55.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 56 a 75 o’r Rheoliadau hyn ac Atodlen 10 i’r Rheoliadau hyn mae hawl gan y personau canlynol i fod yn bresennol mewn unrhyw un o gyfarfodydd y corff llywodraethu—
(a)yn ddarostyngedig i reoliad 61, llywodraethwr;
(b)clerc y corff llywodraethu;
(c)y pennaeth; a
(d)personau eraill fel a benderfynir gan y corff llywodraethu.
(2) Mae’r cyfeiriad at y pennaeth ym mharagraff (1)(c) yn cynnwys—
(a)pennaeth y ffederasiwn (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio); neu
(b)(os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth pob un o’r ysgolion ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio).