- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Awst 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(1) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Mae rheoliad 32A (marc iechyd arbennig) wedi ei ddirymu.
(3) Yn Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth EU), yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”), rhodder—
“ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig fel y’i diwygiwyd ddiwethaf mewn cysylltiad â’i erthyglau gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 216/2014”(2).
(4) Ym mharagraff 2(2) o Atodlen 3 (swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môr), yn lle “Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014”(3).
(5) Mae Atodlen 6A (y marc iechyd arbennig) wedi ei dirymu.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeihasol, un o Weinidogion Cymru
14 Gorffennaf 2014
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: