2014 Rhif 379 (Cy. 44)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2014

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 62 a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881, a pharagraffau 1 a 2(2)(gf) ac (h) o Atodlen 9 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2014.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Mawrth 2014.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau2

1

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 19893 wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).

2

Yn rheoliad 2 (cyflwyno hysbysiadau)—

a

ym mharagraff (3)—

i

hepgorer y geiriau “, or any information required by the demand notice regulations to be supplied to any person when a demand notice (within the meaning of Part II of these Regulations) is served”;

ii

yn is-baragraff (a)—

aa

yn lle “given, served or supplied”, rhodder “given or served”; a

bb

hepgorer “or information”;

iii

yn is-baragraff (b)—

aa

yn lle “given, served or supplied”, rhodder “given or served”;

bb

ym mharagraff (i) hepgorer “or information”;

b

ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

3A

Without prejudice to section 233 of the Local Government Act 19724 and subject to paragraphs (5) and (6) below, any information required by the demand notice regulations to be supplied to any person when a demand notice (within the meaning of Part II of these Regulations) is served—

a

may be so supplied by sending the information to that person by electronic communication to such address as may be notified by that person for that purpose; or

b

subject to paragraph (3B) is treated as supplied to that person where the billing authority has published the information on a website and has notified that person by way of the demand notice of—

i

the publication of the information on a website;

ii

the address of that website; and

iii

the place on the website where the information may be accessed.

3B

Where a person requests a hard copy of the information, the authority must supply the information in hard copy as soon as practicable following the request.

c

ym mharagraff (5) yn lle “for the purpose of paragraph (3)(a)” rhodder “for the purposes of paragraphs (3)(a) or (3A)(a)”; a

d

ym mharagraff (6) yn lle “for the purpose of paragraph (3)(a)” rhodder “for the purposes of paragraphs (3)(a) or (3A)(a)”.

Lesley GriffithsY Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 (“Rheoliadau 1989”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer casglu a gorfodi ardrethi annomestig. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1989.

Mae rheoliad 2(2) yn galluogi awdurdod bilio (oni bai y gofynnir am gopi caled) i ddarparu’r wybodaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei darparu gyda hysbysiad galw am dalu ardrethi annomestig, drwy gyhoeddi’r wybodaeth honno ar wefan.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.