xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 825 (Cy. 83)

Treth Gyngor, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014

Gwnaed

25 Mawrth 2014

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 13A(4), 14A, 14B, 14C, 14D a 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraff 6 o Atodlen 1B iddi(1).

Yn unol ag adrannau 13A(8) a 14D(3) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013

2.—(1Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013(2), wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “y Cynllun Diofyn”, yn lle “Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012(3)” rhodder “Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013(4)”; a

(b)yn y diffiniad o “y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”, yn lle “Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012(5)” rhodder “Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013(6)”.

Darpariaeth arbed

3.  Nid yw rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn cael effaith o ran unrhyw geisiadau a wneir neu ostyngiadau a ddyfernir yn unol â darpariaethau cynllun a wnaed gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012, na chynllun sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

4.—(1Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y testun Cymraeg, ym mharagraff (c) o’r diffiniad o “ysbyty annibynnol”, yn lle “gwasanaeth gofal iechyd” rhodder “ysbyty”.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013

5.—(1Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 2(1) (dehongli), yn y testun Cymraeg, ym mharagraff (c) o’r diffiniad o “ysbyty annibynnol” yn lle “gwasanaeth gofal iechyd” rhodder “ysbyty”.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

25 Mawrth 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”), Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013.

Roedd Rheoliadau 2013 yn darparu ar gyfer creu troseddau ac ar gyfer pwerau i wneud darparu gwybodaeth yn ofynnol ac i osod cosbau mewn cysylltiad â chynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor a wnaed o dan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 a chynlluniau diofyn a oedd yn gymwys ar 1 Ebrill 2013 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2013 fel bod y troseddau a grëir, ynghyd â’r pwerau i wneud darparu gwybodaeth yn ofynnol ac i osod cosbau, yn ymwneud â chynlluniau a wnaed o dan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 neu sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2014 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Mae rheoliad 3 yn darparu y bydd Rheoliadau 2013 yn parhau i gael effaith o ran unrhyw geisiadau a wneir neu ostyngiadau a ddyfernir yn unol â chynlluniau a wnaed o dan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012, neu sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Mae rheoliadau 4 a 5 yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013. Maent yn diwygio testun Cymraeg y Rheoliadau hynny drwy ddiwygio’r diffiniad o ysbyty annibynnol yn yr Alban er sicrhau cysondeb â’r testun Saesneg.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi’i lunio ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan mai gwneud diwygiadau technegol er diweddaru Rheoliadau 2013 yn unig y maent ac nid oes ganddynt effaith sylweddol ar bolisi.

(1)

1992 p. 14; amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) a mewnosodwyd adrannau 14A, 14B, 14C a 14D gan adran 14 o’r Ddeddf honno; diwygiwyd is-adran (2) o adran 113 gan baragraffau 40 a 52 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26) ac adran 80 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20); mewnosodwyd Atodlen 1B gan Atodlen 4 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012.