xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 462 (Cy. 55)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2014

Gwnaed

1 Mawrth 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Mawrth 2014

Yn dod i rym

1 Ebrill 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 128, 129, 130, a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2014 sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2014.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2).

Diwygio’r Atodlenni i’r Rheoliadau Optegol

2.—(1Mae Atodlenni 1 i 3 i’r Rheoliadau Optegol wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn Atodlen 1 (codau llythrennau ac wynebwerthoedd talebau – cyflenwi ac amnewid) yng ngholofn (3) o’r tabl (wynebwerth taleb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o dabl 1 isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o’r tabl isod:

Tabl 1

(1) Swm Blaenorol(2) Swm Newydd
£37.50£38.30
£57.00£58.10
£83.40£85.10
£188.40£192.20
£64.80£66.10
£82.40£84.00
£106.90£109.00
£207.20£211.30
£192.90£196.80
£54.70£55.80

(3Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bach a sbectolau arbennig, a theclynnau cymhleth)—

(a)ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£12.20” rhodder “£12.40”;

(b)ym mharagraff 1(1)(b), yn lle “£14.70” rhodder “£15.00”;

(c)ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£4.10” rhodder “£4.20”;

(d)ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.60” rhodder “£4.70”;

(e)ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£61.80”, “£54.75” a “£29.60” rhodder “£63.00”, “£55.80” a “£30.20” yn eu trefn;

(f)ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£61.80” rhodder “£63.00”;

(g)ym mharagraff 2(a), yn lle “£14.10” rhodder “£14.40”; a

(h)ym mharagraff 2(b), yn lle “£35.90” rhodder “£36.60”.

(4Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau - trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Darpariaeth Drosiannol

3.  Dim ond mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o’r Rheoliadau Optegol ar 1 Ebrill 2014 neu ar ôl hynny y mae’r symiau a amnewidir gan reoliad 2 yn gymwys.

Mark Drakeford

Y Gweinidog lechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

1 Mawrth 2014

Rheoliad 2(4)

YR ATODLENAtodlen 3 i’r Rheoliadau Optegol fel y’i hamnewidir gan y Rheoliadau hyn

Regulation 19(2) and (3)

SCHEDULE 3VoucherValues Repair

(1)

Nature of Repair

(2)

Letter of Codes - Values

ABCDEFGHI
£££££££££
Repair or replacement of one lens11.9521.8535.3588.9025.8534.8047.3098.4591.20
Repair or replacement of two lenses23.9043.7070.70177.8051.7069.6094.60196.90182.40
Repair or replacement of: the front of a frame12.2512.2512.2512.2512.2512.2512.2512.2512.25
a side of a frame7.257.257.257.257.257.257.257.257.25
the whole frame14.4014.4014.4014.4014.4014.4014.4014.4014.40

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y Rheoliadau Optegol”) sy’n darparu ar gyfer taliadau i’w gwneud drwy system dalebau o ran y costau yr aethpwyd iddynt gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol.

Mae rheoliad 2 a’r Atodlen yn diwygio Atodlenni 1, 2 a 3 i’r Rheoliadau Optegol i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir tuag at y gost o gyflenwi ac amnewid sbectolau a lensys cyffwrdd, i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau ac i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir tuag at y gost o drwsio ac amnewid teclynnau optegol.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas â thalebau a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd cyn 31 Mawrth 2014.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 1997/818 fel y’i diwygiwyd.