2014 Rhif 1792 (Cy. 185)

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, â chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 19731 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy2.

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 2 Awst 2014.

2

Yn y Rheoliadau hyn—

a

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned3; ac

b

ystyr “y GIP” (“the PHO”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 20064.

3

Mae i’r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i’r cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb.

Ffioedd arolygu mewnforio2

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys o ran llwyth o’r canlynol, neu ran o lwyth o’r fath sy’n cynnwys—

a

planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 a restrir yn Rhan B o Atodiad V i’r Gyfarwyddeb, neu

b

hadau Solanaceae, pa un a restrir hwy ai peidio yn y Rhan honno,

a ddygir i mewn i Gymru o wlad neu diriogaeth ac eithrio un sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd neu sy’n destun cytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o’r GIP.

2

Ar yr adeg y mewnforir llwyth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru—

a

y ffi a bennir—

i

yng ngholofn 3 o Atodlen 1 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a restrir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno, neu mewn perthynas â rhan o lwyth o’r fath, ac eithrio llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion, neu ran o lwyth o’r fath, y mae paragraff (ii) o’r is-baragraff hwn yn gymwys iddo, a

ii

yng ngholofn 4 o Atodlen 2 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion a restrir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno ac sy’n tarddu o wlad a restrir yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno, neu mewn perthynas â rhan o lwyth o’r fath; a

b

y ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 3 am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod.

3

Ond, pan gynhelir gwiriad iechyd planhigion ar lwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, a hynny ar gais y mewnforiwr neu unrhyw berson arall sy’n gyfrifol am y llwyth, y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2)(a) mewn perthynas â’r llwyth hwnnw yw—

a

y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 i’r graddau (os o gwbl) y mae’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(i) yn gymwys iddo; neu

b

y ffi a bennir yng ngholofn 5 o Atodlen 2 i’r graddau (os o gwbl) y mae’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(ii) yn gymwys iddo.

4

Yn y rheoliad hwn, ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng yr oriau 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19715.

Tatws hadyd: ffioedd3

1

Mae’r ffioedd a bennir yn Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â’r swyddogaethau a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno, sy’n ymwneud â chais am y canlynol—

a

ardystiad o datws hadyd yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 20066;

b

awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o’r Rheoliadau hynny.

2

Mae’r ffi sy’n daladwy mewn perthynas â swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 4 mewn perthynas â’r swyddogaeth honno.

3

Rhaid talu’r ffi mewn perthynas â swyddogaeth a bennir yn Atodlen 4 i Weinidogion Cymru neu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i gyflawni’r swyddogaeth honno o dan Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 ar ran Gweinidogion Cymru.

Ffioedd am drwyddedau iechyd planhigion4

1

Mae’r ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn ymwneud â thrwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o’r GIP.

2

Mewn perthynas â chais neu arolygiad o fath a ddisgrifir yng ngholofn 2 o Atodlen 5, rhaid i berson dalu i Weinidogion Cymru y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r math hwnnw o gais neu arolygiad.

Ffioedd am awdurdodi pasbortau planhigion5

1

Rhaid talu’r ffi a bennir ym mharagraff (2) i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag arolygiad (gan gynnwys arolygiad o gofnodion busnes) a gyflawnir mewn cysylltiad â’r canlynol—

a

cais am awdurdod; neu

b

sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ofynion a osodir ar ddeiliad awdurdod.

2

Y ffi yw £46.107 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr (gan gynnwys yr amser a dreulir ar arolygu, ar deithio ac ar weinyddu cysylltiedig), yn ddarostyngedig i leiafswm ffi o £92.198 am bob ymweliad.

3

Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir o dan erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 20069 neu erthygl 29 o’r GIP.

Tatws sy’n tarddu o’r Aifft: ffioedd6

1

Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o’r Aifft, er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5 o’r Atodiad i’r Penderfyniad, a yw’r tatws hynny wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ffi o £117.36 mewn perthynas â phob lot y cymerir sampl ohoni.

2

Yn y rheoliad hwn ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i weithredu mesurau argyfwng dros dro yn erbyn lledaenu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. mewn cysylltiad â’r Aifft10.

Tatws sy’n tarddu o Libanus: ffioedd7

1

Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o Libanus, er mwyn canfod, at ddibenion Erthygl 4 o’r Penderfyniad, a yw’r tatws hynny wedi eu heintio â Clavibacter michiganensis isrywogaeth Sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ffi o £117.36 mewn perthynas â phob lot y cymerir sampl ohoni.

2

Yn y rheoliad hwn ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/413/EU sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymu darpariaethau penodol yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn perthynas â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa yn Libanus11.

Ffioedd heb eu talu8

1

Pan fo unrhyw swm sy’n ddyledus fel neu ar gyfrif unrhyw ffi neu ran o ffi sy’n daladwy gan fasnachwr planhigion cofrestredig o dan y Rheoliadau hyn heb ei dalu, caniateir i Weinidogion Cymru—

a

adennill y swm fel dyled sifil;

b

ar ôl rhoi un mis o rybudd ysgrifenedig, atal cofrestriad y masnachwr dros dro tan fod y swm wedi ei dalu.

2

Yn y rheoliad hwn mae i “cofrestredig”, “masnachwr planhigion” a “cofrestriad” yr ystyron a roddir i “registered”, “plant trader” a “registration” yn eu tro gan erthygl 2(1) o’r GIP.

Dirymu9

Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 201312 wedi eu dirymu.

Alun DaviesY Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

ATODLEN 1Ffioedd Arolygu Mewnforio

Rheoliad 2(1)(a), (2)(a)(i) a (3)(a)

Colofn 1

Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall

Colofn 2

Swm

Colofn 3

Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith yn ystod

y dydd) (£)

Colofn 4

Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith heb fod

yn ystod y dydd) (£)

Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion ifanc mefus neu lysiau

hyd at 10,000 o ran nifer

47.87

71.80

am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny

1.91, hyd at uchafswm o 382.92

2.87, hyd at uchafswm o 574.38

Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi’u torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio hadau)

hyd at 1,000 o ran nifer

47.87

71.80

am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny

1.17, hyd at uchafswm o 382.92

1.76, hyd at uchafswm o 574.38

Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws) a fwriedir ar gyfer eu plannu

hyd at 200 kg

47.87

71.80

am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny

0.44, hyd at uchafswm o 382.92

0.65, hyd at uchafswm o 574.38

Hadau, meithriniadau meinwe

hyd at 100 kg

20.51

30.77

am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny

0.47, hyd at uchafswm o 382.92

0.70, hyd at uchafswm o 574.38

Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon

hyd at 5,000 o ran nifer

47.87

71.80

am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny

0.47, hyd at uchafswm o 382.92

0.70, hyd at uchafswm o 574.38

Blodau wedi’u torri

hyd at 20,000 o ran nifer

47.87

71.80

am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny

0.37, hyd at uchafswm o 382.92

0.55, hyd at uchafswm o 574.38

Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig wedi’u torri)

hyd at 100 kg

47.87

71.80

am bob 100 kg ychwanegol, neu ran o hynny

4.76, hyd at uchafswm o 382.92

7.14, hyd at uchafswm o 574.38

Coed Nadolig wedi’u torri

hyd at 1,000 o ran nifer

47.87

71.80

am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny

4.76, hyd at uchafswm o 382.92

7.14, hyd at uchafswm o 574.38

Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog

hyd at 100 kg

47.87

71.80

am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny

4.76, hyd at uchafswm o 382.92

7.14, hyd at uchafswm o 574.38

Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog)

hyd at 25,000 kg

47.87

71.80

am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny

1.91

2.87

Cloron tatws

hyd at 25,000 kg

143.60 (am bob lot)

215.39 (am bob lot)

am bob 25,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny

143.60 (am bob lot)

215.39 (am bob lot)

Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl

hyd at 25,000 kg

47.87

71.80

am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny

1.91, hyd at uchafswm o 382.92

2.87, hyd at uchafswm o 574.38

Grawn

hyd at 25,000 kg

47.87

71.80

am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny

1.91, hyd at uchafswm o 1914.60

2.87, hyd at uchafswm o 2871.90

Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed fforestydd

am bob llwyth

47.87

71.80

ATODLEN 2Ffioedd Arolygu Mewnforio: Cyfraddau Gostyngol

Rheoliad 2(2)(a)(ii) a (3)(b)

Colofn 1

Genws

Colofn 2

Swm

Colofn 3

Gwlad tarddiad

Colofn 4

Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£)

Colofn 5

Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)

Blodau wedi’u torri

Dianthus

hyd at 20,000 o ran nifer

Colombia

1.43

2.15

Ecuador

7.18

10.77

Kenya

2.39

3.59

Twrci

11.96

17.95

am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny

Colombia

0.01 hyd at uchafswm o 11.48

0.01, hyd at uchafswm o 17.23

Ecuador

0.05, hyd at uchafswm o 57.43

0.08, hyd at uchafswm o 86.15

Kenya

0.02, hyd at uchafswm o 19.14

0.03, hyd at uchafswm o 28.71

Twrci

0.09, hyd at uchafswm o 95.73

0.13, hyd at uchafswm o 143.59

Rosa

hyd at 20,000 o ran nifer

Colombia

1.43

2.15

Ecuador

1.43

2.15

Ethiopia

4.78

7.18

Kenya

2.39

3.59

Tanzania

7.18

10.77

Zambia

11.96

17.95

am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny

Colombia

0.01, hyd at uchafswm o 11.48

0.01, hyd at uchafswm o 17.23

Ecuador

0.01 hyd at uchafswm o 11.48

0.01, hyd at uchafswm o 17.23

Ethiopia

0.04, hyd at uchafswm o 38.29

0.06, hyd at uchafswm o 57.43

Kenya

0.02, hyd at uchafswm o 19.14

0.03, hyd at uchafswm o 28.71

Tanzania

0.05, hyd at uchafswm o 57.43

0.08, hyd at uchafswm o 86.15

Zambia

0.09, hyd at uchafswm o 95.73

0.13, hyd at uchafswm o 143.59

Canghennau gyda deiliant

Phoenix

hyd at 100 kg

Costa Rica

16.75

25.13

am bob 100 kg ychwanegol neu ran o hynny

Costa Rica

1.66, hyd at uchafswm o 134.02

2.49, hyd at uchafswm o 201.03

Ffrwythau

Citrus

hyd at 25,000 kg

Yr Aifft

7.18

10.77

Israel

4.78

7.18

Mecsico

7.18

10.77

Moroco

2.39

3.59

Periw

7.18

10.77

Tunisia

11.96

17.95

Twrci

1.43

2.15

Uruguay

7.18

10.77

UDA

7.18

10.77

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Yr Aifft

0.28

0.43

Israel

0.19

0.28

Mecsico

0.28

0.43

Moroco

0.09

0.14

Periw

0.28

0.43

Tunisia

0.47

0.71

Twrci

0.05

0.08

Uruguay

0.28

0.43

UDA

0.28

0.43

Malus

hyd at 25,000 kg

Ariannin

11.96

17.95

Brasil

11.96

17.95

Chile

2.39

3.59

Seland Newydd

4.78

7.18

De Affrica

2.39

3.59

UDA

23.93

35.90

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Ariannin

0.47

0.71

Brasil

0.47

0.71

Chile

0.09

0.14

Seland Newydd

0.19

0.28

De Affrica

0.09

0.14

UDA

0.95

1.43

Mangifera

hyd at 25,000 kg

Brasil

23.93

35.90

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Brasil

0.95

1.43

Passiflora

hyd at 25,000 kg

Colombia

4.78

7.18

Kenya

4.78

7.18

De Affrica

16.75

25.13

Zimbabwe

35.90

53.85

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Colombia

0.19

0.28

Kenya

0.19

0.28

De Affrica

0.66

1.00

Zimbabwe

1.43

2.15

Prunus

hyd at 25,000 kg

Ariannin

23.93

35.90

Chile

4.78

7.18

Moroco

23.93

35.90

De Affrica

4.78

7.18

Twrci

7.18

10.77

UDA

7.18

10.77

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Ariannin

0.95

1.43

Chile

0.19

0.28

Moroco

0.95

1.43

De Affrica

0.19

0.28

Twrci

0.28

0.43

UDA

0.28

0.43

Pyrus

hyd at 25,000 kg

Ariannin

4.78

7.18

Chile

11.96

17.95

Tsieina

23.93

35.90

De Affrica

4.78

7.18

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Ariannin

0.19

0.28

Chile

0.47

0.71

Tsieina

0.95

1.43

De Affrica

0.19

0.28

Vaccinium

hyd at 25,000 kg

Ariannin

11.96

17.95

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Ariannin

0.47

0.71

Llysiau

Capsicum

hyd at 25,000 kg

Israel

2.39

3.59

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Israel

0.09

0.14

Momordica

hyd at 25,000 kg

Surinam

16.75

25.13

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Surinam

0.66

1.00

Solanum melongena

hyd at 25,000 kg

Kenya

4.78

7.18

Twrci

4.78

7.18

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Kenya

0.19

0.28

Twrci

0.19

0.28

ATODLEN 3Ffioedd Arolygu Mewnforio: Gwiriadau Dogfennol a Gwiriadau Adnabod

Rheoliad 2(2)(b)

Colofn 1

Gwiriad

Colofn 2

Swm

Colofn 3

Ffi (£)

Dogfennol

am bob llwyth

5.71

Adnabod

am bob llwyth hyd at faint llwyth lori, llwyth wagen reilffordd neu lwyth cynhwysydd o faint cymharol

5.71

am bob llwyth sy’n fwy na’r maint uchod

11.42

ATODLEN 4Tatws Hadyd: Ffioedd

Rheoliad 3

Colofn 1

Swyddogaeth

Colofn 2

Ffi(1) (£)

