http://www.legislation.gov.uk/wsi/2014/129/contents/made/welsh
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2014
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2019-07-05
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (“Rheoliadau 1992”) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â bilio, casglu a gorfodi’r dreth gyngor. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 mewn perthynas â Chymru, er mwyn cymryd i ystyriaeth gyflwyno cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor lleol, a wneir gan yr awdurdodau bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”), neu sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mae’r diwygiadau a wneir i Reoliadau 1992 yn galluogi cymryd y gostyngiadau a wneir yn unol â Rheoliadau 2013 i ystyriaeth wrth filio a gorfodi’r dreth gyngor.