2014 Rhif 2653 (Cy. 261)

Y Dreth Gyngor, Cymru
Gorchymyn Y Dreth Gyngor

(Anheddau Trethadwy) (Diwygio) (Cymru) 2014

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru1, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 3(5)(b) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19922, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) (Diwygio) (Cymru) 2014 a daw i rym ar 22 Hydref 2014.

2

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “Gorchymyn 1992” (“the 1992 Order”) yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 19923.

Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 19923

Mae Gorchymyn 1992 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

a

yn erthygl 2, ar ôl y diffiniad o “multiple property” mewnosoder—

  • “refuge” means a building in Wales which is operated by a person otherwise than for profit and is used wholly or mainly for the temporary accommodation of persons who have been subject to any incident or pattern of incidents of—

    1. i

      controlling, coercive or threatening behaviour;

    2. ii

      physical violence;

    3. iii

      abuse of any other description (whether physical or mental in nature); or

    4. iv

      threats of any such violence or abuse,

    from persons to whom they are or were married, are or were in a civil partnership or with whom they are or were co-habiting;

b

yn erthygl 3, yn lle “article 3A” rhodder “articles 3A and 3B”;

c

ar ôl erthygl 3A, mewnosoder yr erthygl a ganlyn—

3B

A refuge must be treated as a single dwelling.

Leighton AndrewsY Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud o dan adrannau 3(5)(b) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) ac mae’n diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 1992 (“Gorchymyn 1992”).

Mae adran 3 o Ddeddf 1992 yn diffinio “dwelling” at ddibenion darpariaeth y dreth gyngor ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae erthygl 3 o Orchymyn 1992 yn ei gwneud yn ofynnol trin eiddo sengl sy’n cynnwys mwy nag un uned hunangynhaliol fel pe bai wedi ei ffurfio o’r un nifer o anheddau â’r nifer o unedau hunangynhaliol yn yr eiddo hwnnw. Diffinnir “single property” yng Ngorchymyn 1992 fel eiddo a fyddai, ar wahân i’r Gorchymyn hwnnw, yn un annedd o fewn ystyr “one dwelling” yn adran 3 o Ddeddf 1992.

Mae Gorchymyn 1992 wedi ei ddiwygio unwaith o’r blaen i ddarparu nad yw unedau hunangynhaliol ar wahân mewn cartref gofal yn cael eu hystyried yn anheddau ar wahân (gweler erthygl 3A o Orchymyn 1992, a fewnosodwyd gan Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004).

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn mewnosod erthygl 3B newydd i Orchymyn 1992. Effaith hyn yw fod yn rhaid trin lloches (o fewn ystyr y diffiniad o “refuge” a fewnosodir i erthygl 2 o Orchymyn 1992 gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn) yng Nghymru fel un annedd at ddiben darpariaeth y dreth gyngor, hyd yn oed os yw’r eiddo wedi ei ffurfio o fwy nag un uned hunangynhaliol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Trethi Lleol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.