RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

Mae’r Rheoliadau hyn—

a

yn dwyn yr enw Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014;

b

yn gymwys o ran Cymru; ac

c

yn dod i rym ar 20 Mai 2014.

Terfynu2

1

Bydd y darpariaethau canlynol yn peidio â chael effaith ar 8 Rhagfyr 2015—

a

rheoliad 44; a

b

Atodlen 7.

2

Bydd y darpariaethau canlynol yn peidio â chael effaith ar 8 Rhagfyr 2019—

a

rheoliad 30(1)(h);

b

rheoliad 45; ac

c

Atodlen 8.

Dehongli3

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd o dan reoliad 34 neu arolygydd a benodwyd o dan adran 51 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 20065;

  • mae i “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

  • mae “ceffyl” (“horse”) yn cynnwys bastard mul, asyn neu ful;

  • ystyr “y Comisiwn Rabinaidd” (“Rabbinical Commission”) yw’r corff y cyfeirir ato yn Rhan 4 o Atodlen 3, sy’n gyfrifol am drwyddedu personau sy’n ymgymryd â lladd anifeiliaid yn unol â’r dull Iddewig (Shechita);

  • ystyr “Deddf 1967” (“the 1967 Act) yw Deddf Cigydda Dofednod 19676;

  • ystyr “Deddf 1974” (“the 1974 Act”) yw Deddf Lladd-dai 19747;

  • ystyr “iard gelanedd” (“knacker’s yard”) yw mangre a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer storio carcasau anifeiliaid, ond hefyd ar gyfer lladd anifeiliaid yn fasnachol at ddibenion ac eithrio’u bwyta gan bobl gan gynnwys unrhyw gyfleusterau cysylltiedig ar gyfer trin a darparu gwalfeydd i’r cyfryw anifeiliaid;

  • ystyr “lloc ffrwyno” (“restraining pen”) yw lloc neu gompartment sy’n addas ar gyfer ffrwyno anifail buchol llawn-dwf ar ei sefyll at y diben o’i ladd yn unol â defodau crefyddol (fel y’u diffinnir ym mharagraff 1(c) o Atodlen 3), ac sydd wedi ei adeiladu a’i gymeradwyo yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 3;

  • ystyr “lloc stynio” (“stunning pen”) yw lloc neu gompartment sy’n addas ar gyfer ffrwyno anifail buchol llawn-dwf at y diben o’i stynio, ac sydd wedi ei adeiladu yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 1 neu baragraff 9 o Atodlen 2;

  • ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr o filfeddygon o dan adran 2 o Ddeddf Milfeddygon 19668;

  • ystyr “milfeddyg awdurdodedig” (“authorised veterinary surgeon”) yw milfeddyg a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben o gyflawni asesiadau yn unol â rheoliad 16(c);

  • ystyr “Rheoliad UE” (“EU Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 a fabwysiadwyd ar 24 Medi 2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd9;

  • ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 199510;

  • mae i “stynio syml” (“simple stunning”) yr un ystyr a roddir i “simple stunning” yn Erthygl 4(1) a rhaid dehongli “a styniwyd yn syml” (“simple stunned”) yn unol â hynny;

  • ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded fel sy’n ofynnol gan reoliad 12;

  • ystyr “trwydded LlACL” (“WASK licence”) yw trwydded gofrestredig sy’n ofynnol gan, neu a roddir yn unol ag, Atodlen 1 i Reoliadau 1995;

  • ystyr “tystiolaeth o hyfforddi ac arholi” (“evidence of training and examination”) yw—

    1. a

      tystysgrif a roddir gan gorff, a gydnabyddir ac a reoleiddir gan Weinidogion Cymru sy’n goruchwylio’r modd yr hyfforddir ac asesir personau sy’n ymgymryd â lladd anifeiliaid a gweithrediadau perthynol, yn cadarnhau pasio arholiad annibynnol fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 21,

    2. b

      trwydded a roddir gan y Comisiwn Rabinaidd at y diben o ladd anifeiliaid yn unol â’r dull Iddewig (Shechita) ac yn cadarnhau pasio arholiad annibynnol fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 21, neu

    3. c

      cymhwyster milfeddygol ffurfiol, a gydnabyddir gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS)11, ar y cyd â chofnod datblygiad proffesiynol parhaus yr RCVS;

  • ystyr “tystysgrif” (“certificate”) (ac eithrio yn y term “tystysgrif dros dro” neu reoliad 41) yw tystysgrif cymhwysedd yn yr ystyr a roddir i “certificate of competence” fel y crybwyllir yn Erthygl 21, ac mae’n cynnwys cymhwyster a gydnabyddir gan yr awdurdod cymwys fel cymhwyster sy’n gyfwerth â thystysgrif yn unol ag Erthygl 21(7);

  • ystyr “tystysgrif dros dro” (“temporary certificate”) yw tystysgrif cymhwysedd dros dro yn yr ystyr a roddir i “temporary certificate of competence” fel y crybwyllir yn Erthygl 21(5).

2

Mae i’r termau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir y termau ac ymadroddion Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn y Rheoliad UE yn ogystal, yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag y sydd i’r termau a’r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn y Rheoliad UE, oni phennir yn wahanol.

3

Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at Erthygl, neu Bennod neu Atodiad yn gyfeiriad at yr Erthygl neu’r Bennod honno o’r Rheoliad UE neu’r Atodiad hwnnw i’r Reoliad UE.

4

Mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i’r Rheoliad UE yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Yr awdurdod cymwys4

1

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw’r awdurdod cymwys at ddibenion—

a

Rhan 2 (tystysgrifau, tystysgrifau dros dro a thrwyddedau), oni phennir yn wahanol;

b

cymeradwyo llociau ffrwyno yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 3; ac

c

mewn perthynas â lladd anifeiliaid mewn lladd-dy—

i

cael ac asesu dogfennau, cofnodion neu wybodaeth yn unol ag Erthyglau 6(4), 9(1), 14(2) a 17(5);

ii

cael ac asesu dogfennau, cofnodion neu wybodaeth arall yn unol â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; a

iii

gweithredu os digwydd unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, yn unol ag Erthygl 22(1).

2

Fel arall, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys, a hwy sy’n gweithredu fel yr Aelod-wladwriaeth at ddibenion y Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn.

3

Caiff Gweinidogion Cymru weithredu fel yr awdurdod cymwys mewn perthynas ag—

a

atal dros dro neu ddirymu tystysgrifau, tystysgrifau dros dro neu drwyddedau o dan Ran 2; a

b

penodi arolygwyr yn unol â rheoliad 34.