Colofn 3

Isafswm ffi (£)

Arolygu cnydau sy’n tyfu a darparu labeli a seliau mewn perthynas â cheisiadau

Ardystio fel tatws hadyd cynsylfaenol

129.84*

d/g

Ardystio fel tatws hadyd sylfaenol a ddosberthir fel:

super elite 1, super elite 2 neu super elite 3

64.92

129.84

elite 1, elite 2 neu elite 3

64.92

129.84

A

61.71

123.43

Ardystio fel tatws hadyd ardystiedig

56.10

112.20

Awdurdodiad i farchnata tatws hadyd

129.84*

d/g

Arolygu cloron a gynaeafwyd

Hyd at ddau arolygiad

19.24

38.47

Trydydd arolygiad ac arolygiadau dilynol

129.84*

d/g

(1)

Mae’r cyfraddau, a restrir yn y golofn hon ac yng ngholofn 3, sydd wedi eu marcio â seren yn gyfraddau fesul awr neu ran o awr, a’r cyfraddau nad ydynt wedi eu marcio felly yn gyfraddau fesul hanner hectar

ATODLEN 5Ffioedd am Drwyddedau Iechyd Planhigion

Rheoliad 4(2)

Colofn 1

Eitem

Colofn 2

Math o gais neu arolygiad

Colofn 3

Ffi (£)

1

Cais am drwydded ac eithrio trwydded sy’n dod o fewn eitem 2 neu 3 neu 5

809.83

2

Cais am drwydded mewn perthynas â phridd neu gyfrwng tyfu arall ar gyfer ei ddadansoddi

584.14

3

Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu ddibenion treialu, sy’n ymwneud â 5 neu ragor o fathau o bethau

809.83, plws 31.86 am bob math o beth dros ben y 5

4

Cais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau, pan fo asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol

265.21

5

Cais am drwydded i awdurdodi cyflwyno tatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar neu Bekaa yn Libanus

31.86

6

Cais am adnewyddu trwydded heb newidiadau, neu gais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau bach yn unig, pan nad yw asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol

31.86

7

Arolygu a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) i fonitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau trwydded.

46.11 am bob awr neu ran o awr

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn pennu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd planhigion. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/1700 (Cy. 164)) (“Rheoliadau 2013”) (rheoliad 9).

Mae’r ffioedd yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau penodedig a gweithrediadau eraill a gyflawnir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1).

Pennir y ffioedd am wiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion mewn perthynas â mewnforion penodol o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd (rheoliad 2 ac Atodlenni 1, 2 a 3) yn unol â’r gofyniad yn Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC.

Lefelau’r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn y Rheoliadau hyn yw’r rhan olaf o symudiad fesul cam, dros gyfnod o dair blynedd, tuag at ffioedd sy’n adennill y gost lawn. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gostyngiad a chynnydd cyfartalog ar y ffioedd a bennwyd yn Rheoliadau 2013, ac ar gyfer eu cadw heb eu newid, fel a ganlyn:

1

gostwng ffioedd arolygu mewnforio (heblaw gwiriad dogfennol a gwiriad adnabod) yn ôl 3.5% (rheoliad 2 ac Atodlenni 1 a 2);

2

cynyddu ffioedd gwiriad dogfennol a gwiriad adnabod wrth fewnforio yn ôl 24.5% (rheoliad 2 ac Atodlen 3);

3

cadw ffioedd ynglŷn ag arolygu tatws hadyd heb eu newid (rheoliad 3 ac Atodlen 4);

4

cynyddu ffioedd trwyddedu yn ôl 2.2% (rheoliad 4 ac Atodlen 5);

5

cynyddu ffioedd am wasanaethau pasbortau planhigion yn ôl 21.2% (rheoliad 5); a

6

cadw ffioedd am arolygu tatws sy’n tarddu o’r Aifft heb eu newid (rheoliad 6).

Cyflwynir ffioedd newydd ynglŷn â thatws sy’n tarddu o Libanus fel a ganlyn: £31.86 am gais am drwydded (Atodlen 5, eitem 5) a £117.39 am arolygu (rheoliad 7).

Mae rheoliad 8 yn nodi canlyniadau peidio â thalu unrhyw ffi.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiadau effaith rheoleiddiol wedi eu paratoi (ar gyfer mwyafrif y ffioedd a bennir) o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. O ran ffioedd mewn perthynas â thatws sy’n tarddu o Libanus, nid ystyriwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copïau o’r asesiadau effaith rheoleiddiol oddi wrth y Tîm Amgylchedd Naturiol ac Amaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.