xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 2709 (Cy. 270)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014

Gwnaed

7 Hydref 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Hydref 2014

Yn dod i rym ar 31 Hydref 2014, ac eithrio rheoliadau 22 a 23 sy’n dod i rym ar 23 Chwefror 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) a pharagraffau 3, 6(2) a 15 o Atodlen 1 iddi:

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014.

(2Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliadau 22 a 23, i rym ar 31 Hydref 2014.

(3Daw rheoliadau 22 a 23 i rym ar 23 Chwefror 2015.

(4Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o bwyllgor a benodir neu a etholir yn unol â’r Rheoliadau hyn;

ystyr “awdurdod” (“authority”), mewn perthynas ag uned, yw’r awdurdod lleol y cynhelir yr uned ganddo;

ystyr “clerc y pwyllgor” (“clerk to the committee”) yw clerc a benodir i bwyllgor yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(2);

ystyr “cynrychiolydd ysgol” (“school representative”) yw person sy’n llywodraethwr neu’n aelod o staff ysgol a gynhelir yn y gymuned a wasanaethir gan yr uned (neu, yn ôl y digwydd, y grŵp o unedau);

ystyr “grŵp o unedau” (“group of units”) yw dwy neu ragor o unedau a reolir gan yr un pwyllgor yn unol â rheoliad 4;

ystyr “offeryn llywodraethu” (“instrument of government”) yw offeryn llywodraethu uned, neu grŵp o unedau, a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn;

ystyr “pwyllgor” (“committee”) yw pwyllgor rheoli uned, neu grŵp o unedau, a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn; ac

ystyr “uned” (“unit”) yw uned cyfeirio disgyblion.

RHAN 2SEFYDLU PWYLLGORAU RHEOLI

Sefydlu pwyllgorau

3.  Yn ddarostyngedig i reoliad 4, rhaid i awdurdod sefydlu pwyllgor i weithredu fel pwyllgor rheoli pob uned a gynhelir ganddo—

(a)mewn perthynas ag uned a agorir cyn 31 Hydref 2014, erbyn 23 Chwefror 2015; a

(b)mewn perthynas ag uned a agorir ar neu ar ôl 31 Hydref 2014, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a beth bynnag heb fod yn hwyrach na’r diwrnod cyntaf y mae’r uned ar agor i ddisgyblion.

Cyd-bwyllgorau

4.  Caiff awdurdod—

(a)sefydlu pwyllgor i weithredu fel pwyllgor rheoli dwy neu ragor o unedau a gynhelir ganddo; neu

(b)gwneud trefniadau i bwyllgor a sefydlir ganddo o dan reoliad 3 neu baragraff (a) weithredu fel pwyllgor rheoli uned, neu unedau, ychwanegol a gynhelir ganddo.

Dyletswydd i wneud offeryn llywodraethu a phenodi’r aelodau cyntaf

5.  Rhaid i awdurdod—

(a)gwneud offeryn llywodraethu, i benderfynu ar y cyfansoddiad a materion eraill sy’n ymwneud â’r pwyllgor, mewn cysylltiad â phob uned (neu, yn ôl y digwydd, bob grŵp o unedau) a gynhelir ganddo; a

(b)penodi aelodau cyntaf pob pwyllgor a sefydlir ganddo o dan reoliad 3 neu 4, (ac eithrio rhiant-aelodau, a staff-aelodau y mae’n ofynnol iddynt gael eu hethol o dan reoliad 10(1)(b)).

Cynnwys yr offeryn llywodraethu

6.  Rhaid i’r offeryn llywodraethu nodi—

(a)enw’r uned (neu’r grŵp o unedau);

(b)enw’r pwyllgor;

(c)y modd y mae’r pwyllgor i gael ei gyfansoddi yn unol â rheoliad 14, gan bennu—

(i)nifer yr aelodau ym mhob categori o aelod, a

(ii)cyfanswm nifer aelodau’r pwyllgor, gan gynnwys unrhyw noddwr-aelodau;

(d)pan fo tymor y swydd ar gyfer categori o aelod i fod yn llai na phedair blynedd, hyd tymor y swydd honno;

(e)enw unrhyw noddwr sydd â’r hawl i enwebu personau i’w penodi yn aelodau o’r fath o dan Atodlen 1; ac

(f)y dyddiad pan fydd yr offeryn llywodraethu yn cymryd effaith.

Adolygu’r offeryn llywodraethu

7.—(1Caiff y pwyllgor neu’r awdurdod adolygu’r offeryn llywodraethu ar unrhyw adeg ar ôl iddo gael ei wneud.

(2Pan fo’r pwyllgor neu’r awdurdod yn penderfynu, ar ôl unrhyw adolygiad, y dylid amrywio’r offeryn llywodraethu, rhaid i’r pwyllgor neu (yn ôl y digwydd) yr awdurdod hysbysu’r llall am yr amrywiad a gynigir ganddo ynghyd â’i resymau dros gynnig amrywiad o’r fath.

(3Pan fo’r pwyllgor wedi cael hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid iddo hysbysu’r awdurdod pa un a yw’n fodlon ar yr amrywiad a gynigir ai peidio ac, os nad yw’n fodlon, am ba resymau.

(4Os—

(a)yw’r pwyllgor neu’r awdurdod, pa un bynnag sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (2), yn cytuno â’r amrywiad a gynigir; neu

(b)oes cytundeb rhwng yr awdurdod a’r pwyllgor y dylid gwneud rhyw amrywiad arall yn ei le, rhaid i’r awdurdod amrywio’r offeryn llywodraethu yn unol â hynny.

(5Os nad yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod—

(a)hysbysu’r pwyllgor am y rhesymau—

(i)pam nad yw’n fodlon ar yr amrywiad a gynigir gan y pwyllgor, neu yn ôl y digwydd,

(ii)pam y mae’n dymuno bwrw ymlaen â’i amrywiad ei hun; a

(b)rhoi cyfle rhesymol i’r pwyllgor i ddod i gytundeb ag ef mewn perthynas â’r amrywiad, a rhaid iddo amrywio’r offeryn llywodraethu naill ai yn y modd y cytunwyd arno rhyngddo ef a’r pwyllgor neu (yn absenoldeb cytundeb o’r fath) ym mha bynnag fodd y gwêl yn dda.

(6Pan fo’r offeryn llywodraethu wedi ei amrywio o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo nodi’r dyddiad y mae’r amrywiad yn cymryd effaith.

Gofynion eraill mewn perthynas ag offerynnau llywodraethu

8.—(1Rhaid i’r awdurdod sicrhau y darperir i’r personau a nodir ym mharagraff (2) (yn rhad ac am ddim)—

(a)copi o’r offeryn llywodraethu; a

(b)pan fo unrhyw amrywiad wedi ei wneud i’r offeryn llywodraethu, fersiwn wedi ei chydgrynhoi o’r offeryn llywodraethu sy’n ymgorffori pob amrywiad a wnaed gan yr awdurdod (ac eithrio amrywiadau sydd wedi peidio â chael effaith).

(2Dyma’r personau y mae’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i gael ei darparu iddynt—

(a)pob aelod o’r pwyllgor; a

(b)yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned, os nad yw’n aelod o’r pwyllgor (neu, yn achos grŵp o unedau, unrhyw athro neu athrawes â gofal nad yw’n aelod o’r pwyllgor).

RHAN 3CATEGORÏAU O AELODAU

Rhiant-aelodau

9.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “rhiant-aelod” (“parent member”) yw—

(a)person sydd wedi ei ethol yn aelod yn unol â pharagraffau 2 i 6 o Atodlen 1 gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr uned (neu, yn ôl y digwydd, ym mhob un o’r unedau yn y grŵp o unedau), ac sy’n rhiant i ddisgybl cofrestredig yn yr uned (neu, yn ôl y digwydd, unrhyw uned yn y grŵp o unedau) ar yr adeg pan etholir y person hwnnw; neu

(b)person a benodir yn rhiant-aelod yn unol â pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 1.

(2Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei ethol neu ei benodi yn rhiant-aelod os yw’r person hwnnw—

(a)yn aelod etholedig o’r awdurdod; neu

(b)wedi ei anghymhwyso o dan reoliad 10(2).

(3Nid yw person wedi ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd rhiant-aelod pan fo’r person hwnnw yn peidio â bod yn rhiant i ddisgybl cofrestredig yn yr uned (neu, yn ôl y digwydd, unrhyw uned yn y grŵp o unedau) neu’n methu â bodloni unrhyw un neu ragor o’r gofynion a nodir ym mharagraff 8 o Atodlen 1 oni bai bod y person hwnnw wedi ei anghymhwyso fel arall o dan y Rheoliadau hyn.

Staff-aelodau

10.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “staff-aelod” (“staff member”) yw—

(a)yr athro neu’r athrawes â gofal am uned (neu, yn achos grŵp o unedau, yr athro neu’r athrawes â gofal am bob un o’r unedau); neu

(b)person sydd wedi ei ethol yn aelod yn unol â pharagraffau 9 i 11 o Atodlen 1 gan bersonau sy’n cael eu talu i weithio yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr uned (neu, yn ôl y digwydd, unrhyw uned yn y grŵp o unedau) ac sy’n berson sy’n gweithio felly ar yr adeg pan etholir y person hwnnw.

(2Nid yw person sy’n gymwys i’w ethol yn staff-aelod ac sy’n cael ei dalu i weithio yn yr uned honno am fwy na 500 awr ym mhob blwyddyn academaidd yn gymwys i’w ethol neu ei benodi yn aelod o dan reoliad 9, 11, 12 neu 13.

(3Pan fydd staff-aelod yn peidio â gweithio yn yr uned honno, mae i’w anghymhwyso rhag parhau i ddal ei swydd fel aelod o’r fath.

Aelodau a benodir gan yr awdurdod

11.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “aelod a benodir gan yr awdurdod” (“authority appointed member”) yw person sydd wedi ei benodi yn aelod gan yr awdurdod (ac eithrio staff-aelod, aelod cymunedol, neu noddwr-aelod a benodir gan yr awdurdod o dan reoliad 5(b)).

(2Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi yn aelod a benodir gan yr awdurdod os yw’r person hwnnw yn gymwys i fod yn staff-aelod.

Aelodau cymunedol

12.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “aelod cymunedol” (“community member”) yw person sydd wedi ei benodi yn aelod gan y pwyllgor (neu gan yr awdurdod o dan reoliad 5(b)) ac sy’n—

(a)cynrychiolydd ysgol;

(b)person sy’n byw neu’n gweithio yn y gymuned a wasanaethir gan yr uned (neu, yn ôl y digwydd, y grŵp o unedau); neu

(c)person sydd, ym marn y pwyllgor (neu, yn achos aelod cymunedol a benodir o dan reoliad 5(b), yr awdurdod), wedi ymrwymo i lywodraethu da ac i lwyddiant yr uned (neu, yn ôl y digwydd, y grŵp o unedau).

(2Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi yn aelod cymunedol os yw’r person hwnnw—

(a)yn gymwys i fod yn staff-aelod o’r pwyllgor; neu

(b)yn aelod etholedig o’r awdurdod.

Noddwr-aelodau

13.  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “noddwr-aelod” (“sponsor member”) yw person sydd wedi ei enwebu’n noddwr-aelod ac sydd wedi ei benodi felly gan y pwyllgor yn unol â pharagraffau 12 i 14 o Atodlen 1 (neu sydd wedi ei benodi’n noddwr-aelod gan yr awdurdod o dan reoliad 5(b)).

RHAN 4CYFANSODDIAD Y PWYLLGORAU

Egwyddorion cyffredinol

14.—(1Mae’r offeryn llywodraethu i bennu maint ac aelodaeth y pwyllgor nad yw i fod yn llai na 7 aelod nac yn fwy nag 20 o aelodau (gan ddiystyru unrhyw noddwr-aelodau).

(2Mae’r offeryn llywodraethu i bennu nifer yr aelodau i’w hethol neu eu penodi o bob un o’r categorïau o aelod a ganlyn—

(a)rhiant-aelod;

(b)staff-aelod;

(c)aelod a benodir gan yr awdurdod;

(d)aelod cymunedol;

(e)noddwr-aelod.

(3Wrth gyfrifo nifer yr aelodau sy’n ofynnol ym mhob categori yn unol â pharagraff (5), rhaid talgrynnu’r nifer i fyny neu i lawr i’r rhif cyfan agosaf.

(4Wrth gyfrifo nifer y staff-aelodau sy’n ofynnol, rhaid cynnwys yr athro neu’r athrawes â gofal (neu, yn achos grŵp o unedau, yr athro neu’r athrawes â gofal am bob un o’r unedau) pa un a yw’r person hwnnw wedi ymddiswyddo fel aelod ai peidio.

(5O ran cyfanswm nifer yr aelodau—

(a)rhaid bod o leiaf un ond dim mwy na phumed ran ohono yn rhiant-aelodau;

(b)rhaid bod o leiaf un ond dim mwy na thraean ohono yn staff-aelodau;

(c)rhaid bod o leiaf un ond dim mwy na thraean ohono yn aelodau a benodir gan yr awdurdod;

(d)rhaid bod o leiaf un ond dim mwy na dau yn noddwr-aelodau; ac

(e)rhaid i nifer yr aelodau cymunedol fod yn fwy na nifer yr holl aelodau eraill a restrir yn is-baragraffau (a) i (d).

Hysbysu ynghylch penodiadau

15.  Pan fo person yn gwneud penodiad neu’n enwebu person i’w benodi i’r pwyllgor rhaid i’r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig am y penodiad neu’r enwebiad i glerc y pwyllgor, gan bennu enw a phreswylfa arferol y person a benodir neu a enwebir.

RHAN 5CYMHWYSTER A DEILIADAETH SWYDD AELODAU

Cymhwyso ac anghymhwyso

16.  Mae Atodlen 2 yn nodi’r amgylchiadau pan fo person yn gymwys i ddal swydd neu barhau yn ei swydd fel aelod, neu pan fo wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau yn ei swydd fel aelod.

Tymor y swydd

17.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae aelod i ddal swydd am gyfnod penodol o bedair blynedd o’r dyddiad y’i hetholir neu y’i penodir.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw staff-aelod sy’n athro neu’n athrawes â gofal am uned, a gaiff ddal y swydd cyhyd ag y bo’r person hwnnw yn parhau yn ei swydd fel yr athro neu’r athrawes â gofal.

(3Caiff yr offeryn llywodraethu bennu tymor swydd llai ar gyfer categori penodol o aelod, ond ni chaiff y tymor fod yn llai na blwyddyn.

(4Nid yw’r rheoliad hwn yn rhwystro aelod rhag—

(a)cael ei ethol neu ei benodi am dymor pellach, ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn;

(b)ymddiswyddo yn unol â rheoliad 18(1);

(c)cael ei symud o’i swydd yn unol â rheoliad 19; neu

(d)cael ei anghymhwyso, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd.

Ymddiswyddo

18.—(1Caiff aelod ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y pwyllgor.

(2Caiff yr athro neu’r athrawes â gofal am uned dynnu ei ymddiswyddiad neu ei hymddiswyddiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y pwyllgor.

Symud aelodau o’u swyddi

19.—(1Caniateir i unrhyw aelod a benodir gan yr awdurdod gael ei symud o’i swydd gan yr awdurdod, a rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad ysgrifenedig am hynny i glerc y pwyllgor, ac i’r aelod a symudir o’i swydd felly.

(2Caniateir i unrhyw aelod cymunedol neu noddwr-aelod gael ei symud o’i swydd gan y pwyllgor yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 20.

(3Rhaid i gorff enwebu sy’n cynnig symud aelod cymunedol neu noddwr-aelod o’i swydd hysbysu clerc y pwyllgor, a’r aelod o dan sylw, yn ysgrifenedig am ei resymau dros gynnig bod yr aelod hwnnw yn cael ei symud o’i swydd.

(4Caiff y pwyllgor, yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 20, symud unrhyw aelod cymunedol, neu unrhyw noddwr-aelod, o’i swydd yn dilyn cais gan y corff enwebu.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “corff enwebu” (“nominating body”) yw unrhyw berson y ceisiwyd enwebiadau ganddo at y diben o benodi’r aelod o dan sylw, ac a enwebodd yr aelod o dan sylw.

(6Caniateir i unrhyw riant-aelod a benodir gan y pwyllgor o dan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 1 gael ei symud o’i swydd gan y pwyllgor yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 20.

Y weithdrefn ar gyfer symud aelodau o’u swyddi gan y pwyllgor

20.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â symud aelod o’i swydd yn unol â rheoliad 19.

(2Ni fydd penderfyniad i symud aelod o’i swydd a gaiff ei basio mewn cyfarfod o’r pwyllgor yn cael effaith—

(a)oni bai, mewn perthynas â symud aelod a enwebwyd gan gorff enwebu o’i swydd, cyn bod y pwyllgor yn penderfynu symud yr aelod o’i swydd, fod clerc y pwyllgor yn rhoi’r rhesymau a ddarparwyd gan y corff enwebu (fel y bo’n briodol) dros symud yr aelod o’i swydd, a bod yr aelod hwnnw y cynigir ei fod yn cael ei symud o’i swydd yn cael cyfle i wneud datganiad er mwyn ymateb i hynny;

(b)oni bai, mewn perthynas â symud aelod cymunedol, noddwr-aelod neu riant-aelod o’i swydd, cyn bod y pwyllgor yn penderfynu symud yr aelod o’i swydd, fod yr aelod neu’r aelodau sy’n cynnig bod yr aelod yn cael ei symud yn datgan, yn y cyfarfod hwnnw, eu rhesymau dros wneud hynny a bod yr aelod y cynigir ei fod yn cael ei symud o’i swydd yn cael cyfle i wneud datganiad er mwyn ymateb i hynny;

(c)oni bai ei fod wedi ei gadarnhau drwy benderfyniad a gaiff ei basio mewn ail gyfarfod o’r pwyllgor a gynhelir heb fod yn llai na phedwar diwrnod ar ddeg ar ôl y cyfarfod cyntaf; a

(d)oni bai bod y mater o symud aelod o’i swydd wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer pob un o’r cyfarfodydd hynny.

RHAN 6GWEITHDREFNAU’R PWYLLGORAU

Cymhwyso Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

21.  Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 yn gymwys mewn perthynas ag unedau fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir i’r graddau a chyda’r addasiadau a ragnodir yn Atodlen 3 (ac yn y Rheoliadau hynny fel y’u cymhwyswyd felly mae gan unrhyw ymadrodd sydd wedi ei ddiffinio yn rheoliad 2 yr un ystyr ag yn y rheoliad hwnnw).

RHAN 7DIRPRWYO SWYDDOGAETHAU I BWYLLGORAU A’R CWRICWLWM

Dirprwyo swyddogaethau

22.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i awdurdod ddirprwyo’r swyddogaethau a grybwyllir ym mharagraff (2) sy’n ymwneud ag uned i’r pwyllgor, ynghyd ag unrhyw bwerau sydd gan yr awdurdod sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau hynny.

(2Dyma’r swyddogaethau—

(a)cynnal yr uned;

(b)swyddogaethau’r awdurdod o dan baragraff 6(3) o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996 (cwynion sy’n ymwneud â’r cwricwlwm);

(c)swyddogaethau’r awdurdod o dan adran 88 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(3) (cyfrifoldeb dros ddisgyblu); a

(d)mewn cysylltiad ag athrawon a gyflogir gan yr awdurdod i weithio yn yr uned, swyddogaethau’r awdurdod o dan Reoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011(4).

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i’r canlynol—

(a)swyddogaethau’r awdurdod o dan—

(i)adran 4 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(5) (pŵer i ymyrryd),

(ii)rheoliadau a wneir o dan adran 31 o Ddeddf Addysg 2002(6) (rheoli mangreoedd ysgol), a

(iii)adran 29(5) o Ddeddf Addysg 2002 (cyfarwyddyd gan awdurdod mewn perthynas ag iechyd a diogelwch);

(b)unrhyw bŵer i benodi neu ddiswyddo athrawon a staff nad ydynt yn addysgu yn yr uned, neu eu hatal dros dro;

(c)unrhyw bŵer i wario unrhyw swm o arian a neilltuwyd gan yr awdurdod at ddibenion yr uned.

Cwricwlwm

23.  Rhaid i’r awdurdod, y pwyllgor a’r athro neu’r athrawes â gofal am uned (gan weithio ar y cyd) wneud, ac adolygu o bryd i’w gilydd, ddatganiad polisi ysgrifenedig mewn perthynas â’r cwricwlwm ar gyfer yr uned.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

7 Hydref 2014

Rheoliadau 9, 10 a 13

ATODLEN 1Ethol a phenodi aelodau

1.  Caiff yr awdurdod ddirprwyo i’r athro neu’r athrawes â gofal am uned unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan yr Atodlen hon.

Ethol a phenodi rhiant-aelodau

2.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 1 a 3 i 6, rhaid i’r awdurdod wneud yr holl drefniadau angenrheidiol ar gyfer ethol rhiant-aelodau.

3.  Nid yw’r ddyletswydd a osodir gan baragraff 2 yn cynnwys pŵer i osod unrhyw ofynion o ran yr isafswm o bleidleisiau y mae’n ofynnol iddynt gael eu bwrw er mwyn i aelod gael ei ethol.

4.  Rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol ar gyfer unrhyw etholiad a ymleddir.

5.—(1Rhaid i’r trefniadau a wneir o dan baragraff 2 ddarparu bod pob person sydd â’r hawl i bleidleisio yn cael y cyfle i wneud hynny drwy’r post.

(2At ddibenion is-baragraff (1), mae “post” (“post”) yn cynnwys danfon drwy law.

(3Caiff y trefniadau a wneir o dan baragraff 2 ddarparu bod pob person sydd â’r hawl i bleidleisio yn cael y cyfle i wneud hynny drwy ddull electronig.

6.  Pan fo swydd rhiant-aelod yn dod yn wag, rhaid i’r awdurdod gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol er mwyn sicrhau bod pob person y mae’n gwybod ei fod yn rhiant i ddisgybl cofrestredig yn yr uned neu yn un o’r unedau—

(a)yn cael ei hysbysu am y swydd wag a’i bod yn ofynnol i’r swydd honno gael ei llenwi drwy etholiad;

(b)yn cael ei hysbysu bod hawl ganddo i sefyll fel ymgeisydd ac i bleidleisio yn yr etholiad; ac

(c)yn cael y cyfle i wneud hynny.

7.  Rhaid i nifer y rhiant-aelodau sy’n ofynnol gynnwys rhiant-aelodau a benodir gan y pwyllgor os oes un neu ragor o swyddi rhiant-aelodau gwag a bod nifer y rhieni sy’n sefyll i’w hethol yn llai na nifer y swyddi gwag.

8.—(1Dim ond y rhai a ganlyn y caiff y pwyllgor eu penodi’n rhiant-aelod—

(a)rhiant i ddisgybl cofrestredig yn yr uned;

(b)rhiant i gyn-ddisgybl cofrestredig yn yr uned;

(c)rhiant i ddisgybl cofrestredig mewn uned arall, neu mewn ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod;

(d)rhiant i blentyn sydd o oedran ysgol gorfodol; neu

(e)unrhyw riant.

(2Ni chaiff y pwyllgor ond penodi person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b), (c), (d) neu (e) os nad oes unrhyw berson arall i’w benodi o is-baragraff (1)(a).

Ethol staff-aelodau

9.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 1, 10 ac 11, rhaid i’r awdurdod wneud yr holl drefniadau angenrheidiol ar gyfer ethol staff-aelodau.

10.  O ran y ddyletswydd a osodir gan baragraff 9—

(a)mae’n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth o ran dyddiadau cymhwyso; ond

(b)nid yw’n cynnwys y pŵer i osod unrhyw ofynion o ran yr isafswm o bleidleisiau y mae’n ofynnol iddynt gael eu bwrw er mwyn i ymgeisydd gael ei ethol.

11.  Rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol ar gyfer unrhyw etholiad a ymleddir.

Penodi noddwr-aelodau

12.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “noddwr” (“sponsor”) mewn perthynas ag uned yw—

(a)person sy’n rhoi neu sydd wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol (sydd at y dibenion hyn yn cynnwys buddion mewn nwyddau neu wasanaethau) i’r uned ac eithrio yn unol â rhwymedigaeth statudol; neu

(b)unrhyw berson arall (nad yw wedi ei gynrychioli fel arall ar y pwyllgor) sy’n darparu neu sydd wedi darparu gwasanaethau sylweddol i’r uned.

13.  Pan fo gan yr uned un neu ragor o noddwyr, caiff yr offeryn llywodraethu ddarparu ar gyfer penodi pa nifer bynnag o noddwr-aelodau, na fydd yn fwy na dau, a enwebir yn unol â pharagraff 14.

14.  Rhaid ceisio enwebiadau ar gyfer penodiadau o’r fath gan y noddwr neu (yn ôl y digwydd) gan un neu ragor o’r noddwyr.

Rheoliad 16

ATODLEN 2Cymhwyso ac anghymhwyso

Cyffredinol

1.  Mae person wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel aelod ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw yn ddisgybl cofrestredig mewn uned.

2.  Nid yw unrhyw berson yn gymwys i fod yn aelod oni bai bod y person hwnnw yn 18 oed neu’n hŷn ar ddyddiad ethol neu benodi’r person hwnnw.

3.  Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, nid yw’r ffaith bod person yn gymwys i’w ethol neu ei benodi yn aelod o gategori penodol yn anghymhwyso’r person hwnnw rhag cael ei ethol neu ei benodi neu rhag parhau i fod yn aelod o unrhyw gategori arall.

Anhwylder meddwl

4.  Mae person wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel aelod ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw yn agored i gael ei gadw’n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(7) neu o dan unrhyw ailddeddfiad neu addasiad statudol o’r Ddeddf honno sydd mewn grym o bryd i’w gilydd.

Methiant i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd

5.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw aelod nad yw’n aelod yn rhinwedd swydd y person hwnnw.

(2Mae aelod, sydd, heb gydsyniad y pwyllgor, wedi methu â bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y pwyllgor am gyfnod di-dor o chwe mis sy’n dechrau ar ddyddiad y cyfarfod cyntaf o’r fath y methodd y person hwnnw â bod yn bresennol ynddo, pan fydd y cyfnod hwnnw yn dod i ben, wedi ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel aelod o’r pwyllgor hwnnw.

(3Pan fo aelod wedi anfon ei ymddiheuriadau i glerc y pwyllgor cyn cyfarfod nad yw’r person yn bwriadu bod yn bresennol ynddo, rhaid i gofnodion y cyfarfod hwnnw gofnodi a oedd y pwyllgor yn cydsynio i absenoldeb yr aelod ai peidio, a rhaid anfon copi o’r cofnodion at yr aelod o dan sylw yn ei breswylfa arferol.

(4Nid yw aelod sydd wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (2) yn gymwys i’w ethol, i’w enwebu neu i’w benodi yn aelod o unrhyw gategori yn yr uned honno yn ystod y deuddeng mis yn union ar ôl ei anghymhwyso o dan is-baragraff (2).

Methdaliad

6.  Mae person wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel aelod—

(a)os yw wedi ei ddyfarnu’n fethdalwr neu os yw ei ystad wedi ei secwestru ac (yn y naill achos neu’r llall) os nad yw’r person hwnnw wedi ei ryddhau ac os nad yw’r gorchymyn methdalu wedi ei ddiddymu neu ei ddadwneud neu fod cyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled yn gymwys mewn perthynas â’r person hwnnw; neu

(b)os yw wedi gwneud compownd neu drefniant gyda’i gredydwyr, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedaeth ar eu cyfer, ac nad yw wedi ei ryddhau mewn cysylltiad â hynny.

Anghymhwyso cyfarwyddwyr cwmnïau

7.  Mae person wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel aelod ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw yn ddarostyngedig i—

(a)gorchymyn anghymhwyso neu ymgymeriad anghymhwyso o dan Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986(8);

(b)gorchymyn anghymhwyso o dan Ran 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1989(9);

(c)ymgymeriad anghymhwyso a dderbyniwyd o dan Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002(10); neu

(d)gorchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Ansolfedd 1986(11) (methu â thalu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).

Anghymhwyso ymddiriedolwyr elusennau

8.  Mae person wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel aelod—

(a)os yw wedi ei symud o swydd ymddiriedolwr elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiynwyr Elusennau neu’r Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddwyn neu gamreoli wrth weinyddu’r elusen yr oedd y person hwnnw yn gyfrifol amdano neu’n ymwybodol ohono, neu y cyfrannodd y person hwnnw iddo neu a hwyluswyd gan y person hwnnw drwy ei ymddygiad; neu

(b)os yw’r person hwnnw wedi ei symud o’i swydd, o dan adran 34 o Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005(12) (pwerau’r Llys Sesiwn i ymdrin â rheoli elusennau), rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff.

Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi

9.  Mae person wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel aelod ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw—

(a)wedi ei gynnwys ar y rhestr o athrawon a’r rhai sy’n gweithio gyda phlant neu bobl ifanc y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(13);

(b)yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002(14);

(c)wedi ei anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan adrannau 28, 29 neu 29A o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(15);

(d)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989(16) ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd;

(e)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006(17);

(f)wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir sy’n ymwneud â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(18);

(g)yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 167A o Ddeddf Addysg 2002(19);

(h)wedi ei anghymhwyso, yn rhinwedd gorchymyn a wneir o dan adran 470 neu adran 471 o Ddeddf Addysg 1996, rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu’n athrawes, neu’n gyflogai arall mewn unrhyw ysgol; neu

(i)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Collfarnau troseddol

10.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), mae person wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd, neu barhau i ddal swydd, fel aelod pan fo unrhyw un neu ragor o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) yn gymwys iddo.

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—

(a)o fewn y cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodiad neu etholiad y person hwnnw yn aelod fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y dyddiad y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn aelod yn rhinwedd ei swydd; neu

(b)ers ei benodi neu ei ethol yn aelod neu, yn ôl y digwydd, ers iddo ddod yn aelod yn rhinwedd ei swydd;

wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio) am gyfnod nad yw’n llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os cafodd y person hwnnw, o fewn y cyfnod o 20 mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodiad neu etholiad y person hwnnw yn aelod fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y dyddiad y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn aelod yn rhinwedd ei swydd, ei gollfarnu fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a’i ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw’n llai na dwy flynedd a hanner.

(4Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw ar unrhyw adeg wedi ei gollfarnu fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw’n llai na phum mlynedd.

(5At ddibenion is-baragraffau (2) i (4), rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan lys y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu gerbron llys o’r fath, am drosedd na fyddai, pe bai’r ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, wedi ei hystyried yn drosedd yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith mewn grym ar yr adeg yr oedd y ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd.

(6Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—

(a)o fewn y cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodiad neu etholiad y person hwnnw yn aelod fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y dyddiad y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn aelod yn rhinwedd ei swydd; neu

(b)ers ei benodi neu ei ethol yn aelod neu, yn ôl y digwydd, ers iddo ddod yn aelod yn rhinwedd ei swydd;

wedi ei gollfarnu o dan adran 547 o Ddeddf Addysg 1996(20) (niwsans neu aflonyddwch ar fangreoedd ysgol) neu o dan adran 85A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(21) (niwsans ac aflonyddwch ar fangreoedd addysgol) o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i dalu dirwy.

Gwrthod gwneud cais am dystysgrif cofnodion troseddol

11.  Mae person wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel aelod ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw yn gwrthod cais gan glerc y pwyllgor i wneud cais o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(22) am dystysgrif cofnodion troseddol.

Hysbysu’r clerc

12.  Pan fo person—

(a)yn rhinwedd unrhyw un o baragraffau 6 i 11 wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd, neu barhau i ddal swydd, fel aelod o bwyllgor; a

(b)yn aelod neu y bwriedir iddo ddod yn aelod;

rhaid iddo hysbysu clerc y pwyllgor am y ffaith honno.

Rheoliad 21

ATODLEN 3Cymhwyso, gydag addasiadau, Ran 7, 8, 9 a 10 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

1.  Ym mha le bynnag y maent yn ymddangos yn Rhannau 7, 8, 9 a 10 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005—

(a)yn lle cyfeiriadau at y “corff llywodraethu” rhodder cyfeiriadau at y “pwyllgor”;

(b)yn lle cyfeiriadau at “llywodraethwr” rhodder cyfeiriadau at “aelod”;

(c)yn lle cyfeiriadau at yr “ysgol” rhodder cyfeiriadau at yr “uned neu, yn ôl y digwydd, y grŵp o unedau”; a

(d)yn lle cyfeiriadau at “pwyllgor” rhodder cyfeiriadau at “is-bwyllgor y pwyllgor”.

Penodi swyddogion, eu swyddogaethau a’u diswyddo

2.  Yn rheoliad 39—

(a)ym mharagraff (1) hepgorer “ac i adran 18 o Ddeddf 1998 (pŵer Cynulliad Cenedlaethol Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol)”; a

(b)ym mharagraff (6) hepgorer “ac i adran 18 o Ddeddf 1998”.

3.  Yn rheoliad 39(5)(c), hepgorer “neu os cymerir ei le gan gadeirydd a enwebwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998”.

4.  Yn rheoliad 41(1), hepgorer “onis enwebwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998”.

5.  Yn rheoliad 42—

(a)ym mharagraff (1) hepgorer “â’r corff llywodraethu neu”;

(b)ym mharagraff (2) yn lle “Rhaid i’r corff llywodraethu” rhodder “Rhaid i’r awdurdod”;

(c)ym mharagraff (3) yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c)yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned neu, yn ôl y digwydd, am unrhyw uned yn y grŵp o unedau.;

(d)ym mharagraff (5) yn lle “Caiff y corff llywodraethu” rhodder “Caiff yr awdurdod”; ac

(e)hepgorer paragraff (6).

6.  Yn rheoliad 43(1) yn lle is-baragraff (d) rhodder—

(d)rhoi a derbyn hysbysiadau yn unol â rheoliadau 15 (hysbysu ynghylch penodiadau) a 18 (ymddiswyddo) o Reoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014 a pharagraff 12 o Atodlen 2 (hysbysu’r clerc) iddynt a rheoliadau 39(4) a 45(4) o’r Rheoliadau hyn;.

Cyfarfodydd a thrafodion cyrff llywodraethu

7.  Yn rheoliad 44 yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned neu, yn ôl y digwydd, am bob uned yn y grŵp o unedau, pa un a yw’r person hwnnw yn aelod ai peidio;.

8.  Hepgorer rheoliad 44A.

9.  Yn rheoliad 45—

(a)ym mharagraff (4) yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned neu, yn ôl y digwydd, am bob uned yn y grŵp o unedau, pa un a yw’r person hwnnw yn aelod ai peidio;; a

(b)ym mharagraff (6) hepgorer is-baragraff (ch).

10.  Yn rheoliad 46—

(a)ym mharagraff (1) hepgorer “unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt”;

(b)ym mharagraff (2) hepgorer “(ac eithrio unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr)”; ac

(c)hepgorer paragraffau (2A) a (4).

11.  Yn rheoliad 49—

(a)ym mharagraff (1)(b) yn lle “Atodlen 5” rhodder “Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014”;

(b)ym mharagraff (1)(c) hepgorer “neu gymeriad crefyddol”; ac

(c)ym mharagraff (6) yn lle “baragraff 5 o Atodlen 5” rhodder “baragraff 5 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014”.

12.  Yn rheoliad 50(1)—

(a)hepgorer y geiriau o “rheoliad 3(2)” i “2000”

(b)yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c)yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned neu, yn ôl y digwydd, am unrhyw un neu ragor o’r unedau yn y grŵp o unedau, pa un a yw’r person hwnnw yn aelod ai peidio.

13.  Yn lle rheoliad 51 rhodder—

(1) Ni chaiff y pwyllgor ddirprwyo o dan reoliad 50(1) ei swyddogaethau o dan—

(a)rheoliadau 39 a 41 (ethol a diswyddo cadeirydd ac is-gadeirydd);

(b)rheoliad 42 (penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu);

(c)rheoliad 49 (atal llywodraethwyr);

(ch)rheoliad 50 (dirprwyo swyddogaethau);

(d)rheoliad 54 (sefydlu pwyllgorau); a

(dd)rheoliadau 7 (adolygu’r offeryn llywodraethu), 9 (rhiant-aelodau), 12 (aelodau cymunedol), 13 (noddwr-aelodau), 19 (symud aelodau o’u swyddi) ac 20 (y weithdrefn ar gyfer symud aelodau o’u swyddi gan y pwyllgor) o Reoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014.

(2) Ni chaiff y pwyllgor ddirprwyo i unigolyn o dan reoliad 50(1)—

(a)ei swyddogaethau yn adran 88 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006; neu

(b)y swyddogaethau y mae rhaid eu dirprwyo i’r pwyllgor a bennir yn rheoliad 56.

14.  Yn rheoliad 52, yn lle paragraff (1)(b) rhodder—

(b)yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned neu, yn ôl y digwydd, am unrhyw un neu ragor o’r unedau yn y grŵp o unedau, pa un a yw’r person hwnnw yn aelod ai peidio;.

Pwyllgorau cyrff llywodraethu

15.  Hepgorer rheoliadau 55 a 57.

16.  Yn rheoliad 58—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Rhaid i’r awdurdod benodi clerc i bob is-bwyllgor, ond ni chaniateir i’r clerc hwnnw fod yn athro neu’n athrawes â gofal am yr uned neu, yn ôl y digwydd, am unrhyw uned yn y grŵp o unedau.;

(b)hepgorer paragraff (2); ac

(c)ym mharagraff (4) yn lle “y corff llywodraethu” rhodder “yr awdurdod” a hepgorer “o’i eiddo”.

17.  Yn rheoliad 59—

(a)yn lle paragraff (1)(b), rhodder—

(b)yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned neu, yn ôl y digwydd, am bob uned yn y grŵp o unedau, pa un a yw’r person hwnnw yn aelod o’r is-bwyllgor ai peidio; a

(b)hepgorer paragraff (3).

18.  Yn rheoliad 63 ym mharagraff (1)(a) yn lle “y pennaeth (boed yn llywodraethwr neu beidio)” rhodder “yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned neu, yn ôl y digwydd, am bob uned yn y grŵp o unedau, pa un a yw’r person hwnnw yn aelod ai peidio”.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, a ddaw i rym ar 31 Hydref 2014, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu pwyllgorau rheoli i redeg unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) yn eu hardal, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad a gweithdrefnau pwyllgorau o’r fath.

Mae Rhan 2 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu pwyllgor mewn perthynas â phob UCD yn ei ardal, gyda’r amod y caiff pwyllgor redeg mwy nag un UCD. O ran yr UCDau a agorir cyn 31 Hydref 2014, rhaid sefydlu pwyllgor erbyn 23 Chwefror 2015. O ran yr UCDau a agorir ar neu ar ôl 31 Hydref 2014, rhaid sefydlu pwyllgor (neu rhaid gwneud trefniadau i bwyllgor presennol reoli’r UCD) heb fod yn hwyrach na’r diwrnod cyntaf y mae ar agor i ddisgyblion (rheoliadau 3 a 4). Rhaid i’r awdurdod lleol wneud offeryn llywodraethu mewn cysylltiad â phob uned (neu grŵp o unedau) a phenodi’r aelodau cyntaf (ac eithrio’r rheini y mae’n ofynnol iddynt gael eu hethol) (rheoliad 5).

Mae Rhan 3 yn rhagnodi’r categorïau o aelodau. Mae Rhan 4 yn rhagnodi cyfansoddiad y pwyllgorau. Mae Rhan 5 yn rhagnodi cymhwyster a deiliadaeth swydd aelodau.

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithdrefnau pwyllgorau drwy gymhwyso Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 i bwyllgorau, gydag addasiadau penodol (rheoliad 21 ac Atodlen 3).

Mae rheoliadau 22 a 23 yn Rhan 7, a ddaw i rym ar 23 Chwefror 2015, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddirprwyo swyddogaethau penodol, yn bennaf y swyddogaeth o gynnal yr uned, i’r pwyllgor ac yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad polisi ysgrifenedig mewn perthynas â’r cwricwlwm ar gyfer yr uned gael ei wneud a’i adolygu o bryd i’w gilydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1996 p. 56; mewnosodwyd paragraff 15 o Atodlen 1 gan adran 48 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 184(c) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) a chan O.S. 2001/2237. Gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(2)

O.S. 2005/2914 (Cy. 211) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3200 (Cy. 236)); a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (O.S. 2006/873 (Cy. 81)) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/944 (Cy. 80)), a chan Reoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2544 (Cy. 206)), a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1142 (Cy. 101)), a chan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2124 (Cy. 207)).

(13)

1999 p. 14; ac fel y’i harbedwyd gan erthygl 5 o Orchymyn Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009 (O.S. 2009/2611).

(14)

Wedi ei diddymu at ddibenion penodol gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 p. 47 (gweler adran 63).

(15)

2000 p. 43; mae adrannau 28, 29 a 29A wedi eu diddymu at ddibenion penodol gan adran 63 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

(16)

1989 p. 41. Wedi ei diddymu gan adran 73 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc1) ac nid yw eto mewn grym.

(19)

Mewnosodwyd adran 167A gan adran 169 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p. 40), ond nid yw eto mewn grym.

(20)

Fel y’i diwygiwyd gan baragraff 163 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998 a chan adran 206 o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlen 20 iddi a chan adran 6 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p. 40) ac Atodlen 1 iddi.

(21)

1992 p. 13; mewnosodwyd gan adran 206 o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlen 20 iddi.

(22)

1997 (p. 50); mewnosodwyd gan adran 163 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15). Mewnosodwyd is-adrannau (2A) a (12), a diwygiwyd is-adran (6), gan Orchymyn Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) (Cyfathrebu Electronig) 2009 (O.S. 2009/203). Rhoddwyd paragraff (a) o is-adran (10) yn lle paragraffau (a) a (b) fel y’u deddfwyd yn wreiddiol gan baragraff 149 o Atodlen 16 i Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006 (p. 52).