ATODLEN 2CYFRANIAD Y MYFYRIWR
RHAN 1Dehongli
1
1
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person, y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau Rhan 2 o’r Atodlen hon, yn cael ei gyfrifo mewn cysylltiad ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;
ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n union o flaen y flwyddyn berthnasol;
ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw’r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu mewn cysylltiad â hi;
ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 3 (yn achos myfyriwr cymwys) a pharagraff 4 (yn achos partner myfyriwr);
ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), mewn perthynas â pharagraff 3, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth ar ei chyfer ac, mewn perthynas â pharagraff 4, (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 4) mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell wedi ei gyfrifo fel pe bai at ddibenion—
- a
y Deddfau Treth Incwm;
- b
deddfwriaeth treth incwm un o Aelod-wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir sy’n gymwys i incwm y person;
- c
os yw deddfwriaeth mwy nag un o Aelod-wladwriaethau’r AEE neu o un o Aelod-wladwriaethau’r AEE a’r Swistir yn gymwys i’r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y bydd y person yn talu’r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),
- a
ac eithrio na wneir cyfrif o’r incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) a dalwyd i barti arall;
mae i “incwm yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;
ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o’r canlynol—
- i
priod y myfyriwr cymwys;
- ii
partner sifil y myfyriwr cymwys;
- iii
person sydd fel arfer yn byw gyda’r myfyriwr cymwys fel pe bai’r person yn briod â’r myfyriwr os yw’r myfyriwr cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol a bod y myfyriwr cymwys yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
- iv
person sydd fel arfer yn byw gyda’r myfyriwr fel pe bai’r person hwnnw yn bartner sifil i’r myfyriwr os yw’r myfyriwr cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol a bod y myfyriwr cymwys yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu riant mabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”), “mam” (“mother”) a “tad” (“father”) yn unol â hynny.
- i
2
Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 197325 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 200426 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.