RHAN 2SYSTEM INTEGREDIG GWEINYDDU A RHEOLI A GORFODI

Ceisiadau3

1

At ddibenion Erthygl 13(1) o’r Rheoliad Gweithredu Llorweddol ac Erthygl 12 o’r Rheoliad Dirprwyedig Llorweddol, y dyddiad olaf pan geir cyflwyno cais sengl, cais am gymorth neu hawliad am daliad i Weinidogion Cymru yw 15 Mai neu, os yw 15 Mai yn ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gŵyl Banc neu ŵyl gyhoeddus arall, y diwrnod gwaith nesaf.

2

Ym mharagraff (1)—

a

ystyr “Gŵyl Banc” (“Bank Holiday”) yw diwrnod a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 14;

b

ystyr “hawliad am daliad” (“payment claim”) yw hawliad am gymorth o dan y system integredig fel y darperir gan Erthygl 67(2) o’r Rheoliad Llorweddol; ac

c

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gŵyl Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.