2014 Rhif 462 (Cy. 55)
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2014
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 128, 129, 130, a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2014 sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2014.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 19972.
Diwygio’r Atodlenni i’r Rheoliadau Optegol2
1
Mae Atodlenni 1 i 3 i’r Rheoliadau Optegol wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
2
Yn Atodlen 1 (codau llythrennau ac wynebwerthoedd talebau – cyflenwi ac amnewid) yng ngholofn (3) o’r tabl (wynebwerth taleb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o dabl 1 isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o’r tabl isod:
(1) Swm Blaenorol | (2) Swm Newydd |
---|---|
£37.50 | £38.30 |
£57.00 | £58.10 |
£83.40 | £85.10 |
£188.40 | £192.20 |
£64.80 | £66.10 |
£82.40 | £84.00 |
£106.90 | £109.00 |
£207.20 | £211.30 |
£192.90 | £196.80 |
£54.70 | £55.80 |
3
Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bach a sbectolau arbennig, a theclynnau cymhleth)—
a
ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£12.20” rhodder “£12.40”;
b
ym mharagraff 1(1)(b), yn lle “£14.70” rhodder “£15.00”;
c
ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£4.10” rhodder “£4.20”;
d
ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.60” rhodder “£4.70”;
e
ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£61.80”, “£54.75” a “£29.60” rhodder “£63.00”, “£55.80” a “£30.20” yn eu trefn;
f
ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£61.80” rhodder “£63.00”;
g
ym mharagraff 2(a), yn lle “£14.10” rhodder “£14.40”; a
h
ym mharagraff 2(b), yn lle “£35.90” rhodder “£36.60”.
4
Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau - trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Darpariaeth Drosiannol3
Dim ond mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o’r Rheoliadau Optegol ar 1 Ebrill 2014 neu ar ôl hynny y mae’r symiau a amnewidir gan reoliad 2 yn gymwys.
YR ATODLENAtodlen 3 i’r Rheoliadau Optegol fel y’i hamnewidir gan y Rheoliadau hyn
SCHEDULE 3VoucherValues Repair
(1)
Nature of Repair
(2)
Letter of Codes - Values
A
B
C
D
E
F
G
H
I
£
£
£
£
£
£
£
£
£
Repair or replacement of one lens
11.95
21.85
35.35
88.90
25.85
34.80
47.30
98.45
91.20
Repair or replacement of two lenses
23.90
43.70
70.70
177.80
51.70
69.60
94.60
196.90
182.40
Repair or replacement of: the front of a frame
12.25
12.25
12.25
12.25
12.25
12.25
12.25
12.25
12.25
a side of a frame
7.25
7.25
7.25
7.25
7.25
7.25
7.25
7.25
7.25
the whole frame
14.40
14.40
14.40
14.40
14.40
14.40
14.40
14.40
14.40
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)