xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 3223 (Cy. 328)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014

Gwnaed

8 Rhagfyr 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Rhagfyr 2014

Yn dod i rym

1 Ionawr 2015

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2)mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru yn hwylus dehongli unrhyw gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at offerynnau’r UE fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

RHAN 1CYFLWYNIAD

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2015.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliad 1698/2005” (“Regulation 1698/2005”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 ar gefnogaeth i ddatblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) etc(3);

ystyr “y Rheoliad Datblygu Gwledig” (“the Rural Development Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1305/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gefnogi datblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig(4);

ystyr “y Rheoliad Dirprwyedig Datblygu Gwledig” (“the Rural Development Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 807/2014 sy’n ychwanegu at y Rheoliad Datblygu Gwledig(5);

ystyr “y Rheoliad Dirprwyedig Llorweddol” (“the Horizontal Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 640/2014 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig a’r amodau ar gyfer gwrthod taliadau neu eu tynnu yn ôl a chosbau gweinyddol sy’n gymwys i daliadau uniongyrchol, cymorth ar gyfer datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio(6);

ystyr “y Rheoliad Dirprwyedig Taliadau Uniongyrchol” (“the Direct Payments Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 639/2014 sy’n ychwanegu at y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol(7);

ystyr “y Rheoliad Gweithredu Cyllid Llorweddol” (“the Horizontal Finance Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 908/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyllido, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin(8);

ystyr “y Rheoliad Gweithredu Datblygu Gwledig” (“the Rural Development Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 808/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso’r Rheoliad Datblygu Gwledig(9);

ystyr “y Rheoliad Gweithredu Llorweddol” (“the Horizontal Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig, mesurau datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio(10);

ystyr “y Rheoliad Gweithredu Taliadau Uniongyrchol” (“the Direct Payments Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 641/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol(11);

ystyr “y Rheoliad Llorweddol” (“the Horizontal Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyllido, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin(12);

ystyr “y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol” (“the Direct Payments Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin(13);

ystyr “y Rheoliadau Ewropeaidd” (“the European Regulations”) yw—

(a)

y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;

(b)

y Rheoliad Dirprwyedig Taliadau Uniongyrchol;

(c)

y Rheoliad Gweithredu Taliadau Uniongyrchol;

(d)

y Rheoliad Llorweddol;

(e)

y Rheoliad Dirprwyedig Llorweddol;

(f)

y Rheoliad Gweithredu Cyllid Llorweddol;

(g)

y Rheoliad Gweithredu Llorweddol;

(h)

y Rheoliad Datblygu Gwledig;

(i)

y Rheoliad Dirprwyedig Datblygu Gwledig; a

(j)

y Rheoliad Gweithredu Datblygu Gwledig.;

ystyr “cais sengl” (“single application”) yw cais am daliadau uniongyrchol mewn perthynas â chynlluniau cymorth ar sail arwynebedd;

mae i “cynlluniau cymorth ar sail arwynebedd” yr ystyr a roddir i “area-related aid schemes” gan bwynt (20) o’r ail is-baragraff o Erthygl 2(1) o’r Rheoliad Dirprwyedig Llorweddol;

mae i “buddiolwr”, onid yw’r cyd-destun yn mynnu’n wahanol, yr ystyr a roddir i “beneficiary” gan is-baragraff (2) o Erthygl 2(1) o’r Rheoliad Dirprwyedig Llorweddol, ac eithrio mai’r ystyr yn Rhan 3 ac Atodlen 1 yw buddiolwr y mae Erthygl 91 o’r Rheoliad Llorweddol yn gymwys iddo;

mae i “ffermwr” yr ystyr a roddir i “farmer” gan Erthygl 4(1)(a) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;

mae i “methiant i gydymffurfio” yr ystyr a roddir i “non-compliance” gan bwynt (2)(b) o’r ail is-baragraff o Erthygl 2(1) o’r Rheoliad Dirprwyedig Llorweddol;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru, naill ai’n gyffredinol neu’n benodol, i weithredu mewn materion sy’n codi o dan y Rheoliadau hyn;

mae i “taliadau uniongyrchol” yr ystyr a roddir i “direct payments” gan Erthygl 2(1)(e) o’r Rheoliad Llorweddol;

(2Mae i dermau eraill, a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg hefyd mewn unrhyw un o’r Rheoliadau Ewropeaidd, yr ystyron sydd i’w cyfystyron yn y Rheoliadau Ewropeaidd.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at unrhyw un o’r Rheoliadau Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

RHAN 2SYSTEM INTEGREDIG GWEINYDDU A RHEOLI A GORFODI

Ceisiadau

3.—(1At ddibenion Erthygl 13(1) o’r Rheoliad Gweithredu Llorweddol ac Erthygl 12 o’r Rheoliad Dirprwyedig Llorweddol, y dyddiad olaf pan geir cyflwyno cais sengl, cais am gymorth neu hawliad am daliad i Weinidogion Cymru yw 15 Mai neu, os yw 15 Mai yn ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gŵyl Banc neu ŵyl gyhoeddus arall, y diwrnod gwaith nesaf.

(2Ym mharagraff (1)—

(a)ystyr “Gŵyl Banc” (“Bank Holiday”) yw diwrnod a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (14);

(b)ystyr “hawliad am daliad” (“payment claim”) yw hawliad am gymorth o dan y system integredig fel y darperir gan Erthygl 67(2) o’r Rheoliad Llorweddol; ac

(c)ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gŵyl Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.

Maint lleiaf o arwynebedd amaethyddol

4.  At ddibenion Erthygl 72(1) o’r Rheoliad Llorweddol, y maint lleiaf o barsel amaethyddol y ceir gwneud cais sengl mewn perthynas ag ef yw 0.1 hectar.

Adennill taliadau annyladwy

5.—(1Pan fo buddiolwr yn atebol i ad-dalu’r cyfan neu ran o daliad uniongyrchol yn unol ag Erthygl 7(1) o’r Rheoliad Gweithredu Llorweddol, mae swm yr ad-daliad, ynghyd â llog ar y swm hwnnw a gyfrifir yn unol â rheoliad 6, yn adenilladwy fel dyled.

(2Mewn unrhyw achos cyfreithiol a ddygir yn unol â pharagraff (1), mae tystysgrif gan Weinidogion Cymru sydd—

(a)yn pennu’r gyfradd llog a gynigir rhwng banciau Llundain (LIBOR) sy’n gymwys yn ystod cyfnod penodedig; a

(b)yn cynnwys datganiad i’r perwyl bod Banc Lloegr neu’r corff cydgysylltu wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o’r gyfradd honno am y cyfnod hwnnw,

(c)yn dystiolaeth o’r gyfradd sy’n gymwys yn ystod y cyfnod hwnnw.

(3Yn y rheoliad hwn, mae i “corff cydgysylltu” yr ystyr a roddir i “coordinating body” gan Erthygl 7(4) o’r Rheoliad Llorweddol.

Llog

6.—(1Ceir codi llog mewn perthynas â phob diwrnod o’r cyfnod y cyfeirir ato yn Erthygl 7(2) o’r Rheoliad Gweithredu Llorweddol, ac at y diben hwn y gyfradd llog sy’n gymwys ar unrhyw ddiwrnod yw un pwynt canran uwchlaw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau (LIBOR) ar y diwrnod hwnnw.

Pwerau mynediad

7.—(1Caiff person awdurdodedig arfer unrhyw rai o’r pwerau a bennir yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 8 a 9 at y diben o—

(a)gorfodi—

(i)y Rheoliadau Ewropeaidd ac eithrio Penodau III a IV o Deitl V o’r Rheoliad Llorweddol; neu

(ii)y Rheoliadau hyn;

(b)darparu adroddiad rheoli, yn yr ystyr a roddir i “control report” yn Erthygl 54(1) o’r Rheoliad Llorweddol;

(c)penderfynu a ddigwyddodd unrhyw fethiant i gydymffurfio.

(2Caiff person awdurdodedig, ar bob adeg resymol, ac ar ôl dangos ei awdurdod os gofynnir iddo, fynd i mewn i unrhyw fangre, ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat.

(3Nid yw paragraff (2) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir gan warant a ddyroddir yn unol â pharagraff (4).

(4Caiff ynad heddwch, drwy warant lofnodedig, roi caniatâd i berson awdurdodedig fynd i mewn ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre, a hynny, pan fo angen, gan ddefnyddio grym rhesymol, os bodlonir yr ynad, ar sail tystiolaeth ysgrifenedig a roddwyd ar lw—

(a)bod sail resymol i berson awdurdodedig fynd i mewn i’r fangre at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (1); a

(b)y bodlonir un o’r amodau ym mharagraff (5).

(5Yr amodau yw —

(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, ac—

(i)hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei gyflwyno i’r meddiannydd, neu

(ii)na chyflwynwyd hysbysiad o’r fath i’r meddiannydd oherwydd byddai cyflwyno hysbysiad o’r fath yn tanseilio diben neu effeithiolrwydd y mynediad;

(b)bod gofyn mynd i mewn ar frys; neu

(c)bod y fangre’n wag, neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.

(6Mae gwarant yn ddilys am dri mis.

(7Caiff person awdurdodedig sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd â phersonau fel a ganlyn gydag ef—

(a)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd; a

(b)pha bynnag bersonau eraill a ystyrir gan y person awdurdodedig yn angenrheidiol at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (1).

(8Rhaid i berson awdurdodedig sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag adael y fangre honno wedi ei diogelu mor effeithiol ag yr oedd cyn iddo fynd i mewn iddi.

Pwerau archwilio etc

8.—(1Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre i arfer pŵer a roddir gan reoliad 7—

(a)cynnal unrhyw ymchwiliadau, gwiriadau, archwiliadau, mesuriadau a phrofion;

(b)cymryd samplau;

(c)archwilio’r cyfan neu unrhyw ran o’r tir, boed yn cael ei ffermio neu wedi ei dynnu’n ôl o ddefnydd amaethyddol, neu’r fangre;

(d)archwilio unrhyw dda byw, cnydau, peiriannau neu gyfarpar;

(e)marcio unrhyw anifail neu wrthrych arall at y diben o’i adnabod;

(f)mynnu cael mynediad at unrhyw ddogfennau neu gofnodion, eu harchwilio, eu copïo a’u hargraffu (ym mha bynnag ffurf y’u cedwir) neu symud ymaith y cyfryw ddogfennau er mwyn eu copïo neu’u cadw fel tystiolaeth;

(g)mynnu cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw ddeunyddiau neu gyfarpar cysylltiedig a ddefnyddir, neu a ddefnyddiwyd, mewn cysylltiad â’r dogfennau neu’r cofnodion, eu harchwilio a gwirio’r modd y’u gweithredir;

(h)tynnu ffotograff o unrhyw beth sydd ar y tir, neu ei gofnodi mewn ffurf ddigidol;

(i)cludo ymaith unrhyw beth y tybir yn rhesymol ei fod yn dystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio;

(j)symud carcas oddi ar y tir neu o’r fangre at y diben o gynnal archwiliad post mortem arno.

(2Caiff person awdurdodedig sy’n mynd i mewn ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre, o dan pŵer a roddir o dan ddeddfwriaeth arall, arfer unrhyw rai o’r pwerau a bennir yn y rheoliad hwn at y dibenion o orfodi’r Rheoliadau hyn.

(3Mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â pherson y cyfeirir ato yn rheoliad 7(7)(b) pan fo’r person hwnnw’n gweithredu o dan gyfarwyddyd person awdurdodedig, fel pe bai’r person hwnnw yn berson awdurdodedig.

Cymorth i bersonau awdurdodedig

9.  Rhaid i’r buddiolwr mewn perthynas ag unrhyw dir neu fangre yr eir i mewn iddo neu iddi gan berson awdurdodedig wrth arfer pŵer a roddir gan reoliad 7, ac unrhyw gyflogai, gwas neu asiant y buddiolwr hwnnw, roi i berson awdurdodedig (“PA”) pa bynnag gymorth y gofynnir amdano yn rhesymol gan PA, i alluogi PA i arfer unrhyw bŵer a roddir iddo gan reoliad 7 neu 8.

Troseddau a chosbau

10.—(1Cyflawnir trosedd gan unrhyw berson sydd—

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson rhag gweithredu i gyflawni’r Rheoliadau hyn;

(b)heb achos rhesymol, y byddai’n ofynnol i’r person ei hunan ei brofi, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy’n gweithredu i gyflawni’r Rheoliadau hyn unrhyw gymorth neu wybodaeth y gofynnir yn rhesymol amdano neu amdani gan y person hwnnw o dan y Rheoliadau hyn; neu

(c)gan wybod hynny neu’n ddi-hid, yn rhoi i unrhyw berson sy’n gweithredu i gyflawni’r Rheoliadau hyn unrhyw wybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1)(a) neu (b) yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(3Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1)(c) yn agored—

(a)o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol, neu i’w garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na thri mis, neu’r ddau; neu

(b)o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na dwy flynedd, neu’r ddau.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), am drosedd o dan baragraff (1) rhaid dwyn unrhyw achos cyfreithiol o fewn chwe mis o’r dyddiad y bydd tystiolaeth, sy’n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau’r achos cyfreithiol, yn dod yn hysbys i’r erlynydd.

(5Ni chaniateir cychwyn unrhyw achos cyfreithiol am drosedd o dan baragraff (1) fwy na dwy flynedd ar ôl dyddiad cyflawni’r drosedd.

(6At ddibenion y rheoliad hwn, bydd tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd ac yn datgan ar ba ddyddiad y daeth tystiolaeth a oedd yn ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos cyfreithiol, yn hysbys i’r erlynydd, yn dystiolaeth ddigamsyniol o’r ffaith honno.

Atebolrwydd cyfarwyddwyr etc

11.—(1Yn achos trosedd o dan reoliad 10 a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, os profir ei bod—

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu

(b)yn briodoladwy i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,

mae’r swyddog hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog” (“officer”) yw—

(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff corfforaethol, neu

(b)person sy’n honni gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath.

(3Os rheolir busnes corff corfforaethol gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd ac anweithiau aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau’r aelod o reoli, fel y mae’n gymwys i swyddog corff corfforaethol.

Troseddau gan gyrff corfforaethol, partneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig

12.—(1Ceir dwyn achos cyfreithiol am drosedd dan reoliad 10, yr honnir iddi gael ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.

(2At ddibenion achos cyfreithiol o’r fath, mae—

(a)rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau, ac

(b)adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(15) (gweithdrefn ar gyhuddiad o drosedd yn erbyn corfforaeth) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (16) (corfforaethau),

yn cael effaith mewn perthynas â’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.

(3Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn dilyn collfarn am drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig.

(4Yn achos trosedd o dan reoliad 10 a gyflawnwyd gan bartneriaeth, os profir ei bod —

(a)y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu

(b)yn briodoladwy i unrhyw esgeulustod ar ran partner,

mae’r partner hwnnw, yn ogystal â’r bartneriaeth, yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(5Yn achos trosedd o dan reoliad 10 a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, os profir ei bod—

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu

(b)yn briodoladwy i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,

mae’r swyddog hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(6Yn achos trosedd o dan reoliad 10 a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth), os profir ei bod —

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog y gymdeithas neu aelod o’r chorff lywodraethu, neu

(b)yn briodoladwy i esgeulustod y swyddog neu’r aelod hwnnw,

mae’r swyddog neu’r aelod hwnnw, yn ogystal â’r gymdeithas, yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(7Ym mharagraffau (4), (5) a (6), mae unrhyw gyfeiriad at swyddog, partner neu aelod, yn ôl fel y digwydd, yn cynnwys person sy’n honni gweithredu yn rhinwedd swydd o’r fath.

(8Yn y rheoliad hwn—

(a)nid yw “partneriaeth” (“partnership”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;

(b)nid yw “cymdeithas anghorfforedig” (“unincorporated association”) yn cynnwys partneriaeth.

RHAN 3TRAWSGYDYMFFURFIO

Safonau ar gyfer cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da

13.—(1Mae’r safonau ar gyfer cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da a bennir yn Atodlen 1 yn gymwys fel y gofynion lleiafswm at ddibenion Erthygl 94 o’r Rheoliad Llorweddol ac Atodiad II i’r Rheoliad hwnnw.

(2Ond mae darpariaethau Atodlen 2 yn pennu’r amgylchiadau pan nad yw torri darpariaeth o Atodlen 1 yn gyfystyr â methiant i gydymffurfio.

Awdurdodau rheoli cymwys

14.—(1Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod rheoli cymwys yn yr ystyr a roddir i “competent control authority” at ddibenion Erthygl 67 o’r Rheoliad Gweithredu Llorweddol ac eithrio pan bennir yn wahanol yn y rheoliad hwn.

(2At ddibenion Erthygl 67(1)(a) o’r Rheoliad Gweithredu Llorweddol, yr Ysgrifennydd Gwladol yw’r “corff rheoli arbenigol” yn yr ystyr a roddir i “specialised control body”, sy’n ymgymryd â’r cyfrifoldeb am gyflawni’r rheolaethau mewn perthynas â’r gofynion rheoli statudol o dan rifau 5 ac 11 i 13 o Atodiad II i’r Rheoliad Llorweddol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas â’r safonau y maent yn gyfrifol amdanynt, wneud yn ofynnol bod awdurdod perthnasol yn cyflawni rheolaethau neu wiriadau at ddibenion Erthygl 65, Pennod I o Deitl III a Phennod II o Deitl IV o’r Rheoliad Gweithredu Llorweddol.

(4Rhaid i awdurdod perthnasol, pan ofynnir iddo gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol, weithredu’r rheolaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)—

(a)anfon adroddiad rheoli dros dro, ynglŷn â’r rheolaethau a weithredwyd, ar Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl fel y digwydd);

(b)os tybia, wrth ymgymryd â’i weithgareddau eraill, fod methiant i gydymffurfio wedi digwydd, hysbysu’r person neu’r corff sy’n gyfrifol, o dan baragraff (1) neu (2) o’r rheoliad hwn, am weithredu’r rheolaethau mewn perthynas â’r methiant hwnnw i gydymffurfio.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod perthnasol” (“a relevant authority”) yw—

(a)Cyfoeth Naturiol Cymru;

(b)Awdurdod Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion; neu

(c)Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol.

(6Gweinidogion Cymru sy’n gorfodi’r Rhan hon o’r Rheoliadau, a chaiff Gweinidogion Cymru, mewn ysgrifen, awdurdodi personau i orfodi’r Rhan hon o’r Rheoliadau hyn.

RHAN 4DARPARIAETHAU TERFYNOL

Dirymiadau ac arbedion

15.—(1Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 3 wedi eu dirymu yn ddarostyngedig i’r arbedion a ganlyn.

(2Mae’r Rheoliadau Taliadau Sengl yn parhau’n gymwys mewn perthynas â chais sengl fel y’i diffinnir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau IACS.

(3Mae rheoliadau 1 i 13 o’r Rheoliadau Datblygu Gwledig yn parhau’n gymwys mewn perthynas ag unrhyw gymorth ariannol fel y cyfeirir ato yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny

(4Bydd unrhyw benodiad person awdurdodedig at ddibenion y Rheoliadau Datblygu Gwledig, y Rheoliadau IACS, neu’r Rheoliadau Trawsgydymffurfio, a oedd yn cael effaith yn union cyn 1 Ionawr 2015 yn parhau i gael effaith fel pe bai’n benodiad o’r person hwnnw gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl fel y digwydd) at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “y Rheoliadau Datblygu Gwledig” (“the Rural Development Regulations”) yw Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006(17);

ystyr “y Rheoliadau IACS” (“the IACS Regulations”) yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli) 2009(18);

ystyr “y Rheoliadau Taliadau Sengl” (“the Single Payment Regulations”) yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2010(19);

ystyr “y Rheoliadau Trawsgydymffurfio” (“the Cross Compliance Regulations”) yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004(20).

Rebecca Evans

Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Adnoddau Naturiol, un o Weinidogion Cymru

8 Rhagfyr 2014

Rheoliad 13(1)

ATODLEN 1Safonau ar gyfer Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da

Sefydlu lleiniau clustogi ar hyd cyrsiau dŵr

1.—(1Rhaid peidio â thaenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd o fewn 2 fetr i ddŵr wyneb.

(2Rhaid peidio â defnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion o fewn 2 fetr i ddŵr wyneb ac eithrio i reoli rhywogaethau estron goresgynnol a hynny yn unig pan fo trwydded wedi ei rhoi yn unol â Rheoliadau Rheoli Plaleiddiaid 1986(21).

(3Rhaid peidio â thaenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb oni ddefnyddir cyfarpar taenu manwl, ac yn yr achos hwnnw rhaid peidio â thaenu tail organig o fewn 6 metr i ddŵr wyneb.

