2014 Rhif 1760 (Cy. 175)
Cartrefi Symudol, Cymru
Rheoliadau Cartrefi Symudol (Ffioedd am Leiniau) (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2014
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan baragraff 23 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 20131, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Ffioedd am Leiniau) (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2014 ac maent yn dod i rym ar 1 Hydref 2014.
Ffioedd am leiniau: Ffurf ragnodedig2
Rhaid i’r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff 17(4) a (9) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 fod ar y ffurf a ragnodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
Carl SargeantY Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
YR ATODLENFfurflen adolygu’r ffi am y llain
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)