RHAN 8CYFARFODYDD A THRAFODION CYRFF LLYWODRAETHU

Hawl personau i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu55

1

Yn ddarostyngedig i reoliadau 56 a 75 o’r Rheoliadau hyn ac Atodlen 10 i’r Rheoliadau hyn mae hawl gan y personau canlynol i fod yn bresennol mewn unrhyw un o gyfarfodydd y corff llywodraethu—

a

yn ddarostyngedig i reoliad 61, llywodraethwr;

b

clerc y corff llywodraethu;

c

y pennaeth; a

d

personau eraill fel a benderfynir gan y corff llywodraethu.

2

Mae’r cyfeiriad at y pennaeth ym mharagraff (1)(c) yn cynnwys—

a

pennaeth y ffederasiwn (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio); neu

b

(os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth pob un o’r ysgolion ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio).