn iddi.
6
Caiff arolygydd fynd i mewn yng nghwmni’r canlynol—
a
pa bynnag bersonau eraill yr ystyria’r arolygydd yn angenrheidiol; a
b
unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd.
Gwarantau36
1
Caiff ynad heddwch, drwy warant lofnodedig, ganiatáu i arolygydd fynd i mewn i fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen, os bodlonir yr ynad heddwch, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—
a
bod seiliau rhesymol ar gyfer mynd i mewn i’r fangre honno at y diben o orfodi’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; a
b
bod unrhyw un o’r amodau ym mharagraff (2) wedi ei fodloni.
2
Yr amodau yw—
a
bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;
b
byddai gofyn am ganiatâd i fynd i mewn i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn tanseilio’r diben o fynd i mewn;
c
ei bod yn ofynnol mynd i mewn ar frys; neu
d
bod y fangre’n wag neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.
3
Mae gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn ddilys am dri mis.
Pŵer i arolygu ac ymafael37
1
Caiff arolygydd, a aeth i mewn i fangre at y dibenion o weithredu a gorfodi’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, wneud y canlynol at y dibenion hynny—
a
cyflawni unrhyw archwiliad, ymchwiliad neu brawf;
b
gwneud unrhyw ymholiadau, arsylwi ar unrhyw weithrediad neu broses, gwneud unrhyw recordiadau neu dynnu unrhyw ffotograffau;
c
arolygu a chwilio’r fangre;
d
cymryd samplau (a’u hanfon i’w profi mewn labordy) o unrhyw anifail, carcas neu ran o garcas;
e
ymafael mewn unrhyw garcas neu ran o garcas, a chadw’r cyfryw ar gyfer archwilio, ymholi neu brofi ymhellach;
f
ymafael mewn unrhyw gyfarpar neu offeryn a’i gadw ar gyfer archwilio, ymholi neu brofi ymhellach;
g
cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig, ac arolygu a gwirio’r data sydd arnynt, a’u gweithrediad;
h
ymafael mewn unrhyw gyfrifiaduron a chyfarpar cysylltiedig, at y diben o gopïo data; ond hynny yn unig os yw’r arolygydd yn amau’n rhesymol fod trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni, ac ar yr amod y dychwelir y cyfrifiaduron a’r cyfarpar cysylltiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol;
i
ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfen neu gofnod ac arolygu a gwneud copi neu echdynnu o’r cyfryw ddogfen neu gofnod; a
j
ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn darparu pa bynnag gymorth, gwybodaeth, cyfleusterau neu gyfarpar sy’n rhesymol.
2
Rhaid i arolygydd—
a
cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ddarparu i’r person sy’n ymddangos yn gyfrifol am unrhyw eitemau yr ymafaelir ynddynt gan yr arolygydd o dan baragraff (1), dderbynneb ysgrifenedig sy’n nodi’r eitemau hynny; a
b
cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl penderfynu nad oes angen yr eitemau hynny mwyach, eu dychwelyd, ac eithrio rhai sydd i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys.
3
Pan fo arolygydd wedi ymafael mewn eitemau o dan baragraff (1) i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys ac yna—
a
penderfynir yn ddiweddarach—
i
na ddygir achos llys; neu
ii
nad oes angen yr eitemau hynny bellach fel tystiolaeth mewn achos llys; neu
b
cwblhawyd yr achos llys ac ni wnaed gorchymyn gan y llys mewn perthynas â’r eitemau hynny,
rhaid i’r arolygydd ddychwelyd yr eitemau cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Hysbysiadau gorfodi38
1
Hysbysiad gorfodi yw hysbysiad ysgrifenedig sydd—
a
yn ei gwneud yn ofynnol bod person yn cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;
b
yn ei gwneud yn ofynnol bod person yn lleihau’r gyfradd weithredu i ba bynnag raddau a bennir yn yr hysbysiad, hyd nes bo’r person hwnnw wedi cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; neu
c
yn gwahardd person rhag cyflawni gweithgaredd, proses neu weithrediad, neu ddefnyddio cyfleusterau neu gyfarpar, a bennir yn yr hysbysiad, hyd nes bo’r person hwnnw wedi cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn.
2
Caiff arolygydd sydd o’r farn bod person wedi torri, neu ei fod yn torri, y Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, gyflwyno hysbysiad gorfodi i’r person hwnnw.
3
Rhaid i hysbysiad gorfodi—
a
datgan bod yr arolygydd o’r farn honno;
b
datgan dyddiad ac amser cyflwyno’r hysbysiad;
c
enwi derbynnydd yr hysbysiad;
d
pennu’r materion sy’n cyfansoddi’r toriad;
e
pennu’r camau y mae’n rhaid eu cymryd i unioni’r toriad;
f
pennu o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid cymryd y camau hynny; ac
g
rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad.
4
Rhaid i berson y cyflwynir hysbysiad gorfodi iddo gydymffurfio â’r hysbysiad ar gost y person hwnnw ei hunan.
5
Os na chydymffurfir â hysbysiad gorfodi, caiff yr arolygydd drefnu i gydymffurfio â’r hysbysiad ar gost y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.
6
Rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad cwblhau os bodlonir yr arolygydd, ar ôl cyflwyno’r hysbysiad gorfodi, fod y person wedi cymryd y camau a bennwyd yn yr hysbysiad ar gyfer unioni’r toriad.
7
Os digwydd i arolygydd beidio â chael ei fodloni fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (6), caiff yr arolygydd, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod cyflwyno hysbysiad cwblhau, a rhaid i’r hysbysiad—
a
rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a
b
rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.
8
Mae hysbysiad gorfodi yn peidio â chael effaith pan ddyroddir hysbysiad cwblhau.
9
Caiff arolygydd, ar unrhyw adeg, mewn ysgrifen, dynnu’n ôl neu amrywio hysbysiad gorfodi.
Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi39
1
Caiff person a dramgwyddwyd gan—
a
penderfyniad arolygydd i gyflwyno hysbysiad gorfodi; neu
b
penderfyniad arolygydd i wrthod dyroddi hysbysiad cwblhau,
apelio yn erbyn y penderfyniad.
2
Mae’r hawl i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf.
3
Ni fydd hysbysiad gorfodi yn cael ei atal dros dro tra bo apêl yn yr arfaeth, oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gorchymyn yn wahanol.
4
Yn dilyn apêl, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf naill ai ddiddymu neu gadarnhau’r hysbysiad gorfodi, gydag addasiadau neu hebddynt, neu wneud pa bynnag orchymyn yr ystyria’n briodol ynghylch gwrthodiad i gyflwyno hysbysiad cwblhau.
Pŵer awdurdod lleol i erlyn40
Caiff awdurdod lleol erlyn am unrhyw drosedd o dan y Rheoliadau hyn.
Terfyn amser ar gyfer erlyniadau41
1
Er gwaethaf adran 127(1) o Ddeddf Llysoedd Ynadon 198012, caiff llys ynadon roi unrhyw wybodaeth ar brawf sy’n ymwneud â throsedd o dan y Rheoliadau hyn os rhoddir yr wybodaeth gerbron—
a
cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n cychwyn gyda dyddiad cyflawni’r drosedd; a
b
cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n cychwyn gyda dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth a ystyrir yn ddigonol gan yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos.
2
At ddibenion paragraff (1)(b)—
a
mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd, ac yn datgan y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth o’r fath yn dystiolaeth derfynol o’r ffaith honno; a
b
rhaid trin tystysgrif sy’n datgan y mater hwnnw ac yn honni ei bod wedi ei llofnodi felly fel pe bai wedi ei llofnodi felly, oni phrofir i’r gwrthwyneb.