(4Caniateir taenu tail da byw (ac eithrio slyri a thail dofednod) yn y mannau a grybwyllir yn is-baragraffau (1), (2) a (3)—

(a)os taenir ef ar dir a reolir ar gyfer bridio adar hirgoes, neu fel glaswelltir lled-naturiol, cyfoethog ei rywogaethau ac os yw’r tir—

(i)yn dir yr hysbyswyd ei fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981; neu

(ii)yn ddarostyngedig i ymrwymiad amaeth-amgylcheddol a wnaed o dan y Rheoliad Datblygu Gwledig;

(b)os taenir ef rhwng 1 Mehefin a 31 Hydref, y ddau ddyddiad yn gynwysedig;

(c)os na thaenir ef yn uniongyrchol ar ddŵr wyneb; a

(d)os nad yw’r cyfanswm blynyddol yn fwy na 12.5 tunnell yr hectar.

(5Rhaid peidio â thaenu tail organig o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew.

(6Rhaid peidio â lleoli safleoedd lle y darperir porthiant atodol i dda byw o fewn 10 metr i gwrs dŵr ar unrhyw dir.

(7At ddibenion y paragraff hwn—

ystyr “cyfarpar taenu manwl” (“precision spreading equipment”) yw system gwadnau llusg, bar diferion neu chwistrellydd;

ystyr “da byw” (“livestock”) yw gwartheg, ieir, ceirw, hwyaid, geifr, ceffylau, moch, defaid, estrysod a thyrcwn;

ystyr “dofednod” (“poultry”) yw ieir, hwyaid, estrysod a thyrcwn;

ystyr “gwrtaith ffosffad” (“phosphate fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion ffosffad a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;

ystyr “gwrtaith nitrogen” (“nitrogen fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion nitrogen a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;

ystyr “gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd” (“manufactured nitrogen fertiliser”) yw unrhyw wrtaith nitrogen (ac eithrio tail organig) sydd wedi’i weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;

ystyr “slyri” (“slurry”) yw carthion a gynhyrchir gan dda byw (ac eithrio dofednod) tra bônt mewn buarth neu adeilad (gan gynnwys unrhyw sarn, dŵr glaw neu olchiadau a gymysgwyd gyda’r carthion hynny) ac y mae eu tewdra yn caniatáu iddynt gael eu pwmpio neu eu gollwng drwy ddisgyrchiant (yn achos carthion sydd wedi’u gwahanu i’w ffracsiynau hylifol a’u rhai solet, y ffracsiwn hylifol yw’r slyri);

mae “taenu” (“spreading”) yn cynnwys dodi ar wyneb y tir, chwistrellu i mewn i’r tir neu gymysgu â haenau arwyneb y tir ond nid yw’n cynnwys dyddodi carthion yn uniongyrchol ar y tir gan anifeiliaid;

ystyr “tail organig” (“organic manure”) yw unrhyw wrtaith nitrogen neu wrtaith ffosffad sydd â’u ffynhonnell yn anifeiliaid, planhigion neu fodau dynol, ac mae’n cynnwys tail da byw.

Echdynnu dŵr ar gyfer dyfrhau

2.  Rhaid i’r modd yr echdynnir dŵr at ddibenion dyfrhau gydymffurfio ag adran 24 (cyfyngiadau ar echdynnu) Deddf Adnoddau Dŵr 1991(22).

Diogelu dŵr daear

3.—(1Rhaid i fuddiolwr beidio ag achosi, na chaniatáu gan wybod hynny, unrhyw weithgaredd dŵr daear ac eithrio o dan, ac i’r graddau a awdurdodir gan, drwydded amgylcheddol yn unol a rheoliad 12(1)(b) o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010(23).

(2Rhaid i fuddiolwr gydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â gweithgareddau dŵr daear yn unol â rheoliad 35(2)(p) o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 ac Atodlen 22 i’r Ddeddf honno(2).

(3At ddibenion y paragraff hwn—

mae i “gweithgaredd dŵr daear” yr ystyr a roddir i “groundwater activity” yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010;

mae i “trwydded amgylcheddol” yr ystyr a roddir i “environmental permit” yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010.

Isafswm gorchudd pridd

4.—(1Rhaid i fuddiolwr ddiogelu pob pridd drwy sicrhau bod pob tir wedi ei orchuddio gan gnydau, sofl, gweddillion neu lystyfiant arall pridd drwy gydol yr amser, ac eithrio pan fyddai sefydlu gorchudd o’r fath yn torri unrhyw un o ofynion paragraff 5.

(2Pan fo tir wedi ei gynaeafu gan ddefnyddio cynaeafwr combein, cynaeafwr porthiant neu dorrwr gwair, rhaid i fuddiolwr sicrhau y bodlonir un o’r amodau canlynol drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod cyntaf ar ôl cynaeafu ac yn diweddu ar y diwrnod cyntaf o fis Mawrth yn y flwyddyn ddilynol,—

(a)bod sofl y cnwd a gynaeafwyd yn aros yn y tir; neu

(b)y paratoir y tir fel gwely had ar gyfer cnwd neu gnwd gorchudd dros dro o fewn 14 diwrnod, ac

(i)yr heuir y cnwd neu’r cnwd gorchudd dros dro o fewn y cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod ar ôl gorffen paratoi’r gwely had, neu

(ii)os byddai hau o fewn y cyfnod hwnnw o 10 diwrnod yn torri’r gofyniad ym mharagraff 6(1), yr heuir y cnwd neu’r cnwd gorchudd dros dro cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi i’r tir beidio â bod yn ddwrlawn.

Isafswm rheolaeth tir sy’n adlewyrchu amodau penodol y safle er mwyn cyfyngu ar erydu

5.—(1Rhaid i fuddiolwr—

(a)beidio â chaniatáu, ar unrhyw dir, lefel o figno a rhigoli a fyddai’n achosi i bridd erydu i lawr llethr neu oddi ar y safle, i mewn i gwrs dŵr neu ffordd; a

(b)naill ai ddefnyddio aradr gynion neu osod ffensys gwaddodion i gyfyngu ar erydiad pridd, os nad yw’n bosibl hau cnwd gorchudd ar dir sydd wedi ei gynaeafu yn ddiweddar, neu lle mae’r porthiant neu gnwd gwreiddlysiau wedi ei bori ymaith.

(2Yn y paragraff hwn—

ystyr “oddi ar y safle” (“off-site”) yw unrhyw fan sydd y tu hwnt i derfyn cae mewn daliad, gan gynnwys cae arall sy’n rhan o’r un daliad;

6.—(1Rhaid i fuddiolwr beidio â gwneud gwaith maes mecanyddol ar bridd dwrlawn os nad yw—

(a)y pridd hwnnw o fewn 20 metr i’r fynedfa at arwynebedd o bridd nad yw’n ddwrlawn;

(b)y pridd yn ffurfio rhan o drac sy’n arwain at arwynebedd o bridd nad yw’n ddwrlawn;

(c)y gwaith maes mecanyddol yn angenrheidiol—

(i)er mwyn gwella draeniad y pridd, neu

(ii)er mwyn corffori gypswm yn y pridd, yn dilyn mewnlifiad o ddŵr hallt, neu

(iii)am resymau lles anifeiliaid neu ddiogelwch dynol, neu

(iv)i gynaeafu cnwd o ffrwythau neu lysiau—

(aa)er mwyn bodloni ymrwymiadau contractiol, neu

(bb)os byddai ansawdd y cnwd yn dirywio pe na byddid yn ei gynaeafu;

(d)Gweinidogion Cymru, yn unol â’u rhwymedigaethau o dan is-baragraff (2), wedi cyhoeddi cyfarwyddiadau ysgrifenedig sy’n datgan, gan roi rhesymau—

(i)yn eu barn hwy, fod amodau tywydd eithriadol yn effeithio ar ardal yng Nghymru,

(ii)yn eu barn hwy, fod yr amodau tywydd hynny yn cyfiawnhau atal dros dro neu amrywio’r gofyniad yn y paragraff hwn, ar ôl ystyried effaith economaidd yr amodau tywydd yn ogystal ag effaith amgylcheddol unrhyw amrywiad neu ataliad o’r gofynion,

(iii)manylion yr ataliad neu’r amrywiad, a

(iv)am ba gyfnod y bydd yr ataliad neu’r amrywiad yn gymwys, ar yr amod na chaiff y cyfnod barhau am fwy na dau fis,

ac os felly, rhaid i unrhyw fuddiolwr yn yr ardal honno o Gymru gydymffurfio â’r gofyniad fel y’i hamrywiwyd yn y cyfarwyddiadau neu, yn achos ataliad o’r gofyniad, ni fydd angen i ffermwr gydymffurfio â’r gofyniad yn ystod y cyfnod a bennir.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddiadau o’r fath, ym mha bynnag ffordd yr ystyriant yn briodol er mwyn eu dwyn i sylw’r bobl y mae’n debygol yr effeithir arnynt, bob tro y tybiant fod amodau tywydd o’r fath yn cyfiawnhau hynny.

(3Yn y paragraff hwn—

mae “gwaith maes mecanyddol” (“mechanical field operation”) yn cynnwys unrhyw waith cynaeafu, trin tir neu daenu (gan gynnwys taenu tail neu slyri) a phob gweithgarwch gyda cherbydau ar y tir dan sylw.

Cynnal deunydd organig yn y pridd

7.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i fuddiolwr, ar unrhyw arwynebedd amaethyddol, beidio â llosgi unrhyw weddillion cnwd o fath a bennir yn Atodlen 1 i Reoliadau Gweddillion Cnydau (Llosgi) 1993(24) oni losgir y gweddillion hynny at ddibenion—

(a)rheoli clefyd neu blâu planhigion pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan erthygl 32 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(25);

(b)addysg neu ymchwil; neu

(c)gwaredu gweddillion tas wellt neu fêls sydd wedi chwalu.

(2Rhaid i fuddiolwr gael caniatâd Gweinidogion Cymru cyn dechrau llosgi at ddibenion is-baragraff (1)(b) neu (c).

8.  Rhaid i fuddiolwr, ar unrhyw arwynebedd amaethyddol, beidio â llosgi—

(a)unrhyw weddillion cnwd o fath a bennir yn Atodlen 1 i Reoliadau Gweddillion Cnydau (Llosgi) 1993, y mae esemptiad a bennir ym mharagraff 7(1)(a) neu (b) yn gymwys iddynt;

(b)unrhyw weddillion had llin;

ac eithrio’n unol â’r cyfyngiadau a’r gofynion a bennir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny.

Llosgi grug a glaswellt

9.—(1Rhaid i fuddiolwr beidio â chychwyn llosgi grug, glaswellt garw, rhedyn neu goed llus (Vaccinium) ar unrhyw dir rhwng machlud a chodiad haul.

(2Rhaid i ffermwr beidio â llosgi grug, glaswellt garw, rhedyn neu goed llus—

(a)oni fydd cynllun llosgi wedi ei baratoi ac y bwriedir llosgi yn unol â darpariaethau’r cynllun hwnnw;

(b)onid oes, yn y man lle mae’r llosgi’n digwydd, nifer digonol o bersonau a chyfarpar i reoli a rheoleiddio’r llosgi yn ystod y cyfnod gweithredu cyfan;

(c)oni fydd y buddiolwr, cyn cychwyn llosgi ac yn ystod y cyfnod gweithredu cyfan, yn cymryd pob rhagofal rhesymol i osgoi niwed neu ddifrod i dir cyfagos neu, i unrhyw berson neu wrthrych sydd ar y tir hwnnw;

(d)oni fydd y buddiolwr, o fewn dim llai na 24 awr a dim mwy na 72 awr cyn dechrau llosgi ar unrhyw dir, wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r dyddiad neu’r dyddiadau, yr amser a’r lleoliad, ac o arwynebedd y man y bwriedir ei losgi—

(i)i unrhyw berson sydd â buddiant yn y tir hwnnw fel perchennog neu fel meddiannydd, a

(ii)ac eithrio yn achos unrhyw losgi a wneir ar dir rheilffordd, i unrhyw berson arall y gwyddys, neu y gellid gyda diwydrwydd rhesymol ddarganfod, ei fod yn gyfrifol am unrhyw dir cyfagos i’r tir y bwriedir llosgi arno.

(3Rhaid i fuddiolwr beidio â llosgi grug, glaswellt garw, rhedyn neu goed llus—

(a)ar dir sydd o fewn ardal ucheldirol, yn ystod y cyfnod mewn unrhyw flwyddyn rhwng 16 Mawrth a 31 Hydref, y ddau ddyddiad yn gynwysedig; neu

(b)ar unrhyw dir arall, yn ystod y cyfnod mewn unrhyw flwyddyn rhwng 1 Ebrill a 30 Medi, y ddau ddyddiad yn gynwysedig,

ac eithrio o dan ac yn unol â thrwydded a roddwyd yn unol â rheoliad 7 o Reoliadau Llosgi Grug a Glaswellt etc. (Cymru) 2008(26).

Asesiad effaith amgylcheddol

10.—(1Rhaid i fuddiolwr beidio â chychwyn na chyflawni prosiect tir heb ei drin, na phrosiect ailstrwythuro—

(a)yn groes i reoliad 4 o’r Rheoliadau AEA (Amaethyddiaeth), neu

(b)yn groes i reoliad 8 o’r Rheoliadau hynny.

(2Rhaid i fuddiolwr beidio â gweithredu’n groes i unrhyw hysbysiad atal sydd wedi ei gyflwyno iddo o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau AEA (Amaethyddiaeth).

(3Rhaid i fuddiolwr, heb esgus rhesymol, beidio â thorri unrhyw ofyniad mewn hysbysiad adfer a gyflwynir iddo o dan reoliad 26 o’r Rheoliadau AEA (Amaethyddiaeth).

(4Yn y paragraff hwn, mae i “prosiect tir heb ei drin” (“uncultivated land project”) yr ystyr a roddir i’r term gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau AEA (Amaethyddiaeth).

(5Yn paragraff hwn, ystyr “y Rheoliadau AEA (Amaethyddiaeth)” (“the EIA (Agriculture) Regulations”) yw Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007(27)

11.—(1Rhaid i fuddiolwr, ar unrhyw dir, beidio â chyflawni gwaith neu weithrediadau sy’n ymwneud â phrosiect perthnasol—

(a)oni roddwyd caniatâd ar gyfer y prosiect hwnnw gan y corff coedwigaeth priodol neu gan yr awdurdod priodol; a

(b)oni chyflawnir y prosiect yn unol â’r caniatâd (gan gynnwys unrhyw amodau y mae’r caniatâd yn ddarostyngedig iddynt).

(2Rhaid i fuddiolwr beidio â chyflawni gwaith mewn perthynas â phrosiect perthnasol yn groes i ofyniad i atal y gwaith hwnnw mewn hysbysiad gorfodi a gyflwynwyd yn unol â rheoliad 20 o’r Rheoliadau AEA (Coedwigaeth).

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i fuddiolwr, y cyflwynwyd hysbysiad gorfodi iddo yn unol â rheoliad 20 o’r Rheoliadau AEA (Coedwigaeth), gyflawni unrhyw fesur sy’n ofynnol gan yr hysbysiad gorfodi, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad gorfodi.

(4Yn y paragraff hwn—

(a)mae i’r ymadroddion “yr awdurdod priodol” ac “y corff coedwigaeth priodol” yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “the appropriate authority” a “the appropriate forestry body” gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau AEA (Coedwigaeth), ac mae i “prosiect perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant project” gan reoliad 3(1) o’r Rheoliadau hynny; a

(b)ystyr “y Rheoliadau AEA (Coedwigaeth)” (“the EIA (Forestry) Regulations”) yw Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999(28).

Cadw nodweddion tirwedd – henebion cofrestredig

12.—(1Yn ddarostyngedig is-baragraff (3), ni chaiff buddiolwr, heb ganiatâd o dan adran 2(3) o Deddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979(29), gyflawni unrhyw waith fel a ganlyn—

(a)unrhyw waith sy’n peri dymchwel neu ddinistrio neu unrhyw ddifrod i heneb gofrestredig;

(b)unrhyw waith at y diben o symud neu atgyweirio heneb gofrestredig neu unrhyw ran ohoni;

(c)unrhyw waith at y diben o wneud unrhyw newid neu ychwanegiadau i heneb gofrestredig neu unrhyw ran ohoni;

(d)unrhyw weithrediadau gorlifo neu dipio ar dir sydd â heneb gofrestredig ynddo, arno neu oddi tano.

(2Yn ddarostyngedig is-baragraff (3), pan fo buddiolwr yn cyflawni unrhyw waith y mae caniatâd heneb gofrestredig yn ymwneud ag ef, rhaid i’r buddiolwr gydymffurfio â phob amod sydd ynghlwm wrth y caniatâd hwnnw.

(3Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys os gall buddiolwr ddangos—

(a)mewn perthynas â gwaith a waherddir o dan baragraff (1)(a), fod y buddiolwr wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi neu rwystro difrodi’r heneb;

(b)mewn perthynas â gwaith a waherddir o dan baragraff (1)(a) neu (c), nad oedd y buddiolwr yn gwybod, ac nad oedd ganddo reswm i gredu, fod yr heneb o fewn y man yr effeithid arno gan y gwaith neu, yn ôl fel y digwydd, ei bod yn heneb gofrestredig; ac

(c)mewn perthynas ag unrhyw waith o dan is-baragraff (1) neu (2), fod angen gwneud y gwaith ar frys er lles diogelwch neu iechyd a bod hysbysiad o’r angen i wneud y gwaith wedi ei ro i Weinidogion Cymru cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol.

(4Yn y paragraff hwn, mae i “heneb gofrestredig” (“scheduled monument”) yr ystyr a roddir i “scheduled monument” yn adran 1(11) o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979, a rhaid dehongli “caniatâd heneb gofrestredig” (“scheduled monument consent”) yn unol ag adrannau 2(3) a 3(5) o’r Ddeddf honno.

Cadw nodweddion tirwedd eraill

13.—(1Ac eithrio pan fo is-baragraff (2) neu (3) yn gymwys, ni chaiff ffermwr symud ymaith, dinistrio na difrodi waliau cerrig, cloddiau cerrig, perthi, cloddiau , ffensys llechi, pyllau dŵr na ffosydd heb ganiatâd ymlaen llaw gan—

(a)Gweinidogion Cymru,

(b)unrhyw awdurdod arall, gan neu o dan unrhyw ddeddfiad, fel yr hysbysir i’r buddiolwr gan Weinidogion Cymru pan fo’r buddiolwr yn gwneud cais iddynt am ganiatâd.

(2Caiff buddiolwr symud ymaith nodwedd gerrig, neu dynnu cerrig allan o nodwedd gerrig—

(a)er mwyn lledu bwlch presennol yn y nodwedd gerrig i ddim mwy na 10 metr i ddarparu mynediad i’r tir ar gyfer peiriannau neu dda byw, ond rhaid i bennau’r nodwedd, a grëir gan y weithred o’i lledu, gael eu gorffen gyda wyneb fertigol; neu

(b)os rhoddodd Gweinidogion Cymru ganiatâd ysgrifenedig i’r buddiolwr wneud hynny oherwydd eu bod o’r farn bod symud yn angenrheidiol yn yr amgylchiad penodol dan sylw.

(3Caiff buddiolwr ledu bwlch presennol mewn perth, clawdd neu ffos i ddim mwy na 10 metr i ddarparu mynediad i’r tir ar gyfer peiriannau neu dda byw, ond rhaid i ben y berth, clawdd neu ffos, a grëir gan y weithred o ledu, gael ei orffen gyda wyneb fertigol.

(4Rhaid i fuddiolwr beidio â thrin tir o fewn 1 fetr i berth, clawdd neu gwrs dŵr cyfagos i arwynebedd amaethyddol.

(5Rhaid i fuddiolwr beidio â symud ymaith unrhyw berth, yn groes i reoliad 5(1) neu (9) o Reoliadau Perthi 1997(30).

(6Rhaid i fuddiolwr beidio â thorri gorchymyn cadw coed a wnaed o dan adran 198(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(31), drwy—

(a)dorri coeden i lawr, ei dadwreiddio neu ei dinistrio’n fwriadol; neu

(b)difrodi yn fwriadol, brigdorri neu dorri canghennau coeden mewn modd sy’n debygol o’i dinistrio.

(7Yn y paragraff hwn—

ystyr “cais datblygu gwledig” (“rural development application”) yw cais i Weinidogion Cymru i ymuno mewn ymrwymiad datblygu gwledig;

ystyr “ceisydd datblygu gwledig” (“rural development applicant”) yw unrhyw berson sy’n gwneud cais datblygu gwledig:

ystyr “clawdd cerrig” (“stone faced bank”) yw clawdd bridd gyda gwaith cerrig ar un wyneb.

mae “ffos” (“ditch”) yn cynnwys ffos sych;

mae “nodwedd gerrig” (“stone feature”) yn cynnwys wal gerrig, clawdd cerrig a ffens lechi;

ystyr “perth” (“hedgerow”) yw unrhyw berth sydd â’i lled mwyaf yn 10 metr neu’n llai;

ystyr “pwll dŵr” (“pond”) yw corff o ddŵr sy’n digwydd yn naturiol, neu a grëwyd o dan ymrwymiad datblygu gwledig, gydag arwynebedd o hyd at 0.1 hectar;

ystyr “taliad datblygu gwledig” (“rural development payment”) yw unrhyw daliad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Deitl III o’r Rheoliad Datblygu Gwledig;

ystyr “wal gerrig” (“stone wall”) yw wal gerrig draddodiadol, ac mae’r term yn cynnwys “wal Penclawdd” a “perth Sir Benfro”;

ystyr “wal Penclawdd” neu “perth Sir Benfro” (“Penclawdd wall” neu “Pembrokeshire hedge”) yw clawdd pridd gyda gwaith cerrig ar ei ddau wyneb;

ystyr “ymrwymiad datblygu gwledig” (“rural development commitment”) yw ymrwymiad a roddir i Weinidogion Cymru gan geisydd datblygu gwledig, i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad sy’n amod cael taliad datblygu gwledig;

Cadw nodweddion tirwedd – gwahardd torri perthi a choed

14.—(1Ac eithrio pan fo is-baragraffau (2), (3), (4) neu (5) yn gymwys, rhaid i fuddiolwr beidio â thorri neu docio unrhyw berth neu goeden ar ddaliad yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 1 Mawrth ac diweddu ar 31 Awst.

(2Caiff ffermwr dorri neu docio perth neu goeden ar unrhyw adeg—

(a)os yw’n angenrheidiol torri neu docio’r berth neu’r goeden oherwydd—

(i)ei bod yn bargodi dros briffordd neu ffordd neu lwybr troed arall sy’n agored i’r cyhoedd, gan beryglu neu rwystro mynediad cerbydau neu gerddwyr;

(ii)ei bod yn rhwystro, neu’n ymyrryd â, gwelededd gyrwyr cerbydau, neu’r golau o lamp gyhoeddus;

(iii)ei bod yn bargodi dros briffordd gan beryglu neu rwystro mynediad marchogion ceffylau; neu

(b)os yw’n angenrheidiol ei thorri neu’u thocio—

(i)oherwydd ei bod yn farw, yn afiach, wedi ei difrodi, neu wedi gwreiddio’n anniogel, ac

(ii)oherwydd ei chyflwr, gan fod y goeden neu’r berth, neu ran ohoni, yn debygol o achosi perygl drwy gwympo ar y briffordd neu’r llwybr troed; neu

(c)os torrir neu docio er mwyn cynnal ffos; neu

(d)os yw’r goeden mewn perllan,

ac nad yw’r buddiolwr yn tarfu ar unrhyw adar sy’n nythu yn y berth neu’r goeden.

(3Caiff buddiolwr blygu perthi a phrysgoedio perthi a choed—

(a)yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Mawrth ac yn diweddu ar 31 Mawrth os nad yw’r buddiolwr yn tarfu ar unrhyw adar sy’n nythu yn y berth neu’r goeden; neu

(b)yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Mawrth ac yn diweddu ar 30 Ebrill os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig i’r buddiolwr wneud hynny, gan fod Gweinidogion Cymru o’r farn bod hynny’n angenrheidiol at ddibenion cystadleuaeth neu ddigwyddiad hyfforddi.

(4Caiff buddiolwr docio perth â llaw yn ystod cyfnod o chwe mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod ar ôl y diwrnod y plygwyd y berth.

(5Caiff buddiolwr dorri neu docio perth neu goeden ar dir âr yn ystod Awst os yw’r buddiolwr yn plannu cnydau âr gaeaf ar y tir hwnnw, yn rhan o drefniadau ffermio arferol y buddiolwr, ac os nad yw’r buddiolwr yn tarfu ar unrhyw adar sy’n nythu yn y berth.

Cadw nodweddion tirwedd –cwympo coed

15.—(1Rhaid i fuddiolwr beidio â chwympo coeden heb awdurdod trwydded gwympo coed, mewn amgylchiadau pan fo trwydded gwympo yn ofynnol o dan adran 9(1) o Ddeddf Coedwigaeth 1967(32).

(2Ni chaiff buddiolwr, heb esgus rhesymol, beidio â chymryd pa bynnag gamau sy’n ofynnol gan hysbysiad a roddir iddo o dan adran 24 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (hysbysiad i fynnu cydymffurfiaeth ag amodau neu gyfarwyddiadau)(33).

Rheoliad 13(2)

ATODLEN 2Amgylchiadau pan nad yw toriad o Atodlen 1 yn fethiant i gydymffurfio

1.  Unrhyw weithred a gyflawnir o dan ymrwymiad o dan—

(a)cytundeb rheoli yr ymunwyd ynddo o dan—

(i)adran 16 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(34);

(ii)adran 15 o Ddeddf Cefn Gwlad 1968(35);

(iii)adran 39 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(36);

(b)mesur—

(i)a restrir yn Erthygl 96 o Reoliad 1698/2005;

(ii)y cyfeirir ato yn Nheitl III o’r Rheoliad Datblygu Gwledig.

2.  Unrhyw weithred a gyflawnir ar y tir—

(a)yn rhinwedd, neu mewn cysylltiad ag, unrhyw bŵer neu awdurdodiad a roddir gan neu o dan unrhyw ddeddfiad, ar yr amod y bydd y tir amaethyddol, ar ôl cwblhau’r weithred, mewn cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da at ddibenion Erthygl 4 o’r Rheoliad Llorweddol;

(b)er lles iechyd neu ddiogelwch pobl neu anifeiliaid;

(c)naill ai i alluogi trin achos difrifol o niwed i iechyd planhigion neu heigiad difrifol o unrhyw bla neu chwyn penodedig, neu i ganiatáu cymryd camau i atal datblygiad unrhyw achos niwed neu heigiad o’r fath.

Rheoliad 15(1)

ATODLEN 3Dirymiadau

(1)(2)
Rheoliadau a ddirymwydCyfeirnodau
Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004O.S. 2004/3280 (Cy. 284)
Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2005O.S. 2005/3367 (Cy. 264)
Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2006O.S. 2006/2831 (Cy. 252)
Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006O.S. 2006/3343 (Cy. 304)
Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2007O.S. 2007/970 (Cy. 87)
Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) (Diwygio) 2009O.S. 2009/3270 (Cy. 287)
Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2010O.S. 2010/38 (Cy. 11)
Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2010O.S. 2010/1892 (Cy. 185)
Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2011O.S. 2011/2941 (Cy. 317)
Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2012O.S. 2012/3093 (Cy. 311)
Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio)2014O.S. 2014/371 (Cy. 39)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, a ddaw i rym ar 1 Ionawr 2015, yn gwneud darpariaeth, o ran Cymru, ar gyfer gweithredu’r Rheoliadau Ewropeaidd (fel y’u diffinnir yn rheoliad 2(1)) cysylltiedig eraill sy’n ymwneud â gweinyddu Polisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd. Mae unrhyw gyfeiriad yn y Nodyn hwn at Reoliad yn gyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y’i diffinnir yn rheoliad 2(1).

Mae Rhan 2 (rheoliadau 3 i 12) yn pennu darpariaethau ar reoli a gorfodi mewn perthynas â thaliadau a wneir yn uniongyrchol (“taliadau uniongyrchol”) i ffermwyr o dan y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol , a thaliadau datblygu gwledig (“taliadau DG”) o dan y Rheoliad Datblygu Gwledig.

Mae rheoliad 3 yn pennu mai’r dyddiad olaf y ceir cyflwyno cais sengl, cais am gymorth neu gais am daliad i Weinidogion Cymru yw 15 Mai, neu’r diwrnod gwaith dilynol os yw 15 Mai yn ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gŵyl Banc neu ŵyl gyhoeddus arall.

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi maint lleiaf parsel amaethyddol y ceir gwneud cais sengl mewn perthynas ag ef.

Mae rheoliad 5 yn darparu bod ad-daliad sy’n ddyledus gan fuddiolwr taliad uniongyrchol yn adenilladwy fel dyled; a rheoliad 6 yn darparu ar gyfer y gyfradd llog y caniateir ei chodi ar yr ad-daliad hwnnw.

Mae rheoliadau 7 ac 8 yn rhoi pwerau mynediad ac archwilio i bersonau a awdurdodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion gorfodi. Mae rheoliad 9 yn gwneud yn ofynnol bod personau penodol yn cynorthwyo personau awdurdodedig ar gais personau o’r fath.

Mae rheoliad 10 yn creu troseddau a chosbau. Mae rheoliad 11 yn cynnwys darpariaethau ynghylch atebolrwydd cyfarwyddwyr, a rheoliad 12 yn ymwneud ag achosion cyfreithiol yn erbyn cyrff corfforaethol, partneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig.

Mae Rhan 3 yn gweithredu Erthyglau 91 i 101(trawsgydymffurfio) o’r Rheoliad Llorweddol, a Rheoliadau cysylltiedig a wnaed o dan Erthygl 101 ac yn gosod gofynion ychwanegol ar fuddiolwyr taliadau uniongyrchol a thaliadau DG penodol sy’n ymwneud â safonau ar gyfer cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da, fel y’u rhagnodir yn Atodlen 1. Mae Atodlen 2 yn rhestru eithriadau o’r gofynion hynny. Mae’r darpariaethau hyn yn disodli Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004 (O.S. 2001/3280 (Cy. 284)) fel y’u diwygiwyd, a ddirymir gan reoliad 15(1) ac Atodlen 3.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dirymiadau ac arbedion (rheoliad 15 ac Atodlen 3). Mae paragraffau (1) i (4) o reoliad 15, ac Atodlen 3, yn dirymu, gydag arbedion, Reoliadau blaenorol sy’n darparu ar gyfer gorfodi’r Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei baratoi, o effeithiau’r Rheoliadau hyn ar gostau busnesau fferm yng Nghymru. Gellir cael copi gan yr Adran Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

1972 p.68 . Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7) a Rhan 1 o’r Atodlen i’r Ddeddf honno. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.

(3)

OJ Rhif L 277, 21.10.2005, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 1312/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 339, 21,12,20111, t.1).

(4)

OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t.487, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad (EU) Rhif 1310/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L. 347, 20.12.2013, t.865).

(5)

OJ Rhif L 227, 31.7.2014, t.1.

(6)

OJ Rhif L 181. 20.6.2014, t.48.

(7)

OJ Rhif L 181, 20.6.2014, t.1.

(8)

OJ Rhif L 255, 28.8.2014, t.59.

(9)

OJ Rhif L 227, 31.7.2014, t.18.

(10)

OJ Rhif L 227, 31.7.2014, t.69.

(11)

OJ Rhif L 181, 20.6.2014, t.74.

(12)

OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t.549, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad (EU) Rhif 1310/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t.865).

(13)

OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t.608, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad (EU) Rhif 1310/2013 (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t.865).

(15)

1925 p.86. Diddymwyd is-adrannau (1), (2) a (5) gan Ddeddf Llysoedd Ynadol 1952 (p.55), adran 132 ac Atodlen 6; diwygiwyd is-adran (3) gan Ddeddf Llysoedd 1971 (p.23), adran 56(1) ac Atodlen 8, Rhan 2, paragraff 19; diwygiwyd is-adran (4) gan Ddeddf llysoedd 2003 (p.39), adran 109(1) a (3), Atodlen 8, paragraff 71 ac Atodlen 10.

(16)

1980 p.43. Diwygiwyd paragraff 2(a) o Atodlen 3 gan Ddeddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 (p.25), adran 47, Atodlen 1, paragraff 13, a diddymwyd ef gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44), adrannau 41 a 332, Atodlen 3, Rhan 2, paragraff 51(1) a (13)(a), ac Atodlen 37, Rhan 4 (cychwynnwyd yn rhannol gan O.S. 2012/1320 ac O.S. 2012/2574 a chydag effaith lawn o ddyddiad sydd i’w bennu); diddymwyd paragraff 5 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p.53), adrannau 25(2) a 101(2) ac Atodlen 13; diwygiwyd paragraff 6 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, adran 41, Atodlen 3, Rhan 2, paragraff 51(1) ac (13)(b) (cychwynnwyd yn rhannol gan O.S. 2012/1320 ac O.S. 2012/2574, a chydag effaith lawn o ddyddiad sydd i’w bennu).

(21)

O.S. 1986/1510; diwygiwyd gan O.S. 1997/188; gwnaed diwygiadau eraill, nad ydynt yn berthnasol

(22)

1991 p.57. Diwygiwyd adran 24(1) gan adran 120 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 and pharagraff 128 o Atodlen 22 i’r Ddeddf honno, a chan erthygl 4(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 a pharagraff 270(a) o Atodlen 2(1) i’r Gorchymyn hwnnw.

(23)

O.S. 2010/675; diwygiwyd gan O.S. 2012/630; diwygiwyd gan offerynnau eraill yn ogystal, ond nid yw’r diwygiadau hynny’n berthnasol.

(25)

O.S. 2006/1643 (Cy. 158) fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2014/2368 (Cy. 231).

(28)

O.S. 1999/2228. Diwygiwyd rheoliad 2(1) gan erthygl 4(2) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013, (O.S. 2013/755 (Cy.90)) a pharagraff 99(2) o Atodlen 4 i’r Gorchymyn hwnnw. Gwnaed diwygiadau eraill, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(29)

1979 p.46.

(30)

O.S. 1997/1160. Gwnaed diwygiadau, nad oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(31)

1990 p.8.

(32)

1967 p.10, fel y’i diwygiwyd gan adran 46(3) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37), a pharagraff 2 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno, a chan erthygl 4(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755 (Cy.90)) a pharagraff 53 o Ran 1 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw mewn perthynas â Chymru.

(33)

Fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan erthygl 4(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755 (Cy.90)) a pharagraff 64 o Ran 1 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.

(34)

1949 p.97, fel y’i diwygiwyd gan adran 105(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16), a pharagraff 14 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno, a chan a chan erthygl 4(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755 (Cy.90)) a pharagraff 17 o Ran 1 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.

(35)

1968 p.41, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan erthygl 4(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755 (Cy.90)) a pharagraff 95 o Ran 1 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.

(36)

1981 p.69, fel y’i diwygiwyd gan adran 96 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37) and erthygl 4(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755 (Cy.90)) a pharagraff 176 o Ran 1 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.