xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 2178 (Cy. 212)

Trafnidiaeth, Cymru

Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014

Gwnaed

7 Awst 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Awst 2014

Yn dod i rym

4 Medi 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 113A o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) ac ar ôl ymgynghori â’r awdurdodau trafnidiaeth lleol ac eraill yn unol ag adran 113A(3), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014 a daw i rym ar 4 Medi 2014.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “awdurdod trafnidiaeth lleol” (“local transport authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “cydardal” (“collective area”) yw holl ardal ddaearyddol yr awdurdodau trafnidiaeth lleol sy’n ymuno â’i gilydd i lunio cynllun trafnidiaeth lleol;

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Trafnidiaeth 2000.

Addasu’r rhwymedigaeth i lunio cynlluniau trafnidiaeth lleol o dan adran 108 o Ddeddf 2000

3.—(1Mae’r ffordd y caiff adran 108 o Ddeddf 2000 ei chymhwyso o ran paratoi cynlluniau trafnidiaeth lleol gan awdurdodau trafnidiaeth lleol wedi ei addasu yn unol â pharagraff (2).

(2Caiff awdurdod trafnidiaeth lleol—

(a)paratoi cynllun trafnidiaeth lleol ar gyfer rhan o’i ardal yn unig;

(b)ar y cyd ag un neu ragor o awdurdodau trafnidiaeth lleol, baratoi cynllun trafnidiaeth lleol o ran ardal sy’n cynnwys eu cydardal i gyd neu unrhyw ran neu rannau ohoni.

Dirymu Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006

4.  Mae Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006(3) drwy hyn wedi ei ddirymu.

Edwina Hart

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

7 Awst 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae adrannau 108 i 109C o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol ddatblygu polisïau i hyrwyddo cyfleusterau trafnidiaeth sy’n ddiogel, yn integredig, yn effeithlon ac yn economaidd yn eu hardal. Enw’r polisïau hyn gyda’i gilydd yw cynllun trafnidiaeth lleol. Mae’n ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol gyhoeddi eu cynllun trafnidiaeth lleol, trefnu bod copi ohono ar gael i’r cyhoedd edrych arno a’i adolygu’n rheolaidd, gan ei ddisodli gan gynllun newydd cyn pen pum mlynedd ar ôl y dyddiad pan wnaed y gwreiddiol.

Mae adran 3 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 a’r Atodlen iddi yn addasu adran 108 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, ac yn cyflwyno adrannau 109A i 109C newydd nad ydynt ond yn gymwys i Gymru. Mae Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 hefyd yn ymgorffori adrannau 113A a 113B newydd yn Neddf Trafnidiaeth 2000. Mae adran 113A yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud Gorchymyn sy’n caniatáu i awdurdodau trafnidiaeth lleol lunio cynllun trafnidiaeth lleol ar gyfer rhan o’u hardal yn unig. Mae hefyd yn caniatáu i ddau neu ragor o awdurdodau lunio cynllun trafnidiaeth lleol ar y cyd o ran ardal sy’n cyfateb i’r cyfan neu unrhyw ran o’r ardaloedd hynny gyda’i gilydd (eu “cydardal”). Mae adran 113B yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddiadau ysgrifenedig i awdurdodau trafnidiaeth lleol o ran y dull y maent yn cyflawni swyddogaethau o dan adrannau 108 i 109C o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.

Effaith y Gorchymyn hwn yw arfer pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 113A o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 er mwyn caniatáu i awdurdodau lunio cynlluniau trafnidiaeth lleol ar gyfer rhan o’u hardal yn unig. Mae hefyd yn caniatáu i ddau neu ragor o awdurdodau trafnidiaeth lleol lunio cynllun trafnidiaeth lleol ar y cyd yn hytrach nag ar sail awdurdod unigol, o ran eu cydardal i gyd neu ran ohoni.

Nid yw’r Gorchymyn yn darparu ar gyfer dull cydweithio awdurdodau trafnidiaeth lleol. Mater i’r awdurdodau perthnasol yw hynny.

Nid yw’r Gorchymyn ychwaith yn darparu ar gyfer llunio a gweithredu’r cynlluniau trafnidiaeth lleol gan yr ymdrinnir â hyn ar wahân yn y canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 112 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2993 (Cy.280)).

(1)

2000 p.38 .

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).