2014 Rhif 1759 (Cy. 174)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 3(1) a 4A o Ddeddf Iechyd Planhigion 19671.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2014.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Gorffennaf 2014 ac mae’n gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 20062
1
Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 20062 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff (1) o erthygl 2 (Dehongli)—
a
cyn y diffiniad o “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”), mewnosoder—
mae “archwiliad mewn labordy” (“laboratory examination”) yn cynnwys profi mewn labordy;
b
yn lle’r diffiniad o “trydedd wlad” (“third country”) rhodder—
mae i “trydedd wlad” (“third country”) yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 20063
3
Yn lle Atodlen 34 rhodder—
ATODLEN 3Ceisiadau am dystysgrifau: ffioedd
Gwasanaethau o ran ceisiadau am dystysgrifau
Ffi (£)
Ffi (allforiwr bach) (£)
(1) Gwasanaethau am lwythi heblaw gronynnau:
(a) arolygiad a, pan fo angen, archwiliad mewn labordy
58.92 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 117.84
29.46 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 58.92
(b) archwiliad mewn labordy yn unig
32.93
16.47
(c) dyroddi tystysgrif pan nad oes angen arolygiad neu archwiliad mewn labordy
12.53
6.27
(2) Gwasanaethau ar gyfer llwythi o ronynnau:
monitro arolygiadau a gyflawnir gan berson awdurdodedig o dan erthygl 3(3) a, pan fo angen hynny, archwiliad mewn labordy a gyflawnir gan swyddog awdurdodedig
53.78
26.89
4
Yn lle Atodlen 45 rhodder—
ATODLEN 4Ffioedd gwasanaethau cyn-allforio
Gwasanaeth
Ffi (£)
Ffi (allforiwr bach) (£)
Gwasanaeth cyn-allforio
44.88 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 89.75
22.44 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 44.88
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)