Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Argraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle'r OS sy'n dwyn yr un rhif ac fe'i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 2677 (Cy. 265)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014

Gwnaed

1 Hydref 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Hydref 2014

Yn dod i rym

27 Hydref 2014

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau yn adrannau 19 a 54(3) a (4) o Ddeddf Addysg 1997(1) ac adrannau 537 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(2) a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi ac yn adrannau 21(3), 30(1) a (2), 131 a 210 o Ddeddf Addysg 2002(3) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(4), ac ar ôlymgynghori yn unol ag adran 131(7) o Ddeddf Addysg 2002 ag unrhyw gymdeithasau awdurdodau lleol yng Nghymru, awdurdodau lleol yng Nghymru, cyrff sy’n cynrychioli buddiannau cyrff llywodraethu yng Nghymru a chyrff sy’n cynrychioli buddiannau athrawon yng Nghymru y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 27 Hydref 2014.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesiadau athrawon” (“teacher assessments”) yw asesiadau o ddisgyblion a gynhelir gan athrawon at ddiben penderfynu ar lefel y cyrhaeddiad y maent wedi ei chyrraedd yn unol â darpariaeth asesu a wneir gan neu o dan orchmynion a wneir o dan adran 108(2)(b)(iii) a (3)(c) o Ddeddf Addysg 2002;

ystyr “blaenoriaethau cenedlaethol” (“national priorities”) yw—

(a)

codi safonau addysg mewn perthynas â llythrennedd a rhifedd; a

(b)

lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol;

ystyr “blaenoriaethau gwella’r ysgol” (“school improvement priorities”) yw’r meysydd hynny o ran safon yr addysg yn yr ysgol a nodir gan y corff llywodraethu fel y rhai â’r angen mwyaf am welliant;

ystyr “blwyddyn ysgol gyfredol” (“current school year”) yw’r flwyddyn ysgol gyntaf y mae’r cynllun i gael effaith ar ei chyfer;

ystyr “canlyniadau cyrhaeddiad” (“attainment results”) yw canlyniadau asesiadau disgyblion a gynhelir gan athrawon at ddiben penderfynu ar lefel y cyrhaeddiad y maent wedi ei chyrraedd yn unol â darpariaeth asesu a wneir gan neu o dan orchmynion a wneir o dan adran 108(2)(b)(iii) a (3)(c) o Ddeddf Addysg 2002;

ystyr “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualifications”) yw cymwysterau o fewn ystyr adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997;

ystyr “cynllun datblygu ysgol” (“school development plan”) yw cynllun a lunnir gan gorff llywodraethu yn unol â’r Rheoliadau hyn;

ystyr “deilliannau disgwyliedig” (“expected outcomes”) yw’r canlyniadau buddiol i berfformiad addysgol disgyblion yn yr ysgol o ganlyniad i gyflawni targedau gwella’r ysgol;

ystyr “gwybodaeth ysgol gymharol” (“school comparative information”) yw crynodeb o berfformiad ysgol mewn asesiadau athrawon, cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd a chyfraddau absenoldeb disgyblion o gymharu ag ysgolion eraill ac a ddarperir i’r corff llywodraethu gan Weinidogion Cymru;

ystyr “staff yr ysgol” (“school staff”) yw’r personau hynny sydd wedi eu cyflogi, neu wedi eu cymryd ymlaen fel arall o dan gontractau cyflogaeth, i weithio yn yr ysgol;

ystyr “targedau gwella’r ysgol” (“school improvement targets”) yw’r targedau hynny a osodir gan y corff llywodraethu mewn perthynas â gwella perfformiad yr ysgol mewn cysylltiad â blaenoriaethau gwella’r ysgol.

(2Yn y Rheoliadau hyn, onid yw’r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriadau at—

(a)corff llywodraethu yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir;

(b)pennaeth yn gyfeiriadau at bennaeth ysgol a gynhelir.

Y gofyniad i gorff llywodraethu lunio cynllun datblygu ysgol

3.—(1Rhaid i’r corff llywodraethu lunio cynllun datblygu ysgol yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(2Nid yw dyletswydd y corff llywodraethu i gael cynllun datblygu ysgol yn rhagfarnu effaith egwyddorion cyffredinol a rolau a chyfrifoldebau priodol cyrff llywodraethu a phenaethiaid a nodir yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Diwygio) (Cymru) 2000 (5).

Cynnwys cynllun datblygu ysgol

4.  Rhaid i gynllun datblygu’r ysgol (neu gynllun diwygiedig) gynnwys darpariaeth sy’n ymdrin â’r materion a nodir yn yr Atodlen.

Y cyfnod y mae cynllun datblygu ysgol i gael effaith ar ei gyfer

5.—(1Rhaid i’r corff llywodraethu benderfynu ar amseriad cyfnod cynllun datblygu’r ysgol.

(2Hyd y cyfnod cynllun datblygu ysgol cyntaf fydd tair blynedd a rhaid iddo ddechrau erbyn 1 Medi 2015 fan bellaf.

(3Hyd y cyfnodau cynllun datblygu ysgol dilynol fydd tair blynedd ac unwaith y bydd cyfnodau cynllun datblygu’r ysgol wedi dechrau rhaid iddynt fod yn barhaus.

Monitro, adolygu a diwygio cynllun datblygu ysgol

6.—(1Rhaid i’r corff llywodraethu fonitro ac adolygu’r cynnydd a wneir gan yr ysgol yn ystod pob blwyddyn ysgol yn erbyn cynllun datblygu’r ysgol.

(2Rhaid i’r corff llywodraethu ddiwygio cynllun datblygu’r ysgol—

(a)o leiaf yn flynyddol a beth bynnag erbyn y dyddiad y cafodd cynllun datblygu’r ysgol ei lunio neu ei ddiwygio ddiwethaf fan bellaf; a

(b)yn dilyn arolygiad gan Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn unol ag adran 28 o Ddeddf Addysg 2005(6).

Cyhoeddi

7.  Rhaid i’r corff llywodraethu gyhoeddi cynllun datblygu’r ysgol drwy roi copïau o’r cynllun i bob aelod—

(a)o’r corff llywodraethu; a

(b)o staff yr ysgol.

Gwybodaeth am berfformiad ysgol

8.  Wrth lunio ei gynllun datblygu ysgol rhaid i’r corff llywodraethu roi sylw—

(a)i unrhyw wybodaeth ysgol gymharol; a

(b)i ganlyniadau cyrhaeddiad disgyblion yn yr ysgol.

Ymgynghori

9.  Wrth lunio neu ddiwygio cynllun datblygu ysgol rhaid i’r corff llywodraethu ymgynghori â’r canlynol—

(a)pennaeth yr ysgol (os nad yw’r person hwnnw yn aelod o’r corff llywodraethu);

(b)disgyblion cofrestredig yn yr ysgol;

(c)rhieni’r disgyblion cofrestredig;

(d)staff yr ysgol; ac

(e)unrhyw bersonau eraill y mae’r corff llywodraethu yn eu hystyried yn briodol.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007

10.  Yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007(7) ar ôl paragraff 15 mewnosoder—

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007

16.  Mae Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007 yn gymwys o ran unedau fel y maent yn gymwys o ran ysgolion a gynhelir.

Diwygio Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011

11.  Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (2) o reoliad 5 yn lle “7 ac 11” rhodder “7, 11 a 19”; a

(b)yn Atodlen 2 ar ôl paragraff 18 mewnosoder—

19.  Crynodeb o gynllun datblygu’r ysgol a luniwyd gan y corff llywodraethu yn unol â Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014.

Diwygio Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011

12.  Mae Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 3(1) yn lle’r diffiniad o “Cynllun Gwella’r Ysgol” rhodder—

ystyr “Cynllun Datblygu’r Ysgol” (“School Development Plan”) yw cynllun a lunnir gan y corff llywodraethu yn unol â Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014;; a

(b)yn rheoliad 12(1)(ch), 26(1)(ch) a 39(1)(ch) yn lle “yng Nghynllun Gwella’r Ysgol” rhodder “yng Nghynllun Datblygu’r Ysgol”.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

1 Hydref 2014

Rheoliad 4

YR ATODLENCynnwys cynllun datblygu ysgol

Blaenoriaethau gwella’r ysgol

1.—(1Blaenoriaethau gwella’r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol.

(2Blaenoriaethau gwella’r ysgol ar gyfer y ddwy flynedd ysgol yn union ar ôl y flwyddyn ysgol gyfredol.

(3Wrth osod blaenoriaethau gwella’r ysgol rhaid i’r corff llywodraethu ystyried y blaenoriaethau cenedlaethol.

Targedau gwella’r ysgol, deilliannau disgwyliedig a strategaeth

2.  Datganiad byr yn nodi targedau gwella’r ysgol a deilliannau disgwyliedig a strategaeth y corff llywodraethu i gyflawni’r targedau hynny.

Strategaeth datblygu proffesiynol

3.  Manylion am strategaeth y corff llywodraethu ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol o ran sut y bydd yn hyrwyddo datblygiad proffesiynol staff yr ysgol er mwyn cyflawni targedau gwella’r ysgol.

Gweithio gyda’r gymuned

4.  Manylion am sut y bydd y corff llywodraethu yn ceisio cyflawni targedau gwella’r ysgol ar gyfer y flwyddyn gyfredol drwy weithio gyda—

(a)disgyblion yn yr ysgol a’u teuluoedd; a

(b)pobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal y mae’r ysgol wedi ei lleoli ynddi.

Staff yr ysgol ac adnoddau’r ysgol

5.  Manylion am sut y bydd y corff llywodaethu yn gwneud y defnydd gorau—

(a)o staff presennol yr ysgol ac adnoddau presennol yr ysgol (gan gynnwys ei hadnoddau ariannol) er mwyn cyflawni targedau gwella’r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol; a

(b)o staff yr ysgol ac adnoddau’r ysgol (gan gynnwys adnoddau ariannol) y mae’r corff llywodraethu yn rhag-weld y byddant ar gael iddo er mwyn cyflawni targedau gwella’r ysgol ar gyfer y ddwy flynedd ysgol nesaf yn union ar ôl y flwyddyn ysgol gyfredol.

Targedau blaenorol

6.  Datganiad byr yn nodi’r graddau y cafodd targedau gwella’r ysgol eu cyflawni ar gyfer y flwyddyn ysgol flaenorol gan ddechrau gyda blwyddyn ysgol 2015 i 2016 a phan na chawsant eu cyflawni’n llawn esboniad byr yn nodi’r rhesymau dros y methiant hwnnw.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir. Maent yn gosod dyletswydd ar y corff llywodraethu i lunio cynllun datblygu ysgol er mwyn ei gynorthwyo i arfer ei gyfrifoldeb am gynnal ysgol a gynhelir gyda golwg ar hybu safonau uchel o gyflawniad addysgol (rheoliad 3). Nid yw’r ddyletswydd honno yn effeithio ar egwyddorion cyffredinol a rolau a chyfrifoldebau priodol cyrff llywodraethu a phenaethiaid a nodir yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000 (rheoliad 3(2)). Mae cynnwys y cynllun wedi ei nodi yn yr Atodlen (rheoliad 4).

Mae cynllun datblygu’r ysgol yn cael effaith am gyfnod o dair blynedd (rheoliad 5). Rhaid i’r corff llywodraethu ei ddiwygio’n flynyddol ac yn dilyn arolygiad gan Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (rheoliad 6).

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyhoeddi ac mae rheoliad 8 yn darparu bod rhaid i’r corff llywodraethu, wrth iddo lunio cynllun datblygu’r ysgol, roi sylw i wybodaeth am berfformiad yr ysgol. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu ymgynghori â’r personau hynny a ragnodir.

Mae diwygiadau canlyniadol i’r canlynol—

(i)Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007 (rheoliad 10);

(ii)Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 (rheoliad 11); a

(iii)Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011 (rheoliad 12).

(1)

1997 p. 44 . Amnewidiwyd is-adran (3) o adran 19 o Ddeddf Addysg 1997 gan baragraff 213 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).

(2)

1996 p. 56. Diwygiwyd adran 537 gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997, paragraffau 57 a 152 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraffau 1 a 60 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), Rhan 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32) a chan O.S. 2010/1158. Diwygiwyd adran 569(4) gan adran 8(1) a (5) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 7).

(3)

2002 p. 32. Diwygiwyd is-adrannau (1) a (2) o adran 30 gan Ddeddf Addysg 2005 (p. 18) , adran 103(1)(a). Diwygiwyd is-adran (3) gan O.S. 2010/1158. Diwygiwyd adran 131 gan O.S. 2005/3238 (Cy. 243), O.S. 2010/1080 ac O.S. 2010/1158.

(4)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adrannau 19 a 54 o Ddeddf Addysg 1997 ac adrannau 63 a 138 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Rhoddwyd pwerau Deddf Addysg 1996 a Deddf Addysg 2002 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources