Offerynnau Statudol Cymru
Cartrefi Symudol, Cymru
Gwnaed
2 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym
1 Hydref 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer eu pŵer o dan adran 49(1)(e) o Ran 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Hydref 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unrhyw ddatganiad ysgrifenedig a roddir ar neu ar ôl 1 Hydref 2014 mewn perthynas â chytundeb—
(a)ynglŷn â gosod cartref symudol(2) ar safle gwarchodedig(3) yng Nghymru, a
(b)y bydd Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn gymwys iddo.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “datganiad ysgrifenedig” (“written statement”) yw’r datganiad ysgrifenedig y mae’n ofynnol o dan adran 49(1) o Ddeddf 2013 i berchennog safle gwarchodedig ei roi i’r darpar feddiannydd; ac
ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.
3. Y gofynion y mae’n rhaid i ddatganiad ysgrifenedig gydymffurfio â hwy at ddibenion adran 49(1) o Ddeddf 2013 (yn ychwanegol at ofynion adran 49(1)(a) i (d) o Ddeddf 2013) yw-
(a)bod yn rhaid iddo gynnwys—
(i)y nodyn sy’n rhagflaenu Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn, a
(ii)yr wybodaeth a grybwyllir yn Rhannau 1 i 3 o’r Atodlen honno (i’r graddau nad yw eisoes yn ofynnol o dan adran 49(1)(a) i (d) o Ddeddf 2013), a
(b)bod yn rhaid iddo fod yn y ffurf a nodir yn yr Atodlen honno neu mewn ffurf sylweddol debyg ei heffaith.
4. Mae Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2012(4) wedi eu dirymu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2014
Rheoliad 3
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) yn gymwys i bob cytundeb y mae gan bobl hawl odano i osod cartref symudol ar safle gwarchodedig a’i feddiannu fel eu hunig neu eu prif breswylfa. Mae Rhan 4 o Ddeddf 2013 yn darparu bod yn rhaid i berchennog y safle, cyn ymrwymo i gytundeb o’r fath, roi datganiad ysgrifenedig i ddarpar feddiannydd y cartref symudol. Rhaid i’r datganiad hwn gynnwys y materion a bennir yn adran 49(1)(a) i (d) o Ran 4 o Ddeddf 2013 a chydymffurfio ag unrhyw ofynion eraill a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu bod yn rhaid i’r datganiad ysgrifenedig gynnwys gwybodaeth benodol, yn ychwanegol at yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan adran 49(1)(a) i (d) o Ran 4 o Ddeddf 2013, a bod rhaid iddo fod yn y ffurf a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Mae Rhan 1 o’r Atodlen yn cynnwys gwybodaeth am hawliau’r meddiannydd o dan y cytundeb.
Mae Rhan 2 o’r Atodlen yn nodi prif ddarpariaethau’r cytundeb, sef enw a chyfeiriad y partïon, manylion y tir, ffi’r llain ac adolygu ffi’r llain, a thaliadau ychwanegol.
Mae Rhan 3 o’r Atodlen yn cynnwys unrhyw delerau datganedig eraill sydd yn y cytundeb.
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2012.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, barnwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r buddion sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
I gael y diffiniad o “cartref symudol”, gweler adran 60 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.
I gael y diffiniad o “safle gwarchodedig”, gweler adran 2(2) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.