ATODLEN 7Cymwysiadau ac anghymwysiadau

Rheoliad 35

Cyffredinol

1

Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt, nid yw unrhyw berson yn gymwys i fod yn llywodraethwr onid yw’r person hwnnw yn 18 oed neu’n hŷn ar ddyddiad ethol neu benodi’r person hwnnw.

2

Ni chaiff unrhyw berson ar unrhyw adeg ddal mwy nag un swydd llywodraethwr yn yr un ysgol.

3

Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, nid yw’r ffaith bod person yn gymwys i’w ethol neu ei benodi’n llywodraethwr o gategori penodol mewn ffederasiwn yn anghymhwyso’r person hwnnw rhag cael ei ethol neu ei benodi neu rhag parhau’n llywodraethwr o unrhyw gategori arall yn y ffederasiwn hwnnw.

Anhwylder meddyliol4

Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr mewn ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw yn agored i gael ei gadw’n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 198349 neu o dan unrhyw ailddeddfiad neu addasiad statudol o’r Ddeddf honno a fydd mewn grym o bryd i’w gilydd.

Methiant i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd5

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw lywodraethwr nad yw’n llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw.

2

Os bydd llywodraethwr heb gydsyniad y corff llywodraethu, yn methu â bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y corff am gyfnod di-dor o chwe mis, sy’n dechrau ar ddyddiad y cyfarfod cyntaf o’r fath lle y methodd y person hwnnw â bod yn bresennol, bydd y llywodraethwr hwnnw, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben, wedi ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd llywodraethwr yn y ffederasiwn hwnnw.

3

Pan fo llywodraethwr wedi anfon ymddiheuriad at glerc y corff llywodraethu cyn cyfarfod nad yw’r person hwnnw yn bwriadu bod yn bresennol ynddo, rhaid i gofnodion y cyfarfod gofnodi a oedd y corff llywodraethu wedi cydsynio i’r absenoldeb ai peidio, a rhaid anfon copi o’r cofnodion at y llywodraethwr o dan sylw i breswylfa arferol y person hwnnw.

4

Nid yw llywodraethwr a anghymhwyswyd rhag bod yn llywodraethwr ffederasiwn o dan is-baragraff (2) yn gymwys i’w ethol, i’w enwebu, nac i’w benodi yn llywodraethwr o unrhyw gategori yn y ffederasiwn hwnnw yn ystod y deuddeng mis yn union ar ôl anghymhwyso’r person hwnnw o dan is-baragraff (2).

Methdaliad6

Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ffederasiwn—

a

os yw’r person hwnnw wedi ei ddyfarnu’n fethdalwr neu os yw ystad y person hwnnw wedi ei hatafaelu ac yntau (yn y naill achos neu’r llall) heb ei ryddhau o fethdaliad ac os nad yw’r gorchymyn methdalu wedi ei ddirymu neu ei ddadwneud neu os oes cyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled yn gymwys mewn perthynas â’r person hwnnw; neu

b

os yw’r person hwnnw wedi gwneud compownd neu drefniant â chredydwyr y person hwnnw, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedolaeth i gredydwyr y person hwnnw, ac yntau heb ei ryddhau mewn cysylltiad â hynny.

Anghymhwyso cyfarwyddwyr cwmnïau7

Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw yn destun—

a

gorchymyn anghymhwyso neu ymgymeriad anghymhwyso o dan Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 198650;

b

gorchymyn anghymhwyso o dan Ran 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 198951;

c

ymgymeriad anghymhwyso a dderbyniwyd o dan Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 200252; neu

d

gorchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Methdaliad 198653 (methu â thalu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).

Anghymhwyso ymddiriedolwyr elusennau8

Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ffederasiwn os yw’r person hwnnw—

a

wedi ei ddiswyddo fel ymddiriedolwr elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiynwyr Elusennau neu’r Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddygiad neu gamreoli yr oedd y person hwnnw yn gyfrifol amdano neu’n ymwybodol ohono wrth weinyddu’r elusen, neu y cyfrannodd y person hwnnw ato neu a hwylusodd y person hwnnw drwy ymddygiad y person hwnnw; neu

b

wedi ei ddiswyddo, o dan adran 34 o Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 200554 (pwerau’r Llys Sesiwn i ymdrin â rheoli elusennau), rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff.

Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi9

Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw—

a

wedi ei gynnwys yn y rhestr o athrawon a rhai fu’n gweithio gyda phlant neu bersonau ifanc y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir arnynt o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 199955;

b

yn destun cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 200256;

c

wedi ei anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan adrannau 28, 29 neu 29A o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 200057;

d

wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 198958 ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd;

e

wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 200659;

f

wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir sy’n ymwneud â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200660;

g

yn destun cyfarwyddyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 167A o Ddeddf 200261;

h

wedi ei anghymhwyso, yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 470 neu adran 471 o Ddeddf 199662, rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu athrawes neu gyflogai arall mewn unrhyw ysgol; neu

i

wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 201063.

Collfarnau troseddol10

1

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), anghymhwysir person rhag dal swydd, neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ffederasiwn pan fo unrhyw un o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) yn gymwys i’r person hwnnw.

2

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw’r person hwnnw—

a

o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw; neu

b

ers penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr neu, yn ôl y digwydd, ers i’r person hwnnw ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw;

wedi ei gael yn euog, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar (p’un a yw’r ddedfryd yn ataliedig ai peidio) am gyfnod nad yw’n llai na thri mis heb y dewis o dalu dirwy.

3

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os cafwyd y person hwnnw, o fewn cyfnod o 20 mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y dyddiad y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw, yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a’i ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw’n llai na dwy flynedd a hanner.

4

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw’r person hwnnw ar unrhyw adeg wedi ei gael yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a bod y person hwnnw wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw’n llai na phum mlynedd.

5

At ddibenion is-baragraffau (2) i (4), rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan lys y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu gerbron llys o’r fath, am drosedd na fyddai, pe bai’r ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, wedi ei hystyried yn drosedd yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith mewn grym ar yr adeg yr oedd y ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd.

6

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw’r person hwnnw—

a

o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y dyddiad y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw; neu

b

ers penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr neu, yn ôl y digwydd, ers i’r person hwnnw ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw;

wedi ei gael yn euog o dan adran 547 o Ddeddf 199664 (niwsans neu aflonyddwch ar fangre ysgol) neu o dan adran 85A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 199265 (niwsans neu aflonyddwch ar fangre addysgol) o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i dalu dirwy.

Llywodraethwyr mwy na dwy ysgol11

1

Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt, ni chaiff unrhyw berson ddal swydd llywodraethwr mewn mwy na dau ffederasiwn ar unrhyw adeg.

2

At ddibenion is-baragraff (1) nid ystyrir swyddi llywodraethwyr ex officio, swyddi llywodraethwyr y mae’r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd yn gymwys iddynt nac unrhyw benodiad o dan adrannau 6, 7, 13 neu 14 o Ddeddf 2013.

Methiant i gwblhau hyfforddiant gofynnol12

1

Mae llywodraethwr sydd wedi parhau i fod wedi ei atal o’i swydd, yn rhinwedd rheoliad 4 neu 5 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”), am gyfnod di-dor o 6 mis, ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben, wedi anghymhwyso rhag dal swydd fel llywodraethwr unrhyw ysgol.

2

Nid yw llywodraethwr sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn llywodraethwr ysgol o dan is-baragraff (1) yn gymwys i gael ei ethol, ei enwebu na’i benodi’n llywodraethwr unrhyw gategori o unrhyw ysgol hyd nes y bydd y llywodraethwr hwnnw wedi cwblhau’r hyfforddiant gofynnol yn rhinwedd rheoliad 4 neu 5 o Reoliadau 2013.

Gwrthod gwneud cais am dystysgrif cofnodion troseddol13

Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ar unrhyw adeg pan fydd y person hwnnw yn gwrthod cais gan y corff llywodraethu i wneud cais o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 199766 am dystysgrif cofnodion troseddol.

Hysbysu’r clerc14

Os yw person—

a

wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ffederasiwn yn rhinwedd unrhyw un o baragraffau 6 i 11; a

b

yn llywodraethwr neu os bwriedir i’r person hwnnw fod yn llywodraethwr;

rhaid i’r person hwnnw hysbysu clerc y corff llywodraethu o’r ffaith honno.