Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 1759 (Cy. 174)

Iechyd Planhigion, Cymru

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed

2 Gorffennaf 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Gorffennaf 2014

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2014

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Gorffennaf 2014 ac mae’n gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006

2.—(1Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1) o erthygl 2 (Dehongli)—

(a)cyn y diffiniad o “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”), mewnosoder—

mae “archwiliad mewn labordy” (“laboratory examination”) yn cynnwys profi mewn labordy;;

(b)yn lle’r diffiniad o “trydedd wlad” (“third country”) rhodder—

mae i “trydedd wlad” (“third country”) yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(3).

(3Yn lle Atodlen 3(4) rhodder—

Erthyglau 3 a 5

ATODLEN 3Ceisiadau am dystysgrifau: ffioedd

Gwasanaethau o ran ceisiadau am dystysgrifauFfi (£)Ffi (allforiwr bach) (£)
(1) Gwasanaethau am lwythi heblaw gronynnau:
(a) arolygiad a, pan fo angen, archwiliad mewn labordy58.92 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 117.8429.46 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 58.92
(b) archwiliad mewn labordy yn unig32.9316.47
(c) dyroddi tystysgrif pan nad oes angen arolygiad neu archwiliad mewn labordy12.536.27
(2) Gwasanaethau ar gyfer llwythi o ronynnau:
monitro arolygiadau a gyflawnir gan berson awdurdodedig o dan erthygl 3(3) a, pan fo angen hynny, archwiliad mewn labordy a gyflawnir gan swyddog awdurdodedig53.7826.89.

(4Yn lle Atodlen 4(5) rhodder—

Erthygl 5

ATODLEN 4Ffioedd gwasanaethau cyn-allforio

GwasanaethFfi (£)Ffi (allforiwr bach) (£)
Gwasanaeth cyn-allforio44.88 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 89.7522.44 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 44.88.

Alun Davies

Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

2 Gorffennaf 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1701 (Cy. 163)) (“Gorchymyn 2006”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer cynyddu’r ffioedd a bennwyd yng Ngorchymyn 2006 fel a ganlyn:

(a)ffioedd am wasanaethau o ran ceisiadau am dystysgrifau yn ôl amrediad rhwng 4% a 52% (erthygl 2(3)), a

(b)ffioedd am wasanaethau cyn-allforio yn ôl 19% (erthygl 2(4)).

Ceir rhagor o fanylion yn y Memorandwm Esboniadol sydd i’w weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn www.cynulliadcymru.org. Lefelau’r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn y Gorchymyn hwn yw’r ail ran o symudiad tuag at adennill costau llawn y ffioedd dros gyfnod o dair blynedd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Dîm yr Amgylchedd Naturiol ac Amaethyddiaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1967 p. 8. Diwygiwyd adran 1(2) gan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013/755 (Cy. 90), Atodlen 2, paragraff 43. Diwygiwyd adran 3(1) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), adran 4 ac Atodlen 4, paragraff 8 ac fe’i diwygiwyd ymhellach gan O.S. 2011/1043, Rhan 2, erthygl 6(1)(e). Mewnosodwyd adran 4A gan Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p. 49), adran 3. Rhoddwyd y pwerau a roddir gan adrannau 3 a 4A i “competent authority”, a ddiffinnir yn adran 1(2), yn achos Cymru, fel Gweinidogion Cymru.

(3)

O.S. 2006/1643 (Cy. 158), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, erthygl 9(1); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

(4)

Amnewidiwyd Atodlen 3 gan O.S. 2013/1658 (Cy. 156), erthygl 2(3).

(5)

Amnewidiwyd Atodlen 4 gan O.S. 2013/1658 (Cy. 156), erthygl 2(4).