- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Chwefror 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle’r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” rhodder y diffiniad a ganlyn—
“ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC(2) fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2013/46/EU;”.
(3) Yn rheoliad 8(2) (meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer fformiwla fabanod), ar ôl y geiriau “proteinau llaeth gwartheg” mewnosoder “neu’r proteinau llaeth geifr”.
(4) Yn lle rheoliad 9 (meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer fformiwla ddilynol) rhodder y rheoliad a ganlyn—
9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i fformiwla ddilynol gydymffurfio â’r meini prawf cyfansoddiadol a osodir yn Atodiad II gan gymryd ystyriaeth o’r manylebau yn Atodiad V.
(2) Yn achos fformiwla ddilynol sydd wedi’i gweithgynhyrchu o’r hydrolysatau protein hynny a bennir ym mhwynt 2.2 o Atodiad II â’u cynnwys protein rhwng y lleiafswm a 0.56g/100kJ (2.25g/100kcal)—
(a)rhaid i addasrwydd y fformiwla ddilynol i fodloni gofynion maethol babanod normal iach ar y cyd â bwydo ategol gael ei ddangos drwy astudiaethau priodol a wnaed gan ddilyn canllawiau arbenigol sy’n dderbyniol yn gyffredinol ar lunio a chynnal astudiaethau o’r fath; a
(b)rhaid i’r fformiwla ddilynol fod yn unol â’r manylebau priodol a osodir yn Atodiad VI.”
(5) Yn rheoliad 15 (enwi fformiwla fabanod) yn y ddau baragraff, ar ôl “broteinau llaeth gwartheg” mewnosoder “neu broteinau llaeth geifr”.
(6) Yn rheoliad 16 (enwi fformiwla ddilynol) yn y ddau baragraff, ar ôl “broteinau llaeth gwartheg” mewnosoder “neu broteinau llaeth geifr”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
22 Ionawr 2014
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: