Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 1514 (Cy. 155)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed

9 Mehefin 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mehefin 2014

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 8, 20 a 190 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1) ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2).

(1)

1989 p. 42. Diwygiwyd adran 8 gan adran 1(2)(a) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth (Datrys Anghydfodau) 1998 (p. 8) ac O.S. 2002/803 (Cy. 88); mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol. Diwygiwyd adran 20 gan O.S. 2009/3318.

(2)

Mae’r pwerau o dan adrannau 8, 20 a 190 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Yr oeddent wedi eu breinio’n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru.