2014 Rhif 3111 (Cy. 311)
Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 9 ac 16 o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 20121.
Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 21(4) o’r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
3
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.
Diwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf2
1
Mae Tabl 1 yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 19 o Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964, mewnosoder—
Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg 1973
Ymgymeriadau gwresogi
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
3
Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 57(7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, mewnosoder—
Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985
Canolfannau hamdden
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 42 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985
Adeileddau dros dro
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
4
Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Tai 1985, mewnosoder—
Adran 53 o Ddeddf Cyngor Dinas Abertawe (Morglawdd Tawe) 1986
Yr afon uwchlaw
Cyngor sir (Abertawe)
Adran 31 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1987
Harbwr Porthcawl
Cyngor bwrdeistref sirol (Pen-y-bont ar Ogwr)
Adran 14 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987
Canolfannau hamdden
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 36 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987
Plismona a rheoli ffyrdd i gerddwyr
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref siro
Adran 41 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987
Adeileddau dros dro
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 63 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987
Marchnad Abertawe
Cyngor sir (Abertawe)
Adran 45 o Ddeddf Dyfed 1987
Adeileddau dros dro
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
5
Yn y rhes sy’n dechrau “Adran 2 o’r Ddeddf hon”, ar ôl “Rheolaeth dda a llywodraeth” mewnosoder “a rhwystro ac atal niwsansau”.
Diwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf3
1
Mae Tabl 2 yn Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau y caniateir dyroddi cosbau penodedig mewn perthynas â hwy) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 57(7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, mewnosoder—
Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985
Canolfannau hamdden
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 42 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985
Adeileddau dros dro
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
3
Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Tai 1985, mewnosoder—
Adran 53 o Ddeddf Cyngor Dinas Abertawe (Morglawdd Tawe) 1986
Yr afon uwchlaw
Cyngor sir (Abertawe)
Adran 31 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1987
Harbwr Porthcawl
Cyngor bwrdeistref sirol (Pen-y-bont ar Ogwr)
Adran 14 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987
Canolfannau hamdden
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 36 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987
Plismona a rheoli ffyrdd i gerddwyr
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 41 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987
Adeileddau dros dro
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 63 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987
Marchnad Abertawe
Cyngor sir (Abertawe)
Adran 45 o Ddeddf Dyfed 1987
Adeileddau dros dro
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
4
Yn y rhes sy’n dechrau “Adran 2 o’r Ddeddf hon”, ar ôl “Rheolaeth dda a llywodraeth” mewnosoder “a rhwystro ac atal niwsansau”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)