Diwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf3
1
Mae Tabl 2 yn Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau y caniateir dyroddi cosbau penodedig mewn perthynas â hwy) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 57(7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, mewnosoder—
Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985
Canolfannau hamdden
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 42 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985
Adeileddau dros dro
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
3
Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Tai 1985, mewnosoder—
Adran 53 o Ddeddf Cyngor Dinas Abertawe (Morglawdd Tawe) 1986
Yr afon uwchlaw
Cyngor sir (Abertawe)
Adran 31 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1987
Harbwr Porthcawl
Cyngor bwrdeistref sirol (Pen-y-bont ar Ogwr)
Adran 14 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987
Canolfannau hamdden
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 36 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987
Plismona a rheoli ffyrdd i gerddwyr
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 41 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987
Adeileddau dros dro
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 63 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987
Marchnad Abertawe
Cyngor sir (Abertawe)
Adran 45 o Ddeddf Dyfed 1987
Adeileddau dros dro
Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
4
Yn y rhes sy’n dechrau “Adran 2 o’r Ddeddf hon”, ar ôl “Rheolaeth dda a llywodraeth” mewnosoder “a rhwystro ac atal niwsansau”.