RHAN 3CATEGORÏAU O LYWODRAETHWYR

Rhiant-lywodraethwyr14

1

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “rhiant-lywodraethwr” (“parent governor”) yw person—

a

a etholir yn unol â pharagraffau 3 i 8 o Atodlen 2 yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgol ffederal ac sy’n rhiant o’r fath ar yr adeg yr etholir y person hwnnw, neu

b

a benodir yn rhiant-lywodraethwr mewn cysylltiad ag ysgol ffederal yn unol â pharagraffau 9 i 11 o Atodlen 2.

2

Mae Atodlen 2 yn gymwys ar gyfer ethol a phenodi rhiant-lywodraethwyr.

3

Anghymhwysir person rhag ei ethol neu ei benodi yn rhiant-lywodraethwr ffederasiwn—

a

os yw’r person hwnnw yn aelod etholedig o’r awdurdod lleol;

b

os yw’r person hwnnw yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â’i swyddogaethau addysg; neu

c

os cyflogir y person hwnnw i weithio yn yr ysgol yn y ffederasiwn am fwy na 500 awr yn ystod unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis.

4

Nid anghymhwysir person rhag parhau i ddal swydd fel rhiant-lywodraethwr pan fydd y person hwnnw yn peidio â bod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol ffederal neu’n peidio â bodloni unrhyw un neu ragor o’r gofynion a nodir ym mharagraffau 10 ac 11 o Atodlen 2 (yn ôl y digwydd) onid anghymhwysir y person hwnnw rywfodd arall o dan y Rheoliadau hyn.